Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ydy Pob “Cristion” yn Gristion?

Ydy Pob “Cristion” yn Gristion?

Ydy Pob “Cristion” yn Gristion?

FAINT o Gristnogion sydd ’na? Yn ôl yr Atlas of Global Christianity, yn 2010 roedd ’na bron i 2.3 biliwn yn fyd-eang. Ond mae’r un cyhoeddiad yn dweud bod y Cristnogion hynny yn perthyn i fwy na 41,000 o enwadau​—pob un gyda’i athrawiaethau a rheolau ymddygiad ei hun. Yn wyneb yr amrywiaeth eang o grefyddau “Cristnogol,” mae’n ddigon hawdd deall pam fyddai unigolyn yn drysu gyda’r holl ddewis. Gall rhywun ofyn, ‘Ydy pawb sy’n honni eu bod yn Gristion yn wir yn Gristion?’

Gadewch inni edrych ar y mater o ongl wahanol. Fel arfer mae teithiwr yn gorfod datgan ei ddinasyddiaeth wrth swyddog y ffin. Mae hefyd angen profi mae ef yw’r person y mae’n ei honni ei fod, drwy ddangos cerdyn adnabod neu basbort. Yn debyg i hyn, mae gwir Gristion yn gorfod gwneud mwy na phroffesu ei ffydd yng Nghrist. Mae angen ffordd arall o’i adnabod. Beth fyddai hynny?

Cafodd y term “Cristion” ei ddefnyddio am y tro cyntaf rywdro ar ôl 44 OG. Yn ôl yr hanesydd Beiblaidd Luc: “Yn Antiochia y cafodd dilynwyr Iesu eu galw yn Gristnogion am y tro cyntaf.” (Actau 11:26) Sylwch fod y rhai a gafodd eu galw’n Gristnogion yn ddisgyblion Crist. Beth sy’n gwneud i rywun fod yn ddisgybl i Iesu Grist? Mae’r New International Dictionary of New Testament Theology yn esbonio: “Mae dilyn Iesu fel disgybl yn golygu cysegru ein bywydau yn llwyr . . . a hynny am oes.” Mae gwir Gristion, felly, yn un sy’n dilyn dysgeidiaethau a gorchmynion Sylfaenydd Cristnogaeth, Iesu, yn llwyr ac yn ddiamod.

Ydy hi’n bosib cael hyd i’r fath bobl ymhlith y miliynau sy’n proffesu bod yn Gristnogion heddiw? Beth ddywedodd Iesu ei hun ynglŷn ag adnabod ei gwir ddilynwyr? Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ystyried sut mae’r Beibl yn ateb y cwestiynau hyn. Yn yr erthyglau canlynol, byddwn ni’n edrych ar bump o bethau a ddywedodd Iesu sy’n disgrifio ei wir ddilynwyr ac yn ein helpu i’w hadnabod. Byddwn ni’n ystyried sut gwnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf ateb y gofynion. A byddwn ni’n ceisio gweld pwy ymhlith y llawer sy’n proffesu bod yn Gristnogion sydd yn ffitio’r patrwm.