Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gweddïo—Ar Bwy?

Gweddïo—Ar Bwy?

YDY pob gweddi yn mynd i’r un lle, ni waeth pwy y mae rhywun yn gweddïo arno? Mae hynny’n syniad poblogaidd heddiw. Mae’n apelio at bobl sy’n meddwl bod pob crefydd yn iawn, ac felly nad oes dim ots ar bwy rydyn ni’n gweddïo. Ond a yw hynny’n wir?

Mae’r Beibl yn dweud bod llawer o weddïau, mewn gwirionedd, yn mynd i’r lle anghywir. Yn amser y Beibl, peth eithaf cyffredin oedd i bobl weddïo ar eilunod o bren neu garreg. Ond, dro ar ôl tro, roedd Duw yn dweud wrth bobl am beidio â gwneud hynny. Er enghraifft, mae Salm 115:​4-6 yn dweud am eilunod: ‘Mae ganddyn nhw . . . glustiau, ond allan nhw ddim clywed.’ Mae’r neges yn glir. Beth yw pwrpas gweddïo ar dduw na fydd byth yn eich clywed?

Mae un o’r hanesion yn y Beibl yn ein helpu ni i ddeall mwy. Fe wnaeth y proffwyd Elias herio proffwydi Baal i weddïo ar eu duw, ac yna byddai Elias yn gweddïo ar ei Dduw ef. Dywedodd Elias y byddai’r gwir Dduw yn ateb. Aeth proffwydi Baal ati i weddïo’n hir ac yn uchel, ond yn ofer! Mae’r hanes yn dweud: “Doedd dim byd yn digwydd, dim siw na miw—neb yn cymryd unrhyw sylw.” (1 Brenhinoedd 18:29) Ond beth ddigwyddodd pan weddïodd Elias?

Pan weddïodd Elias, atebodd Duw yn syth drwy anfon tân o’r nefoedd i losgi offrwm Elias. Beth oedd y gwahaniaeth? Mae’r cliw i’w weld yng ngweddi Elias yn 1 Brenhinoedd 18:36, 37. Gweddi fer iawn ydy hon—dim ond tua 30 o eiriau yn yr iaith wreiddiol. Ond yn yr ychydig linellau hynny, roedd Elias yn defnyddio enw personol Jehofa dair gwaith.

Duw pobl Canaan oedd Baal. Mae’r enw’n golygu “perchennog” neu “feistr,” ac roedd y bobl yn ei addoli o dan nifer o enwau gwahanol. Ond enw unigryw ydy Jehofa, sy’n perthyn i’r unig wir Dduw. Mae’r Beibl yn esbonio: “Tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.”—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

Pam cafodd gweddi Elias ei hateb, ond nid gweddïau proffwydi Baal? Ymhlith y defodau ffiaidd roedd pobl yn eu harfer i addoli Baal oedd puteindra ac aberthu bodau dynol. Roedd addoli Jehofa yn hollol wahanol. Nid oedd Jehofa am i’w bobl wneud y fath bethau ffiaidd. Roedd ei addoliad ef i fod yn bur. Ystyriwch hyn hefyd: Os ydych chi’n anfon llythyr at ffrind, mae angen rhoi ei enw yn gywir ar yr amlen. Os ydych chi’n defnyddio enw rhywun arall, ni fydd y llythyr byth yn cyrraedd eich ffrind.

Roedd yr her a roddodd Elias i broffwydi Baal yn dangos nad yw pob gweddi yn mynd i’r un lle

Os ydych chi’n gweddïo ar Jehofa, rydych chi’n gweddïo ar y Creawdwr, Tad y ddynolryw i gyd. * Dywedodd y proffwyd Eseia wrth Jehofa: “Ti ydy’n Tad ni.” (Eseia 63:16) Dyma’r Un roedd Iesu Grist yn sôn amdano, pan ddywedodd wrth ei ddilynwyr: “Dw i’n mynd at fy Nhad a’m Duw, eich Tad a’ch Duw chi hefyd.” (Ioan 20:17) Jehofa yw Tad Iesu. Roedd Iesu yn gweddïo ar ei Dduw, Jehofa, ac yn dysgu ei ddilynwyr i wneud yr un fath.—Mathew 6:9.

Ydy’r Beibl yn dweud y dylen ni weddïo ar Iesu, ar Mair, ar y saint, neu ar angylion? Nac ydy—dim ond ar Jehofa. Ystyriwch ddau reswm. Yn gyntaf, mae gweddi yn rhan o’n haddoliad, ac mae’r Beibl yn dweud na ddylen ni addoli neb ond Jehofa. (Mathew 4:10) Yn ail, mae’r Beibl yn dweud bod Duw yn “gwrando gweddïau.” (Salm 65:2) Er ei fod yn rhoi llawer o gyfrifoldebau i eraill, nid yw Jehofa erioed wedi gofyn i eraill wrando ar weddïau ei bobl. Y mae wedi addo gwrando ar ein gweddïau yn bersonol.

Os ydych chi am i Dduw glywed eich gweddïau, pwysig yw cofio’r geiriau hyn: “Bydd pawb sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael eu hachub.’” (Actau 2:21) Ond a yw Jehofa yn clywed pob gweddi yn ddiamod? Neu a oes rhywbeth arall y mae angen inni ei wybod os ydyn ni eisiau i Jehofa glywed ein gweddïau?

^ Par. 9 Mae rhai crefyddau’n dweud na ddylai neb ynganu enw personol Duw, hyd yn oed mewn gweddi. Ond, mae’r enw hwnnw i’w weld ryw 7,000 o weithiau yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl. Yn aml, mae’n cael ei ddefnyddio mewn gweddïau a salmau gweision ffyddlon Jehofa.