Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ATODIAD C

Defnyddio Mwynhewch Fywyd am Byth! i Gynnal Astudiaethau Beiblaidd

Defnyddio Mwynhewch Fywyd am Byth! i Gynnal Astudiaethau Beiblaidd

Mae llawer o weddïau, gwaith meddwl, ac ymchwil wedi mynd i mewn i’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! I fanteisio’n llawn ar y cyhoeddiad hwn, defnyddia’r dull canlynol wrth gynnal astudiaethau o’r Beibl.

Cyn y sesiwn astudio

  1. 1. Paratoa’n ofalus. Meddylia am anghenion, sefyllfa, a safbwynt y myfyriwr. Ceisia ragweld pwyntiau a allai fod yn anodd eu deall neu eu rhoi ar waith. Ystyria sut gallai’r deunydd yn yr adran “Darganfod Mwy” helpu’r myfyriwr, a bydda’n barod i’w ddefnyddio, yn ôl yr angen, yn ystod y sesiwn astudio.

Yn ystod y sesiwn astudio

  1. 2. Cofia agor a chau’r sesiwn gyda gweddi, os yw’r myfyriwr yn cytuno.

  2. 3. Paid â siarad gormod. Canolbwyntia ar y deunydd yn y llyfr, a gad i’r myfyriwr ei fynegi ei hun.

  3. 4. Ar ddechrau Rhan 1, 2, 3, a 4, darllena’r llinell sy’n disgrifio pwrpas y rhan honno, a thynna sylw at deitlau rhai o’r gwersi.

  4. 5. Ar ddiwedd Rhan 1, 2, 3, a 4, defnyddia’r dudalen adolygu i helpu’r myfyriwr i gofio’r gwirioneddau y mae wedi eu dysgu.

  5. 6. Wrth astudio pob gwers gyda’r myfyriwr, mae angen:

    1. a. Darllen y paragraffau ar ddechrau’r wers.

    2. b. Darllen pob adnod sy’n dweud “Darllenwch.”

    3. c. Darllen adnodau eraill, yn ôl yr angen.

    4. ch.  Gwylio pob fideo sy’n dweud “Gwyliwch” (os oes modd).

    5. d. Gofyn pob cwestiwn i’r myfyriwr.

    6. dd.  Tynnu sylw at y lluniau yn yr adran “Cloddio’n Ddyfnach,” a gofyn am sylwadau’r myfyriwr.

    7. e. Defnyddio’r blwch “Nod” i helpu’r myfyriwr i gadw golwg ar ei gynnydd ysbrydol. Efallai byddi di eisiau ei annog i ddefnyddio’r nod sydd wedi ei awgrymu, i osod nod arall, neu i wneud y ddau.

    8. f. Gofyn i’r myfyriwr pa un o’r erthyglau neu’r fideos yn yr adran “Darganfod Mwy” y mae wedi ei fwynhau’n arbennig wrth iddo baratoi’r wers.

    9. ff.  Ceisio cwblhau’r wers mewn un sesiwn.

Ar ôl y sesiwn astudio

  1. 7. Parha i feddwl am y myfyriwr. Gweddïa am i Jehofa fendithio ei gynnydd a gofyn iddo roi iti’r doethineb sydd ei angen i’w helpu.