AR Y CLAWR | Y BEIBL—HANES GOROESIAD
Stori Sy’n Werth ei Dweud
Mae’r Beibl yn unigryw ymhlith testunau crefyddol. Does ’na’r un llyfr arall wedi dylanwadu ar ddaliadau cymaint o bobl dros gyfnod mor hir. Ar y llaw arall, does ’na’r un llyfr arall wedi sbarduno gymaint o ymchwil manwl a beirniadaeth.
Er enghraifft, mae rhai ysgolheigion yn amau a ydy Beiblau modern yn gopïau dibynadwy o’r ysgrifau gwreiddiol. “Ni allwn fod yn sicr ein bod ni wedi adfer y testun gwreiddiol yn gywir,” meddai un athro astudiaethau crefyddol. “Dim ond copïau llawn camgymeriadau sydd gynnon ni, ac mae’r rhan fwyaf o’r copïau hynny wedi eu gwneud ganrifoedd ar ôl y gwreiddiol, ac yn amlwg yn amrywio mewn miloedd o ffyrdd.”
Mae eraill yn cwestiynu cywirdeb y Beibl oherwydd eu cefndir crefyddol. Er enghraifft, cafodd Faizal ei ddysgu gan ei deulu, nad oedd yn Gristnogion, fod y Beibl yn llyfr sanctaidd ond ei fod wedi cael ei newid. “Oherwydd hynny, roeddwn i braidd yn ddrwgdybus pan fyddai pobl eisiau siarad â mi am y Beibl,” meddai. “Wedi’r cwbl, doedd ganddyn nhw ddim y Beibl gwreiddiol. Roedd hwnnw wedi cael ei newid!”
Oes ’na wahaniaeth p’un a ydy’r Beibl wedi cael ei newid neu beidio? Wel, ystyriwch y cwestiynau hyn: A allwch chi ymddiried yn addewidion cysurlon y Beibl ar gyfer y dyfodol os nad ydych chi’n sicr a oedd yr addewidion hynny yn y testun gwreiddiol? (Rhufeiniaid 15:4) A fyddech chi’n defnyddio egwyddorion y Beibl i wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â’ch gwaith, teulu, neu addoliad petai Beiblau modern yn llawn gwallau?
Er bod llyfrau gwreiddiol y Beibl wedi diflannu, gallwn astudio copïau hynafol—gan gynnwys miloedd o lawysgrifau Beiblaidd. Sut gwnaeth y llawysgrifau hynny oroesi pydredd, gwrthwynebiad, ac ymdrechion i newid y testun? Sut gall y ffaith eu bod nhw wedi goroesi adeiladu eich hyder yn yr hyn rydych chi’n ei ddarllen yn y Beibl heddiw? Ystyriwch yr atebion i’r cwestiynau hynny yn hanes goroesiad y Beibl.