Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

BETH a wnaeth i ddyn oedd yn dwyn ac yn gamblo newid ei fywyd? Darllenwch am ei brofiad.

“O’n i’n Dwlu ar Geffylau Rasio.”—RICHARD STEWART

GANWYD: 1965

GWLAD ENEDIGOL: JAMAICA

HANES: GAMBLO A THROSEDDU

FY NGHEFNDIR: Cefais fy magu yn Kingston, prifddinas Jamaica, mewn ardal boblog a thlawd. Roedd llawer o bobl yn ddi-waith ac roedd trosedd ym mhobman. Oherwydd y gangiau, roedd pobl yn byw mewn ofn. Bydden ni’n clywed gynnau’n tanio bron pob dydd.

Roedd fy mam yn gweithio’n galed i ofalu amdana i, ac am fy mrawd a’m chwaer ieuengaf. Sicrhaodd ein bod ni’n cael addysg dda. Doedd gen i fawr ddim o ddiddordeb yn yr ysgol, ond roeddwn i’n dwlu ar geffylau rasio. Yn lle mynd i’r ysgol byddwn i’n mynd i’r rasys. Roeddwn i hyd yn oed yn cael reidio’r ceffylau.

Cyn bo hir dechreuais gamblo ar y ceffylau. Roeddwn i’n byw bywyd anfoesol ac yn mynd ar ôl merched. Roeddwn i’n ysmygu canabis ac yn lladrata er mwyn talu am fy ffordd o fyw. Roedd gen i lawer o ddrylliau ond dw i mor falch na wnes i erioed eu defnyddio i ladd rhywun.

Yn y pen draw, cefais fy nal gan yr heddlu a fy ngyrru i’r carchar. Des i allan o’r carchar ond es i’n syth yn ôl i fy hen ffyrdd. Yn wir, roeddwn i’n waeth o lawer. Er bod gen i wyneb bach diniwed, roeddwn i’n benderfynol, yn greulon, ac yn gwylltio’n hawdd. Yr unig berson roeddwn i’n poeni amdano oedd fi fy hun.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Yn ystod y cyfnod anodd hwn, roedd fy mam yn astudio’r Beibl a daeth hi’n un o Dystion Jehofa. Gwelais newidiadau da ym mhersonoliaeth fy mam ac roeddwn i eisiau gwybod pam. Felly dechreuais drafod y Beibl gyda’r Tystion.

Gwelais fod dysgeidiaeth Tystion Jehofa yn wahanol i grefyddau eraill. Roedd popeth roedden nhw’n ei gredu yn seiliedig ar y Beibl. Nhw oedd yr unig grŵp oedd yn pregethu o ddrws i ddrws fel y Cristnogion cynnar. (Mathew 28:19; Actau 20:20) Pan welais y cariad rhyngddyn nhw, roeddwn i’n gwbl sicr fy mod i wedi dod o hyd i’r gwir grefydd.—Ioan 13:35.

O astudio’r Beibl, dysgais fod yn rhaid imi wneud newidiadau mawr yn fy mywyd. Sylweddolais fod Jehofa Dduw yn casáu anfoesoldeb ac, er mwyn ei blesio, byddai’n rhaid imi roi’r gorau i fy arferion aflan. (2 Corinthiaid 7:1; Hebreaid 13:4) Dysgais fod gan Jehofa deimladau a bod fy ymddygiad i’n effeithio arno ef. (Diarhebion 27:11) Wnaeth hynny fynd at fy nghalon. Felly roeddwn i’n benderfynol o roi’r gorau i ysmygu canabis, i gael gwared ar fy nrylliau, ac i geisio gwella fy mhersonoliaeth. Y pethau anoddach imi oedd rhoi’r gorau i fy mywyd anfoesol a stopio gamblo.

Ar y dechrau, doeddwn i ddim eisiau dweud wrth fy ffrindiau fy mod i’n astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Ond roedd geiriau Iesu yn Mathew 10:33 yn gwneud imi newid fy meddwl. Mae’n dweud: “Pwy bynnag sy’n gwadu ei fod yn credu ynof fi o flaen pobl eraill, bydda innau’n gwadu o flaen fy Nhad yn y nefoedd fod y person hwnnw’n perthyn i mi.” Pan ddywedais wrth fy ffrindiau fy mod i’n astudio, roedden nhw wedi synnu. Doedden nhw ddim yn gallu credu bod rhywun fel fi eisiau bod yn Gristion. Dywedais wrthyn nhw fy mod i am newid fy mywyd yn llwyr.

FY MENDITHION: Roedd fy mam wrth ei bodd yn fy ngweld i’n dechrau byw yn ôl safonau’r Beibl. Heddiw does dim angen iddi hi boeni am beth rydw i’n ei wneud. Bellach, mae ein cariad tuag at Jehofa wedi ein gwneud ni’n agosach. O bryd i’w gilydd, rydw i’n edrych yn ôl ar fy mywyd ac yn methu credu’r newidiadau rydw i wedi eu gwneud gyda help Jehofa. Dydw i ddim bellach yn dyheu am fy hen fywyd anfoesol a materol.

Yn sicr, byddwn i yn ôl yn y carchar heddiw neu wedi marw petaswn i ddim wedi ymateb i neges y Beibl. Ond nawr mae gen i deulu hapus. Mae’n codi fy nghalon i wasanaethu Jehofa Dduw gyda fy ngwraig, sydd yn gefn imi, a fy merch annwyl. Rydw i’n ddiolchgar iawn i Jehofa am adael imi fod yn rhan o frawdoliaeth gariadus. Rydw i hefyd yn ddiolchgar bod rhywun wedi gwneud yr ymdrech i ddysgu gwirionedd y Beibl imi. Rydw i’n gwerthfawrogi’r cyfle i ddysg pobl eraill am y Beibl. Ac rydw i’n hynod o ddiolchgar i Jehofa am fy nenu i ato ef.

[Broliant]

“Dysgais fod gan Jehofa deimladau a bod fy ymddygiad i’n effeithio arno ef”

[Llun]

Gwelais newidiadau da ym mhersonoliaeth fy mam

[Llun]

Gyda fy ngwraig a’m merch