Neidio i'r cynnwys

Ymddiheuro—Y Ffordd i Wneud Heddwch

Ymddiheuro—Y Ffordd i Wneud Heddwch

“MAE ymddiheuriadau yn bwerus. Maen nhw’n datrys anghydfod heb drais hyd yn oed rhwyg rhwng cenhedloedd, yn dangos bod llywodraethau’n cydnabod faint mae eu dinasyddion wedi dioddef, ac yn adfer y berthynas rhwng unigolion.” Dyna a ysgrifennodd Deborah Tanner, sydd yn arbenigwraig mewn iaith ac ymddygiad dynol ym Mhrifysgol Georgetown yn Washington, D.C.

Mae’r Beibl yn dangos bod ymddiheuro’n ddiffuant yn ffordd dda o adfer perthynas. Er enghraifft, yn nameg Iesu am y mab afradlon, pan aeth y mab adref ac ymddiheuro o waelod calon, roedd ei dad yn fodlon ei groesawu’n ôl. (Luc 15:17-24) Yn wir, ddylen ni byth fod yn rhy falch i ymddiheuro a gofyn am faddeuant. Wrth gwrs, bydd yn llawer haws gwneud hynny os ydyn ni’n ostyngedig.

Effaith Ymddiheuro

Mae esiampl Abigail, gwraig ddoeth yn Israel gynt, yn dangos pa mor bwerus yw ymddiheuro, er ei bod hi’n ymddiheuro am ymddygiad ei gŵr. Cyn iddo ddod yn frenin ar Israel, roedd Dafydd a’i ddynion yn byw yn yr anialwch am gyfnod. Yno roedden nhw’n sicrhau nad oedd neb yn dwyn defaid Nabal, gŵr Abigail. Ond pan aeth dynion Dafydd at Nabal a gofyn am fwyd a dŵr, gwrthododd Nabal a hynny’n gas iawn. Roedd Dafydd wedi gwylltio ac felly penderfynodd gasglu tua 400 o ddynion a mynd i ladd Nabal a’i deulu. Pan glywodd Abigail yr hanes, aeth allan i gwrdd â Dafydd. Aeth ar ei gliniau o’i flaen a dweud: “Arna i mae’r bai, syr. Plîs gwranda ar dy forwyn, i mi gael egluro.” Yna esboniodd Abigail y sefyllfa a rhoi bwyd a diod i Dafydd. Atebodd ef: “Dos adre’n dawel dy feddwl. Dw i wedi gwrando, a bydda i’n gwneud beth rwyt ti eisiau.”—1 Samuel 25:2-35.

Gan fod Abigail yn ostyngedig ac wedi ymddiheuro am ymddygiad ei gŵr, cafodd y teulu ei achub. Fe wnaeth Dafydd hyd yn oed diolch iddi am ei atal rhag lladd pobl ddiniwed. Nid Abigail oedd wedi bod yn gas wrth Dafydd a’i ddynion, ond roedd hi’n fodlon cymryd y bai er mwyn cadw heddwch.

Enghraifft arall o rywun oedd yn fodlon ymddiheuro yw’r apostol Paul. Un tro, roedd yn rhaid iddo bledio ei achos o flaen uchel lys yr Iddewon, y Sanhedrin. Roedd geiriau Paul yn gwylltio Ananias, yr archoffeiriad, a dywedodd ef wrth y rhai oedd yn sefyll wrth ymyl Paul am ei daro ar ei geg. Ar hynny, dywedodd Paul wrtho: “Mae Duw yn mynd i dy daro di, ti, y wal gwyngalchog. Wyt ti’n eistedd i fy marnu yn ôl y Gyfraith ac ar yr un pryd yn torri’r Gyfraith drwy orchymyn imi gael fy nharo?” Pan wnaeth eraill gyhuddo Paul o sarhau’r archoffeiriad, syrthiodd Paul ar ei fai ar unwaith, gan ddweud: “Frodyr, doeddwn i ddim yn gwybod mai’r archoffeiriad oedd ef. Oherwydd mae’n ysgrifenedig, ‘Paid â dweud pethau cas am reolwr dy bobl.’”—Actau 23:​1-5.

Roedd Paul yn gywir pan ddywedodd na ddylai barnwr fod yn dreisgar. Ond eto fe ymddiheurodd am y ffordd roedd wedi siarad â’r archoffeiriad. a O ganlyniad, roedd y Sanhedrin yn fodlon gwrando arno. Roedd Paul yn gwybod nad oedd aelodau’r Sanhedrin yn cytuno ar yr atgyfodiad, ac felly dywedodd wrthyn nhw ei fod yn cael ei farnu oherwydd ei ffydd yn yr atgyfodiad. Dechreuodd aelodau’r Sanhedrin ddadlau â’i gilydd ac roedd y Phariseaid yn ochri gyda Paul.—Actau 23:6-10.

Beth gallwn ni ei ddysgu o’r esiamplau hyn? Yn y ddau achos, oherwydd bod Abigail a Paul wedi ymddiheuro, roedd pobl yn fodlon gwrando arnyn nhw. Felly gall ymddiheuro ein helpu ni i ddatrys problemau ac i wneud heddwch.

’Ond Dydw i Ddim Wedi Gwneud Dim Byd o’i Le’

Pan fyddwn ni’n clywed bod rhywun wedi digio wrthon ni, efallai byddwn ni’n meddwl bod y person yn afresymol neu’n rhy sensitif. Ond dywedodd Iesu Grist wrth ei ddisgyblion: “Os wyt ti’n dod â dy offrwm i’r allor ac yn cofio yno fod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn, gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos i ffwrdd. Yn gyntaf, gwna heddwch â dy frawd, ac yna tyrd yn dy ôl a chyflwyno dy offrwm.”—Mathew 5:23, 24.

Er enghraifft, efallai bydd brawd yn teimlo dy fod ti wedi pechu yn ei erbyn. Mewn sefyllfa o’r fath, dywedodd Iesu y dylet ti ‘wneud heddwch â dy frawd,’ p’un a wyt ti’n cytuno â’i safbwynt neu beidio. Mae’r gair Groeg sy’n cael ei ddefnyddio yma yn golygu bod rhaid i ddau berson ildio rywfaint ar ôl iddyn nhw anghytuno. (Vine’s Expository Dictionary of Old and New Testament Words) Yn wir, gan fod pawb yn amherffaith, mae’n debyg bod rhywfaint o fai ar y ddwy ochr. Felly mae’n bwysig bod y ddau’n cyfaddef eu camgymeriadau.

Y cwestiwn pwysicaf yw nid pwy sy’n gywir a phwy sy’n anghywir, ond pwy fydd yn cymryd y cam cyntaf i wneud heddwch. Pan sylweddolodd yr apostol Paul fod y Cristnogion yng Nghorinth yn mynd â’u brodyr a chwiorydd i’r llys er mwyn datrys problemau ariannol, fe’u cywirodd drwy ddweud: “Pam na wnewch chi yn hytrach adael i chi’ch hunain gael cam? Pam nad ydych chi yn hytrach yn gadael i chi’ch hunain gael eich twyllo?” (1 Corinthiaid 6:7) Er bod Paul wedi dweud hyn er mwyn annog Cristnogion i beidio â mynd â’u brodyr i’r llys, mae’r egwyddor yn glir: Mae cadw heddwch yn bwysicach na phrofi pwy sy’n gywir neu bwy sy’n anghywir. Bydd cofio hyn yn ei gwneud hi’n haws inni ymddiheuro hyd yn oed pan nad ydyn ni’n meddwl ein bod ni ar fai.

Ymddiheuro o’r Galon

Sut bynnag, mae rhai pobl yn ymddiheuro o hyd. Er enghraifft, yn Japan, mae’r gair sumimasen yn cael ei ddefnyddio filoedd o weithiau bob dydd mewn ymddiheuriadau. Gall hyd yn oed cael ei ddefnyddio i fynegi rhyw deimlad anesmwyth o fethu talu’n ôl i rywun am ei garedigrwydd. Oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio mor aml, mae rhai’n teimlo nad yw’n golygu dim bellach. Mewn diwylliannau eraill hefyd mae rhai ymddiheuriadau mor gyffredin fel eu bod nhw wedi colli pob ystyr.

Ni waeth pa iaith rydyn ni’n ei siarad, mae’n bwysig ein bod ni’n ymddiheuro o’r galon. Dylai ein geiriau a thôn ein llais ddangos ein bod ni’n wirioneddol sori. Yn y Bregeth ar y Mynydd, dywedodd Iesu Grist wrth ei ddisgyblion: “Gadewch i’ch ‘Ie’ olygu ie, a’ch ‘Nage’ olygu nage, oherwydd y mae’r hyn sy’n mynd y tu hwnt i’r rhain yn dod o’r un drwg.” (Mathew 5:37) Os wyt ti’n ymddiheuro, mae’n rhaid dangos dy fod ti’n sori. Gallwn ni ei egluro fel hyn: Roedd dyn mewn ciw yn y maes awyr. Wrth symud ei fagiau, rhoddodd bwn yng nghefn y ddynes o’i flaen. Fe ymddiheurodd, ond pan symudodd y ciw, digwyddodd yr un peth eto. Ymddiheurodd unwaith eto ond pan ddigwyddodd am y trydydd tro, dywedodd ffrind y ddynes ei bod yn hen bryd i’r dyn, petai’n ddiffuant, sicrhau nad oedd ei fagiau yn cyffwrdd â hi. Yn wir, mae ymddiheuro o’r galon yn golygu cymryd camau i sicrhau nad ydyn ni’n gwneud yr un camgymeriadau eto.

Wrth ymddiheuro, dylen ni gyfaddef ein bod ni’n ar fai, gofyn am faddeuant, a gwneud popeth a allwn ni i wella’r sefyllfa. Yn ei dro, dylai’r person arall faddau i’r un sy’n ymddiheuro. (Mathew 18:21, 22; Marc 11:25; Effesiaid 4:​32; Colosiaid 3:​13) Gan ein bod ni i gyd yn amherffaith, nid yw hyn wastad yn hawdd. Ond mae ymddiheuro’n gam pwysig tuag at gymodi.

Pan Nad Yw Ymddiheuro Yn Addas

Er bod ymddiheuro yn help i gadw heddwch, y mae rhai sefyllfaoedd lle na fyddai’n addas inni ymddiheuro. Er enghraifft, beth am sefyllfa sy’n ymwneud â’n ffyddlondeb i Dduw? Pan oedd Iesu ar y ddaear, “fe wnaeth ei ddarostwng ei hun a dangos ufudd-dod hyd at farwolaeth, ie, marwolaeth ar stanc dienyddio.” (Philipiaid 2:8) Serch hynny, ni wnaeth ymddiheuro am ei gredoau er mwyn cael ei drin yn well. Pan ddywedodd yr archoffeiriad wrtho: “Rydw i’n dy orchymyn di o dan lw i’r Duw byw i ddweud wrthon ni ai ti yw’r Crist, Mab Duw!” ni wnaeth Iesu ymddiheuro. Yn hytrach, fe atebodd yn ddewr: “Ti ddywedodd hynny. Ond rydw i’n dweud wrthot ti: O hyn ymlaen byddwch chi’n gweld Mab y dyn yn eistedd ar law dde yr Un Grymus ac yn dod ar gymylau’r nef.” (Mathew 26:63, 64) I Iesu, roedd aros yn ffyddlon i’w Dad, Jehofa yn llawer pwysicach na chadw heddwch â’r archoffeiriad.

Mae Cristnogion yn parchu’r rhai mewn awdurdod, ond dydyn nhw ddim yn ymddiheuro am eu hufudd-dod i Dduw a’u cariad tuag at eu brodyr.—Mathew 28:19, 20; Rhufeiniaid 13:5-7.

Heddwch ym Mhobman

Pan gawson eu creu, roedd Adda ac Efa’n berffaith ond daethon nhw’n amherffaith ar ôl iddyn nhw wrthryfela yn erbyn Jehofa. Rydyn ni i gyd yn blant i Adda, ac felly rydyn ni hefyd yn amherffaith ac yn gwneud camgymeriadau. (Rhufeiniaid 5:12; 1 Ioan 1:10) Ond mae Jehofa wedi addo gwneud pobl yn berffaith unwaith eto. Bydd yn cael gwared ar bechod a’u holl effeithiau.—1 Corinthiaid 15:56, 57.

Dychmyga beth bydd hynny yn ei olygu! Yn ei gyngor ar sut y dylen ni siarad, dywedodd Iago, hanner brawd i Iesu: “Os nad oes rhywun yn baglu yn yr hyn mae’n ei ddweud, mae hwnnw yn ddyn perffaith, sy’n gallu ffrwyno hefyd ei gorff cyfan.” (Iago 3:2) Mae dyn perffaith yn gallu rheoli ei dafod ac felly nad oes angen iddo ymddiheuro am ddweud y peth anghywir. Mae’n gallu ‘ffrwyno ei gorff cyfan.’ Oni fyddai’n wych pan fyddwn ni i gyd yn berffaith? Wedyn bydd heddwch ym mhobman. Ond yn y cyfamser, bydd ymddiheuro’n ddiffuant am ein camgymeriadau yn ein helpu i wneud heddwch ag eraill.

[Troednodyn]

a Efallai nad oedd Paul yn adnabod yr archoffeiriad oherwydd nad oedd yn gallu gweld yn dda iawn.

[Llun]

Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Paul?

[Llun]

Pan fydd pawb yn berffaith, bydd heddwch ym mhobman