Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Gwerthfawrogi Caredigrwydd Anhaeddiannol Duw

Gwerthfawrogi Caredigrwydd Anhaeddiannol Duw

“O’i gyflawnder ef yr ydym ni oll wedi derbyn gras ar ben gras.”—IOAN 1:16.

CANEUON: 95, 13

1, 2. (a) Disgrifia ddameg Iesu am berchennog y winllan. (b) Sut mae’r stori yn tynnu sylw at rinweddau fel haelioni a charedigrwydd anhaeddiannol?

YN GYNNAR un bore, dyma ddyn a oedd yn cynhyrchu gwin yn mynd i’r farchnad i gyflogi dynion i weithio yn ei winllan. Cytunodd y dynion ar y cyflog a dechreuon nhw ar eu gwaith. Ond roedd angen mwy o weithwyr ar y perchennog ac roedd rhaid iddo fynd yn ôl i’r farchnad i gyflogi mwy a mwy o ddynion, gan gynnig cyflog teg iddyn nhw, hyd yn oed i’r rhai a gyflogwyd ar ddiwedd y prynhawn. Gyda’r hwyr, dyma’n hel y gweithwyr at ei gilydd er mwyn rhoi eu cyflog iddyn nhw, a rhoddodd yr un cyflog i bob un ohonyn nhw, p’un a oedden nhw wedi bod yn llafurio am oriau maith neu am un awr yn unig. Pan ddaeth y rhai a gyflogwyd yn gyntaf i wybod am hyn, dechreuon nhw rwgnach. Gofynnodd y cyflogwr iddyn nhw: “Onid am un darn arian y cytunaist â mi? . . . Onid yw’n gyfreithlon imi wneud fel rwy’n dewis â’m heiddo fy hun? Neu ai cenfigen yw dy ymateb i’m haelioni?”—Math. 20:1-15, tdn.

2 Mae dameg Iesu yn ein hatgoffa ni o un o rinweddau Jehofa y soniwyd amdani’n aml yn y Beibl—ei garedigrwydd anhaeddiannol. [1] (Darllen 2 Corinthiaid 6:1.) Nid oedd hi’n ymddangos yn deg fod y gweithwyr a weithiodd un awr yn unig yn derbyn y cyflog llawn, ond dangosodd perchennog y winllan garedigrwydd rhyfeddol tuag atyn nhw. Gan gyfeirio at y gair ar gyfer “caredigrwydd anhaeddiannol” a gyfieithir gan y gair ‘gras’ mewn llawer o Feiblau, ysgrifennodd un ysgolhaig: “Y prif syniad y tu ôl i’r gair yw rhodd sy’n rhad ac am ddim ac yn anhaeddiannol, rhywbeth a roddwyd i ddyn heb iddo ei ennill a heb iddo fod yn deilwng ohono.”

RHODD HAEL JEHOFA

3, 4. Pam mae Jehofa wedi dangos caredigrwydd anhaeddiannol tuag at holl ddynolryw, a sut?

3 Mae’r Ysgrythurau’n sôn am rodd gras Duw sy’n rhad ac am ddim. (Eff. 3:7) Pam mae Jehofa yn rhoi’r rhodd hon, a sut? Petawn ni’n cwrdd â phob un o ofynion Jehofa’n berffaith, fe fyddai ei garedigrwydd tuag aton ni’n haeddiannol. Fel y mae hi, rydyn ni’n methu gwneud hynny. Ysgrifennodd y Brenin doeth Solomon: “Nid oes neb cyfiawn ar y ddaear sydd bob amser yn gwneud daioni, heb bechu.” (Preg. 7:20) Dywedodd Paul hefyd: “Y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw,” ac mae “pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth.” (Rhuf. 3:23; 6:23a) Dyna yw’r hyn rydyn ni’n ei haeddu.

4 Fodd bynnag, gwnaeth Jehofa fynegi ei gariad tuag at y ddynoliaeth bechadurus drwy ddangos caredigrwydd anhaeddiannol heb ei ail. Ei rodd fwyaf oll oedd “ei unig-anedig Fab” a anfonwyd i’r ddaear i farw droson ni. (Ioan 3:16, Y Beibl Cysegr-lân) Ynglŷn â Iesu, ysgrifennodd Paul ei fod “wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd oherwydd iddo ddioddef marwolaeth, er mwyn iddo, trwy ras Duw, brofi marwolaeth dros bob dyn.” (Heb. 2:9) Yn wir, “rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.”—Rhuf. 6:23b.

5, 6. Beth yw’r canlyniadau pan ydyn ni’n cael ein teyrnasu gan (a) bechod? (b) caredigrwydd anhaeddiannol?

5 Sut gwnaeth dynolryw etifeddu pechod a marwolaeth? Mae’r Beibl yn esbonio: “Y mae’n wir i farwolaeth, trwy drosedd yr un [sef Adda], deyrnasu trwy’r un hwnnw” dros ei ddisgynyddion. (Rhuf. 5:12, 14, 17) Er hynny, rydyn ni’n falch y gallwn ddewis i beidio â’n rhoi ein hunain o dan deyrnasiad ac awdurdod pechod. Sut felly? “Ond lle’r amlhaodd pechod, daeth gorlif helaethach o ras; ac felly, fel y teyrnasodd pechod trwy farwolaeth, y mae gras i deyrnasu trwy gyfiawnder, gan ddwyn bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.”—Rhuf. 5:20, 21.

6 Er mai pechaduriaid ydyn ni o hyd, nid oes rhaid inni blygu i bechod a gadael iddo arglwyddiaethu ar ein bywyd. Pan ydyn ni’n ildio i bechod, rydyn ni’n gofyn i Jehofa am faddeuant. Rhybuddiodd Paul: “Nid chaiff pechod arglwyddiaethu arnoch, oherwydd nid ydych mwyach dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras.” (Rhuf. 6:14) Felly, rydyn ni bellach o dan deyrnasiad caredigrwydd anhaeddiannol Duw. Beth yw’r canlyniad? Eglurodd Paul fod gras Duw yn “ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw’n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol.”—Titus 2:11, 12.

GWAHANOL AGWEDDAU AR GAREDIGRWYDD ANHAEDDIANNOL DUW

7, 8. Sut mae caredigrwydd anhaeddiannol Jehofa yn cael ei fynegi mewn amryw ffyrdd? (Gweler y lluniau agoriadol.)

7 Ysgrifennodd yr apostol Paul: “Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw.” (1 Pedr 4:10) Beth yw ystyr hyn? Beth bynnag yw natur yr anawsterau sy’n codi mewn bywyd, gall Jehofa ein helpu i ymdopi â nhw. (1 Pedr 1:6) Mae caredigrwydd Duw yn drech nag unrhyw anhawster a all godi yn ein bywydau ni.

8 Yn wir, mae sawl gwedd ar garedigrwydd Jehofa. Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “O’i gyflawnder ef yr ydym ni oll wedi derbyn gras ar ben gras.” (Ioan 1:16) Oherwydd bod Jehofa wedi dangos ei garedigrwydd mewn amryw ffyrdd, rydyn ni’n derbyn llawer o fendithion. Beth yw rhai ohonyn nhw?

9. Sut gallwn ni gael budd o garedigrwydd anhaeddiannol Jehofa, a sut gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad?

9 Cael maddeuant i’n pechodau. Oherwydd ei garedigrwydd anhaeddiannol, mae Jehofa yn maddau inni ein pechodau, cyn belled ag ein bod ni’n ymladd yn galed yn erbyn ein tueddiadau pechadurus. (Darllen 1 Ioan 1:8, 9.) Dylai trugaredd Duw wneud inni deimlo’n ddiolchgar a’n hysgogi ni i’w ogoneddu. Wrth ysgrifennu at ei gyd-Gristnogion eneiniog, dywedodd Paul: “Gwaredodd [Jehofa] ni o afael y tywyllwch, a’n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab, yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau.” (Col. 1:13, 14) Mae derbyn maddeuant i’n pechodau yn agor y drws i lawer o fendithion.

10. Pa fendith sy’n dod inni oherwydd caredigrwydd anhaeddiannol Duw?

10 Cael perthynas heddychlon â Duw. Oherwydd ein cyflwr pechadurus, rydyn ni’n elynion i Dduw o’n genedigaeth. Gwnaeth Paul gydnabod hyn: “Cymodwyd ni â Duw trwy farwolaeth ei Fab.” (Rhuf. 5:10) Mae’r cymodi hwn yn caniatáu inni fod mewn heddwch â Jehofa. Mae Paul yn cysylltu’r fraint hon â charedigrwydd anhaeddiannol, drwy ddweud: “Oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym [sef, brodyr eneiniog Crist] heddwch â Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Trwyddo ef, yn wir, cawsom ffordd, trwy ffydd, i ddod i’r gras hwn yr ydym yn sefyll ynddo.” (Rhuf. 5:1, 2) Am fendith yw hon!

Bendithion sy’n dod o garedigrwydd anhaeddiannol Duw: Y fraint o glywed y newyddion da (Gweler paragraff 11)

11. Sut mae’r eneiniog yn troi’r defaid eraill at gyfiawnder?

11 Cael ein cyfiawnhau trwy ffydd. O ran natur, rydyn ni i gyd yn anghyfiawn. Ond rhagfynegodd y proffwyd Daniel y bydd y rhai “deallus,” neu’r gweddill eneiniog, yn “troi llawer at gyfiawnder” yn ystod amser y diwedd. (Darllen Daniel 12:3.) Trwy eu gwaith pregethu, maen nhw wedi troi miliynau o “ddefaid eraill” at gyfiawnder gerbron Jehofa. (Ioan 10:16) Fodd bynnag, mae hyn yn bosibl dim ond drwy garedigrwydd anhaeddiannol Jehofa. Esboniodd Paul: “Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu.”—Rhuf. 3:23, 24.

Y fendith o weddi (Gweler paragraff 12)

12. Sut mae gweddi yn gysylltiedig â charedigrwydd anhaeddiannol Duw?

12 Nesáu at orsedd Duw trwy weddïo. Oherwydd ei garedigrwydd anhaeddiannol, mae Jehofa yn caniatáu inni’r fendith o nesáu at ei orsedd drwy weddi. Yn wir, disgrifiodd Paul orsedd Jehofa yn “orsedd gras” ac mae’n ein gwahodd ni i nesáu mewn hyder at yr orsedd honno. (Heb. 4:16a) Mae Jehofa wedi rhoi’r fraint hon inni drwy gyfrwng ei Fab. Ynglŷn â hyn, dywed y Beibl: “Ynddo ef, a thrwy ffydd ynddo yr ydym yn cael dod at Dduw yn eofn a hyderus.” (Eff. 3:12) Mae’r rhyddid i weddïo ar Jehofa unrhyw adeg yn fynegiant o’i garedigrwydd anhaeddiannol tuag aton ni.

Cael cymorth yn ei bryd (Gweler paragraff 13)

13. Sut gall caredigrwydd anhaeddiannol fod yn “gymorth yn ei bryd”?

13 Cael cymorth yn ei bryd. Gwnaeth Paul ein hannog ni i weddïo ar Jehofa unrhyw adeg “er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.” (Heb. 4:16b) Pan fo anawsterau neu helbul yn taro ein bywydau, gallwn erfyn ar Jehofa am ei gymorth trugarog. Er nad ydyn ni’n haeddu sylw, mae’n ateb ein deisyfiadau, yn aml drwy ddefnyddio ein cyd-Gristnogion, fel y gallwn ddweud yn hyderus: “‘Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf;’ beth a wna pobl i mi?”—Heb. 13: 6.

14. Sut mae caredigrwydd anhaeddiannol yn cysuro ein calonnau?

14 Cysuro ein calonnau. Bendith fawr sy’n dod inni drwy garedigrwydd anhaeddiannol Jehofa yw cysur calon. (Salm 51:17) At y Cristnogion yn Thesalonica, a oedd yn dioddef erledigaeth, ysgrifennodd Paul: “Dw i’n gweddïo y bydd ein Harglwydd Iesu Grist, a Duw ein Tad (sydd wedi’n caru ni, ac wedi bod mor hael yn rhoi hyder ddaw byth i ben a dyfodol sicr i ni), yn eich cysuro ac yn rhoi nerth i chi.” (2 Thes. 2:16, 17, beibl.net) Cysur mawr yw gwybod bod y gofal cariadus rydyn ni’n ei dderbyn gan Jehofa yn deillio o’i garedigrwydd hael!

15. O ganlyniad i garedigrwydd anhaeddiannol Duw, pa obaith sydd gennyn ni?

15 Cael y gobaith o fyw am byth. Fel pechaduriaid, ar ein pennau ein hunain, ni fyddai unrhyw obaith gennyn ni. (Darllen Salm 49:7, 8.) Ond mae Jehofa wedi rhoi gobaith rhyfeddol inni. Addawodd Iesu i’w ddilynwyr: “Ewyllys fy Nhad yw hyn: fod pob un sy’n gweld y Mab ac yn credu ynddo i gael bywyd tragwyddol.” (Ioan 6:40) Yn wir, mae’r gobaith o fywyd tragwyddol yn rhodd ac yn esiampl ragorol o garedigrwydd anhaeddiannol Duw. Roedd Paul yn gwerthfawrogi’r ffaith honno, a dywedodd: “Oherwydd amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bawb.”—Titus 2:11.

SARHAU CAREDIGRWYDD ANHAEDDIANNOL DUW

16. Sut gwnaeth rhai Cristnogion cynnar sarhau caredigrwydd anhaeddiannol Duw?

16 Er bod caredigrwydd anhaeddiannol Jehofa yn dod â llu o fendithion inni, ni ddylen ni fod mor hy â meddwl bod Duw yn goddef pob math o ymddygiad. Ymhlith y Cristnogion cynnar, roedd yna rai a oedd yn ceisio “troi gras ein Duw ni yn anlladrwydd,” neu’n esgus i fyw’n anfoesol. (Jwd. 4) Mae’n amlwg fod y Cristnogion anffyddlon hynny yn meddwl y gallen nhw bechu oherwydd y byddai Jehofa bob amser yn maddau iddyn nhw. Ond yn waeth byth, roedden nhw’n ceisio denu eu brodyr i ymuno â nhw yn eu drwgweithredu sarhaus. Hyd yn oed heddiw, mae unrhyw un sy’n gwneud hynny yn “difenwi [neu’n sarhau] Ysbryd grasol Duw.”—Heb. 10:29.

17. Pa gyngor cryf a roddodd Pedr?

17 Heddiw, mae Satan wedi twyllo Cristnogion i gredu y gallen nhw bechu heb ofn o gael eu cosbi oherwydd trugaredd Duw. Ond er bod Jehofa yn fodlon maddau i bechaduriaid edifar, mae’n disgwyl inni frwydro’n galed yn erbyn ein tueddiadau pechadurus. Ysbrydolwyd Pedr gan Dduw i ysgrifennu: “Ond yr ydych chwi, gyfeillion annwyl, yn gwybod am y pethau hyn eisoes. Byddwch ar eich gwyliadwriaeth, felly, rhag ichwi gael eich ysgubo ymaith gan gyfeiliornad rhai afreolus, a syrthio o’ch safle cadarn. Ond cynyddwch mewn gras, ac mewn gwybodaeth o’n Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist.”—2 Pedr 3:17, 18.

MAE CAREDIGRWYDD ANHAEDDIANNOL YN DOD Â CHYFRIFOLDEBAU

18. Oherwydd caredigrwydd anhaeddiannol Jehofa, pa gyfrifoldebau sy’n rhaid inni eu hysgwyddo?

18 Oherwydd ein bod ni mor ddiolchgar i Jehofa am ei garedigrwydd, rydyn ni’n derbyn y cyfrifoldeb o ddefnyddio ein doniau i anrhydeddu Duw a helpu eraill. Ym mha ffordd? Mae Paul yn rhoi’r ateb: “Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. . . . Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen ti’r ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynny’n gydwybodol. Os wyt ti’n rhywun sy’n annog pobl eraill, bwrw iddi! . . . Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny’n llawen.” (Rhuf. 12:6-8, beibl.net) Mae caredigrwydd anhaeddiannol Jehofa yn ein rhoi ni o dan orfodaeth i fod yn brysur yn y weinidogaeth Gristnogol, i ddysgu eraill am y Beibl, i annog ein cyd-Gristnogion, ac i faddau i eraill sydd wedi pechu yn ein herbyn.

19. Pa gyfrifoldeb bydd yn cael ei drafod yn yr erthygl nesaf?

19 Fel rhai sydd wedi derbyn cariad hael Duw, dylen ni wneud ein gorau “i dystiolaethu i Efengyl gras Duw.” (Act. 20:24) Bydd y cyfrifoldeb hwn yn cael ei drafod yn fanwl yn yr erthygl ganlynol.

^ [1] (paragraff 2) Gweler “Undeserved kindness” yn “Glossary of Bible Terms” yn y New World Translation diwygiedig, a hefyd “Gras” yn “Geirfa” y beibl.net.