Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gweddïo—Sut?

Gweddïo—Sut?

MEWN llawer o draddodiadau crefyddol, mae pwyslais mawr ar ystum y corff, geiriau, a seremoni wrth weddïo. Sut bynnag, mae’r Beibl yn ein helpu ni i ddeall beth sydd o wir bwys wrth weddïo.

Yn y Beibl, rydyn ni’n darllen am weision ffyddlon Duw a oedd yn gweddïo mewn gwahanol ffyrdd a gwahanol leoedd. Roedd rhai yn gweddïo’n dawel ac eraill yn uchel. Roedd rhai yn edrych i’r awyr ac eraill yn mynd ar eu gliniau. Yn hytrach na defnyddio delwau, gleiniau, neu lyfrau gweddi, roedden nhw’n gweddïo o’u calonnau, yn eu geiriau eu hunain. Pam roedd Duw yn gwrando ar eu gweddïau?

Fel y soniwyd amdano yn yr erthygl flaenorol, roedden nhw’n gweddïo ar Jehofa yn unig. Ond, mae rheswm pwysig arall. Darllenwn yn 1 Ioan 5:14: “Dyma pa mor hyderus gallwn ni fod wrth agosáu at Dduw: mae e’n gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad e.” Beth mae hynny’n ei feddwl?

Er mwyn gweddïo’n gyson â bwriad neu ewyllys Duw, mae angen inni wybod ei fwriad. I wneud hynny, mae angen inni astudio’r Beibl. Ydy hyn yn golygu na fydd Duw yn gwrando arnon ni oni bai ein bod ni’n gwybod popeth am y Beibl? Nac ydy, ond mae Duw yn disgwyl inni ddysgu am ei fwriad, ceisio ei ddeall, a rhoi beth rydyn ni’n ei ddysgu ar waith. (Mathew 7:21-23) Mae’n rhaid i’n gweddïau fod yn gyson â’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu.

Bydd Duw yn ein clywed os gweddïwn mewn ffydd, yn gyson a’i fwriad, ac yn enw Iesu Grist

Wrth inni ddysgu am Jehofa a’i ewyllys, bydd ein ffydd yn tyfu ac mae hynny’n bwysig wrth weddïo. Dywedodd Iesu: “Cewch beth bynnag dych chi’n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu.” (Mathew 21:22) Dydy ffydd ddim yn golygu credu rhywbeth heb reswm. Ffydd yw credu mewn rhywbeth na allwn ni ei weld, ond sy’n seiliedig ar dystiolaeth gadarn. (Hebreaid 11:1) Mae’r Beibl yn llawn tystiolaeth sy’n dangos bod Jehofa, er ei fod yn anweladwy, yn bodoli, a’i fod yn ddibynadwy ac yn fodlon ateb gweddïau’r rhai sy’n rhoi ffydd ynddo. Ar ben hynny, gallwn ni ofyn am fwy o ffydd, ac mae Jehofa wrth ei fodd yn rhoi inni beth bynnag sydd ei angen arnon ni.—Luc 17:5; Iago 1:17.

Dyma rywbeth arall y mae’n bwysig inni ei gofio am weddi. Dywedodd Iesu: “Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.” (Ioan 14:6) Felly dim ond trwy Iesu y gallwn ni weddïo ar y Tad, Jehofa. Dyna pam dywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr am weddïo yn ei enw ef. (Ioan 14:13; 15:16, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Nid yw hyn yn golygu ein bod ni’n gweddïo ar Iesu. Rydyn ni’n gweddïo yn enw Iesu, gan gofio mai Iesu yw’r rheswm y gallwn ni fynd at ein Tad perffaith mewn gweddi.

Ar un achlysur, gofynnodd apostolion Iesu iddo: “Arglwydd, dysg i ni weddïo.” (Luc 11:1, BCND) Wrth gwrs, roedden nhw eisoes yn gwybod llawer am sut i weddïo. Ond gofyn oedden nhw am ba bethau i’w cynnwys yn eu gweddïau.