Eden—Ai Hwn Oedd Cartref Gwreiddiol Dynolryw?
Eden—Ai Hwn Oedd Cartref Gwreiddiol Dynolryw?
DYCHMYGWCH eich hun mewn gardd. Does ’na ddim byd i darfu ar yr heddwch, dim sŵn traffig na phrysurdeb y ddinas i’w glywed yn unman. Mae’r ardd hon yn enfawr, ac yn gwbl heddychlon. Ac yn well byth, does ’na ddim byd i boeni eich meddwl, mae’ch corff yn holliach, dim problemau alergedd na phoen. Mae’ch synhwyrau yn rhydd i gymryd mewn popeth o’ch cwmpas.
Mae lliwiau llachar y blodau yn wledd i’r llygaid. Rydych chi’n sylwi ar belydrau’r haul yn pefrio ar wyneb y nant. Yna gwelwch wyrddni dail y coed a glaswellt y maes, yn amrywio yng ngolau’r haul ac yn y cysgod. Rydych yn teimlo awel fwyn ar eich croen, mae persawr melys y blodau ar y gwynt. Rydych yn clywed siffrwd y dail, a sŵn y dŵr yn rhaeadru dros y creigiau, caneuon yr adar yn y coed, a si’r gwenyn wrth eu gwaith. Wrth ichi ddychmygu’r olygfa, onid ydych chi’n dyheu i fod yn y fath le?
O gwmpas y byd mae pobl yn credu mai mewn lle fel hyn y cafodd dynolryw ei ddechreuad. Ers canrifoedd, mae Iddewon, Cristnogion, a Mwslemiaid wedi dysgu am ardd Eden, lle rhoddodd Duw Adda ac Efa i fyw. Yn ôl y Beibl, roedd eu bywyd yn hapus a heddychlon. Roedden nhw’n byw mewn heddwch gyda’i gilydd, gyda’r anifeiliaid, a chyda Duw. Roedd ef, allan o’i gariad, wedi rhoi’r gobaith o fyw am byth yn y lle hyfryd hwnnw.—Genesis 2:15-24.
Mae gan Hindŵiaid hefyd eu syniadau eu hunain am baradwys yn yr amser a fu. Mae Bwdhyddion yn credu bod arweinwyr mawr ysbrydol, neu Bwdhas, yn codi yn y fath oesoedd euraidd pan fydd y ddaear fel paradwys. Ac mae llawer o grefyddau yn Affrica yn dysgu straeon sydd yn debyg iawn i hanes Adda ac Efa.
Y ffaith yw, mae’r syniad o baradwys gynnar yn bresennol mewn llawer o grefyddau a thraddodiadau dynolryw. Dywedodd un awdur: “Roedd sawl gwareiddiad yn credu bod ’na baradwys yn gynnar iawn mewn hanes y byd; un a oedd yn adnabyddus am berffeithrwydd, rhyddid, heddwch, hapusrwydd, digonedd, ac absenoldeb pob straen, tensiwn, a brwydro. . . . Achosodd y gred hon i bobl ddyheu am y baradwys a gollwyd a cheisio’n daer i gael ffordd o’i adennill.”
Ydy hi’n bosib fod yr holl hanesion a thraddodiadau wedi tarddu o’r un gwreiddyn? Ydy hi’n bosib fod cof dynoliaeth yn gyffredinol wedi cael ei ddylanwadu gan gof o rywbeth oedd yn bodoli go iawn? Ydy hi’n wir fod ’na ardd Eden wedi bod yn y gorffennol pell, a chwpl go iawn o’r enw Adda ac Efa?
Mae pobl sgeptig yn wfftio at y syniad. Yn yr oes wyddonol hon mae llawer yn cymryd bod y fath hanesion dim ond yn chwedlau. Er mawr syndod dydy pob sgeptig ddim yn ddigrefydd. Mae llawer o arweinwyr crefyddol yn hyrwyddo’r syniad nad oedd gardd Eden yn bod. Maen nhw’n dweud nad oedd erioed y fath le. Maen nhw’n dweud bod yr hanes yn cyfeirio at ryw wlad hud a lledrith, at ryw ystyr trosiadol, neu ei fod yn chwedl neu’n ddameg.
Wrth gwrs, mae ’na ddamhegion yn y Beibl. Mi wnaeth Iesu ei hun sôn am yr un mwyaf enwog ohonyn nhw. Ond y gwir plaen amdani yw fod y Beibl yn cyflwyno hanes Eden, nid fel dameg, ond fel hanes. Os nad oedd y Baradwys yn bodoli, sut gallwn ni drystio gweddill y Beibl? Gadewch inni ystyried pam mae rhai yn amau bodolaeth gardd Eden a gweld a ydy eu rhesymau yn ddilys? Wedyn gwnawn ni ystyried pam dylai pob un ohonon ni gymryd yr hanes o ddifri.