Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwyrthiau Iesu—Beth Gallwch Chi ei Ddysgu?

Gwyrthiau Iesu—Beth Gallwch Chi ei Ddysgu?

WYDDOCH chi nad ydy hanesion y Beibl am fywyd Iesu ar y ddaear yn defnyddio gair yr iaith wreiddiol am “wyrth.” Mae’r gair Groeg (duʹna·mis) sydd weithiau yn cael ei gyfieithu “gwyrth”, yn golygu “nerth” yn llythrennol (Luc 8:46) Gall hefyd gael ei drosi’n “weithredoedd nerthol” neu “gallu.” (Mathew 11:20, Beibl Cysegr-lân; 25:15) Yn ôl un ysgolhaig, mae’r term Groeg hwn yn “pwysleisio’r weithred fawr sydd wedi ei wneud, ac yn benodol, y grym tu ôl i’r weithred honno. Mae’r digwyddiad yn pwysleisio grym Duw ar waith.”

Mae term Groeg arall, (teʹras) fel arfer yn cael ei drosi yn “rhyfeddodau” neu “pethau rhyfeddol.” (Ioan 4:48, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig; Actau 2:19) Mae’r ymadrodd yn tynnu sylw at yr effaith cafodd y weithred ar y gwylwyr. Yn aml, roedd y dorf a’r disgyblion yn synnu a rhyfeddu at weithredoedd grymus Iesu.—Marc 2:12; 4:41; 6:51; Luc 9:43.

Mae trydydd term Groeg (se·meiʹon) sy’n cyfeirio at wyrthiau Iesu yn golygu “arwydd.” Mae’n “canolbwyntio ar ystyr dyfnach y wyrth,” meddai’r ysgolhaig Robert Deffinbaugh. Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud: “Mae arwydd yn wyrth sy’n cyfleu gwirionedd am ein Harglwydd Iesu.”

Grym Duw neu Dwyll?

Dydy’r Beibl ddim yn disgrifio gwyrthiau Iesu fel triciau i ddifyrru pobl. Roedden nhw’n dangos “nerth Duw ar waith,” fel y digwyddodd pan fwriodd Iesu gythraul allan o fachgen. (Luc 9:37-43) A fyddai’r fath gweithredoedd pwerus yn amhosib i’r Hollalluog Dduw—yr Un sydd “mor gryf ac mor anhygoel o nerthol”? (Eseia 40:26) Na fyddai siŵr!

Mae hanesion yr Efengylau yn cyfeirio at ryw 35 o wyrthiau Iesu. Dydy’r Beibl ddim yn dweud faint o wyrthiau wnaeth Iesu. Er enghraifft, mae Mathew 14:14 yn dweud: “Roedd gweld y dyrfa fawr yno yn ei gyffwrdd i’r byw, ac iachaodd y rhai oedd yn sâl.” Does dim sôn am faint o bobl sâl a gafodd eu hiacháu ar yr achlysur hwnnw.

Roedd y fath gweithredoedd nerthol yn allweddol i Iesu brofi mai ef oedd Mab Duw, y Meseia addawedig. Mae’n wir fod yr ysgrythurau yn cadarnhau mai grym Duw oedd yn galluogi Iesu i wneud gwyrthiau. Cyfeiriodd yr apostol Pedr at Iesu fel “gŵr y mae ei benodi gan Dduw wedi ei amlygu i chwi trwy wyrthiau a rhyfeddodau ac arwyddion a gyflawnodd Duw trwyddo ef yn eich mysg chwi, fel y gwyddoch chwi eich hunain.” (Actau 2:22, BCND) Ar achlysur arall, dywedodd Pedr fod “Duw wedi eneinio Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân ac â nerth rhyfeddol. Roedd yn mynd o gwmpas yn gwneud daioni ac yn iacháu pawb oedd yn dioddef am fod y diafol yn eu poeni nhw. Roedd Duw gydag e!”—Actau 10:37, 38.

Roedd gwyrthiau Iesu yn mynd law yn llaw â’i neges. Gallwn weld ymateb y dorf i ddysgeidiaeth Iesu ac i un o’i wyrthiau yn Marc 1:21-27, Beibl Cymraeg Diwygiedig. Mae Marc 1:22 yn dweud bod “y bobl yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu,” ac adnod 27 yn dweud “syfrdanwyd pawb” pan fwriodd gythraul allan. Rhoddodd gweithredoedd pwerus Iesu, yn ogystal â’i neges, dystiolaeth gref mai ef oedd y Meseia addawedig.

Digon hawdd fyddai i Iesu honni mai ef oedd y Meseia; ond daeth yn amlwg i bawb mai nerth Duw oedd y tu ôl i’w wyrthiau. Felly doedd ’na ddim amheuaeth mai hwn oedd y Meseia. Pan gododd gwestiynau ynglŷn â’i rôl swyddogol a’i awdurdod, atebodd Iesu’n gadarn: “Mae gen i dystiolaeth bwysicach na beth ddwedodd Ioan. Mae beth dw i’n ei wneud (y gwaith mae’r Tad wedi ei roi i mi ei gyflawni), yn dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i.”—Ioan 5:36.

Gweithredoedd Iesu—Gwyrthiau Go Iawn

Pam allwn ni fod yn sicr fod gwyrthiau Iesu yn rhai go iawn? Ystyriwch rai o’r ffeithiau sy’n profi hynny.

Wrth gyflawni ei weithredoedd pwerus, wnaeth Iesu erioed dynnu sylw iddo’i hun. Aeth ati i sicrhau mai canlyniad unrhyw wyrth oedd bod Duw yn cael y clod a’r gogoniant. Er enghraifft, cyn rhoi golwg yn ôl i ddyn dall, pwysleisiodd Iesu y byddai’r gwellhad yn digwydd “er mwyn i allu Duw gael ei arddangos yn ei fywyd.”—Ioan 9:1-3; 11:1-4.

Yn wahanol i gonsurwyr, dewiniaid, ac iachawyr ffydd, wnaeth Iesu erioed ddefnyddio hypnotiaeth, twyll, hudoliaeth, na defodau emosiynol. Wnaeth ef ddim defnyddio hen arferion ofergoelus na chreiriau. Sylwch ar y ffordd syml aeth Iesu ati i iacháu dau ddyn dall: “Roedd Iesu’n teimlo drostyn nhw, a dyma fe’n cyffwrdd eu llygaid. Yn sydyn roedden nhw’n gallu gweld! A dyma nhw’n ei ddilyn e.” (Mathew 20:29-34) Digwyddodd hyn heb unrhyw ddefod, seremoni, na sioe fawr. Cyflawnodd Iesu ei wyrthiau yn gyhoeddus, yn aml o flaen llawer o lygad-dystion, heb unrhyw oleuadau na chyfarpar arbennig. Yn wahanol i hyn, yn aml ni all gwyrthiau honedig heddiw gael eu profi.—Marc 5:24-29; Luc 7:11-15.

O bryd i’w gilydd gwnaeth Iesu gydnabod ffydd y rhai a elwodd ar ei wyrthiau. Ond nid oedd diffyg ffydd person yn rhwystro Iesu rhag cyflawni gwyrth. Tra oedd yng Nghapernaum yng Ngalilea, “dyma bobl yn dod â llawer iawn o rai oedd yng ngafael cythreuliaid at Iesu. Doedd ond rhaid iddo ddweud gair i fwrw allan yr ysbrydion drwg a iacháu pawb oedd yn sâl.”—Mathew 8:16.

Cafodd gwyrthiau Iesu eu cyflawni i ateb anghenion corfforol pobl, nid i foddhau chwilfrydedd rhywun. (Marc 10:46-52; Luc 23:8) Wnaeth Iesu erioed cyflawni gwyrthiau er mwyn elwa’n bersonol mewn unrhyw ffordd.—Mathew 4:2-4; 10:8.

Ydy Hanesion yr Efengylau yn Ddibynadwy?

Mae’r ffeithiau am wyrthiau Iesu wedi cael eu trosglwyddo inni drwy dudalennau’r pedair Efengyl. Oes ’na resymau dilys dros gredu’r hanesion hyn wrth inni ymchwilio i’r gwyrthiau sy’n cael eu priodoli i Iesu? Oes, yn wir.

Fel y dywedwyd o’r blaen, cafodd gwyrthiau Iesu eu cyflawni yn gyhoeddus, ym mhresenoldeb llawer o lygad-dystion. Cafodd yr Efengylau cynharaf eu hysgrifennu ar adeg pan oedd llawer o’r llygad-dystion hynny yn dal yn fyw. Ynghylch gonestrwydd ysgrifenwyr yr Efengylau, mae’r llyfr The Miracles and the Resurrection yn dweud: “Mi fyddai’n gwbl annheg i gyhuddo awduron yr Efengylau o gladdu ffeithiau hanesyddol dan lwyth o straeon am wyrthiau honedig, a hynny er budd propaganda diwinyddol. . . . Eu bwriad oedd mynd ati’n ddiffuant i gofnodi’r ffeithiau.”

Wnaeth yr Iddewon oedd yn gwrthwynebu Cristnogaeth erioed amau’r gwyrthiau sy’n cael eu disgrifio yn yr Efengylau. Dim ond y pŵer y tu ôl i’r gwyrthiau hynny a gafodd ei gwestiynu. (Marc 3:22-26) A doedd beirniaid difrïol diweddarach ddim yn gallu gwadu gwyrthiau Iesu’n llwyddiannus chwaith. I’r gwrthwyneb, yn ystod dwy ganrif gyntaf yr Oes Gyffredin, mi oedd ’na gyfeiriadau at weithredoedd gwyrthiol Iesu. Yn amlwg, mae gynnon ni bob rheswm dros ystyried hanesion gwyrthiau yr Efengylau fel rhai dilys.

Y Dyn a Gyflawnodd y Gwyrthiau

Fyddai astudiaeth o wyrthiau Iesu yn anghyflawn petai’n gyfyngedig i resymu ynglŷn â’i dilysrwydd. Wrth ddisgrifio gweithredoedd pwerus Iesu, mae’r Efengylau yn datgelu darlun o ddyn â theimladau dwfn a thosturi heb ei ail, gyda diddordeb brwd am les ei gyd-ddyn.

Ystyriwch hanes dyn gwahanglwyfus a ddaeth at Iesu ac erfyn arno ar ei luniau a dweud: “Gelli di fy ngwneud i’n iach os wyt ti eisiau.” “Yn llawn teimlad, dyma Iesu yn estyn ei law a chyffwrdd y dyn. ‘Dyna dw i eisiau,’ meddai, ‘bydd lân!’” Cafodd y dyn ei iacháu ar unwaith. (Marc 1:40-42) Drwy wneud hyn dangosodd Iesu y cydymdeimlad a oedd yn ei gymell i ddefnyddio grym Duw i gyflawni gwyrthiau.

Beth ddigwyddodd pan ddaeth Iesu ar draws pobl mewn angladd yn dod allan o dref o’r enw Nain? Unig fab i weddw oedd y dyn ifanc oedd wedi marw. Wrth i Iesu weld y weddw, “roedd yn teimlo drosti.” Aeth ati “ac meddai wrthi, ‘Paid crio.’” Yna cododd Iesu ei mab yn ôl yn fyw.—Luc 7:11-15.

Un cysur a gawn ni o wyrthiau Iesu yw’r ffaith ei fod yn tosturio wrth bobl a mynd ati i’w helpu. Ond nid hanes yn unig yw’r fath wyrthiau. “Mae Iesu y Meseia yr un fath bob amser—ddoe, heddiw ac am byth!” meddai Hebreaid 13:8. Mae Iesu bellach yn rheoli fel Brenin yn y nef, yn barod i ddefnyddio ei bwerau gwyrthiol mewn ffordd ehangach nag a wnaeth pan oedd yn ddyn ar y ddaear. Yn fuan, bydd Iesu yn defnyddio’r pwerau a gafodd gan Dduw i iacháu pobl ffyddlon. Bydd Tystion Jehofa yn hapus i’ch helpu chi ddysgu mwy am y dyfodol disglair hwn.

[Lluniau]

Roedd gwyrthiau Iesu yn dangos “nerth Duw ar waith”

[Llun]

Roedd Iesu’n ddyn teimladwy iawn