Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Proffwydoliaeth 2. Newyn

Proffwydoliaeth 2. Newyn

Proffwydoliaeth 2. Newyn

“Bydd . . . newyn.”—MARC 13:8.

● Mae dyn yn ceisio lloches ym mhentref Quaratadji, Niger. Mae ei frodyr a chwiorydd a pherthnasau eraill hefyd wedi dod o rannau anghysbell y wlad mewn ymgais i ffoi rhag y newyn. Eto, mae’r dyn yn gorwedd ar ei ben ei hun ar fat ar y llawr. Pam mae ef ar ei ben ei hun? “Dyw e ddim yn gallu bwydo [ei deulu] ac mae gormod o gywilydd ’da fe i edrych arnyn nhw,” meddai Sidi, pennaeth y pentref.

BETH MAE’R FFEITHIAU YN EI DDANGOS? Yn fyd eang, mae bron 1 ym mhob 7 o bobl yn mynd heb ddigon o fwyd bob dydd. Mae’r niferoedd yn waeth yn Affrica is-Sahara, lle mae 1 ym mhob 3 yn llwgu’n barhaol. I roi’r ffigwr yn ei gyd-destun, dychmygwch deulu o dri—tad, mam, a baban. Os oes ’na ond digon o fwyd i ddau ohonyn nhw, pwy fydd yn llwgu? Y tad? y fam? y baban? Dyma’r dewis mae teuluoedd o’r fath yn ei wynebu bob dydd.

BETH MAE RHAI POBL YN EI DDWEUD? Mae’r ddaear yn cynhyrchu hen ddigon o fwyd i bawb. Rydyn ni ond angen ei ddosbarthu’n well.

YDY HYNNY’N WIR? Mae’n wir fod ffermwyr yn gallu cynhyrchu a chludo mwy o fwyd nag erioed o’r blaen. Felly, dylai bod llywodraethau’n gallu datrys y broblem drwy ddosbarthu digon o fwyd i bawb. Ond hyd yn oed ar ôl degawdau o ymdrechu, dydyn nhw ddim wedi llwyddo.

BETH RYDYCH CHI’N EI FEDDWL? Ydy Marc 13:8 yn cael ei chyflawni? Er gwelliannau mewn technoleg, ydy prinder bwyd yn effeithio ar y ddynoliaeth ar raddfa fyd-eang?

Mae daeargrynfeydd a newyn yn aml yn arwain at broblemau eraill sy’n arwydd o’r dyddiau diwethaf.

[Broliant]

“Gallai mwy na thraean o’r plant sy’n marw o niwmonia, dolur rhydd, ac afiechydon eraill fod wedi goroesi petasen nhw wedi cael digon o fwyd.”—ANN M. VENEMAN, CYN-GYFARWYDDWR GWEITHREDOL CRONFA BLANT Y CENHEDLOEDD UNEDIG.

[Llinell Gydnabod Llun]

© Paul Lowe/Panos Pictures