GWNEUD DISGYBLION
GWERS 10
Ymdrech
Egwyddor: “Roedden ni’n benderfynol o roi ichi, nid yn unig newyddion da Duw ond hefyd ni’n hunain, am eich bod chi wedi dod mor annwyl i ni.” —1 Thes. 2:8.
Esiampl Iesu
1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Ioan 3:1, 2. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:
-
Pam aeth Nicodemus i weld Iesu yn ystod y nos?—Gweler Ioan 12:42, 43.
-
Drwy gyfarfod Nicodemus yn y nos, sut dangosodd Iesu ei fod yn fodlon gwneud pob ymdrech i wneud disgyblion?
Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?
2. Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n caru pobl drwy wneud pob ymdrech i’w helpu nhw i ddod yn ddisgyblion.
Dilyna Esiampl Iesu
3. Trefna i astudio ar adeg ac mewn lle sy’n gyfleus i’r person. Efallai bydd un diwrnod neu amser penodol yn fwy cyfleus iddo. A fyddai’n haws iddo astudio yn y gweithle, yn ei gartref, neu mewn man cyhoeddus? Os yw’n bosib, bydda’n fodlon trefnu pethau i fod yn gyfleus iddo ef.
4. Trefna i astudio yn rheolaidd. Os wyt ti’n mynd i ffwrdd, paid â gohirio’r sesiwn astudio. Ystyria:
5. Gweddïa am yr agwedd iawn. Gofynna i Jehofa am help i barhau i gefnogi’r myfyriwr, hyd yn oed os yw’n ei chael hi’n anodd astudio’n rheolaidd neu roi cyngor y Beibl ar waith. (Phil. 2:13) Mae’n siŵr bod gan y myfyriwr lawer o rinweddau; gweddïa am help i ganolbwyntio ar y rhinweddau hynny.
GWELER HEFYD
Diar. 3:27; Act. 20:35; 2 Cor. 12:15