Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR | CELWYDDAU SYʼN GWNEUD HIʼN ANODD CARU DUW

Yr Her i Garu Duw

Yr Her i Garu Duw

“‘Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid â’th holl feddwl.’ Dyma’r gorchymyn cyntaf a’r pwysica.”—Iesu Grist, 33 OG *

Mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd caru Duw. Maen nhw’n teimlo bod Duw yn amhosib ei ddeall, yn rhy bell i ffwrdd, neu hyd yn oed yn greulon. Ystyriwch y sylwadau canlynol:

  • “Gweddïais ar Dduw am help, ond ar yr un pryd, o’n i’n meddwl ei fod yn bell i ffwrdd, bron yn amhosib i’w gyrraedd. Doeddwn i ddim yn meddwl bod gan Dduw deimladau.”—Marco, Yr Eidal.

  • “Er fy mod i wir eisiau gwasanaethu Duw, ro’n i’n teimlo ei fod yn bell i ffwrdd. O’n i’n meddwl ei fod yn Dduw creulon sy ddim ond eisiau ein cosbi. Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod yn dyner.”—Rosa, Gwatamala.

  • “Pan o’n i’n blentyn, ro’n i’n meddwl bod Duw yn chwilio am ein camgymeriadau, yn barod i’n cosbi ni. Nes ymlaen, ro’n i’n credu nad oedd Duw yn malio dim amdanon ni. Roedd Duw fel prif weinidog sy’n rheoli’r bobl, ond sydd ddim yn poeni amdanyn nhw mewn gwirionedd.”—Raymonde, Canada.

Beth rydych chi’n ei feddwl? Ydy hi’n amhosib i ni garu Duw? Mae Cristnogion wedi gofyn y cwestiwn hwn ers canrifoedd. Yn wir, yn yr Oesoedd Canol, nid oedd y rhan fwyaf o bobl y Gwledydd Cred yn gweddïo ar y Duw Goruchaf, oherwydd eu bod yn ei ofni. Dywed yr hanesydd Will Durant: “Ni fyddai pechadur yn meiddio gweddïo ar Dduw a oedd mor ofnadwy ac mor bell i ffwrdd.”

Pam roedd pobl yn teimlo bod Duw “mor ofnadwy ac mor bell i ffwrdd”? Beth mae’r Beibl yn ei wir ddysgu am Dduw? A all dysgu’r gwir am Dduw eich helpu chi i’w garu?