Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gweddïo—Pryd a Lle Dylen Ni Weddïo?

Gweddïo—Pryd a Lle Dylen Ni Weddïo?

MEWN llawer o grefyddau mae pwyslais mawr ar ba bryd ac ym mha le y dylai pobl weddïo. Ydy’r Beibl yn dweud bod rhaid inni weddïo ar amseroedd arbennig ac mewn lleoedd penodol?

Yn ôl y Beibl, mae ’na achlysuron pryd y dylen ni weddïo. Er enghraifft, roedd Iesu yn diolch i Dduw mewn gweddi cyn iddo gael pryd o fwyd gyda’i ddisgyblion. (Luc 22:17) Roedd y disgyblion yn gweddïo pan oedden nhw’n dod at ei gilydd i addoli. Roedd hyn wedi bod yn arfer yn synagogau’r Iddewon ac yn y deml yn Jerwsalem ers amser maith. Bwriad Duw oedd i’r deml fod yn “dŷ gweddi i’r holl genhedloedd.”—Marc 11:17.

Pan fydd gweision Duw yn dod at ei gilydd ac yn gweddïo ar y cyd, mae Duw yn gwrando. Os bydd y grŵp yn gweddïo gyda’r agwedd iawn ac yn unol â’i ewyllys, mae hynny’n plesio Duw. Ar ôl clywed y weddi, weithiau bydd Duw yn gweithredu mewn ffordd na fyddai wedi ei wneud fel arall. (Hebreaid 13:18, 19) Mae Tystion Jehofa yn cynnig gweddi ar ddechrau ac ar ddiwedd eu cyfarfodydd. Os hoffech chi glywed y gweddïau hyn, mae croeso ichi ddod i unrhyw un o’n cyfarfodydd.

Sut bynnag, nid yw’r Beibl yn dweud ein bod ni’n gorfod gweddïo ar amser arbennig, neu mewn lle penodol. Darllenwn am weision Duw a oedd yn gweddïo ar adegau gwahanol ac mewn gwahanol leoedd. Dywedodd Iesu: “Pan fyddi di’n gweddïo, dos i ystafell o’r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, sy’n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.”—Mathew 6:6.

Gallwn weddïo unrhyw bryd ac yn unrhyw le

Am wahoddiad hyfryd! Gallwch fynd at y Duw Goruchaf unrhyw bryd, yn hollol gyfrinachol, a bod yn sicr ei fod yn gwrando. Dyna pam roedd Iesu yn aml yn chwilio am le tawel i weddïo! Un dro, treuliodd noson gyfan yn gweddïo ar Dduw cyn iddo benderfynu ar rywbeth pwysig.—Luc 6:12, 13.

Mae’r Beibl yn disgrifio nifer o ddynion a merched a oedd yn gweddïo cyn gwneud penderfyniad anodd, neu wynebu her. Weithiau roedden nhw’n gweddïo’n uchel ac weithiau yn dawel; weithiau mewn grwpiau ac weithiau ar eu pennau eu hunain. Y peth pwysig yw eu bod nhw wedi gweddïo. Mae Duw yn annog ei weision: “Daliwch ati i weddïo.” (1 Thesaloniaid 5:17) Mae Duw bob amser yn fodlon gwrando ar ei weision, ni waeth pa mor aml y maen nhw’n gweddïo. Onid yw hynny’n garedig?

Wrth gwrs, mae llawer heddiw yn gofyn: “A ydy gweddïo yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd?”