Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ydy’r Hanes am Ardd Eden yn Wir?

Ydy’r Hanes am Ardd Eden yn Wir?

Ydy’r Hanes am Ardd Eden yn Wir?

YDYCH chi’n gyfarwydd â hanes Adda ac Efa a gardd Eden? Mae’n gyfarwydd i bobl ledled y byd. Beth am ei ddarllen drostoch chi’ch hun? Cewch chi hyd iddo yn Genesis 1:26–3:24. Dyma’r stori’n fras:

Mae Jehofa Dduw * yn ffurfio dyn o’r llwch, yn ei enwi’n Adda, a’i sefydlu mewn gardd mewn ardal o’r enw Eden. Duw ei hun a blannodd yr ardd hon. Mae ’na ddigon o ddŵr yma ac mae’n llawn o goed ffrwythau hardd. Yn ei chanol mae’r “goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth da a drwg.” Mae Duw yn gwahardd bodau dynol rhag bwyta o’r goeden hon, gan ddweud y byddai anufuddhau yn golygu marwolaeth. Mewn amser mae Jehofa yn gwneud cymar i Adda—y wraig Efa—gan ei ffurfio hi o un o asennau Adda. Mae Duw yn gofyn iddyn nhw ofalu am yr ardd, ac yn dweud wrthyn nhw i gael plant a llenwi’r ddaear.

Pan mae Efa ar ei phen ei hun, mae neidr yn siarad â hi, a’i themtio hi i fwyta’r ffrwyth gwaharddedig gan honni bod Duw wedi dweud celwydd wrthi a’i fod yn dal rhywbeth da oddi wrthi, rhywbeth a fydd yn ei gwneud hi fel Duw. Mae hi’n ildio ac yn bwyta’r ffrwyth gwaharddedig. Yn hwyrach ymlaen mae Adda yn ymuno â hi ac yn anufudd i orchymyn Duw. Mae Jehofa’n ymateb drwy gyhoeddi dedfryd ar Adda, Efa, a’r neidr. Ar ôl i’r cwpl gael eu taflu allan o’r ardd baradwysaidd, mae angylion yn sefyll wrth y mynediad er mwyn eu rhwystro nhw rhag dod yn ôl i mewn.

Ar un adeg roedd hi’n boblogaidd i ysgolheigion, deallusion, a haneswyr i ddweud bod y digwyddiadau a gofnodwyd yn llyfr Genesis yn wir ac yn hanesyddol. Y dyddiau hyn, mae’n fwy ffasiynol i amau’r hanes hwn. Ond beth yw’r sail dros amau hanes Genesis am Adda, Efa, a gardd Eden? Gadewch inni edrych ar bedwar gwrthwynebiad cyffredin.

1. A oedd gardd Eden yn lle go iawn?

Pam mae pobl yn amau hyn? Efallai fod athroniaeth wedi chwarae rhan yn hyn. Am ganrifoedd roedd diwinyddion yn hyrwyddo’r syniad fod gardd Duw yn dal i fodoli yn rhywle. Ond, cafodd yr eglwys ei dylanwadu gan athronwyr fel Plato ac Aristotlys, a oedd yn dadlau nad oedd unrhyw beth ar y ddaear yn gallu bod yn berffaith. Dim ond yn y nefoedd oedd pethau’n berffaith. Felly, rhesymodd diwinyddion, fod rhaid i’r Baradwys wreiddiol fod yn agosach i’r nef. * Dywedodd rhai fod yr ardd ar gopa rhyw fynydd hynod o uchel a hwnnw’n ddigon uchel i fod yn bell oddi wrth y ddaear lygredig. Dywedodd eraill ei bod ym Mhegwn y Gogledd neu Begwn y De; ac eraill eto ei bod ar, neu’n agos at, y lleuad. Dim syndod felly, fod yr holl syniad o Eden wedi magu rhyw elfen o ffantasi. Mae rhai ysgolheigion heddiw yn lladd ar y disgrifiad o ddaearyddiaeth Eden, gan ddweud ei fod yn nonsens, ac yn taeru bod y fath le erioed wedi bodoli.

Ond, dydy’r Beibl ddim yn portreadu’r ardd fel ’na. Mae Genesis 2:8-14 yn rhoi mwy o fanylion inni am y lle hwnnw. Roedd wedi ei lleoli yn y Dwyrain mewn ardal o’r enw Eden. Cafodd ei dyfrio gan afon a rannodd yn bedair. Mae’r pedair afon yn cael eu henwi, a chawn ddisgrifiad byr o gwrs pob un. Ers canrifoedd, mae’r manylion hyn wedi rhoi penbleth i ysgolheigion. Mae llawer ohonyn nhw wedi craffu ar yr adnodau hyn yn chwilio am gliwiau i leoliad presennol y safle hynafol hwn. Ond, mae eu safbwyntiau di-rif yn aml yn mynd yn groes i’w gilydd. Ydy hyn yn golygu bod disgrifiad daearyddol Eden, ei gardd, a’i afonydd yn ffals neu’n fytholegol?

Ystyriwch: Datblygodd digwyddiadau Eden ryw 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Cawson nhw eu cofnodi gan Moses, a all fod wedi defnyddio hanesion llafar neu efallai hyd yn oed dogfennau hynach. Eto, roedd Moses yn ysgrifennu am ddigwyddiadau oedd wedi digwydd 2,500 o flynyddoedd ynghynt. Roedd Eden eisoes yn hen hen hanes. Nawr, ydy hi’n bosib i bethau mor nodweddiadol yn y dirwedd fel afonydd, i newid eu cwrs dros filoedd o flynyddoedd? Mae cramen y ddaear wastad yn symud. Mae lleoliad tebygol Eden mewn ardal sy’n adnabyddus am ei daeargrynfeydd, ardal sydd heddiw yn gyfrifol am 17 y cant o ddaeargrynfeydd mwyaf y byd. Yn y fath lefydd, mae newid yn y dirwedd yn rhywbeth cyffredin. Ar ben hynny, gallai’r Dilyw yn nyddiau Noa fod wedi newid y dirwedd mewn ffyrdd sy’n anodd eu gwybod heddiw. *

Ond, dyma ychydig o ffeithiau gallwn ni fod yn sicr ohonyn nhw: Mae hanes Genesis yn siarad am yr ardd fel lle go iawn. Mae dwy allan o’r pedair afon sydd yn yr hanes—sef Ewffrates, a Tigris, neu Hidecel—yn dal i lifo heddiw, ac mae rhywfaint o’u dyfroedd yn tarddu yn agos iawn at ei gilydd. Mae’r hanes hyd yn oed yn enwi’r tiroedd roedd yr afonydd yn llifo trwyddyn nhw, ac yn sôn am yr adnoddau naturiol oedd yn adnabyddus yn yr ardal. I bobl Israel gynt, sef y gynulleidfa wreiddiol a fyddai’n darllen yr hanes, roedd y manylion hyn yn ddefnyddiol.

Ydy chwedlau a straeon hud a lledrith yn gweithio fel ’na? Neu ydyn nhw’n tueddu i adael allan manylion penodol a allai gael eu gwireddu neu eu gwrthod? Mae “amser maith yn ôl mewn gwlad bell i ffwrdd” yn ddechreuad cyffredin i stori tylwyth teg. Mae hanes ar y llaw arall yn tueddu i gynnwys manylion penodol fel mae hanes Eden yn ei wneud.

2. Ydy hi’n rhesymol i gredu fod Duw wedi creu Adda o’r llwch ac Efa o un o asennau Adda?

Mae gwyddoniaeth gyfoes wedi cadarnhau bod y corff dynol wedi ei gyfansoddi o wahanol elfennau—fel hydrogen, ocsigen, a charbon—pob un i’w gael yng nghramen y ddaear. Ond sut cafodd yr elfennau hynny eu rhoi at ei gilydd i wneud creadur byw?

Mae llawer o wyddonwyr yn damcaniaethu bod bywyd wedi tarddu ohono’i hun, gan ddechrau gyda ffurfiau syml a ddaeth yn raddol dros filiynau o flynyddoedd, i fod yn fwy ac yn fwy cymhleth. Ond, gall yr ymadrodd “syml” fod yn gamarweiniol, gan fod popeth byw, hyd yn oed organebau un gell ficrosgopig, yn anhygoel o gymhleth. Does ’na ddim gronyn o dystiolaeth fod unrhyw fath o fywyd wedi codi ar hap. Yn hytrach, mae cyfansoddiad popeth byw yn dystiolaeth gadarn eu bod nhw wedi cael eu dylunio gan feddwl llawer mwy deallus nag un ein hunain. *Rhufeiniaid 1:20.

A allwch chi ddychmygu gwrando ar symffoni odidog, neu edmygu darlun gwych, neu ryfeddu at ryw gampwaith technolegol, ac wedyn mynnu nad oes gan y gweithiau hyn wneuthurwr? Na allwch! Ond dydy’r fath gampweithiau ddim yn dod yn agos i’r cymhlethdod, yr harddwch, neu glyfrwch dyluniad y corff dynol. Ydy hi’n rhesymol i gredu nad oes gan y corff Greawdwr? Yn ychwanegol i hynny, mae hanes Genesis yn esbonio o holl fywyd ar y ddaear, dim ond bodau dynol cafodd eu gwneud yn nelw Duw. (Genesis 1:​26) Mae’n briodol felly, mai dim ond bodau dynol sy’n gallu adlewyrchu awydd Duw i greu. Ar adegau maen nhw’n gallu cynhyrchu gweithiau cerddorol, celf, a thechnoleg drawiadol. A ddylai hi fod yn syndod fod Duw yn well greawdwr na ni?

Pan ystyriwn greu y wraig gan ddefnyddio asen o’r dyn, ydy hynny mor anodd i gredu heddiw? * Gallai Duw fod wedi defnyddio dull arall, ond roedd ’na arwyddocâd dwfn i’r ffordd aeth ati i greu y wraig. Roedd eisiau i’r dyn a’r wraig i briodi a ffurfio perthynas glòs, fel “un cnawd.” (Genesis 2:24) Roedd y ffordd cafodd y dyn a’r wraig gyntaf eu gwneud; i fod yn agos i’w gilydd, ac i weithio fel tîm, yn dangos bod Duw yn ddoeth a’i fod yn ein caru ni.

Ac ymhellach, mae genetegwyr modern wedi cydnabod bod pawb sy’n byw heddiw yn debygol o fod yn ddisgynnydd i un dyn ac un ddynes. Felly, gallwn ni gredu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y greadigaeth.

3. Mae’r goeden gwybodaeth a’r goeden bywyd yn swnio’n fytholegol.

Y ffaith yw, dydy hanes Genesis ddim yn dysgu bod gan y coed hyn unrhyw bwerau neilltuol neu uwchnaturiol eu hunain. Yn hytrach, roedd y rhain yn goed go iawn, ac roedd Jehofa wedi rhoi ystyr symbolaidd iddyn nhw.

Onid ydy pobl yn defnyddio symboliaeth ar adegau hefyd? Er enghraifft, gall y barnwr rybuddio yn erbyn y drosedd o gyflawni dirmyg llys. Nid y dodrefn, y cynnwys, na waliau’r llys ei hun mae’r barnwr eisiau eu hamddiffyn rhag amarch, ond y system o gyfiawnder y mae’r llys yn ei gynrychioli. Mae amryw frenhinoedd wedi defnyddio teyrnwialen a choron fel symbolau o’u sofraniaeth.

Beth, felly, oedd y ddwy goeden yn ei symboleiddio? Mae llawer o ddamcaniaethau cymhleth wedi cael eu cynnig. Ond mae’r gwirionedd yn syml ac yn bwysig iawn. Roedd y goeden gwybodaeth da a drwg yn cynrychioli braint sy’n perthyn i Dduw yn unig—yr hawl i benderfynu beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. (Jeremeia 10:23) Does ’na ddim rhyfedd mai trosedd oedd dwyn oddi ar y goeden honno! Roedd y goeden bywyd, ar y llaw arall, yn cynrychioli rhodd nad oedd neb ond Duw yn gallu rhoi—sef bywyd tragwyddol.—Rhufeiniaid 6:23.

4. Mae hanes neidr sy’n siarad yn swnio fel chwedl hud a lledrith.

Mae’n wir fod hyn yn anodd ei ddeall, ond mae gweddill y Beibl yn ein helpu i ddeall beth ddigwyddodd go iawn yng ngardd Eden.

Pwy neu beth wnaeth i’r neidr edrych fel petai yn siarad? Roedd pobl Israel gynt yn gwybod am straeon eraill oedd yn gallu helpu nhw deall beth oedd yn digwydd yng ngardd Eden. Er enghraifft, roedden nhw’n gwybod nad oedd anifeiliaid yn gallu siarad. Ond, mae ysbryd berson yn medru gwneud iddi edrych fel petai anifail yn siarad. Yn ogystal ag ysgrifennu’r hanes yn Genesis, roedd Moses hefyd wedi ysgrifennu hanes Balaam; anfonodd Duw angel i wneud i asyn Balaam siarad fel dyn.—Numeri 22:26-31; 2 Pedr 2:15, 16.

Ydy hi’n bosib i ysbrydion eraill, gan gynnwys y rhai sy’n elynion i Dduw, berfformio gwyrthiau? Roedd Moses wedi gweld offeiriaid gau dduwiau’r Aifft yn copïo rhai o wyrthiau Duw, fel gwneud i ffon droi’n neidr. Mae’n amlwg roedd y gallu i wneud y fath wyrthiau yn dod o ysbryd elynion Duw.—Exodus 7:8-12.

Moses a ysgrifennodd llyfr Job hefyd. Mae’r llyfr hwnnw yn ein dysgu ni am brif elyn Duw, Satan, a oedd yn mynd ati’n gelwyddog i herio ffyddlondeb gweision Jehofa. (Job 1:6-11; 2:4, 5) Mae’n ymddangos bod yr Israeliaid gynt wedi rhesymu bod Satan wedi defnyddio neidr i berswadio Efa i anufuddhau i Dduw.

Ai Satan oedd yr un a wnaeth i’r neidr siarad? Yn hwyrach ymlaen cyfeiriodd Iesu at Satan fel “celwyddgi” a “tad pob celwydd.” (Ioan 8:44) Byddai “tad pob celwydd” yn golygu mai ef a ddywedodd y celwydd cyntaf erioed. Cawn hyd i’r celwydd cyntaf yng ngeiriau’r neidr i Efa. Roedd geiriau’r neidr yn mynd yn groes i rybudd Duw y byddai bwyta o’r ffrwyth gwaharddedig yn golygu marwolaeth. Dywedodd y neidr: “Na! Fyddwch chi ddim yn marw.” (Genesis 3:4) Mae’n amlwg fod Iesu’n gwybod bod Satan yn defnyddio’r neidr i siarad ag Efa. Mae’r Datguddiad a roddodd Iesu i’r apostol Ioan yn cadarnhau hyn drwy alw Satan “yr hen sarff.”—Datguddiad 1:1; 12:9.

Ydy hi’n bosib i ysbryd berson wneud iddi edrych fel petai neidr yn siarad? Mae hyd yn oed pobl sy’n llawer llai pwerus nag ysbrydion yn gallu tafleisio neu ddefnyddio effeithiau arbennig i wneud iddi edrych fel petai anifail neu byped yn siarad.

Y Dystiolaeth Gryfaf

Mae ’na sail gadarn dros gredu bod llyfr Genesis yn dweud y gwir.

Er enghraifft mae Iesu Grist yn cael ei alw’n “y tyst ffyddlon.” (Datguddiad 3:14) Ac yntau’n ddyn perffaith, wnaeth ef erioed ddweud celwydd, na chamliwio’r gwirionedd mewn unrhyw ffordd. Ar ben hynny, dysgodd Iesu ei fod wedi bodoli am gyfnod hir cyn iddo ddod i’r ddaear fel dyn—y ffaith yw, ei fod wedi byw wrth ochr ei Dad, Jehofa, “cyn i’r byd ddechrau.” (Ioan 17:5) Roedd yn fyw pan gychwynnodd fywyd ar y ddaear. Beth yw tystiolaeth y tyst mwyaf dibynadwy hwn?

Siaradodd Iesu am Adda ac Efa fel pobl go iawn. Cyfeiriodd at eu priodas wrth esbonio safon Jehofa ynglŷn â monogami. (Mathew 19:3-6) Petasen nhw heb fodoli erioed a phetai’r ardd roedden nhw’n byw ynddi yn ddim byd ond chwedl, yna, unai cafodd Iesu ei dwyllo, neu roedd yn dweud celwydd. Dydy’r un o’r casgliadau hyn yn gwneud synnwyr! Roedd Iesu yn y nef ar y pryd, a gwelodd y trasiedi yn datblygu yn yr ardd. Felly, gallwn ymddiried yn llwyr yn beth ddywedodd Iesu.

Y gwir yw, fod peidio â chredu yn hanes Genesis yn tanseilio ffydd yn Iesu. Os nad ydyn ni’n credu bod gardd Eden wedi bodoli, fyddwn ni ddim chwaith yn deall rhai o ddysgeidiaethau ac addewidion mwyaf pwysig y Beibl. Wnawn ni ddysgu mwy yn yr erthygl nesaf.

[Troednodiadau]

^ Par. 3 Yn y Beibl, Jehofa yw enw personol Duw.

^ Par. 7 Mae’r syniad yn anysgrythurol. Mae’r Beibl yn dysgu bod holl greadigaeth Duw yn berffaith; o rywle arall mae’r llygru’n dod. (Deuteronomium 32:4, 5) Pan orffennodd Jehofa greu’r ddaear, dywedodd fod popeth oedd ef wedi ei wneud yn “dda iawn.”—Genesis 1:31.

^ Par. 9 Mae’n amlwg fod y Dilyw a anfonodd Duw wedi cael gwared ar olion gardd Eden yn gyfan gwbl. Mae Eseciel 31:18 yn awgrymu i “goed Eden” fod wedi marw allan erbyn y seithfed ganrif COG (Cyn yr Oes Gyffredin). Felly, roedd pawb oedd yn chwilio am ardd Eden mewn cyfnodau hwyrach wedi chwilio’n ofer.

^ Par. 14 Gweler y llyfryn The Origin of Life—Five Questions Worth Asking, a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

^ Par. 16 Mae’n ddiddorol nodi bod gwyddoniaeth feddygol fodern wedi darganfod bod gan yr asen y gallu anghyffredin i wella. Mae arbenigwyr wedi gweld bod yr asen yn wahanol i esgyrn eraill, gan ei bod yn gallu aildyfu os bydd meinwe gyswllt ei philen yn dal yn gyfan.