Neidio i'r cynnwys

Jehofa—Duw y Mae’n Werth ei Adnabod

Jehofa—Duw y Mae’n Werth ei Adnabod

Jehofa—Duw y Mae’n Werth ei Adnabod

YDYCH chi’n teimlo weithiau bod rhywbeth ar goll yn eich bywyd? Mae miliynau o bobl yn dweud bod eu bywydau wedi gwella yn fawr ar ôl dod i adnabod Duw. Mae adnabod Duw yn gallu eich helpu chi hefyd, heddiw ac yn y dyfodol.

Mae Jehofa Dduw, Awdur y Beibl, yn dymuno inni ddod i’w adnabod. Mae’r Beibl yn estyn y gwahoddiad: “Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.” Mae Duw yn gwybod y bydd dod i’w adnabod yn ein helpu. “Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu di er dy les.” Sut mae dod i adnabod Jehofa, y Duw Goruchaf yn ein helpu?—Iago 4:8; Eseia 48:17.

Drwy ddod i adnabod Duw, rydyn ni’n cael help i ddelio â’n problemau, gobaith sicr ar gyfer y dyfodol, a thawelwch meddwl. Ar ben hynny, mae adnabod Jehofa yn ein helpu ni i gael atebion i’r cwestiynau mawr sy’n wynebu pobl trwy’r byd heddiw. Beth yw rhai o’r cwestiynau hynny?

A Oes Pwrpas i’ch Bywyd?

Er gwaethaf datblygiadau mawr ym myd technoleg, mae pobl yn dal i ofyn yr un cwestiynau sylfaenol: ‘Pam rydyn ni yma? I le rydyn ni’n mynd? Beth yw ystyr y cyfan?’ Os nad ydyn ni’n cael atebion i’r cwestiynau hyn, mae’n anodd bod yn wir hapus. Mae llawer o bobl yn teimlo fel hyn. Yn ôl un astudiaeth yn yr Almaen yn y 1990au hwyr roedd hanner y bobl a holwyd yn dweud bod bywyd, weithiau neu yn aml, yn teimlo’n ddibwrpas. Efallai bod pobl yn teimlo’r un ffordd yn eich gwlad chi.

Heb bwrpas mewn bywyd, gall fod yn anodd i rywun deimlo bod sylfaen i’w gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae rhai’n ceisio creu ystyr drwy ganolbwyntio ar eu gyrfaoedd neu drwy geisio dod yn gyfoethog. Serch hynny, i lawer mae’r gwacter yn parhau. Maen nhw’n teimlo mor anhapus nes eu bod nhw eisiau rhoi terfyn ar eu bywydau. Dyna oedd profiad un ferch ifanc. Yn ôl yr International Herald Tribune, cafodd hi ei magu “i fywyd hynod o gyfoethog a breintiedig.” Er ei bod hi’n byw bywyd moethus, roedd hi’n unig ac yn teimlo bod ei bywyd yn ddibwrpas. Cymerodd dabledi cysgu a marw. Efallai rydych chi wedi clywed am bobl eraill a fu farw mewn amgylchiadau trasig tebyg.

Ydych chi wedi clywed pobl yn honni bod gan wyddoniaeth yr atebion i ystyr bywyd? Mae’r cylchgrawn Almaeneg, Die Woche, yn dweud: “Mae gwyddoniaeth yn gadarn o ran ffeithiau, ond o safbwynt ysbrydol, mae’n wan. Nid yw esblygiad, na hyd yn oed ffiseg cwantwm, gyda’i holl amrywiaethau annisgwyl, yn medru cynnig unrhyw gysur neu sicrwydd.” Mae gwyddoniaeth wedi gwneud llawer i ddisgrifio bywyd ac i esbonio’r cylchrediadau naturiol a’r prosesau sy’n cynnal bywyd ar y ddaear. Ond ni all gwyddoniaeth esbonio pam rydyn ni yma ac i le rydyn ni’n mynd. Os ydyn ni’n dibynnu ar wyddoniaeth yn unig, bydd ein cwestiynau am bwrpas bywyd yn mynd heb eu hateb. Y canlyniad, yn ôl y papur newydd Süddeutsche Zeitung, yw bod “dirfawr angen am gyngor.”

Dim ond y Creawdwr sy’n gallu rhoi inni’r cyngor sydd ei angen. Gan mai ef a roddodd fodau dynol ar y ddaear yn y lle cyntaf, mae’n rhaid ei fod yn gwybod pam rydyn ni yma. Mae’r Beibl yn esbonio bod Jehofa wedi creu bodau dynol i ofalu am y ddaear ac i’w llenwi â’u plant. Y mae eisiau inni efelychu ei rinweddau​—ei gyfiawnder, ei ddoethineb, a’i gariad—ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud. Unwaith ein bod ni’n deall y rheswm i Jehofa ein creu, rydyn ni’n gwybod pam rydyn ni yma.—Genesis 1:26-28.

Beth Gallwch Chi ei Wneud?

Ond efallai yn y gorffennol rydych chi wedi gofyn: ‘Pam rydyn ni yma? I le rydyn ni’n mynd? Beth yw ystyr y cyfan?’ ac wedi methu cael atebion boddhaol. Mae’r Beibl yn awgrymu eich bod chi’n dod i adnabod Jehofa yn well. Dywedodd Iesu: “Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi’i anfon.” Mae’r Beibl hefyd yn eich annog chi i ddangos cariad, ac i edrych ymlaen at fyw o dan Deyrnas Dduw yn y dyfodol. Bydd hynny’n rhoi pwrpas i’ch bywyd a gobaith hyfryd a chadarn ar gyfer y dyfodol. Mae’n debyg y cewch chi atebion hefyd i’r cwestiynau mawr sy’n eich poeni chi.—Ioan 17:3; Pregethwr 12:13.

Ydy hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth? Gadewch inni glywed profiad dyn o’r enw Hans. * Ar un adeg roedd ganddo ryw fath o gred yn Nuw, ond nid oedd ei ffydd yn dylanwadu ar ei fywyd. Roedd yn hoff iawn o feiciau modur, ond hefyd roedd yn cymryd cyffuriau, byw bywyd anfoesol, ac yn cyflawni mân droseddau. “Roedd fy mywyd yn wag, mewn gwirionedd,” meddai. Pan oedd Hans tua 25 mlwydd oed, penderfynodd ddod i adnabod Duw yn bersonol drwy ddarllen y Beibl yn ofalus. Ar ôl iddo ddod i adnabod Jehofa a deall ystyr bywyd, newidiodd Hans ei ffordd o fyw a chafodd ei fedyddio yn un o Dystion Jehofa. Mae wedi bod yn gwasanaethu Jehofa yn llawn amser ers deng mlynedd erbyn hyn. Ac fe ddywed yn glir: “Gwasanaethu Jehofa ydy’r bywyd gorau erioed. Does dim byd tebyg. Mae ’nabod Jehofa wedi rhoi pwrpas i fy mywyd.”

Wrth gwrs, nid pwrpas bywyd yw’r unig gwestiwn sy’n poeni pobl. Wrth i’r byd ddirywio, mae mwy a mwy o bobl yn pendroni dros gwestiwn arall.

Pam Mae Pethau Drwg yn Digwydd?

Pan fydd pethau drwg yn digwydd, un cwestiwn sydd ar feddyliau pobl: Pam digwyddodd hyn? Os ydych chi’n deall pam mae pethau drwg yn digwydd, mae’n llawer haws ymdopi â thrasiedïau heb droi’n chwerw. Ystyriwch, er enghraifft, brofiad mam o’r enw Bruni.

“Rai blynyddoedd yn ôl bu farw fy merch fach,” meddai Bruni. “Roeddwn i’n credu yn Nuw, felly es i at yr offeiriad am gysur. Dywedodd ef fod Duw wedi cymryd Susanne i’r nefoedd, lle roedd hi bellach yn angel. Nid yn unig roeddwn i’n teimlo bod fy myd wedi dod i ben oherwydd fy ngholled, ond roeddwn i’n casáu Duw am fynd â hi i ffwrdd.” Parhaodd poen Bruni am flynyddoedd. “Ond yna cefais sgwrs gydag un o Dystion Jehofa. Dangosodd hi adnodau o’r Beibl imi oedd yn profi nad oedd rheswm i gasáu Duw. Nid oedd Jehofa wedi cymryd Susanne i’r nef, a dydy hi ddim yn angel. Y rheswm am ei salwch oedd amherffeithrwydd bodau dynol. Mae Susanne yn cysgu, yn aros i Jehofa ei hatgyfodi. Dysgais hefyd fod Duw wedi creu bodau dynol i fyw am byth mewn paradwys ar y ddaear, a dyna fydd yn digwydd yn fuan. Ar ôl dechrau deall pa fath o berson yw Jehofa, roeddwn i’n closio ato, ac roedd y poen yn dechrau lleddfu.”—Salm 37:29; Actau 24:15; Rhufeiniaid 5:12.

Mae miliynau o bobl yn dioddef oherwydd trasiedïau personol, rhyfel, newyn, neu drychinebau naturiol. Roedd Bruni yn teimlo cymaint gwell pan welodd yn y Beibl nad Jehofa sy’n gyfrifol am ein problemau. Nid oedd dioddefaint yn rhan o’i gynllun ar gyfer y ddynolryw, ac yn fuan iawn bydd yn rhoi terfyn ar ddrygioni. Mae’r ffaith bod drygioni ar gynnydd yn arwydd ein bod ni’n byw yng ‘nghyfnod olaf’ y drefn sydd ohoni. Mae’r newid enfawr rydyn ni’n dyheu amdano ar fin digwydd.—2 Timotheus 3:1-5; Mathew 24:7, 8.

Dod i Adnabod Duw

Yn y gorffennol, braidd yn niwlog oedd syniadau Hans a Bruni am Dduw. Roedden nhw’n credu ynddo ond heb wybod llawer amdano. Pan wnaethon nhw ymdrech i ddod i adnabod Jehofa yn iawn, cawson nhw atebion boddhaol i’w cwestiynau. O ganlyniad, cawson nhw dawelwch meddwl a gobaith sicr ar gyfer y dyfodol. Mae miliynau o Dystion Jehofa wedi cael profiadau tebyg.

Gallwn ni ddechrau dod i adnabod Jehofa drwy astudio’r Beibl, sy’n esbonio pwy ydy Duw a beth yw ei ofynion. Dyna beth a wnaeth rhai yn y ganrif gyntaf. Ysgrifennodd Luc fod pobl yn Berea, Gwlad Groeg, wedi “gwrando’n astud ar neges Paul, ac wedyn yn mynd ati i chwilio’r ysgrifau sanctaidd yn ofalus i weld a oedd y pethau roedd e’n ddweud yn wir.”—Actau 17:10, 11.

Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf hefyd yn dod at ei gilydd fel cynulleidfaoedd. (Actau 2:41, 42, 46, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig; 1 Corinthiaid 1:1, 2; Galatiaid 1:1, 2; 2 Thesaloniaid 1:1) Mae’r un peth yn digwydd heddiw. Mae cynulleidfaoedd Tystion Jehofa yn cynnal cyfarfodydd sy’n helpu pobl i glosio at Jehofa a’i wasanaethu’n llawen. Mae mantais arall i gymdeithasu â’r Tystion. Mae Tystion Jehofa yn ceisio efelychu Duw. Bydd mynd i’r cyfarfodydd yn eich helpu chi i fod yn fwy tebyg i Jehofa ac i’w adnabod yn well byth.​—Hebreaid 10:24, 25.

Ydy hi’n werth yr holl ymdrech i ddod i adnabod Duw? Mae’n wir bod angen ymdrech, ond mae angen ymdrech i wneud llawer o bethau pwysig mewn bywyd. Meddyliwch am y gwaith bydd athletwr yn ei wneud. Er enghraifft, dyna beth ddywedodd y sgïwr Jean-Claude Killy o Ffrainc, a enillodd fedal aur yn y gemau Olympaidd, am y gwaith sydd ei angen i lwyddo fel athletwr rhyngwladol: “Mae’n rhaid ichi ddechrau ddeng mlynedd cyn y gystadleuaeth, creu cynllun sy’n para am flynyddoedd, a meddwl am y peth bob dydd . . . Mae’n swydd sy’n gofyn am eich sylw, yn gorfforol ac yn feddyliol, 365 diwrnod y flwyddyn.” Mae pobl yn treulio blynyddoedd yn paratoi ar gyfer ras sydd efallai’n para am ddim ond deg munud! Onid yw dod i adnabod Jehofa yn llawer mwy gwerthfawr nag ennill ras Olympaidd?

Perthynas Sy’n Tyfu’n Agosach

Mae pawb eisiau gweld pwrpas i fywyd. Felly, os ydych chi’n teimlo nad oes wir ystyr i’ch bywyd chi, neu os ydych chi’n dyheu am ddeall pam mae pethau drwg yn digwydd, gwnewch bob ymdrech i ddod i adnabod Jehofa Dduw. Bydd dysgu amdano ef yn newid eich bywyd er gwell, ac am byth.

Does dim diwedd ar y pethau gallwn eu dysgu am Jehofa. Mae’r rhai sydd wedi ei wasanaethu ers degawdau yn dal i ryfeddu at y pethau maen nhw wedi eu dysgu ac yn parhau i’w dysgu amdano. Mae’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu yn ein gwneud ni’n hapus ac yn ein denu ni’n nes ato. Mae’n siŵr y byddwch yn cytuno â sylwadau’r apostol Paul, a ysgrifennodd: “Mae Duw mor ffantastig! Mae e mor aruthrol ddoeth! Mae’n deall popeth! Mae beth mae e’n ei benderfynu y tu hwnt i’n hamgyffred ni, a beth mae’n ei wneud y tu hwnt i’n deall ni! Pwy sy’n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sydd wedi dod i wybod digon i roi cyngor iddo?”—Rhufeiniaid 11:33, 34.

[Troednodyn]

^ Par. 12 Newidiwyd yr enwau.

[Broliant]

Mae pobl yn dal i ofyn yr un cwestiynau sylfaenol: ‘Pam rydyn ni yma? I le rydyn ni’n mynd? Beth yw ystyr y cyfan?’

[Broliant]

“Ar ôl dechrau deall pa fath o berson yw Jehofa, roeddwn i’n closio ato, ac roedd y poen yn dechrau lleddfu”

[Broliant]

“Gwasanaethu Jehofa ydy’r bywyd gorau erioed. Does dim byd tebyg. Mae ’nabod Jehofa wedi rhoi pwrpas i fy mywyd”