Neidio i'r cynnwys

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Mae’r Beibl yn Newid Bywydau

Beth wnaeth i un dyn ddychwelyd i’r grefydd yr oedd wedi ei gadael pan oedd yn ifanc? Sut gwnaeth dyn ifanc ddod o hyd i’r tad cariadus roedd yn dyheu amdano? Darllenwch brofiadau’r dynion hyn.

“Roedd Angen imi Droi’n ôl at Jehofa.”—ELIE KHAHIL

GANWYD: 1976

GWLAD ENEDIGOL: CYPRUS

HANES: MAB AFRADLON

FY NGHEFNDIR: Cefais fy ngeni ar ynys Cyprus a fy magu yn Awstralia. Mae fy rhieni yn Dystion Jehofa a gwnaethon nhw eu gorau i fy helpu i garu Jehofa a’r Beibl. Ond erbyn imi gyrraedd tua 15 oed doeddwn i ddim eisiau gwybod. Byddwn i’n sleifio allan o’r tŷ yn ystod y nos i fynd i weld fy ffrindiau. Roedden ni’n dwyn ceir ac yn achosi pob math o helynt.

Ar y dechrau, roeddwn i’n gwneud y pethau hyn yn ddistaw bach oherwydd doeddwn i ddim eisiau brifo fy rhieni. Ond yn raddol bach, newidiodd fy agwedd. Dechreuais gymdeithasu â phobl hŷn na fi. Doedden nhw ddim yn caru Jehofa, ac roedden nhw’n ddylanwad drwg arna i. Yn y pen draw, dywedais wrth fy rhieni doeddwn i ddim am ddilyn eu crefydd nhw bellach. Roedden nhw’n amyneddgar iawn ac yn ceisio fy helpu, ond gwrthod eu hymdrechion wnes i. Roedden nhw’n torri eu calonnau.

Ar ôl symud oddi gartref, dechreuais arbrofi gyda chyffuriau, a hyd yn oed tyfu a gwerthu mariwana. Roeddwn i’n byw bywyd anfoesol ac yn treulio llawer o amser mewn clybiau nos. Roeddwn i’n colli fy nhymer yn hawdd. Petai rhywun yn dweud neu’n gwneud rhywbeth yn fy erbyn, byddwn i’n gwylltio a dechrau gweiddi ar bobl ac yn eu bwrw. Mewn ffordd, roeddwn i’n gwneud popeth oedd yn groes i beth roedd fy rhieni wedi fy nysgu i’w wneud.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Des i’n ffrind agos i ddyn arall oedd yn cymryd cyffuriau. Roedd ef wedi colli ei dad pan oedd yn ifanc iawn. Roedden ni’n siarad trwy’r nos yn aml. Weithiau roedd yn cyfaddef faint oedd yn colli ei dad. Gan fy mod i wedi dysgu am obaith yr atgyfodiad, dechreuais sôn wrtho am y ffaith bod Iesu wedi atgyfodi’r meirw a’i fod wedi addo gwneud hynny eto yn y dyfodol. (Ioan 5:28, 29) Byddwn i’n dweud wrtho, “Dychmyga weld dy dad unwaith eto. Gallwn ni i gyd fyw am byth mewn Paradwys ar y ddaear.” Roedd y syniadau hynny yn cyffwrdd calon fy ffrind.

Ar adegau eraill, byddai fy ffrind yn gofyn cwestiynau am y dyddiau olaf, neu ddysgeidiaeth y Drindod. Byddwn i’n gafael yn ei Feibl a dangos adnodau iddo oedd yn datgelu’r gwir am Jehofa Dduw, Iesu a’r dyddiau olaf. (Ioan 14:28; 2 Timotheus 3:1-5) Y mwyaf o’n i’n siarad am Jehofa, y mwyaf o’n i’n meddwl amdano.

Fesul tipyn, roedd yr hadau bach roedd Mam a Dad eisoes wedi eu plannu yn fy nghalon yn dechrau tyfu. Er enghraifft, weithiau pan oeddwn i’n cymryd cyffuriau gyda fy ffrindiau mewn partïon, yn sydyn byddwn i’n dechrau meddwl am Jehofa. Roedd llawer o fy ffrindiau yn dweud eu bod nhw’n caru Duw ond doedden nhw ddim ond roedd eu hymddygiad yn dweud fel arall. Doeddwn i ddim eisiau bod fel hynny. Sylweddolais fod angen imi newid. Roedd angen imi droi’n ôl at Jehofa.

Wrth gwrs, mae gwahaniaeth mawr rhwng gwybod beth i’w wneud a llwyddo i’w wneud. Roedd rhai newidiadau’n hawdd. Fe wnes i stopio cymryd cyffuriau heb lawer o drafferth. Fe wnes i dorri cysylltiad â fy hen ffrindiau a dechrau astudio’r Beibl gydag un o’r henuriaid.

Ond roedd newidiadau eraill yn anodd iawn. Roedd rheoli fy nhymer yn hynod o anodd imi. Weithiau, byddwn i’n gwneud yn iawn am gyfnod ac wedyn llithro’n ôl. Roeddwn i’n teimlo’n euog wedyn a meddwl fy mod i’n fethiant llwyr. Wedi digalonni, es i at yr henuriad oedd yn astudio’r Beibl gyda mi. Roedd ef bob amser yn amyneddgar, yn garedig ac yn galonogol. Un tro, dangosodd erthygl yn y Tŵr Gwylio imi am bwysigrwydd dal ati. Fe wnaethon ni drafod camau y gallwn eu cymryd pan oeddwn i’n teimlo’n ddig. Drwy roi ar waith yr hyn roeddwn i wedi dysgu yn yr erthygl, a thrwy weddïo’n daer ar Jehofa, llwyddais i reoli fy nhymer. Ym mis Ebrill 2000, cefais fy medyddio yn un o Dystion Jehofa. Roedd fy rhieni wrth eu boddau.

FY MENDITHION: Bellach mae gen i heddwch meddwl a chydwybod lân, gan wybod nad ydw i’n niweidio fy nghorff drwy gymryd cyffuriau neu fyw’n anfoesol. Ym mhob rhan o fy mywyd—yn fy ngwaith, yn y cyfarfodydd, ac wrth ymlacio​—dw i’n llawer hapusach nag oeddwn i.

Dw i’n diolch i Jehofa am fy rhieni na wnaeth byth gefnu arna i. Dw i hefyd yn cofio geiriau Iesu yn Ioan 6:44: “Does yr un dyn yn gallu dod ata i oni bai fod y Tad, a wnaeth fy anfon i, yn ei ddenu.” Oni bai bod Jehofa wedi fy nenu, faswn i byth wedi medru dychwelyd ato, ac mae hynny yn cyffwrdd fy nghalon.

“Roeddwn i’n Dyheu am Gael Tad Cariadus.”—MARCO ANTONIO ALVAREZ SOTO

GANWYD: 1977

GWLAD ENEDIGOL: TSILE

HANES: AELOD O FAND METEL TRWM

FY NGHEFNDIR: Cefais fy magu gan fy mam yn ninas Punta Arenas, ar Gulfor Magellan yn Ne America. Gwahanodd fy rhieni pan oeddwn i’n bum mlwydd oedd, ac roeddwn i’n teimlo’n unig iawn. Roeddwn i’n dyheu am gael tad cariadus.

Roedd fy mam yn astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa ac roedd hi’n mynd â mi i’r cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas. Ond roeddwn i’n casáu mynd i’r cyfarfodydd a byddwn i’n strancio ar y ffordd. Pan oeddwn i’n 13 oed, stopiais fynd yn gyfan gwbl.

Erbyn hynny roeddwn i wedi dod i garu cerddoriaeth, a sylweddoli bod dawn gen i. Erbyn imi droi’r 15 oed, roeddwn i’n aelod o fand metel trwm a oedd yn chwarae mewn gwyliau, tafarnau a phartïon. Roedd cymdeithasu â cherddorion talentog yn ennyn fy niddordeb mewn cerddoriaeth glasurol. Dechreuais astudio mewn ysgol gerddoriaeth leol. Yn 20 oed, symudais i’r brifddinas, Santiago, er mwyn parhau i astudio. Roeddwn i’n dal i chwarae mewn bandiau metel trwm hefyd.

Ond roeddwn i’n teimlo bod rhywbeth ar goll yn fy mywyd. Er mwyn lleddfu ar y teimladau hynny, byddwn i’n meddwi a chymryd cyffuriau gydag aelodau eraill y band a oedd fel teulu imi. Roeddwn i’n dangos fy agwedd wrthryfelgar drwy wisgo dillad tywyll, tyfu barf, a gadael i’m gwallt dyfu bron at fy ngwasg.

Yn aml, oherwydd fy agwedd ddrwg, byddwn i’n dechrau ymladd a mynd i drwbl gyda’r heddlu. Un tro, ar ôl yfed gormod, fe wnes i ymosod ar grŵp o werthwyr cyffuriau oedd yn achosi trafferth i fy ffrindiau a mi. Fe wnaethon nhw fy nghuro gymaint nes iddyn nhw dorri fy ngên.

Ond yn fwy poenus na hyn oedd cael gwybod bod fy nghariad wedi bod yn cysgu gyda fy ffrind pennaf ers blynyddoedd, a neb wedi dweud wrtho i. Torrodd hynny fy nghalon.

Symudais yn ôl i Punta Arenas, a dechrau cynnal fy hun drwy weithio fel athro cerdd, a chwarae sielo. Roeddwn i hefyd yn dal i chwarae a recordio gyda bandiau metel trwm. Yna cwrddais â merch ddeniadol o’r enw Sussan a dechreuon ni fyw gyda’n gilydd. Yn nes ymlaen, dysgodd Sussan fod ei mam yn credu yn y Drindod. Roedd hi’n gwybod nad dyna oeddwn i’n ei gredu, a gofynnodd imi, “Felly beth ydy’r gwir?” Dywedais innau mod i’n gwybod bod dysgeidiaeth y Drindod yn anghywir ond doeddwn i ddim yn gallu profi hynny o’r Beibl. Sut bynnag, dywedais y byddai Tystion Jehofa yn gallu dangos y gwir iddi o’r Beibl. Yna gwnes i rywbeth nad oeddwn i wedi ei wneud ers blynyddoedd. Gweddïais ar Dduw a gofyn am ei help.

Ychydig o ddyddiau wedyn, gwelais ddyn oedd yn edrych yn gyfarwydd a gofynnais iddo a oedd yn un o Dystion Jehofa. Er ei fod yn pryderu oherwydd y ffordd roeddwn i’n edrych, roedd yn garedig iawn wrth ateb fy nghwestiynau am y cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas. Roeddwn i’n sicr mai dyma oedd yr ateb i fy ngweddi. Es i i Neuadd y Deyrnas ac eistedd yn y rhes gefn fel bod neb yn sylwi arna i. Ond roedd llawer o bobl yno yn fy nghofio i’n blentyn. Fe wnaethon nhw roi croeso cynnes imi a daeth ton o heddwch anhygoel drosto i. Roedd fel petawn i wedi dod adref. Pan welais y dyn oedd yn arfer astudio’r Beibl gyda mi pan oeddwn i’n blentyn, gofynnais iddo astudio gyda mi unwaith eto.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD: Un diwrnod, darllenais Diarhebion 27:11, sy’n dweud: “Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi’n hapus.” Roedd gwybod bod unigolyn yn gallu gwneud Creawdwr y bydysawd yn hapus yn gwneud argraff fawr arna i. Sylweddolais mai Jehofa oedd y Tad cariadus roeddwn i wedi bod yn dyheu amdano drwy gydol fy mywyd.

Roeddwn i eisiau plesio fy Nhad nefol a gwneud ei ewyllys, ond roeddwn i wedi bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol am lawer o flynyddoedd. Des i ddeall geiriau Iesu ym Mathew 6:24, sy’n dweud: “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd.” Wrth imi stryffaglu i newid fy mywyd, gwelais pa mor bwysig oedd yr egwyddor yn 1 Corinthiaid 15:33: “Mae cwmni drwg yn difetha arferion da.” Sylweddolais na fyddwn i’n gallu newid fy mywyd petaswn i’n dal i fynd i’r un llefydd a threulio amser gyda’r un bobl. Roedd cyngor y Beibl yn glir. Roedd rhaid imi dorri’n rhydd o’r pethau oedd yn gwneud imi faglu.—Mathew 5:30.

Roeddwn i wrth fy modd gyda cherddoriaeth. Felly roedd gadael y byd metel trwm yn un o’r penderfyniadau anoddaf imi. Ond gyda help fy ffrindiau yn y gynulleidfa, llwyddais i dorri’n rhydd. Stopiais oryfed a chymryd cyffuriau. Fe wnes i dorri fy ngwallt, cael gwared ar fy marf, a stopio gwisgo dillad du yn unig. Pan ddywedais wrth Sussan fy mod i eisiau torri fy ngwallt roedd hi’n syfrdan “Dw i am fynd gyda ti i’r Neuadd y Deyrnas yma i weld beth sy’n mynd ymlaen yno,” meddai. Roedd hi wrth ei bodd gyda’r hyn a welodd yno, ac yn fuan iawn, dechreuodd hithau astudio’r Beibl. Yn y pen draw, fe wnaethon ni briodi ac yn 2008 cawson ni ein bedyddio’n Dystion Jehofa. Rydyn ni’n hapus iawn i wasanaethu Jehofa gyda fy mam.

FY MENDITHION: Dw i wedi dianc o fyd llawn ffug-hapusrwydd a chwmni niweidiol. Dw i’n dal i fwynhau cerddoriaeth, ond bellach dw i’n dewis yn gall. Heddiw, dw i’n defnyddio fy mhrofiadau i helpu aelodau o fy nheulu ac eraill, yn enwedig pobl ifanc. Dw i eisiau eu helpu nhw i weld bod llawer o’r pethau mae’r byd yn eu cynnig “yn sbwriel,” er ei fod yn gallu edrych yn ddeniadol.—Philipiaid 3:8.

Dw i wedi cael ffrindiau ffyddlon yn y gynulleidfa Gristnogol, lle mae cariad a heddwch yn ffynnu. Ac yn bwysicaf oll, drwy nesáu at Jehofa, o’r diwedd dw i wedi dod o hyd i Dad cariadus.

[Broliant]

“Oni bai bod Jehofa wedi fy nenu, faswn i byth wedi medru dychwelyd ato”