Neidio i'r cynnwys

Bwria Ymlaen at Aeddfedrwydd—“Mae Dydd Barn yr ARGLWYDD yn Agos”

Bwria Ymlaen at Aeddfedrwydd—“Mae Dydd Barn yr ARGLWYDD yn Agos”

“Gadewch inni fwrw ymlaen at aeddfedrwydd.”​—Heb. 6:1.

1, 2. Yn y ganrif gyntaf, sut cafodd y Cristnogion yn Jerwsalem a Jwdea gyfle i “ffoi i’r mynyddoedd”?

 PAN oedd Iesu ar y ddaear, aeth ei ddisgyblion ato a gofyn: “Pryd bydd y pethau hyn yn digwydd, a beth fydd yr arwydd o dy bresenoldeb ac o gyfnod olaf y system hon?” Atebodd Iesu eu cwestiwn drwy roi proffwydoliaeth a gafodd ei chyflawni yn y ganrif gyntaf. Soniodd Iesu am arwydd anarferol a fyddai’n dangos bod Jerwsalem ar fin cael ei dinistrio. Pan oedd pobl yn gweld yr arwydd hwnnw, roedd y “rhai yn Jwdea [i] ddechrau ffoi i’r mynyddoedd.” (Math. 24:​1-3, 15-​22) A fyddai disgyblion Iesu’n cofio ei eiriau a dilyn ei gyfarwyddiadau?

2 Bron i dri deg mlynedd yn ddiweddarach, yn 61 OG, rhoddodd yr apostol Paul gyngor cryf mewn llythyr at y Cristnogion yn Jerwsalem a’i chyffiniau. Nid oedd Paul a’r Cristnogion eraill yn gwybod ar y pryd, ond ymhen pum mlynedd, byddai’r rhan gyntaf o broffwydoliaeth Iesu’n dod yn wir. (Math. 24:21) Yn 66 OG, ymosododd y Rhufeiniaid, o dan Cestius Gallus, a bu bron iddyn nhw oresgyn y ddinas. Ond yn sydyn, gadawodd y Rhufeiniaid, gan roi cyfle i’r Cristnogion ddianc.

3. Pa gyngor a roddodd Paul i’r Cristnogion yn Jerwsalem a’i chyffiniau, a pham?

3 Er mwyn ffoi, roedd yn bwysig i’r Cristnogion sylweddoli bod y digwyddiadau hyn yn cyflawni geiriau Iesu. Ond roedd rhai “wedi mynd yn araf i ddeall.” Mewn ffordd ysbrydol, roedden nhw fel plant bach oedd angen “llaeth.” (Darllen Hebreaid 5:11-13.) Hyd yn oed ymhlith y rhai oedd wedi bod yn Gristnogion ers degawdau, roedd rhai’n dechrau ‘troi eu cefn ar y Duw byw.’ (Heb. 3:12) Roedd colli cyfarfodydd Cristnogol wedi mynd yn “arfer” gan rai, a hynny ar yr union adeg pan oedd “y dydd yn dod yn agos.” (Heb. 10:24, 25) Dyna pam dywedodd Paul wrthyn nhw: “Nawr ein bod ni wedi symud ymlaen o’r ddysgeidiaeth sylfaenol am y Crist, gadewch inni fwrw ymlaen at aeddfedrwydd.”—Heb. 6:1.

4. Pam mae’n bwysig inni aros yn ysbrydol effro, a beth fydd yn ein helpu ni i wneud hynny?

4 Rydyn ni’n byw mewn cyfnod sydd yn gweld cyflawniad olaf proffwydoliaeth Iesu. Mae “dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos”​—sef y dydd a fydd yn dod â system Satan i ben. (Seff. 1:14, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’n bwysig inni aros yn ysbrydol effro. (1 Pedr 5:8) A ydyn ni’n gwneud hynny? Bydd dod yn Gristion aeddfed yn ein helpu ni i gofio ein bod ni’n byw yn y dyddiau olaf.

Beth Mae’n Ei Olygu i Fod yn Ysbrydol Aeddfed?

5, 6. (a) Beth mae bod yn ysbrydol aeddfed yn ei olygu? (b) Pa ddau beth mae’n rhaid inni eu gwneud er mwyn dod yn ysbrydol aeddfed?

5 Dywedodd Paul wrth y Cristnogion yn Jerwsalem fod angen iddyn nhw fwrw ymlaen i aeddfedrwydd, ond esboniodd hefyd sut i wneud hynny. (Darllen Hebreaid 5:​14.) Nid yw ‘pobl aeddfed’ yn bodloni ar ‘laeth’ yn unig. Maen nhw’n bwyta ‘bwyd solet.’ Felly maen nhw’n deall ‘pethau sylfaenol neges Dduw,’ a ‘phethau dwfn Duw.’ (1 Cor. 2:10) Ar ben hynny, maen nhw’n gweithio’n galed i roi’r pethau maen nhw wedi eu dysgu ar waith, ac mae hynny yn eu helpu nhw i wahaniaethu rhwng da a drwg. Pan fydd rhaid gwneud penderfyniad, byddan nhw’n gallu gweld pa egwyddorion o’r Beibl sy’n berthnasol, a sut i’w defnyddio.

6 Ysgrifennodd Paul: “Dyna pam mae’n rhaid inni dalu mwy o sylw nag arfer i’r pethau rydyn ni wedi eu clywed, fel na fyddwn ni byth yn drifftio o’r ffydd.” (Heb. 2:1) Mae hyn yn gallu digwydd cyn inni sylweddoli. Ond ni fydd yn digwydd os ydyn ni’n ‘talu mwy o sylw nag arfer’ pan fyddwn ni’n astudio’r Beibl. Felly mae angen inni ofyn: ‘Ydw i ond yn hoffi astudio pethau sylfaenol a hawdd? Ydw i wrth fy modd yn astudio Gair Duw, neu ydw i’n tueddu i ddarllen y Beibl heb feddwl ryw lawer am yr ystyr? Sut galla i gryfhau fy ffydd?’ Mae dod yn ysbrydol aeddfed yn gofyn am ymdrech mewn o leiaf ddwy ffordd. Mae’n rhaid inni ddod i adnabod y Beibl yn dda. Ac mae hefyd angen inni ddysgu bod yn ufudd i Dduw.

Dod i Adnabod Y Beibl yn Dda

7. Sut gall dod i adnabod Gair Duw yn dda ein helpu ni?

7 Ysgrifennodd Paul: “Mae pawb sy’n parhau i fwydo ar laeth yn anghyfarwydd â gair cyfiawn Duw, oherwydd ei fod yn blentyn bach.” (Heb. 5:​13) I fod yn aeddfed, mae angen inni ddod i adnabod Gair Duw yn dda. Y Beibl yw ei neges aton ni, felly dylen ni astudio’r Beibl a chyhoeddiadau’r “gwas ffyddlon a chall” yn ofalus. (Math. 24:45-​47) Mae gwneud hyn yn ein helpu ni i ddeall meddwl Duw, ac i hogi ein gallu meddyliol. Ystyria esiampl Cristion o’r enw Orchid. a Mae hi’n dweud: “Y peth sydd wedi newid fy mywyd fwyaf oedd darllen y Beibl bob dydd. Cymerodd tua dwy flynedd imi ddarllen y Beibl cyfan, ond roeddwn i’n teimlo mod i’n cyfarfod â’r Creawdwr am y tro cyntaf. Dysgais am ei ffyrdd, am y pethau y mae’n eu hoffi a’u casáu, am ei nerth a’i ddoethineb. Mae darllen y Beibl wedi fy nghynnal i drwy rai o’r dyddiau mwyaf digalon fy mywyd.”

8. Sut gall Gair Duw ddylanwadu arnon ni?

8 Mae Gair Duw yn “hynod o rymus,” ac mae darllen rhannau ohono bob dydd yn caniatáu i’w neges ddylanwadu arnon ni. (Darllen Hebreaid 4:12.) Gall newid ein personoliaeth ein helpu ni i blesio Jehofa. Oes angen i ti neilltuo mwy o amser i ddarllen y Beibl a myfyrio arno?

9, 10. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o brofiad Kyle am beth mae’n ei olygu i adnabod Gair Duw yn dda?

9 Mae angen inni wybod beth mae’r Beibl yn ei ddweud, ond nid yw hynny yn ddigon. Mae’n debygol bod y Cristnogion yn Jerwsalem yn amser Paul yn gyfarwydd â Gair Duw. Ond doedden nhw ddim yn rhoi ei gyngor ar waith nac yn gadael i neges y Beibl ddylanwadu ar eu penderfyniadau.

10 Mae dod i adnabod Gair Duw yn golygu gwybod beth mae’n ei ddweud a rhoi’r wybodaeth honno ar waith. Mae profiad chwaer o’r enw Kyle yn dangos sut gallwn ni wneud hynny. Cafodd Kyle ffrae â dynes arall yn y gwaith. Beth a wnaeth hi er mwyn datrys y broblem? Mae hi’n esbonio: “Yr adnod a ddaeth i’n meddwl oedd Rhufeiniaid 12:18, sy’n dweud: ‘Gwnewch y gorau rydych chi’n bersonol yn gallu ei wneud i gadw heddwch â phawb.’ Felly gofynnais iddi a fyddai’n bosib inni gyfarfod ar ôl y gwaith.” Roedd y ffaith bod Kyle wedi mynd i’r drafferth o drefnu cyfarfod er mwyn cymodi yn gwneud argraff ar y ddynes ac aeth y sgwrs rhyngddyn nhw’n dda. “Dysgais fod dilyn egwyddorion y Beibl bob amser yn gwneud pethau’n well,” meddai Kyle.

Dysgu Bod yn Ufudd

11. Beth sy’n dangos bod ufuddhau weithiau yn anodd?

11 Weithiau mae’n anodd rhoi cyngor y Beibl ar waith. Er enghraifft, ar ôl i Jehofa ryddhau’r Israeliaid o’u caethiwed yn yr Aifft, doedd hi ddim yn hir cyn i’r bobl ‘ddechrau dadlau gyda Moses,’ a ‘phrofi’r ARGLWYDD.’ (Ex. 17:1-4) O fewn dau fis ar ôl addo “gwneud popeth mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud,” dyma nhw’n torri ei gyfraith ac addoli eilun. (Ex. 24:3, 12-18; 32:1, 2, 7-9) A oedden nhw’n ofnus efallai oherwydd bod Moses wedi mynd i fyny Mynydd Horeb a heb ddod yn ôl? A oedden nhw’n meddwl efallai byddai pobl Amalek yn ymosod eto, ac na fyddai Moses yno i’w helpu fel yr oedd wedi ei wneud o’r blaen? (Ex. 17:8-16) Mae hynny i gyd yn bosib, ond ni waeth beth oedd y rheswm, roedd yr Israeliaid yn ‘gwrthod ufuddhau’ i Jehofa. (Act. 7:39-41) Fe wnaeth Paul annog y Cristnogion i ‘wneud eu gorau glas’ i beidio â bod fel yr Israeliaid ofnus a ‘syrthio i’r un patrwm o anufudd-dod.’—Heb. 4:3, 11.

12. Sut dysgodd Iesu ufudd-dod, a sut wnaeth hynny ei helpu?

12 Mae bod yn aeddfed yn golygu gwneud ein gorau i fod yn ufudd i Jehofa. Fel Iesu Grist, gallwn ni ddysgu bod yn ufudd hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd. (Darllen Hebreaid 5:8, 9.) Cyn iddo ddod i’r ddaear, roedd Iesu’n ufudd i Dduw. Ond roedd yn fwy anodd iddo wneud ewyllys Duw ar y ddaear oherwydd roedd Iesu’n dioddef poen yn gorfforol ac yn feddyliol. Ond drwy fod yn ufudd, hyd yn oed dan bwysau ofnadwy, roedd Iesu yn cael “ei wneud yn berffaith” ar gyfer y dasg o fod yn Frenin ac yn Archoffeiriad.

13. Beth sy’n dangos ein bod ni wedi dysgu bod yn ufudd?

13 Felly, beth amdanon ni? A ydyn ni’n benderfynol o ufuddhau i Jehofa hyd yn oed pan fyddwn ni’n wynebu problemau anodd? (Darllen 1 Pedr 1:6, 7.) Mae cyngor Duw yn hollol eglur ar faterion fel moesoldeb, gonestrwydd, iaith addas, darllen ac astudio’r Beibl, mynd i gyfarfodydd Cristnogol, a phregethu. (Jos. 1:8; Math. 28:19, 20; Eff. 4:25, 28, 29; 5:3-5; Heb. 10:24, 25) A ydyn ni’n ufudd i Jehofa yn y materion hyn, hyd yn oed pan fydd hynny yn anodd? Mae ein hufudd-dod yn dangos ein bod ni’n ysbrydol aeddfed.

Bendithion Bod yn Ysbrydol Aeddfed

14. Rho enghraifft sy’n dangos sut mae bod yn aeddfed yn gallu amddiffyn rhywun.

14 Mewn byd sydd “heb unrhyw fath o synnwyr moesol,” mae gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg yn cadw Cristnogion yn ddiogel. (Eff. 4:19) Er enghraifft, roedd brawd o’r enw James yn gwerthfawrogi cyhoeddiadau am y Beibl a’u darllen yn rheolaidd. Cafodd James swydd mewn cwmni lle roedd ei gyd-weithwyr i gyd yn fenywod. “Roedd llawer ohonyn nhw’n amlwg yn llac eu moesau,” meddai James, “ond roedd un ferch i’w gweld yn barchus, ac roedd ganddi ddiddordeb yn y Beibl. Ond pan oedden ni mewn ystafell a neb arall o gwmpas, dyma hi’n dechrau rhoi cynnig arna i. Roeddwn i’n meddwl mai jôc oedd, ond doedd dim stopio arni. Yna cofiais brofiad yn y Tŵr Gwylio am frawd oedd yn wynebu rhywbeth tebyg yn ei waith. Roedd yr erthygl wedi defnyddio esiampl Joseff gyda gwraig Potiffar. Felly fe wnes i ei gwthio hi i ffwrdd yn gyflym, a rhedodd hi allan.” (Gen. 39:7-12) Roedd James mor ddiolchgar nad oedd dim byd gwaeth wedi digwydd a bod ei gydwybod yn dal yn lân.—1 Tim. 1:5.

15. Sut gall gweithio i fod yn aeddfed gryfhau ein ffyddlondeb i Jehofa?

15 Mae aeddfedrwydd hefyd yn ein helpu ni i gryfhau ein ffyddlondeb i Jehofa, ac mae’n ein hatal ni rhag cael ein “camarwain gan ddysgeidiaethau amrywiol a dieithr.” (Darllen Hebreaid 13:9.) Drwy weithio i fod yn Gristion aeddfed, byddwn ni’n canolbwyntio ar y “pethau mwyaf pwysig.” (Phil. 1:9, 10) Byddwn ni’n teimlo’n fwy diolchgar am bopeth mae Duw wedi ei roi inni. (Rhuf. 3:24) Bydd Cristnogion sydd “yn oedolion o ran [eu] dealltwriaeth” yn cael perthynas agos â Jehofa.—1 Cor. 14:20.

16. Beth wnaeth helpu un chwaer i ‘wneud ei chalon yn gadarn’?

16 Mae chwaer o’r enw Louise yn cyfaddef mai’r peth pwysicaf iddi hi ar ôl cael ei bedyddio oedd ceisio plesio pobl eraill. “Doeddwn i ddim yn gwneud dim byd o’i le,” meddai, “ond doeddwn i ddim ar dân eisiau gwasanaethu Jehofa. Roeddwn i’n gwybod mod i’n gorfod gwneud newidiadau er mwyn teimlo mod i’n gwneud fy ngorau i Jehofa. Y newid mwyaf oedd canolbwyntio’n llwyr ar wasanaethu Jehofa.” Drwy weithio’n galed, llwyddodd Louise i ‘wneud ei chalon yn gadarn,’ ac roedd hyn yn help mawr iddi wedyn pan aeth hi’n sâl. (Iago 5:8) Dywedodd Louise: “Roedd hynny yn amser hynod o anodd, ond des i’n agos iawn at Jehofa.”

Bod yn Ufudd o’r Galon

17. Pam roedd ufudd-dod yn arbennig o bwysig i’r Cristnogion yn y ganrif gyntaf?

17 I’r Cristnogion yn Jerwsalem a Jwdea, roedd cyngor Paul i “fwrw ymlaen i aeddfedrwydd” yn achub eu bywydau. Oherwydd eu bod nhw wedi dilyn ei gyngor, pan welon nhw’r arwydd roedd Iesu wedi sôn amdano, roedden nhw’n deall ei ystyr. Pan welon nhw’r “peth ffiaidd sy’n achosi dinistr . . . yn sefyll mewn lle sanctaidd,” hynny yw byddin Rhufain yn amgylchynu Jerwsalem a dechrau ymosod arni, roedden nhw’n gwybod bod hi’n amser iddyn nhw “ddechrau ffoi i’r mynyddoedd.” (Math. 24:15, 16) Fe wnaeth y Cristnogion oedd wedi gwrando ar Iesu adael Jerwsalem cyn iddi gael ei dinistrio, ac yn ôl yr hanesydd Eusebius, aethon nhw i ddinas o’r enw Pela yn y mynyddoedd yn ardal Gilead. Drwy ufuddhau i Iesu, fe wnaethon nhw osgoi’r trychineb gwaethaf erioed yn hanes Jerwsalem.

18, 19. Pam mae’n bwysig inni fod yn ufudd heddiw?

18 Mae bod yn aeddfed yn ein helpu ni i fod yn ufudd, a bydd hynny yn achub ein bywydau pan welwn ni broffwydoliaeth Iesu am y trychineb mawr yn cael ei chyflawni. (Math. 24:21) A fyddwn ni’n ufudd i unrhyw gyfarwyddyd a ddaw yn y dyfodol oddi wrth y “goruchwyliwr ffyddlon”? (Luc 12:42) Mor bwysig felly yw dysgu bod “yn ufudd o’r galon”!—Rhuf. 6:17.

19 Mae angen inni hogi ein gallu meddyliol os ydyn ni am ddod yn aeddfed. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy weithio’n galed i ddod yn gyfarwydd â Gair Duw a thrwy ddysgu bod yn ufudd.

[Troednodyn]

a Newidiwyd rhai enwau.

Beth Wnest Ti Ei Ddysgu?

• Beth mae’n ei olygu i fod yn ysbrydol aeddfed, a sut mae rhywun yn dod yn aeddfed?

• Pam mae angen inni fod yn gyfarwydd â’r Beibl er mwyn bod yn aeddfed?

• Sut rydyn ni’n dysgu bod yn ufudd?

• Beth yw bendithion bod yn aeddfed?

[Cwestiynau’r Astudiaeth]

[Llun]

Mae rhoi cyngor y Beibl ar waith yn ein helpu ni i ddatrys problemau mewn ffordd aeddfed

[Llun]

Roedd dilyn cyngor Iesu yn achub bywydau’r Cristnogion cynnar