Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Wnes i Fethu Nifer o Weithiau Cyn imi Lwyddo

Wnes i Fethu Nifer o Weithiau Cyn imi Lwyddo
  • GANWYD: 1953

  • GWLAD ENEDIGOL: AWSTRALIA

  • HANES: YN GAETH I BORNOGRAFFI

FY NGHEFNDIR:

Gwnaeth fy nhad ymfudo o’r Almaen i Awstralia ym 1949. Roedd yn chwilio am waith yn y diwydiant cloddio a symudodd i fyw i ardal wledig yn Victoria. Yno briododd fy mam, a chefais i fy ngeni ym 1953.

Ychydig o flynyddoedd wedyn, dechreuodd fy mam astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa. Felly, rydw i’n cofio dysgu beth mae’r Beibl yn ei ddweud pan o’n i’n ifanc iawn. Ond, nid oedd gan fy nhad unrhyw barch tuag at grefydd. Daeth yn ddyn treisgar, ac roedd gan fy mam ofn ohono. Er gwaethaf hyn, daliodd ati i astudio’r Beibl yn ddistaw bach a daeth hi i garu’r hyn roedd hi’n ei ddysgu. Tra oedd dad allan, roedd hi’n rhannu’r hyn roedd hi’n ei ddysgu gyda fy chwaer a minnau. Roedd hi’n sôn am y baradwys a oedd i ddod ar y ddaear a sut gallwn ni fod yn hapus o ddilyn safonau’r Beibl.​—Salm 37:10, 29; Eseia 48:17.

Pan o’n i’n 18, roedd yn rhaid imi adael y cartref oherwydd bod fy nhad yn dreisgar. Er fy mod i’n credu’r hyn roedd fy mam wedi fy nysgu o’r Beibl, nid oeddwn i’n ei werthfawrogi. Felly, nid oeddwn i’n byw yn ôl safonau’r Beibl. Dechreuais weithio fel trydanwr yn y pwll glo lleol. Pan o’n i’n ugain mlwydd oed fe briodais a chawson ni ferch tair blynedd wedyn. Ar ôl hyn, fe wnes i ailystyried beth oedd yn bwysig yn fy mywyd. Roeddwn i’n gwybod bod y Beibl yn gallu helpu fy nheulu, felly dechreuais astudio’r Beibl gydag un o Dystion Jehofa. Ond roedd fy ngwraig yn gwrthwynebu’n llym. Ar ôl imi fynd i un o’u cyfarfodydd, dywedodd fy ngwraig bod yn rhaid imi ddewis rhwng fy nheulu ac astudio’r Beibl. O dan y pwysau, penderfynais stopio cymdeithasu â’r Tystion. Ond yn nes ymlaen, fe wnes i ddifaru fy mhenderfyniad.

Un diwrnod, dangosodd un o fy nghyd-weithwyr bornograffi i mi. Roedd yn ddeniadol, ond eto’n ffiaidd ar yr un pryd. Ac roedd hyn yn gwneud imi deimlo’n euog ofnadwy. Gan gofio beth roedd y Beibl yn ei ddweud, roeddwn i’n credu y byddai Duw yn fy nghosbi. Ond wrth imi weld mwy a mwy o luniau budr, dechreuodd fy agwedd tuag at bornograffi newid. Ac yn y pen draw fe ddes i’n gaeth iddo.

Dros yr ugain mlynedd nesaf, es i’n bellach ac ymhellach oddi wrth y safonau roedd fy mam wedi fy nysgu yn blentyn. Roedd fy ymddygiad yn dangos yn union beth oedd yn llenwi fy meddwl. Roedd fy iaith a fy hiwmor yn fudr iawn. Roedd fy agwedd tuag at ryw yn hollol anghywir. Er fy mod i’n dal i fyw gyda fy ngwraig, roeddwn i’n caboli â merched eraill. Un diwrnod edrychais ar fy hun mewn drych a meddwl ‘dw i’m yn hoffi chdi.’ Dechreuais gasáu fy hun.

Daeth fy mhriodas i ben, ac roedd fy mywyd yn rhacs. Yna, gweddïais ar Jehofa o waelod fy nghalon. Dechreuais astudio’r Beibl unwaith eto, er bod ryw ugain mlynedd wedi mynd heibio. Erbyn hynny roedd fy nhad wedi marw, ac roedd fy mam wedi cael ei bedyddio’n un o Dystion Jehofa.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Roedd yna wahaniaeth mawr rhwng fy mywyd i a safonau uchel y Beibl. Ond y tro hwn, roeddwn i’n benderfynol o gael yr heddwch meddwl roedd y Beibl yn ei addo. Dechreuais newid fy iaith anweddus a thawelu fy nhymer. Penderfynais hefyd roi’r gorau i fy mywyd anfoesol, stopio gamblo, stopio yfed gormod, a stopio dwyn oddi ar fy nghyflogwr.

Nid oedd fy nghyd-weithwyr yn deall pam roeddwn i eisiau newid. Ac am dair blynedd, roedden nhw’n rhoi pwysau arna i i fynd yn ôl i fy hen ffyrdd. Os oeddwn i’n gwneud camgymeriad fel gwylltio neu regi, byddan nhw wrth eu boddau’n gweiddi: “Aha! Mae’r hen Joe yn ôl.” Roedd y geiriau hynny’n fy mrifo i’r byw, ac yn aml roeddwn i’n teimlo’n fethiant llwyr.

Yn fy ngweithle, roedd pornograffi ym mhobman, yn electronig ac ar bapur. Roedd fy nghyd weithwyr yn anfon lluniau budr ar eu cyfrifiaduron, fel roeddwn i’n arfer gwneud. Roeddwn i’n ceisio torri’n rhydd o afael pornograffi, ond roedden nhw’n benderfynol o fy maglu. Gofynnais am gymorth gan y brawd oedd yn astudio’r Beibl gyda mi. Gwrandawodd yn astud wrth imi dywallt fy nghalon. Roedd yn dangos adnodau yn y Beibl i’m helpu i drechu’r arfer, ac fe anogodd fi i ddal ati i ofyn am help Jehofa mewn gweddi.​—Salm 119:37.

Un diwrnod gofynnais i fy nghyd weithwyr ddod at ei gilydd. Dywedais wrthyn nhw am roi cwrw i ddau ddyn yno a oedd yn alcoholigion. Protestiodd y grŵp, gan ddweud: “Gelli di ddim gwneud hynny! Mae’r dynion yma yn brwydro yn erbyn problem ag alcohol.” Dywedais: “Ydyn, ac mae gen i broblem â phornograffi.” O’r diwrnod hwnnw, roedd y dynion hyn yn gweld fy mrwydr yn erbyn pornograffi a bellach ddim yn rhoi pwysau arna i fynd yn ôl i fy hen ffyrdd.

Mewn amser, a gyda help Jehofa, llwyddais i drechu’r arfer o wylio pornograffi. Ym 1999, cefais fy medyddio’n un o Dystion Jehofa. Rydw i’n mor falch fy mod i wedi cael ail gyfle i fyw bywyd glân a hapus.

Rydw i bellach yn deall pam mae Jehofa yn casáu’r pethau roeddwn i’n arfer eu caru. Fel Tad cariadus, roedd eisiau fy amddiffyn o niwed pornograffi. Mae geiriau Diarhebion 3:​5, 6 mor wir. Mae’n dweud: “Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.” Yn wir, mae safonau’r Beibl yn ein hamddiffyn ni ac yn sicrhau llwyddiant.​—Salm 1:1-3.

FY MENDITHION:

Yn y gorffennol, roeddwn i’n gywilydd iawn o fy ymddygiad, ond nawr mae gen i hunan-barch a heddwch meddwl. Rydw i’n byw bywyd glan ac yn gweld bod Jehofa yn maddau ac yn barod i fod yn gefn imi. Yn y flwyddyn 2000 briodais Karolin, chwaer brydferth sy’n caru Jehofa gymaint â minnau. Mae ein cartref yn un heddychlon. Mae wir yn fraint inni fod yn rhan o frawdoliaeth fyd-eang sy’n lân ac yn gariadus.