Neidio i'r cynnwys

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Beth a helpodd pync-rociwr gwrthgymdeithasol i ddysgu sut i garu pobl ac i wneud yr ymdrech i helpu eraill? Beth a wnaeth i ddyn o Fecsico ddewis troi cefn ar ei fywyd anfoesol? Pam gwnaeth un o seiclwyr proffesiynol enwocaf yn Japan adael ei yrfa er mwyn gwasanaethu Duw? Ystyriwch eu hanesion.

“Roeddwn i’n Ddyn Anghwrtais, Balch a Dig.”—DENNIS O’BEIRNE

GANWYD: 1958

GWLAD ENEDIGOL: LLOEGR

HANES: PYNC-ROCIWR GWRTHGYMDEITHASOL

FY NGHEFNDIR: Roedd teulu fy nhad yn dod o Iwerddon, a chefais fy magu yn Gatholig Gwyddelig. Yn aml, roeddwn i’n mynd i’r eglwys ar fy mhen fy hun. Doeddwn i ddim yn hoffi mynd, ond roedd gen i ddiddordeb mawr mewn pethau ysbrydol. Roeddwn i’n dweud Gweddi’r Arglwydd yn aml, a dw i’n cofio gorwedd yn fy ngwely yn ceisio gweithio allan beth roedd pob rhan ohoni yn ei olygu.

Yn fy arddegau, roeddwn i’n cymdeithasu â’r Rastaffariaid. Roedd gen i hefyd ddiddordeb mewn achosion gwleidyddol fel y Gynghrair Wrth-Natsïaidd. Ond roedd mudiad gwrthryfelgar pync-roc yn apelio’n fawr ata i. Dechreuais gymryd cyffuriau ac roeddwn i’n ysmygu mariwana bron bob dydd. Doedd dim byd yn bwysig imi felly roeddwn i’n yfed gormod, cymryd risgiau ac yn malu dim am neb. Roeddwn i’n anserchog ac yn gwrthod siarad ag unrhyw un heblaw am y pethau roeddwn i’n meddwl oedd yn bwysig neu’n ystyrlon. Doeddwn i ddim yn gadael i bobl dynnu lluniau ohono i. Roeddwn i’n ddyn anghwrtais, balch a dig. Roeddwn i ond yn garedig wrth fy ffrindiau agosach.

Pan oeddwn i tua 20 mlwydd oed, dechreuais gymryd diddordeb yn y Beibl. Roedd ffrind imi oedd yn gwerthu cyffuriau wedi dechrau darllen y Beibl yn y carchar, a chawson ni sgwrs hir am grefydd, yr Eglwys, a rôl Satan yn y byd. Prynais Feibl a dechrau ei astudio ar fy mhen fy hun. Roedd fy ffrind a minnau’n darllen rhannau o’r Beibl a dod at ein gilydd i drafod beth roedden ni wedi ei ddysgu. Aeth hyn ymlaen am fisoedd lawer.

O ddarllen y Beibl, daethon ni i’r casgliadau canlynol: ein bod ni’n byw yn nyddiau diwethaf y byd hwn; y dylai Cristnogion bregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw; ni ddylen nhw fod yn unrhyw ran o’r byd, gan gynnwys gwleidyddiaeth; a bod y Beibl yn rhoi cyngor moesol dibynadwy. Roedden ni’n gweld yn glir bod y Beibl yn wir ac mae’n rhaid bod gwir grefydd yn bodoli. Ond pa un? Meddylion ni am yr eglwysi mawr gyda’u hadeiladau crand a’u traddodiadau a’u seremonïau, yn ogystal â’u rhan yng ngwleidyddiaeth y byd. Roedden ni’n gweld nad oedd Iesu yn ddim byd tebyg iddyn nhw. Roedd yn amlwg nad oedd Duw yn eu defnyddio nhw. Felly penderfynon ni ddysgu mwy am rai o’r crefyddau llai adnabyddus i weld beth oedd ganddyn nhw i’w gynnig.

Roedden ni’n cwrdd â phobl o’r crefyddau hynny a gofyn cwestiynau iddyn nhw. Roedden ni’n gwybod sut roedd y Beibl yn ateb pob cwestiwn, felly roedd yn hawdd inni weld a oedden nhw’n seilio eu hatebion ar Air Duw. Ar ôl cyfarfodydd o’r fath, byddwn i’n gweddïo ar Dduw ac yn dweud: ‘Os ydy’r gwir grefydd gan y bobl hyn, plîs rho’r awydd imi gwrdd â nhw eto.’ Ond ar ôl misoedd o gyfarfodydd, doeddwn i dal ddim wedi cwrdd ag unrhyw un oedd yn ateb ein cwestiynau gan ddefnyddio’r Beibl, a doedd dim awydd arna i gwrdd â nhw eto.

O’r diwedd, gwnaeth fy ffrind a minnau gwrdd â Thystion Jehofa. Gwnaethon ni ofyn yr un cwestiynau ag arfer, ond roedden nhw’n ateb o’r Beibl. Roedd beth roedden nhw’n ei ddweud yn cytuno â’r hyn roedden ni eisoes wedi ei ddysgu. Felly dechreuon ni ofyn cwestiynau doedden ni heb ddod o hyd i’r atebion iddyn nhw eto​—er enghraifft, sut mae Duw yn teimlo am ysmygu a chyffuriau. Eto, roedden nhw’n ateb gan ddefnyddio Gair Duw. Cytunon ni i fynd i un o’r cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas.

Doedd hi ddim yn hawdd imi fynd i’r cyfarfod. Doeddwn i ddim eisiau siarad â’r holl bobl gyfeillgar yno, i gyd wedi’u gwisgo mor smart. Roeddwn i’n amau pobl ac oherwydd hynny doeddwn i ddim eisiau mynd i’r cyfarfodydd. Ond daliais ati i weddïo ar Dduw am yr awydd i gwrdd â’r bobl oedd â’r gwir grefydd. Ac roeddwn i’n teimlo’n gryf iawn y dylwn astudio’r Beibl gyda’r Tystion

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Roeddwn i’n gwybod bod rhaid imi stopio cymryd cyffuriau ac roedd hynny yn hawdd ei wneud. Ond roedd stopio ysmygu yn llawer anoddach. Gwnes i geisio gwneud hynny nifer o weithiau a methu bob tro. Clywais am eraill oedd wedi cael gwared ar eu sigaréts a stopio ysmygu felly gweddïais yn daer am help Jehofa. Ar ôl hynny, llwyddais i stopio ysmygu. Dysgais pa mor werthfawr yw tywallt fy nghalon o flaen Jehofa.

Roedd hefyd angen imi wneud newidiadau mawr yn y ffordd roeddwn i’n gwisgo. Y tro cyntaf imi fynd i Neuadd y Deyrnas roedd gen i wallt pigog gyda streipen las ynddo. Yn nes ymlaen gwnes i liwio fy ngwallt yn oren llachar. Roeddwn i’n gwisgo jîns a siaced ledr gyda sloganau arni. Doeddwn i ddim yn gweld unrhyw reswm i newid y pethau hyn er bod y Tystion wedi trafod y peth gyda mi mewn ffordd garedig. Ond wedyn, ystyriais 1 Ioan 2:​15-​17: “Peidiwch caru’r byd a’i bethau. Os dych chi’n caru’r byd, allwch chi ddim bod yn caru’r Tad hefyd.” Des i i’r casgliad bod y ffordd roeddwn i’n gwisgo yn dangos mod i’n caru’r byd ac os oeddwn i am ddangos mod i’n caru Duw byddai’n rhaid newid hynny. Felly dyna a wnes i.

Ymhen amser, dysgais nad y Tystion yn unig oedd eisiau imi fynd i’r cyfarfodydd. O ddarllen Hebreaid 10:24, 25, gwelais fod Duw hefyd eisiau imi wneud hynny. Dechreuais fynd i bob un o’r cyfarfodydd a dod i adnabod y brodyr a chwiorydd yn well. Ac o ganlyniad i hynny, penderfynais ymgysegru i Jehofa a chael fy medyddio.

FY MENDITHION: Mae’r ffaith bod Jehofa yn gadael inni fod yn ffrindiau agos iddo wedi gwneud argraff fawr arna i. Mae ei drugaredd a’i gariad wedi fy ysgogi i’w efelychu ac i ddilyn esiampl Iesu yn fy mywyd. (1 Pedr 2:​21) Er fy mod i’n gwneud fy ngorau i feithrin personoliaeth Gristnogol, dw i dal yn berson unigryw. Dw i’n ceisio bod yn gariadus ac yn garedig, yn enwedig yn y ffordd dw i’n trin fy ngwraig a fy mab. Dw i wir yn caru ac yn gofalu am fy mrodyr a chwiorydd yn y gwir. Mae gwneud y newidiadau hyn wedi codi fy hunan-barch ac i ddysgu sut i garu eraill.

“Roedden Nhw yn Fy Nhrin ag Urddas.”​—GUADALUPE VILLARREAL

GANWYD: 1964

GWLAD ENEDIGOL: MECSICO

HANES: BYWYD ANFOESOL

FY NGHEFNDIR: Cefais fy magu yn un o saith o blant, mewn ardal dlawd o’r enw Hermosillo, yn Sonora, Mecsico. Bu farw fy nhad pan oeddwn i’n ifanc iawn, felly roedd fy mam yn gorfod gweithio er mwyn cynnal y teulu. Yn aml, roedden ni’n droednoeth oherwydd doedd dim digon o arian i brynu esgidiau. Pan oeddwn i’n dal yn ifanc, dechreuais weithio i helpu’r teulu. Fel llawer o deuluoedd eraill yn yr ardal, roedden ni’n byw mewn tŷ bychan.

Gan fod fy mam yn gweithio, doedd hi ddim fel arfer o gwmpas i’n hamddiffyn ni. Pan oeddwn i’n 6 blwydd oed, cefais fy ngham-drin yn rhywiol gan fachgen 15 oed. Parhaodd y gamdriniaeth am amser hir. O ganlyniad i hynny dechreuais deimlo atyniad tuag at ddynion eraill. Pan ofynnais am help gan ddoctoriaid neu glerigwyr, dywedon nhw wrtho i fod y teimladau hynny yn hollol normal.

Pan oeddwn i’n 14 oed, penderfynais y byddwn yn byw bywyd fel dyn hoyw. Gwnaeth hyn barhau am 11 mlynedd. Yn yr amser hwnnw, roeddwn i’n byw gyda nifer o ddynion gwahanol. Cymerais gwrs trin gwallt a dechrau rhedeg siop harddwch. Ond doeddwn i ddim yn hapus. Roeddwn i’n dioddef yn aml ac yn teimlo bod eraill yn fy mradychu. Yn fy nghalon, roeddwn i’n gwybod nad oedd fy ffordd o fyw yn iawn. Dechreuais ofyn i fi fy hun: ‘A oes pobl dda yn y byd?’

Meddyliais am fy chwaer. Gwnaeth hi ddechrau astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa ac yn y pen draw cafodd ei bedyddio. Roedd hi’n sôn wrtho i am y pethau roedd hi’n eu dysgu, ond doeddwn i ddim yn talu llawer o sylw. Eto, roeddwn i’n edmygu ei ffordd o fyw, a’i phriodas. Roeddwn i’n gallu gweld bod hi a’i gŵr yn caru ac yn parchu ei gilydd ac yn trin ei gilydd mewn ffordd garedig. Ymhen amser, dechreuais astudio’r Beibl gydag un o Dystion Jehofa, ond doeddwn i ddim yn frwdfrydig iawn. Ond wedyn gwnaeth pethau newid.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Cefais fy ngwahodd i fynd i un o’r cyfarfodydd. Roedd hynny yn brofiad hollol newydd imi. Fel arfer, roedd pobl yn gwneud hwyl am fy mhen, ond nid y Tystion. Rhoddon nhw groeso cynnes imi. Roedden nhw’n fy nhrin ag urddas. Roedd hynny yn cyffwrdd fy nghalon.

Pan es i i un o gynadleddau’r Tystion gwelais eu bod nhw i gyd fel fy chwaer​—yn hollol ddiffuant. Ar ôl gweld hyn, gwnaeth fy mharch tuag atyn nhw dyfu’n fwy byth. Gofynnais i fi fy hun ai dyma’r grŵp o bobl dda roeddwn i wedi bod yn chwilio amdano. Roedd eu cariad a’u hundod yn fy synnu, yn ogystal â’r ffordd roedden nhw’n defnyddio’r Beibl i ateb pob un cwestiwn. Sylweddolais mai’r Beibl oedd yn gwneud y gwahaniaeth yn eu bywydau. Gwelais hefyd y byddai’n rhaid imi wneud llawer o newidiadau er mwyn bod yn un ohonyn nhw.

Yn wir, roedd yn rhaid imi newid fy mywyd yn gyfan gwbl, oherwydd roeddwn i’n byw fel petawn i’n ddynes. Roedd angen newid y ffordd roeddwn i’n siarad, symud, a gwisgo, ynghyd â fy steil gwallt a’r bobl roeddwn i’n cymdeithasu â nhw. Roedd rhai o fy hen ffrindiau yn gwneud hwyl am fy mhen a dweud: “Beth ydy pwynt newid? Roeddet ti’n iawn fel oeddet ti. Paid astudio’r Beibl. Mae gen ti bopeth.” Ond y peth anoddaf oedd newid fy mywyd anfoesol.

Serch hynny, roeddwn i’n gwybod bod newid y pethau hynny yn bosib, oherwydd roedd geiriau’r Beibl yn 1 Corinthiaid 6:​9-​11 wedi cyffwrdd fy nghalon: “Ydych chi ddim yn sylweddoli bod pobl ddrwg ddim yn cael perthyn i deyrnasiad Duw? Peidiwch twyllo’ch hunain: Fydd dim lle yn ei deyrnas i bobl sy’n anfoesol yn rhywiol, yn addoli eilun-dduwiau, neu’n godinebu, i buteinwyr gwrywgydiol, gwrywgydwyr gweithredol, . . . A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg, ond dych chi wedi cael eich glanhau a’ch gwneud yn bur.” Gwnaeth Jehofa helpu pobl bryd hynny i wneud newidiadau ac fe helpodd fi hefyd. Cymerodd nifer o flynyddoedd a doedd hi ddim yn hawdd o gwbl, ond gwnaeth cefnogaeth a chariad y Tystion fy helpu yn fawr iawn.

FY MENDITHION: Heddiw, dw i’n byw bywyd normal. Dw i wedi priodi ac mae fy ngwraig a minnau’n dysgu ein mab i fyw yn ôl safonau’r Beibl. Dw i’n berson hollol wahanol i’r un oeddwn i yn y gorffennol. Mae gen i berthynas dda â Jehofa a dw i’n mwynhau gwasanaethu fel henuriad yn y gynulleidfa. Dw i hefyd wedi helpu eraill i ddysgu’r gwir sydd yng Ngair Duw. Roedd fy mam mor hapus am y newidiadau, dechreuodd hi astudio’r Beibl a nawr mae hi wedi cael ei bedyddio. Hefyd, daeth chwaer arall imi oedd yn arfer byw bywyd anfoesol yn un o Dystion Jehofa.

Mae hyd yn oed rhai pobl oedd yn fy adnabod i fel oeddwn i gynt nawr yn gallu gweld fy mod i wedi newid er gwell. A dw i’n gwybod beth sydd wedi fy helpu i wneud y newidiadau hynny. Yn y gorffennol, chwiliais am help proffesiynol, ond ces i gyngor gwael. Jehofa oedd yr unig un a wnaeth fy helpu. Er nad oeddwn i’n teimlo’n ddigon da, gwnaeth Jehofa fy nhrin mewn ffordd gariadus ac amyneddgar. Mae’r ffaith bod Duw, sydd mor anhygoel, deallus a chariadus, wedi cymryd sylw ohono i, ac eisiau fy helpu, wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn fy mywyd.

“Roeddwn i’n Teimlo’n Anfodlon, yn Unig ac yn Wag.”​—KAZUHIRO KUNIMOCHI

GANWYD: 1951

GWLAD ENEDIGOL: JAPAN

HANES: SEICLWR PROFFESIYNOL

FY NGHEFNDIR: Cefais fy magu mewn tref fach yn nhalaith Shizuoka, yn Japan, lle roedd yr wyth ohonon ni yn byw mewn tŷ bychan. Roedd fy nhad yn cadw siop feiciau. Pan oeddwn i’n ifanc roedd yn mynd â mi i weld rasys seiclo a dyna sut dechreuodd fy niddordeb mewn beiciau. Roedd fy nhad eisiau imi fynd yn seiclwr proffesiynol, felly pan oeddwn i yn fy arddegau cynnar dechreuodd fy hyfforddi o ddifri. Yn fy arddegau hwyr, enillais bencampwriaeth genedlaethol flynyddol dair gwaith yn olynol. Cefais gynnig mynd i brifysgol ond penderfynais fynd i ysgol rasio yn lle hynny. Yn 19 oed, dechreuais rasio beiciau yn broffesiynol.

Erbyn hynny, fy nod mewn bywyd oedd bod y seiclwr proffesiynol gorau yn Japan. Roeddwn i’n gobeithio gwneud llawer o arian er mwyn rhoi dyfodol sefydlog i fy nheulu. Roedd fy holl egni yn mynd i hyfforddi. Pan oeddwn i’n teimlo bod yr hyfforddi neu ryw ddarn penodol o ras yn ormod imi, byddwn i’n dweud wrthyf fi fy hun drosodd a throsodd mai dyma oedd fy mhrif bwrpas mewn bywyd a bod rhaid cario ymlaen. A dyna wnes i. Yn fy mlwyddyn gyntaf fel seiclwr proffesiynol, enillais y ras ar gyfer beicwyr newydd. Y flwyddyn wedyn roeddwn i’n gymwys i gymryd rhan yn y ras sy’n dewis y seiclwr gorau yn Japan. Des i’n ail yn y ras honno chwe gwaith.

Wrth imi barhau i ennill rasys, roedd pobl yn dechrau fy ngalw i’n ‘goesau cryf Tokai’ sydd yn ardal yn Japan. Roeddwn i’n gystadleuol iawn, ac roedd seiclwyr eraill yn fy ofni am fy mod i mor ddidrugaredd yn y ras. Dechreuais ennill mwy a mwy o arian ac roeddwn i’n gallu prynu beth bynnag roeddwn i eisiau. Prynais dŷ, gydag ystafell arbennig ar gyfer ymarfer corff. Prynais gar a gostiodd bron cymaint â’r tŷ, a dechreuais fuddsoddi arian mewn tir ac eiddo, ac yn y farchnad stoc.

Serch hynny, roeddwn i’n teimlo’n anfodlon, yn unig, ac yn wag. Roeddwn i’n briod erbyn hynny, gyda thri o blant Ond roeddwn i’n ddiamynedd ac yn colli fy nhymer yn hawdd. Byddai fy nheulu yn gorfod edrych ar fy wyneb i geisio gweld a oeddwn i mewn hwyliau da neu beidio.

Ymhen amser, dechreuodd fy ngwraig astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Fe wnaeth hyn achosi newidiadau mawr yn ein bywydau. Dywedodd ei bod hi eisiau mynd i gyfarfodydd y Tystion, felly penderfynais y bydden ni i gyd yn mynd. Dw i dal yn cofio’r noson daeth un o’r henuriad draw i astudio’r Beibl gyda mi. Roedd yr hyn a ddysgais yn gwneud argraff fawr arna i.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Fe wnaeth geiriau Effesiaid 5:5 gyffwrdd fy nghalon. Mae’n dweud: “Dim Duw a’i Feseia sy’n teyrnasu ym mywydau’r bobl hynny sy’n byw’n anfoesol, neu’n aflan, neu’n bod yn hunanol​—addoli eilun-dduwiau ydy peth felly!” Gwelais fod rasio beiciau yn gysylltiedig â gamblo a’i fod yn cyfrannu at agwedd hunanol. Roedd fy nghydwybod yn fy mhigo. Teimlais fod rhaid imi stopio rasio petawn i am blesio Jehofa Dduw. Ond doedd hynny ddim yn benderfyniad hawdd.

Roeddwn i newydd orffen fy mlwyddyn fwyaf llwyddiannus erioed yn y byd seiclo, ac roeddwn i’n awyddus i barhau. Ond gwelais fod astudio’r Beibl yn rhoi heddwch meddwl imi, rhywbeth oedd yn wahanol iawn i’r agwedd oedd ei hangen arna i er mwyn ennill rasys. Ar ôl imi ddechrau astudio’r Beibl, fe wnes i gymryd rhan mewn tair ras yn unig, ond yn fy nghalon roeddwn i heb roi’r gorau iddi. Hefyd, doeddwn i ddim yn gwybod sut roeddwn i’n mynd i ofalu am fy nheulu. Roeddwn i’n teimlo’n sownd, heb wneud cynnydd naill ai yn fy ngyrfa nac yn fy astudiaeth o’r Beibl. Dechreuodd fy mherthnasau roi pwysau arna i oherwydd fy ffydd newydd. Roedd fy nhad wedi siomi, ac roedd yr holl straen yn rhoi wlser y stumog imi.

Yn ystod y cyfnod anodd hwnnw, daliais ati i astudio’r Beibl a mynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa. Ac yn raddol bach, daeth fy ffydd yn gryfach. Gofynnais i Jehofa glywed fy ngweddïau a dangos imi ei fod yn eu clywed. Roedd fy ngwraig hefyd yn lleddfu’r straen yn fawr drwy ddweud nad oedd rhaid iddi hi fyw mewn tŷ crand er mwyn bod yn hapus. Yn araf deg, fe wnes i gynnydd.

FY MENDITHION: Dysgais fod geiriau Iesu ym Mathew 6:​33 yn wir. Yno, mae’n sôn am ein hanghenion bob dydd ac yn dweud: “Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd.” Dydyn ni erioed wedi mynd heb “y pethau eraill” hyn. Heddiw mae fy nghyflog tua thri deg gwaith yn llai na beth oedd hi o’r blaen. Ond mae Jehofa wedi rhoi beth sydd ei angen arnon ni am yr ugain mlynedd diwethaf.

Pan fydda i’n gweithio neu’n addoli gyda fy mrodyr a chwiorydd, dw i’n cael mwy o lawenydd nag erioed o’r blaen. Mae’r dyddiau’n hedfan heibio. Mae fy mherthynas â fy nheulu wedi gwella’n arw. Mae fy meibion a’u gwragedd i gyd yn gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon.