Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Proffwydoliaeth 3. Clefydau

Proffwydoliaeth 3. Clefydau

Proffwydoliaeth 3. Clefydau

“Bydd . . . heintiau.”—LUC 21:11.

● Mae Bonzali, swyddog iechyd cyhoeddus mewn gwlad yn Affrica sydd wedi ei rhwygo gan ryfel cartref, yn gwneud yr ychydig a all ei wneud i drin y mwyngloddwyr yn ei dref sy’n marw o’r clefyd Marburg. * Mae’n erfyn am help gan swyddogion o ddinas fwy, ond heb unrhyw ymateb. Pedair mis wedyn, mae help yn cyrraedd o’r diwedd, ond mae Bonzali wedi marw. Cafodd y clefyd Marburg oddi wrth y mwyngloddwyr oedd yn ceisio eu hachub.

BETH MAE’R FFEITHIAU’N EI DDANGOS? Mae heintiau ar yr ysgyfaint (fel niwmonia), afiechydon sy’n achosi dolur rhydd, HIV/AIDS, twbercwlosis, a malaria ymhlith y clefydau mwyaf dinistriol sy’n effeithio dynolryw. Yn 2004 yn unig, wnaeth y pum categori hyn o glefydau ladd tua 10.7 miliwn o bobl. Mewn geiriau eraill, lladdodd y clefydau tua un person bod tair eiliad mewn blwyddyn gron.

BETH MAE RHAI POBL YN EI DDWEUD? Mae poblogaeth y byd yn dal i dyfu, felly wrth gwrs, mae mwy o achosion o glefydau. Mae ’na fwy o bobl a all gael eu heintio.

YDY HYNNY’N WIR? Mae poblogaeth y byd wedi cynyddu’n aruthrol. Ond mae’r un peth yn wir am allu dyn i ddiagnosio, rheoli, a thrin clefydau. Wrth reswm felly, oni ddylai clefydau gael llai o effaith ar y teulu dynol? Ond eto, gwelwn y gwrthwyneb yn digwydd.

BETH RYDYCH CHI’N EI FEDDWL? Ydy pobl yn dioddef o heintiau ofnadwy fel rhagfynegodd y Beibl?

Mae daeargrynfeydd, newyn, a heintiau yn achosi i filiynau o bobl ddioddef. Ond mae miliynau mwy yn dioddef drwy ddwylo eu cyd-ddyn—a hynny’n aml gan rywun a ddylai eu hamddiffyn. Sylwch ar beth mae proffwydoliaeth y Beibl yn dweud a fyddai’n digwydd.

[Troednodyn]

^ Par. 3 Mae Twymyn Gwaedlifol Marburg yn cael ei achosi gan feirws sy’n perthyn i Ebola.

[Broliant]

“Mae’n ofnadwy o beth i gael eich bwyta o’r tu allan gan lew neu rywbeth, ond mae’r un mor ofnadwy i gael eich bwyta o’r tu mewn gan ryw salwch, ac i weld hynny’n digwydd pob man o’ch cwmpas.”—YR EPIDEMIOLEGYDD MICHAEL OSTERHOLM.

[Llinell Gydnabod Llun]

© William Daniels/Panos Pictures