Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Moli Dy Greawdwr Drwy Osod Amcanion Ysbrydol

Moli Dy Greawdwr Drwy Osod Amcanion Ysbrydol

“PAN nad yw dyn yn gwybod i ba borthladd mae’n hwylio, does dim ots pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu.” Dyna ddywedodd athronydd Rhufeinig yn y ganrif gyntaf. Yn sicr, er mwyn cael cyfeiriad i’n bywydau, mae’n rhaid gosod amcanion.

Mae’r Beibl yn cynnwys nifer o enghreifftiau o bobl a wnaeth osod amcanion a’u cyrraedd. Roedd Noa yn gweithio am tua 50 o flynyddoedd yn “adeiladu arch er mwyn achub ei deulu.” Roedd y proffwyd Moses “yn edrych ymlaen yn frwd at dderbyn y wobr.” (Hebreaid 11:7, 26) Y nod a osododd Jehofa i Josua oedd gorchfygu gwlad Canaan.—Deuteronomium 3:21, 22, 28; Josua 12:7-24.

Yn y ganrif gyntaf, mae’n debyg bod geiriau Iesu wedi dylanwadu ar amcanion ysbrydol yr apostol Paul. Dywedodd Iesu: “Bydd y newyddion da hyn am y Deyrnas yn cael eu pregethu drwy’r byd i gyd yn dystiolaeth i’r holl genhedloedd.” (Mathew 24:14) Dywedodd Iesu wrth Paul am fynd â’i enw “gerbron y cenhedloedd,” ac felly gwnaeth Paul helpu i sefydlu nifer o gynulleidfaoedd mewn llawer o wledydd.​—Actau 9:15; Colosiaid 1:23.

Mae gweision Jehofa wastad wedi ei anrhydeddu drwy osod amcanion a’u cyrraedd. Sut gallwn ni osod amcanion ysbrydol heddiw? Pa amcanion gallwn ni eu gosod, a pha gamau ymarferol gallwn ni eu cymryd er mwyn eu cyrraedd?

Sut Gallwn Ni Osod yr Amcanion Cywir?

Mae llawer o bobl yn gosod amcanion yn eu bywydau, ond i’r rhan fwyaf ohonyn nhw, y pethau pwysicaf yw ennill arian a chael awdurdod. Ond nid dyna’r math o amcanion rydyn ni eisiau eu gosod. Rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa drwy osod amcanion yn ein gwasanaeth iddo ef. (Mathew 6:33) Rydyn ni’n gwneud hyn oherwydd ein bod ni’n caru Duw a’n cyd-ddyn.—Mathew 22:37-39; 1 Timotheus 4:7.

Gallwn osod y nod o wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa, neu o feithrin rhinweddau Cristnogol. Ond ni waeth beth yw ein hamcanion, dylen ni weithio tuag atyn nhw oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa ac eraill. Sut bynnag, nid yw cyrraedd amcanion bob amser yn hawdd. Felly beth fydd yn ein helpu i gyrraedd ein hamcanion?

Mae’n Rhaid Bod yn Benderfynol

Ystyria sut gwnaeth Jehofa greu’r bydysawd. Gan ddefnyddio’r geiriau “roedd nos a dydd,” fe rannodd Jehofa ei waith yn gyfnodau penodol a’u galw nhw’n ddyddiau. (Genesis 1:5, 8, 13, 19, 23, 31) Roedd ganddo nod ar gyfer pob diwrnod, ac fe gyrhaeddodd y nod hwnnw. (Datguddiad 4:11) Dywedodd Job am Jehofa: “Mae’n gwneud beth bynnag mae e eisiau.” (Job 23:13) Pan edrychodd Jehofa “ar bopeth roedd wedi’i wneud,” fe welodd “fod y cwbl yn dda iawn.”—Genesis 1:31.

Er mwyn cyrraedd ein hamcanion, mae’n rhaid inni fod yn benderfynol. Beth fydd yn ein helpu ni? Hyd yn oed cyn iddo orffen creu’r ddaear, roedd Jehofa’n gwybod y byddai’r blaned yn brydferth. Gallwn gryfhau ein penderfyniad drwy efelychu Jehofa a chanolbwyntio ar ganlyniadau cyrraedd ein nod. Dyna oedd profiad dyn ifanc o’r enw Tony. Doedd Tony byth wedi anghofio’r tro cyntaf iddo ymweld â swyddfa gangen Tystion Jehofa. O hynny ymlaen, byddai’n gofyn iddo ei hun, ‘Sut brofiad byddai byw a gwasanaethu mewn lle o’r fath?’ Daliodd Tony ati i feddwl am y posibilrwydd o weithio yno, a chymerodd gamau i gyrraedd ei nod. Roedd mor hapus pan, flynyddoedd wedyn, cafodd ei dderbyn i weithio yn y swyddfa gangen.

Gall cymdeithasu â’r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd rhyw nod penodol greu’r awydd ynon ni i wneud yr un peth. Nid oedd Jayson, sydd yn 30 oed, yn mwynhau mynd yn y weinidogaeth pan oedd yn ei arddegau cynnar. Ond ar ôl iddo orffen yn yr ysgol uwchradd, dechreuodd arloesi’n llawn amser. Beth helpodd Jayson i feithrin yr awydd i arloesi? Mae’n ateb: “Roedd siarad ag eraill oedd yn arloesi a gweithio gyda nhw yn y weinidogaeth, yn cael dylanwad da arna i.”

Gall Creu Cofnod o Dy Amcanion Fod yn Help

Mae ein syniadau’n dod yn gliriach ac yn fwy pendant wrth inni siarad amdanyn nhw. Dywedodd y Brenin Solomon fod geiriau doeth yn gallu procio’r meddwl a’n helpu ni i wneud penderfyniadau da. (Pregethwr 12:11) Pan mae’r geiriau doeth hynny yn cael eu hysgrifennu, maen nhw’n gwneud argraff fawr ar ein meddyliau a’n calonnau. Dyna pam gorchmynnodd Jehofa i frenhinoedd Israel wneud eu copïau eu hunain o’r Gyfraith. (Deuteronomium 17:18) Yn yr un modd, gallwn ni gofnodi ein hamcanion yn ogystal â’n cynllun ar gyfer eu cyrraedd. Gallwn ni hefyd nodi unrhyw broblemau a allai godi ar hyd y ffordd, a sut rydyn ni’n bwriadu dod drostyn nhw. Ar ben hynny, gallwn ni wneud ymchwil i’r sgiliau y bydd angen inni eu dysgu, a nodi enwau’r bobl a fydd yn fodlon ein helpu a’n cefnogi.

Mae Geoffrey wedi bod yn arloeswr arbennig mewn gwlad yn Asia ers blynyddoedd. Roedd gosod amcanion yn ei helpu i gael bywyd sefydlog ar ôl i’w wraig farw yn annisgwyl. Cymerodd dipyn o amser i Geoffrey addasu, ond yna dechreuodd osod amcanion er mwyn cadw’n brysur yn y weinidogaeth. Gweddïodd Geoffrey am gael dechrau tair astudiaeth Feiblaidd newydd erbyn diwedd y mis, ac yna ysgrifennodd ei nod ar bapur. Bob diwrnod, edrychodd ar beth roedd wedi ei wneud, a phob deg diwrnod roedd yn asesu ei gynnydd. A wnaeth Geoffrey gyrraedd ei nod? Do! Roedd yn hapus iawn i gael pedair astudiaeth newydd erbyn diwedd y mis.

Gosod Amcanion Bach Er Mwyn Cyrraedd Rhai Mwy

Efallai byddi di’n teimlo bod rhai amcanion yn rhy anodd eu cyrraedd. Roedd Tony eisiau gwasanaethu yn swyddfa gangen Tystion Jehofa, ond roedd yn teimlo nad oedd y nod o fewn ei gyrraedd. Ar y pryd, doedd Tony ddim wedi ymgysegru i Jehofa, ac roedd rhaid iddo wneud llawer o newidiadau yn ei fywyd er mwyn cael ei fedyddio. Ond ar ôl iddo gael ei fedyddio, dechreuodd arloesi’n gynorthwyol, ac yna’n llawn amser. Fe wnaeth nodi ar ei galendr pryd roedd yn bwriadu cyrraedd pob nod. Ar ôl iddo arloesi am gyfnod, roedd Tony yn teimlo ei fod yn gallu cyrraedd ei nod o wasanaethu yn y swyddfa gangen.

Gallwn ni hefyd gyrraedd ein hamcanion mawr drwy osod amcanion bach. Pan fyddwn ni’n cyrraedd ein hamcanion bach, byddwn ni’n gweld faint o gynnydd rydyn ni wedi ei wneud, a bydd hynny yn ein helpu i ddal ati i weithio tuag at ein nod mawr. Os ydyn ni’n gweddïo ar Jehofa yn rheolaidd, fe fydd yn ein helpu. Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Gweddïwch yn ddi-baid.”—1 Thesaloniaid 5:17.

Dal Ati i Weithio Tuag at Dy Nod

Gall gwneud cynllun a chael yr awydd i gyrraedd y nod fod yn help mawr. Ond weithiau, gallwn ni deimlo ei bod hi’n dal yn amhosib inni gyrraedd ein nod. Gallwn ni ddysgu llawer o esiampl Marc. Roedd Marc yn awyddus iawn i fynd gyda’r apostol Paul ar ei ail daith genhadol. Ond doedd Paul ddim eisiau gwneud hynny. Mae’n rhaid bod hyn wedi siomi Marc yn fawr iawn. (Actau 15:37-​40) Roedd rhaid i Marc ddysgu o’r profiad hwn, ac addasu ei amcanion. Mae’n amlwg ei fod wedi gwneud hyn, oherwydd yn nes ymlaen cafodd ei ganmol gan Paul, a chafodd y cyfle i weithio gyda’r apostol Pedr ym Mabilon. (2 Timotheus 4:​11; 1 Pedr 5:​13) Efallai’r fraint fwyaf a gafodd oedd ysgrifennu cofnod o fywyd a gweinidogaeth Iesu.

Efallai byddwn ninnau hefyd yn wynebu heriau wrth weithio tuag at amcanion ysbrydol. Ond yn lle rhoi’r ffidil yn y to, mae’n rhaid inni adolygu ein cynnydd ac efallai addasu ein hamcanion. Mae’n rhaid inni fod yn benderfynol o ddal ati i weithio tuag at ein nod. Ysgrifennodd y Brenin Solomon: “Rho bopeth wnei di yn nwylo’r ARGLWYDD, a bydd dy gynlluniau’n llwyddo.”—Diarhebion 16:3.

Serch hynny, gall rhai amgylchiadau ei gwneud hi’n amhosib inni gyrraedd ein nod. Er enghraifft, efallai byddwn ni’n mynd yn sâl, neu’n gorfod gofalu am aelodau teulu. Ond ddylen ni byth anghofio mai ein prif nod yw bywyd tragwyddol, naill ai yn y nef neu ym Mharadwys ar y ddaear. (Luc 23:43; Philipiaid 3:13, 14) Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni sut mae hyn yn bosib. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Mae’r sawl sy’n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.” (1 Ioan 2:17) Er efallai na fydd ein sefyllfa yn caniatáu inni gyrraedd rhyw nod arbennig, gallwn barhau i addoli Duw a gwneud beth mae’n ei ddweud. (Pregethwr 12:13) Gall osod amcanion ysbrydol ein helpu i ganolbwyntio ar wneud ewyllys Duw. A thrwy wneud hynny, byddwn ni’n dod â chlod i’n Creawdwr.

[Blwch]

Amcanion Ysbrydol i’w Hystyried

○ Darllen y Beibl bob dydd

○ Darllen pob rhifyn o’r Tŵr Gwylio a Deffrwch!

○ Gwella ein gweddïau

○ Meithrin ffrwyth yr ysbryd

○ Ehangu ein gwasanaeth

○ Dod yn fwy effeithiol wrth bregethu a dysgu

○ Hogi sgiliau fel tystiolaethu ar y ffôn, tystiolaethu anffurfiol, a gweithio tiriogaeth fusnes