Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Gall Tadau Aros yn Agos at Eu Meibion?

Sut Gall Tadau Aros yn Agos at Eu Meibion?

Sut Gall Tadau Aros yn Agos at Eu Meibion?

“DAD, sut wyt ti’n gwybod cymaint?” Ydy eich mab erioed wedi gofyn cwestiwn tebyg? Mae’n debyg bod y cwestiwn wedi gwneud ichi deimlo’n hapus iawn. Ond yn sicr, byddech chi’n hapusach byth petai eich mab yn gwrando ar eich cyngor ac yn elwa ohono. aDiarhebion 23:15, 24.

Ond wrth i’ch mab dyfu, efallai na fydd yn edrych i fyny atoch chi nac yn eich parchu fel o’r blaen. Sut gallwch chi aros yn agos at eich mab wrth iddo dyfu? Yn gyntaf, gadewch inni ystyried rhai o’r heriau y mae tadau yn eu hwynebu.

Tair Her Gyffredin

1. DIFFYG AMSER: Mewn llawer o wledydd, tadau sy’n gyfrifol am ennill arian ar gyfer y teulu. Yn aml mae eu gwaith yn golygu eu bod nhw oddi gartref am y rhan fwyaf o’r diwrnod. Mewn rhai llefydd, dydy tadau ddim yn treulio llawer o amser gyda’u plant. Er enghraifft, dangosodd un arolwg yn Ffrainc fod tadau’n treulio llai na 12 munud y dydd yn edrych ar ôl eu plant.

CWESTIWN I FEDDWL AMDANO: Faint o amser rydych chi’n ei dreulio gyda’ch mab? Dros yr wythnosau nesaf, efallai byddai’n syniad da i nodi faint o amser rydych chi’n ei dreulio yn siarad â’ch mab bob dydd. Efallai bydd y canlyniadau yn eich synnu.

2. DIFFYG ESIAMPL DDA: Nid yw rhai dynion wedi cael llawer o gysylltiad gyda’u tadau. Mae Jean-Marie, sy’n byw yn Ffrainc, yn dweud: “Ni chefais i lawer o gysylltiad gyda fy nhad.” Sut mae hyn wedi effeithio ar Jean-Marie? “Mae hyn wedi creu problemau imi,” meddai. “Er enghraifft, mae’n anodd imi gyfathrebu â fy meibion fy hun.” Mewn achosion eraill, mae dynion yn adnabod eu tadau’n dda, ond nid yw’r berthynas rhyngddyn nhw yn agos. Mae Philippe, sy’n 43 oed, yn dweud: “Roedd hi’n anodd i fy nhad ddangos cariad tuag ata i. O ganlyniad, dw i’n gorfod gweithio’n galed i ddangos cariad tuag at fy mab.”

CWESTIWN I FEDDWL AMDANO: Ydych chi’n teimlo bod y berthynas rhyngoch chi â’ch tad yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n trin eich mab? Ydych chi’n gweld eich hun yn dilyn arferion drwg neu dda eich tad? Ym mha ffordd?

3. DIFFYG CYNGOR DA: Mewn rhai diwylliannau, nid yw tadau yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fagu plant. Mae Luca, a gafodd ei fagu yng Ngorllewin Ewrop yn dweud: “Gwaith y wraig oedd gofalu am y plant.” Mewn diwylliannau eraill, prif rôl y tad yw disgyblu’r plant. Er enghraifft, cafodd George ei fagu mewn gwlad yn Affrica. “Yn fy ngwlad i,” meddai, “nid yw tadau yn chwarae gyda’u plentyn plant rhag ofn eu bod nhw’n colli parch. Felly mae’n anodd imi fwynhau cwmni fy mab.”

CWESTIWN I FEDDWL AMDANO: Yn eich ardal chi, beth yw rôl y tad? Ydy dynion yn credu mai gwaith gwragedd yw magu plant? A ydy tadau yn cael eu hannog i garu eu meibion, neu ydy hynny yn cael ei fychanu?

Os ydych chi’n dad sy’n wynebu heriau o’r fath, sut gallwch chi lwyddo? Ystyriwch yr awgrymiadau canlynol.

Dechreuwch Tra Bod Eich Mab yn Fach

Fel arfer, mae meibion yn awyddus iawn i gopïo eu tadau. Felly tra bod eich mab yn ifanc, gwnewch ymdrech i dreulio amser gydag ef. Sut gallwch chi wneud hynny?

Lle mae’n bosib, gadewch i’ch mab eich helpu. Er enghraifft, os ydych chi’n gwneud gwaith o gwmpas y tŷ, gofynnwch iddo roi help llaw. Rhowch frwsh bach neu raw fach iddo. Mae’n debyg y bydd ef wrth ei fodd yn gweithio ochr yn ochr â’i dad. Efallai bydd y gwaith yn cymryd mwy o amser, ond bydd y berthynas rhyngoch chi’n cryfhau a bydd eich mab yn dysgu sut i weithio’n galed. Amser maith yn ôl, roedd y Beibl yn annog tadau i fynd â’u plant gyda nhw yn eu gwaith bob dydd, ac i fachu ar y cyfle i siarad â nhw a’u dysgu. (Deuteronomium 6:6-9) Mae’r cyngor hwn yn dal yn berthnasol heddiw.

Yn ogystal â gweithio gyda’ch mab, treuliwch amser yn chwarae gyda’ch gilydd. Mae chwarae yn rhoi cyfle ichi gael hwyl gyda’ch gilydd. Ond mae ymchwil hefyd yn dangos bod tadau sy’n chwarae gyda’u plant bach yn eu helpu i fod yn fwy hyderus.

Mae rheswm arall pam mae’n bwysig i dadau chwarae gyda’u meibion. Dywed yr ymchwilydd Michel Fize: “Bydd mab yn cyfathrebu’n well â’i dad pan fyddan nhw’n chwarae gyda’i gilydd.” Wrth chwarae, gall tad ddangos cariad tuag at ei fab a’i ddysgu sut i ddangos cariad yn ôl. Mae André, sy’n byw yn yr Almaen yn dweud: “Pan oedd fy mab yn fach, bydden ni’n chwarae gyda’n gilydd yn aml. Byddwn i’n rhoi cwtsh iddo ac roedd ef yn dysgu sut i ddangos ei gariad tuag ata i hefyd.”

Mae amser gwely yn gyfle arall i dad gryfhau ei berthynas â’i fab. Darllenwch stori iddo yn rheolaidd a gwrando arno’n sôn am beth sydd wedi digwydd yn ystod y dydd. Os ydych chi’n gwneud hynny, bydd yn haws iddo barhau i gyfathrebu â chi wrth iddo dyfu.

Daliwch Ati i Wneud Pethau Gyda’ch Gilydd

Os bydd eich mab braidd yn dawel pan fyddwch chi’n gofyn cwestiynau, peidiwch â meddwl nad yw’n fodlon siarad o gwbl. Efallai, os ydych chi’n newid y ffordd rydych chi’n cyfathrebu, fe fydd yn fwy parod i siarad.

Weithiau, mae Jacques, sy’n byw yn Ffrainc, wedi ei chael hi’n anodd cyfathrebu â’i fab Jérôme. Ond yn hytrach na gorfodi ei fab i siarad, newidiodd ei dactegau a chwarae pêl-droed gydag ef. Dywedodd Jacques: “Ar ôl chwarae pêl-droed, bydden ni’n eistedd ar y glaswellt ac ymlacio. Yna byddai fy mab yn dechrau siarad am ei deimladau. Wrth inni dreulio amser gyda’n gilydd, fe wnaethon ni ddatblygu perthynas agos iawn.”

Ond beth os nad ydy eich mab yn hoffi chwaraeon? Mae gan André atgofion melys o’r oriau dreuliodd gyda’i fab yn edrych ar y sêr. “Bydden ni’n eistedd tu fas,” meddai, “wedi lapio mewn blancedi a gyda phaned o de. Bydden ni’n siarad am yr Un a greodd y sêr, am bethau personol, ac am bob math o bethau eraill.”—Eseia 40:25, 26.

Beth os nad oes gynnoch chi’r un diddordebau â’ch mab? Os felly, efallai bydd angen ichi wneud y pethau mae eich mab yn eu hoffi. (Philipiaid 2:4) “Ro’n i’n hoffi chwaraeon, ond roedd fy mab, Vaughan, yn hoffi awyrennau a chyfrifiaduron,” meddai Ian, sy’n byw yn Ne Affrica. “Felly fe wnes i gymryd diddordeb yn y pethau hynny hefyd, a mynd ag ef i sioeau awyrennau a chwarae gemau hedfan ar y cyfrifiadur gydag ef. Gan ein bod ni wedi mwynhau gwneud y pethau hyn gyda’n gilydd, roedd hi’n haws i Vaughan siarad yn agored â mi.”

Codwch Ei Hunanhyder

“Drycha, Dad, drycha!” Oedd eich mab yn arfer dweud rhywbeth tebyg ar ôl iddo ddysgu sgìl newydd? Ond mae’n annhebyg ei fod yn dal i ddweud hynny mor agored ac yntau bellach yn ei arddegau. Sut bynnag er mwyn iddo dyfu’n ddyn dibynadwy mae’n dal angen gwybod ei fod yn eich plesio.

Sylwch ar beth ddywedodd Jehofa wrth un o’i feibion ef. Cyn i Iesu ddechrau ei waith arbennig ar y ddaear, dangosodd Duw faint oedd yn ei garu drwy ddweud: “Hwn yw fy Mab annwyl, sy’n fy mhlesio i’n fawr iawn.” (Mathew 3:17; 5:48) Mae’n wir bod cyfrifoldeb arnoch chi i ddisgyblu a dysgu eich mab. (Effesiaid 6:4) Ond cofiwch ba mor bwysig yw edrych am gyfle i’w ganmol am y pethau da y mae’n ei ddweud a’u gwneud.

Mae’n anodd i rai dynion ganmol eu meibion a dangos cariad iddyn nhw. Efallai cawson nhw eu magu gan rieni nad oedd yn rhoi canmoliaeth. Os dyna oedd eich profiad chi, bydd yn rhaid ichi weithio’n galed i godi hunanhyder eich mab. Sut gallwch chi wneud hynny? Mae Luca, a ddyfynnwyd yn gynharach, yn gweithio’n aml gyda’i fab Manuel, sy’n 15 oed, yn gwneud gwaith o gwmpas y tŷ. “Weithiau,” meddai Luca, “bydda i’n gofyn i Manuel ddechrau’r dasg ar ei ben ei hun. Dw i’n dweud y bydda i ar gael os bydd angen help arno, ond gan amlaf, mae’n gallu gwneud y gwaith ar ei ben ei hun. Mae hyn yn ei wneud yn hapus ac yn codi ei hunanhyder. Pan fydd yn llwyddo, dw i’n ei ganmol. Pan nad yw’n gwneud cystal, dw i’n dweud wrtho fy mod i’n dal i werthfawrogi ei waith.”

Gallwch godi hunanhyder eich mab drwy ei helpu i gyrraedd amcanion pwysig yn ei fywyd. Ond beth os bydd eich mab braidd yn araf i gyrraedd ei amcanion? Neu beth os bydd ei amcanion ef yn wahanol i’r rhai y byddech chi wedi eu dewis? Yn yr achos hwnnw, efallai bydd yn rhaid ichi ailystyried eich disgwyliadau. Mae Jacques, a ddyfynnwyd yn gynharach, yn dweud: “Dw i’n ceisio helpu fy mab i osod amcanion realistig. Ond dw i hefyd yn ceisio sicrhau mai ei amcanion ef ydyn nhw, nid fy amcanion innau. Wedyn dw i’n atgoffa fy hun bod angen iddo weithio tuag at ei amcanion yn ei amser ei hun.” Os ydych chi’n gwrando ar farn eich mab, yn ei ganmol am ei gryfderau, ac yn ei annog i ddod dros ei fethiannau, byddwch yn ei helpu i gyrraedd ei amcanion.

O bryd i’w gilydd, bydd problemau’n codi rhyngoch chi a’ch mab. Ond yn y pen draw, mae’n debyg y bydd eich mab yn ddiolchgar am eich holl gefnogaeth ac eisiau aros yn agos atoch chi.

[Troednodyn]

a Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng tadau a’u meibion, ond mae’r egwyddorion hefyd yn berthnasol i’r berthynas rhwng tadau a’u merched.