Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gweddïo—Am Beth?

Gweddïo—Am Beth?

MAE’N debyg mai Gweddi’r Arglwydd, y weddi enghreifftiol a roddodd Iesu, yw’r weddi y mae Cristnogion yn ei hadrodd amlaf. Serch hynny, nid yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n dweud y geiriau yn eu deall yn iawn. Mae miliynau yn dweud y geiriau ar eu cof bob dydd, efallai sawl gwaith y dydd. Ond nid bwriad Iesu oedd i bobl ailadrodd union eiriau’r weddi drosodd a throsodd. Sut rydyn ni’n gwybod?

Ychydig cyn iddo ddweud y weddi honno, dywedodd Iesu ddylwn ni ddim “mwydro ymlaen,” neu ddweud yr un pethau drosodd a throsodd yn ein gweddïau. (Mathew 6:7) A oedd Iesu yn bwriadu inni ddysgu’r weddi ar ein cof a’i hailadrodd? Nac oedd! Roedd Iesu yn ein dysgu ni beth yw’r pethau pwysicaf wrth weddïo. Dewch i ni edrych yn fanylach ar ei eiriau ym Mathew 6:9-13, BCND.

“Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw.”

Mae Iesu yn atgoffa ei ddilynwyr y dylen nhw weddïo ar ei Dad, Jehofa. A ydych chi’n gwybod pam mae enw Duw mor bwysig, a pham mae angen ei sancteiddio neu ei anrhydeddu?

O ddechrau hanes dyn ar y ddaear, mae enw Duw wedi cael ei bardduo. Mae gelyn Duw, Satan, wedi honni bod Jehofa yn dweud celwyddau, a’i fod yn hunanol ac nad oes dim hawl ganddo i reoli. (Genesis 3:1-6) Mae llawer o bobl hefyd yn cyhuddo Duw o fod yn greulon ac yn anfaddeugar. Mae rhai yn gwadu mai Duw yw’r Creawdwr. Mae eraill wedi tynnu enw Duw allan o’u cyfieithiadau o’r Beibl a gwahardd pobl rhag ei ddefnyddio.

Mae’r Beibl yn dangos y bydd Duw yn cywiro hyn i gyd drwy glirio ei enw. (Eseciel 39:7) Bydd hyn hefyd yn datrys problemau pawb ar y Ddaear. Ym mha ffordd? Mae geiriau nesaf Iesu yn rhoi’r ateb.

“Deled dy deyrnas.”

Heddiw, mae llawer o ddryswch ym myd crefydd ynglŷn â beth yw Teyrnas Dduw. Ond fe wyddai’r bobl a glywodd weddi Iesu fod Duw wedi addo anfon y Meseia i sefydlu Teyrnas a fyddai’n newid y byd. (Eseia 9:6, 7; Daniel 2:44) Bydd y Deyrnas yn sancteiddio enw Duw drwy brofi bod Satan yn gelwyddog. Caiff wared ohono ac o’r holl ddrwg y mae wedi ei wneud. Bydd Teyrnas Dduw yn rhoi terfyn ar ryfel, salwch, newyn, a hyd yn oed marwolaeth. (Salm 46:9; 72:12-16; Eseia 25:8; 33:24) Bob tro rydych chi’n gweddïo am i Deyrnas Dduw ddod, rydych chi’n gweddïo am wireddu’r addewidion hyn.

“Gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef.”

Mae geiriau Iesu yn dangos y bydd ewyllys Duw yn cael ei wneud ar y ddaear fel y mae’n cael ei wneud yn y nef. Nid oes neb wedi rhwystro ewyllys Duw yn y nefoedd. Mae Mab Duw wedi bwrw Satan a’i gythreuliaid allan o’r nef. (Datguddiad 12:9-12) Mae’r tri chais cyntaf yng ngweddi Iesu yn ein helpu ni i ddeall bod ewyllys Duw yn fwy pwysig na’n hewyllys ni. Mae ewyllys Duw yn sicrhau’r lles mwyaf i’r holl greadigaeth. A dyna pam dywedodd Iesu, a oedd yn ddyn perffaith, wrth ei Dad: “Paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”—Luc 22:42.

“Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol.”

Dangosodd Iesu ein bod ni hefyd yn gallu gweddïo ar Dduw am ein hanghenion pob dydd. Yn wir, mae gwneud hyn yn ein helpu ni i gofio mai Jehofa yw’r un “sy’n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb.” (Actau 17:25) Mae’r Beibl yn dangos ei fod yn dad cariadus sydd wrth ei fodd yn helpu ei blant. Ond fel rhiant da, ni fydd Duw yn rhoi i’w blant unrhyw beth a fyddai’n ddrwg iddyn nhw.

“Maddau inni ein troseddau.”

Ydyn ni wir angen i Dduw faddau i ni? Nid yw llawer o bobl heddiw yn gwybod beth yw pechod a pha mor ddifrifol ydyw. Ond, yn ôl y Beibl, pechod sydd y tu ôl i’r problemau gwaethaf yn y byd oherwydd dyna’r rheswm sylfaenol i bobl farw. Gan ein bod ni wedi cael ein geni yn amherffaith, rydyn ni’n pechu drwy’r amser. Yr unig ffordd i ni gael bywyd tragwyddol yw drwy dderbyn maddeuant Duw. (Rhufeiniaid 3:23; 5:12; 6:23) Cysur yw gweld beth mae’r Beibl yn ei ddweud: “Rwyt ti, ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau.”—Salm 86:5.

“Gwared ni rhag yr Un drwg.”

Ydych chi’n deall pa mor bwysig yw cael ein hamddiffyn gan Dduw? Mae llawer o bobl yn gwrthod credu bod “yr Un drwg,” Satan, yn bodoli. Ond roedd Iesu yn dysgu bod Satan yn bodoli, a’i alw yn ‘dywysog y byd hwn.’ (Ioan 12:31; 16:11) Satan sy’n rheoli’r byd hwn. Mae wedi dylanwadu yn ddrwg arno, ac y mae eisiau dylanwadu arnoch chi hefyd, i’ch cadw rhag cael perthynas agos â’ch Tad, Jehofa. (1 Pedr 5:8) Ond mae Jehofa yn gryfach na Satan ac mae’n barod i amddiffyn pobl sydd yn Ei garu.

Nid yw’r crynodeb hwn o weddi Iesu yn trafod pob peth y gallwn ni weddïo yn ei gylch. Cofiwch, mae 1 Ioan 5:14 yn dweud am Dduw: “Mae e’n gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad e.” Felly, peidiwch â meddwl nad yw eich problemau chi yn ddigon pwysig i weddïo amdanyn nhw.—1 Pedr 5:7.

Ond a ydy pryd a lle rydyn ni’n gweddïo yn bwysig?