Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gweddïo—Pam?

Gweddïo—Pam?

GWEDDI. I lawer o bobl, dyma un o’r pynciau mwyaf diddorol yn y Beibl. Dewch i ni ystyried saith cwestiwn cyffredin am weddi, a’r atebion sydd i’w gweld yn y Beibl. Pwrpas yr erthyglau hyn yw eich helpu chi i weddïo—naill ai i ddechrau gweddïo neu i wella eich gweddïau.

LEDLED y byd, ym mhob diwylliant a chrefydd, mae pobl yn gweddïo. Maen nhw’n gweddïo ar eu pennau eu hunain ac mewn grwpiau. Maen nhw’n gweddïo mewn eglwysi, temlau, synagogau, mosgiau, a chysegrfeydd. Bydd rhai yn defnyddio mat gweddïo, gleiniau rosari, olwyn gweddïo, llyfr gweddi, neu’n ysgrifennu gweddïau ar byrddau bach a’u hongian ar resel.

Gweddi yw un o’r pethau sy’n ein gwneud ni’n wahanol i’r anifeiliaid. Wrth gwrs, fel yr anifeiliaid, mae angen inni fwyta, yfed ac anadlu. Fel yr anifeiliaid, rydyn ni’n cael ein geni ac yn marw. (Pregethwr 3:19) Ond dim ond pobl sy’n gweddïo. Pam?

Efallai’r ateb syml yw bod angen arnon ni i weddïo. Gan amlaf, mae pobl yn gweld gweddi fel ffordd o ymestyn at rywbeth mwy na nhw, at rywbeth sanctaidd a thragwyddol. Mae’r Beibl yn dangos bod yr angen hwn yn rhan o’r ffordd mae Duw wedi ein creu. (Pregethwr 3:11) Dywedodd Iesu Grist: “Mae’r rhai sy’n teimlo’n dlawd ac annigonol wedi eu bendithio’n fawr.”—Mathew 5:3.

Felly, y teimlad annigonol neu’r angen hwn sy’n gwneud i bobl droi at Dduw. Dyna pam mae cynifer o grefyddau ac addoldai lle mae pobl yn mynd i weddïo. Wrth gwrs, mae rhai pobl yn teimlo nad oes angen Duw arnyn nhw. Ond a ydy hynny’n wir? Onid y gwir yw bod bodau dynol yn rhy fregus i’n helpu? Dydyn ni ddim yn byw yn ddigon hir nac yn gweld yn ddigon pell. Dim ond rhywun sy’n ddoethach, sy’n fwy pwerus, ac sy’n byw’n hirach na ni sy’n gallu rhoi inni’r hyn sydd ei angen. Felly beth yw’r anghenion ysbrydol sy’n gwneud inni weddïo?

Ystyriwch: Ydych chi erioed wedi dyheu am arweiniad, doethineb, neu atebion i gwestiynau nad oedd neb yn gallu eu hateb? Ydych chi erioed wedi chwilio am gysur ar ôl profedigaeth, neu am gyngor i wneud penderfyniadau anodd iawn, neu am faddeuant ar ôl gwneud camgymeriad ofnadwy?

Yn ôl y Beibl, mae’r rheini i gyd yn rhesymau da dros weddïo. Mae’r Beibl yn help mawr ar y cwestiwn o weddi, oherwydd mae’n cynnwys llawer o enghreifftiau o weddïau dynion a menywod ffyddlon. Roedden nhw’n gweddïo am gysur, am gyngor, am faddeuant, ac am atebion i’r cwestiynau mwyaf dyrys.—Salm 23:3; 71:21; Daniel 9:4, 5, 19; Habacuc 1:3.

Er bod y gweddïau i gyd yn wahanol, roedd ganddyn nhw rhywbeth yn gyffredin. Roedd y bobl hynny’n gwybod y peth pwysicaf am weddi, rhywbeth y mae llawer wedi ei anghofio heddiw. Roedden nhw’n gwybod ar bwy y dylen nhw weddïo.