Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWNEUD DISGYBLION

GWERS 11

Cadw Pethau’n Syml

Cadw Pethau’n Syml

Egwyddor: “[Defnyddia’r] tafod i ddweud geiriau sy’n hawdd eu deall.”—1 Cor. 14:9.

Esiampl Iesu

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Mathew 6:​25-27. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1.    Pa eglureb a roddodd Iesu i ddangos bod Jehofa’n gofalu amdanon ni?

  2.   Er bod Iesu’n gwybod llawer o ffeithiau am adar, canolbwyntiodd ar ba fanylyn syml? Pam roedd hynny’n ffordd dda o ddysgu?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Os ydyn ni’n dysgu mewn ffordd syml, bydd pobl yn cofio yn well a byddwn ni’n cyffwrdd â’u calonnau.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Paid â siarad gormod. Yn hytrach na dweud popeth rwyt ti’n ei wybod am y pwnc, canolbwyntia ar y pwyntiau yn y cyhoeddiad. Ar ôl gofyn cwestiwn, arhosa yn amyneddgar am yr ateb. Os nad yw’r myfyriwr yn gwybod yr ateb, neu os yw’n mynegi barn sy’n groes i ddysgeidiaeth y Beibl, defnyddia gwestiynau eraill i’w helpu i resymu. Unwaith ei fod yn deall y prif bwynt, symuda ymlaen.

4. Helpa’r myfyriwr i gysylltu dysgeidiaethau newydd â’r hyn y mae’n ei wybod yn barod. Er enghraifft, cyn dechrau gwers am yr atgyfodiad, efallai cei di adolygu beth mae’r myfyriwr eisoes wedi ei ddysgu am gyflwr y meirw.

5. Defnyddia eglurebau’n ofalus. Cyn iti ddefnyddio eglureb, gofynna i ti dy hun:

  1.    ‘Ydy’r eglureb yn syml?’

  2.   ‘A fydd yn hawdd i’r myfyriwr ei deall?’

  3.   ‘A fydd yn helpu’r myfyriwr i gofio’r prif bwynt yn hytrach na chofio’r eglureb yn unig?’