Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Amserau Gwell ar y Gorwel!

Amserau Gwell ar y Gorwel!

Amserau Gwell ar y Gorwel!

“Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus . . . Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu’r tir ac yn mwynhau heddwch llawn.”—SALM 37:10, 11, BCND.

A FYDDECH chi’n hoffi gweld y broffwydoliaeth uchod yn dod yn wir? Mae’n siŵr y byddech chi. Mae ’na resymau da dros gredu y bydd hynny’n digwydd yn fuan.

Mae’r erthyglau blaenorol wedi trafod rhai o’r proffwydoliaethau Beiblaidd sy’n dangos yn glir ein bod ni’n byw yn “y cyfnod olaf,” neu’r dyddiau diwethaf. (2 Timotheus 3:1-5) Ysbrydolodd Duw ysgrifenwyr y Beibl i ragfynegi’r digwyddiadau hynny er mwyn inni gael gobaith. (Rhufeiniaid 15:4) Mae cyflawniad proffwydoliaethau o’r fath yn golygu y bydd y trafferthion rydyn ni’n eu hwynebu nawr yn dod i ben yn fuan.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y dyddiau diwethaf? Bydd Teyrnas Dduw yn rheoli dros y ddynoliaeth gyfan. (Mathew 6:9) Ystyriwch ddisgrifiad y Beibl o amodau byw ar y ddaear bryd hynny:

Fydd ’na ddim newyn. “Boed digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.”—Salm 72:16.

Fydd ’na ddim clefydau. “Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, ‘Dw i’n sâl!’”—Eseia 33:24.

Bydd y ddaear yn cael ei hadnewyddu. “Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo—yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.”—Eseia 35:1.

Dim ond rhai o broffwydoliaethau calonogol y Beibl a fydd yn cael eu cyflawni’n fuan ydy’r rhain. Beth am ofyn i Dystion Jehofa ddangos ichi pam maen nhw mor hyderus fod amserau gwell ar y gorwel?