ATODIAD A
Gwirioneddau Sy’n Bleser i’w Rhannu
Dywedodd Iesu y byddai pobl â chalon onest yn adnabod y gwir. (Ioan 10:4, 27) Felly wrth siarad â phobl, ein nod yw rhannu gwirioneddau syml o’r Beibl. Ceisia gyflwyno pwnc drwy ofyn: “Oeddech chi’n gwybod bod . . . ?” neu “Ydych chi erioed wedi clywed bod . . . ?” Yna defnyddia’r adnodau perthnasol i esbonio’r gwir. Gall rhannu gwirionedd syml o’r Beibl blannu hedyn yn y galon, ac mae Duw yn gallu gwneud i’r hedyn dyfu.—1 Cor. 3:6, 7.
Y DYFODOL
-
1. Mae’r digwyddiadau yn y byd a’r ffordd mae pobl yn ymddwyn yn dangos bod pethau ar fin newid.—Math. 24:3, 7, 8; Luc 21:10, 11; 2 Tim. 3:1-5.
-
2. Ni fydd y ddaear byth yn cael ei dinistrio.—Salm 104:5; Preg. 1:4, BCND.
-
3. Bydd problemau’r amgylchedd yn cael eu datrys.—Esei. 35:1, 2; Dat. 11:18.
-
4. Bydd gan bawb iechyd perffaith.—Esei. 33:24; 35:5, 6.
-
5. Byddwn ni’n gallu byw am byth ar y ddaear.—Salm 37:29; Math. 5:5.
TEULU
-
6. Dylai’r gŵr “garu ei wraig fel y mae’n ei garu ei hun.”—Eff. 5:33; Col. 3:19.
-
7. Dylai’r wraig barchu ei gŵr. —Eff. 5:33; Col. 3:18.
-
8. Dylai gŵr a gwraig fod yn ffyddlon i’w gilydd.—Mal. 2:16; Math. 19:4-6, 9; Heb. 13:4.
-
9. Bydd plant sy’n parchu eu rhieni ac yn ufuddhau iddyn nhw yn llwyddo.—Diar. 1:8, 9; Eff. 6:1-3.
NASA, ESA and the Hubble Heritage Team (STScI/AURA)-ESA/Hubble Collaboration. Licensed under CC BY 4.0. Source.
DUW
-
10. Mae gan Dduw enw.—Salm 83:18, BC; Ex. 6:2, BC.
-
11. Mae Duw yn cyfathrebu â ni.—2 Tim. 3:16, 17; 2 Pedr 1:20, 21.
-
12. Mae Duw yn deg; nid yw’n dangos ffafriaeth.—Deut. 10:17; Act. 10:34, 35.
-
13. Mae Duw yn awyddus i’n helpu.—Salm 46:1; 145:18, 19.
GWEDDI
-
14. Mae Duw yn dymuno inni weddïo arno.—Salm 62:8; 65:2; 1 Pedr 5:7.
-
15. Mae’r Beibl yn ein dysgu ni sut i weddïo.—Math. 6:7-13; Luc 11:1-4.
-
16. Dylen ni weddïo yn aml.—Math. 7:7, 8; 1 Thes. 5:17.
IESU
-
17. Roedd Iesu yn athro mawr. Mae ei gyngor wastad yn gweithio.—Math. 6:14, 15, 34; 7:12.
-
18. Rhagwelodd Iesu’r digwyddiadau rydyn ni’n eu gweld heddiw.—Math. 24:3, 7, 8, 14; Luc 21:10, 11.
-
19. Mab Duw yw Iesu.—Math. 16:16; Ioan 3:16; 1 Ioan 4:15.
-
20. Nid y Duw Hollalluog yw Iesu.—Ioan 14:28; 1 Cor. 11:3.
Based on NASA/Visible Earth imagery
TEYRNAS DDUW
-
21. Llywodraeth go iawn yn y nefoedd yw Teyrnas Dduw.—Dan. 2:44; 7:13, 14; Math. 6:9, 10; Dat. 11:15.
-
22. Bydd Teyrnas Dduw yn disodli pob llywodraeth ddynol.—Salm 2:7-9; Dan. 2:44.
-
23. Teyrnas Dduw yw’r unig ateb i broblemau’r ddynolryw.—Salm 37:10, 11; 46:9; Esei. 65:21-23.
DIODDEFAINT
-
24. Nid Duw sy’n gyfrifol am ddioddefaint.—Deut. 32:4; Iago 1:13.
-
25. Satan sy’n rheoli’r byd. —Luc 4:5, 6; 1 Ioan 5:19.
-
26. Mae Duw yn gweld ein bod ni’n dioddef ac eisiau ein helpu. —Salm 34:17-19; Esei. 41:10, 13.
-
27. Yn fuan bydd Duw yn dod â dioddefaint i ben.—Esei. 65:17; Dat. 21:3, 4.
MARWOLAETH
-
28. Nid yw’r meirw yn gwybod dim; dydyn nhw ddim yn dioddef.—Preg. 9:5; Ioan 11:11-14.
-
29. Nid yw’r meirw yn gallu ein helpu na’n niweidio.—Salm 146:4; Preg. 9:6, 10.
-
30. Bydd ein hanwyliaid sydd wedi marw yn cael eu hatgyfodi.—Job 14:13-15; Ioan 5:28, 29; Act. 24:15.
-
31. “Ni fydd marwolaeth mwyach.”—Dat. 21:3, 4; Esei. 25:8.
CREFYDD
-
32. Nid yw pob crefydd yn plesio Duw.—Jer. 7:11; Math. 7:13, 14, 21-23.
-
33. Mae Duw yn casáu rhagrith.—Esei. 29:13; Mich. 3:11; Marc 7:6-8.
-
34. Cariad yw’r ffordd i adnabod gwir grefydd.—Mich. 4:3; Ioan 13:34, 35.