Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Proffwydoliaeth 5. Dinistrio’r Ddaear

Proffwydoliaeth 5. Dinistrio’r Ddaear

Proffwydoliaeth 5. Dinistrio’r Ddaear

“[Mae Duw am] ddinistrio’n llwyr y rhai hynny sy’n dinistrio’r ddaear.”—DATGUDDIAD 11:18.

● Mae Mr. Pirri yn gweithio fel tapiwr gwin palmwydd yn Kpor, Nigeria. Mae ei fusnes wedi cael ei ddinistrio gan arllwysiad olew yn Nelta Niger. “Mae’n lladd ein pysgod, yn difetha ein croen, ac yn llygru ein nentydd,” meddai. “Does gen i ddim bywoliaeth ar ôl.”

BETH MAE’R FFEITHIAU YN EI DDANGOS? Yn ôl rhai arbenigwyr, mae 6.5 miliwn tunnell o sbwriel yn ffeindio ei ffordd i gefnforoedd y byd bob blwyddyn. Mae tua 50 y cant o’r sbwriel hwnnw yn blastig a fydd yn drifftio am gannoedd o flynyddoedd cyn iddo dorri i lawr. Yn ogystal â llygru’r ddaear, mae bodau dynol yn defnyddio ei hadnoddau naturiol ar raddfa syfrdanol. Mae astudiaethau yn dangos bod y ddaear angen blwyddyn a phum mis i ailgynhyrchu’r adnoddau mae bodau dynol yn eu defnyddio mewn blwyddyn. Yn ôl papur newydd y Sydney Morning Herald o Awstralia, “Os ydy’r boblogaeth a phatrwm defnydd yn parhau i dyfu, byddwn ni angen gwerth dwy Ddaear erbyn 2035.”

BETH MAE POBL YN EI DDWEUD? Mae bodau dynol yn glyfar ac yn dda am ddatrys problemau. Gallwn ni ddad-wneud sgileffeithiau’r problemau ac achub y ddaear.

YDY HYNNY’N WIR? Mae llawer o unigolion a grwpiau wedi gweithio’n ddiwyd i dynnu sylw at broblemau amgylcheddol. Ond eto, mae’r ddaear yn parhau i gael ei llygru ar raddfa enfawr.

BETH RYDYCH CHI’N EI FEDDWL? A oes angen i Dduw ymyrryd ac achub ein planed rhag cael ei dinistrio—yn union fel y mae wedi addo ei wneud?

Yn ogystal â’r pum proffwydoliaeth rydyn ni newydd eu hystyried, rhagfynegodd y Beibl bethau positif ar gyfer y dyddiau diwethaf. Ystyriwch un o’r pethau hynny yn y chweched broffwydoliaeth.

[Broliant]

“Dw i’n teimlo fy mod i wedi mynd o fod yn berchen ar ddarn o baradwys i fod yn berchen ar domen gwastraff gwenwynig.”—ERIN TAMBER, UN O DRIGOLION ARFORDIR Y GWLFF, YR UNOL DALEITHIAU, YNGHYLCH EFFEITHIAU ARLLWYSIAD OLEW 2010 YNG NGWLFF MECSICO.

[Blwch]

Ai Duw Sydd ar Fai?

Gan fod y Beibl wedi proffwydo’r amgylchiadau drwg a welwn heddiw, ydy hynny’n golygu mai Duw sy’n gyfrifol amdanyn nhw? Ydy ef yn achosi inni ddioddef? Gallwch chi gael atebion boddhaol i’r cwestiynau hynny ym mhennod 11 y llyfr Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl? a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.

[Llinell Gydnabod Llun]

Llun U.S. Coast Guard