Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ceisia’r Deyrnas, Nid Pethau

Ceisia’r Deyrnas, Nid Pethau

“Ceisiwch yn hytrach ei deyrnas ef, a rhoir y pethau hyn yn ychwaneg i chwi.”—LUC 12:31.

CANEUON: 40, 98

1. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng anghenion a dymuniadau?

FE DDYWEDWYD mai ychydig o bethau sydd eu hangen ar bobl, ond bod eu chwantau yn ddi-ben-draw. Mae’n debyg nad yw llawer yn gallu gweld y gwahaniaeth rhwng anghenion a dymuniadau. Beth yw’r gwahaniaeth? Mae rhywbeth rydyn ni’n ei “angen” yn hanfodol ar gyfer bywyd, megis bwyd, dillad, a lloches. Mae “dymuniad” yn rhywbeth bydden ni’n hoffi ei gael, ond nid yw’n angenrheidiol ar gyfer bywyd bob dydd.

2. Pa bethau y mae rhai pobl yn eu dymuno?

2 Mae’r hyn y mae pobl yn ei ddymuno yn amrywio o un lle i’r llall. Mewn gwledydd sy’n datblygu, y cwbl mae llawer eisiau yw cael digon o bres i brynu ffôn symudol, moto-beic, neu ddarn bach o dir. Mewn gwledydd sy’n fwy cyfoethog, mae pobl efallai yn dymuno dillad hardd, car gwell, neu dŷ mawr. Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae yna berygl ynghlwm â materoliaeth, sef inni ddymuno mwy a mwy o bethau, p’un a ydyn ni’n gallu eu fforddio nhw ai peidio.

OSGOI MAGL MATEROLIAETH

3. Beth yw materoliaeth?

3 Beth yw materoliaeth? Mae’n golygu canolbwyntio ar bethau materol yn hytrach na phethau ysbrydol. Mae materoliaeth wedi ei wreiddio yn nymuniadau ac ym mlaenoriaethau rhywun. Mae’n creu chwant ynon ni am lawer o feddiannau materol. Nid yw person materol o reidrwydd yn gyfoethog, neu’n prynu llawer o bethau drud. Gall hyd yn oed pobl dlawd fod yn faterol ac esgeuluso ceisio’r Deyrnas yn gyntaf.—Heb. 13:5.

4. Sut mae Satan yn defnyddio trachwant y llygaid?

4 Mae Satan yn defnyddio ei fyd masnachol i’n hudo ni. Mae’n gwneud inni gredu bod cael pethau materol sydd y tu hwnt i’n hanghenion yn hanfodol ar gyfer mwynhau bywyd. Mae’n hen law ar apelio at drachwant y llygaid. (1 Ioan 2:15-17; Gen. 3:6; Diar. 27:20) Mae’r byd yn cynnig pob math o bethau materol, o’r da i’r chwerthinllyd, ac mae rhai ohonyn nhw’n edrych yn ddeniadol iawn. Wyt ti erioed wedi prynu rhywbeth, nid oherwydd dy fod ti’n ei angen, ond oherwydd ei fod wedi tynnu dy lygad mewn hysbyseb, neu mewn siop? A wnest ti wedyn sylweddoli y gallet ti fod wedi byw gweddill dy oes hebddo? Mae pethau diangen o’r fath yn cymhlethu bywyd ac yn feichus. Maen nhw’n gallu tynnu dy sylw oddi wrth bethau ysbrydol fel astudio’r Beibl, paratoi ar gyfer y cyfarfodydd a’u mynychu, a mynd ar y weinidogaeth yn rheolaidd. Cofia, rhybuddiodd yr apostol Ioan: “Y mae’r byd a’i drachwant yn mynd heibio.”

5. Beth all ddigwydd i’r rhai sy’n defnyddio eu hegni i gael mwy o bethau?

5 Mae Satan eisiau inni geisio arian yn hytrach na gwasanaethu Jehofa. (Math. 6:24) Ond os ydyn ni’n canolbwyntio’n llwyr ar gael mwy o bethau i ni’n hunain, bydd ein bywydau yn ddi-ystyr. Gallen ni fynd yn rhwystredig neu i ddyled, neu’n waeth na hynny, gallen ni golli ein ffydd yn Jehofa. (1 Tim. 6:9, 10; Dat. 3:17) Disgrifiodd Iesu sefyllfa o’r fath yn ei ddameg am yr heuwr. Pan fo neges y Deyrnas yn cael ei hau “ymhlith y drain,” mae “chwantau am bopeth o’r fath yn dod i mewn ac yn tagu’r gair, ac y mae’n mynd yn ddiffrwyth.”—Marc 4:14, 18, 19.

6. Pa wers rydyn ni’n ei dysgu oddi wrth hanes Baruch?

6 Ystyria’r proffwyd Baruch, sef ysgrifennydd Jeremeia. Er y gwyddai Baruch y byddai Jerwsalem yn cael ei dinistrio, roedd yn ceisio pethau mawrion iddo’i hun, pethau na fydd o les iddo yn y tymor hir. Sut bynnag, yr unig beth y dylai fod wedi gobeithio amdano oedd yr hyn roedd Jehofa wedi ei addo iddo: “Gadawaf i ti arbed dy fywyd.” (Jer. 45:1-5) Yn sicr, nid oedd Duw am ddiogelu meddiannau materol rhywun mewn dinas a oedd am gael ei dinistrio. (Jer. 20:5) Wrth inni agosáu at ddiwedd y system hon, nid dyma’r amser i bentyrru mwy a mwy o bethau materol ar gyfer ni ein hunain. Ni ddylen ni ddisgwyl bod unrhyw un o’n meddiannau, ni waeth befo’r gwerth, yn mynd drwy’r gorthrymder mawr gyda ni.—Diar. 11:4; Math. 24:21, 22; Luc 12:15.

7. Beth byddwn ni’n ei ystyried nesaf, a pham?

7 Yn y Bregeth ar y Mynydd, mae Iesu’n rhoi cyngor sy’n ein helpu ni i gwrdd â’n hanghenion heb inni droi’n faterol, neu’n orbryderus. (Math. 6:19-21) Gad inni ddarllen a dadansoddi’r rhan ohoni sydd yn Mathew 6:25-34. Bydd gwneud hyn yn ein helpu ni i weld yr angen i geisio’r Deyrnas yn gyntaf, nid pethau.Luc 12:31.

MAE JEHOFA YN GOFALU AM EIN HANGHENION MATEROL

8, 9. (a) Pam na ddylen ni boeni’n ormodol am y pethau rydyn ni’n eu hangen? (b) Beth a wyddai Iesu am bobl a’u hanghenion?

8 Darllen Mathew 6:25. Pan ddywedodd Iesu wrth ei wrandawyr: “Peidiwch â phryderu am eich bywyd,” roedd yn golygu, “peidiwch â phoeni.” Roedden nhw’n poeni am bethau na ddylen nhw fod wedi bod yn poeni amdanyn nhw. Felly, dywedodd Iesu wrthyn nhw am stopio pryderu—a hynny am resymau da. Gall poeni’n ormodol, hyd yn oed dros bethau dilys, fynd â sylw rhywun, gan gau allan y pethau ysbrydol pwysicaf mewn bywyd. Roedd Iesu yn poeni cymaint am ei ddisgyblion nes iddo eu rhybuddio nhw am y tueddiad peryglus hwn bedair gwaith eto yn ei bregeth.—Math. 6:27, 28, 31, 34.

9 Pam dywedodd Iesu wrthyn ni i beidio â phryderu am yr hyn y byddwn ni’n ei fwyta, ei yfed, a’i wisgo? Onid yw’r pethau hyn yn bethau hanfodol ar gyfer bywyd? Yn bendant y maen nhw! Os nad oes gennyn ni’r modd i gael y pethau hyn, oni fyddwn ni’n pryderu? Wrth gwrs y byddwn ni, a gwyddai Iesu hynny. Roedd yn ymwybodol o anghenion beunyddiol pobl. Ond yn fwy na hynny, roedd yn deall yr amgylchiadau anodd y byddai ei ddisgyblion yn eu hwynebu ganrifoedd yn ddiweddarach, yn ystod “y dyddiau diwethaf” sy’n cael eu disgrifio’n “amserau enbyd.” (2 Tim. 3:1) Mae’r amgylchiadau hynny yn cynnwys diweithdra, chwyddiant, diffyg bwyd, a thlodi ofnadwy. Ond, wedi’r cwbl, sylweddolodd Iesu fod “mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i’w gorff na dillad.”

10. Yn ôl Iesu, beth a ddylen ni flaenoriaethu yn ein bywydau?

10 Yn gynharach yn ei bregeth, dysgodd Iesu ei gynulleidfa i ymbil ar eu tad nefol am eu hanghenion corfforol, gan esbonio y gallen nhw weddïo: “Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw.” (Math. 6:11, beibl.net; Luc 11:3) Ond nid yw’r cyngor hwnnw yn golygu y dylai ein hanghenion materol reoli ein meddyliau. Yn yr un weddi, rhoddodd Iesu flaenoriaeth i weddïo am i Deyrnas Dduw ddod. (Math. 6:10; Luc 11:2) Er mwyn tawelu meddyliau ei wrandawyr, eglurodd Iesu fod Jehofa yn Ddarparwr heb ei ail.

11, 12. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am y ffordd y mae Jehofa yn gofalu am yr adar? (Gweler y llun agoriadol.)

11 Darllen Mathew 6:26. Dylen ni sylwi “ar adar yr awyr.” Er bod y creaduriaid yn fach, maen nhw’n bwyta llawer o ffrwythau, hadau, pryfed, neu bryfed genwair. O gymharu pwysau cyrff pobl ag adar, yn gyfatebol mae adar yn bwyta mwy na ni. Ond, nid oes angen i adar drin y tir a phlannu hadau er mwyn cael bwyd. Mae Jehofa yn darparu popeth sydd eu hangen arnyn nhw. (Salm 147:9) Wrth gwrs, nid yw’n rhoi’r bwyd yn eu pigau! Maen nhw’n gorfod mynd allan a chwilio amdano, ond mae yna ddigonedd ohono.

12 Amhosibl oedd i Iesu feddwl y byddai ei Dad nefol yn darparu bwyd ar gyfer yr adar, ond eto’n peidio â gofalu am yr un anghenion sylfaenol sydd gan bobl. [1] (1 Pedr 5:6, 7) Ni fydd Jehofa yn rhoi bwyd yn ein cegau, ond fe allai fendithio ein hymdrechion i dyfu bwyd neu i ennill digon o arian i’w brynu. Pan fo rhywun mewn angen, mae Jehofa yn medru ysgogi eraill i rannu’r hyn sydd ganddyn nhw. Er nad oedd Iesu yn sôn am ddarparu lloches i’r adar, mae Jehofa wedi rhoi’r reddf, y sgiliau, a’r deunydd iddyn nhw ar gyfer gwneud nythod. Yn yr un modd, gall Jehofa ein helpu ni i ganfod llety addas ar gyfer ein teuluoedd.

13. Beth sy’n profi ein bod ni’n werth mwy nag adar yr awyr?

13 Gofynnodd Iesu i’w wrandawyr: “Onid ydych chwi yn llawer mwy gwerthfawr na hwy [sef adar yr awyr]?” Heb os, roedd Iesu yn gwybod y byddai, cyn bo hir, yn rhoi ei fywyd dros ddynoliaeth. (Cymharer Luc 12:6, 7.) Nid oedd pridwerth Iesu wedi cael ei roi dros unrhyw greaduriaid byw eraill. Nid oedd Iesu wedi marw dros adar yr awyr, ond fe wnaeth farw droson ni fel y gallwn ninnau fwynhau bywyd tragwyddol.—Math. 20:28.

14. Beth na all rhywun pryderus ei wneud?

14 Darllen Mathew 6:27. Pam dywedodd Iesu, felly, nad oedd person pryderus yn gallu ychwanegu yr un funud at ei fywyd? Oherwydd ni fydd pryderu am ein hanghenion dyddiol yn ein helpu ni i fyw yn hirach. Yn hytrach, bydd cael ein llethu gan bryder yn fwy tebygol o fyrhau ein bywyd.

15, 16. (a) Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r ffordd mae Jehofa yn gofalu am lili’r maes? (Gweler y llun agoriadol.) (b) Pa gwestiynau efallai dylen ni eu gofyn i ni’n hunain, a pham?

15 Darllen Mathew 6:28-30. Onid yw pawb yn hoffi cael dillad crand, yn enwedig ar gyfer gweithgareddau ysbrydol fel mynd allan ar y weinidogaeth neu fynychu cyfarfodydd a chynulliadau? Ond, oes angen inni bryderu am ddillad? Unwaith eto, mae Iesu yn tynnu ein sylw at waith llaw Jehofa. Yn yr achos hwn, gallwn ddysgu llawer drwy sylwi ar “lili’r maes.” Efallai roedd Iesu yn sôn am flodau, megis blodau’r cleddyf, hiasinthau, gellesg, a thiwlipau—pob un ohonyn nhw’n hardd. Nid yw’r blodau hyn yn gorfod gwnïo na gwau eu dillad eu hunain. Ac eto, maen nhw’n dwyn blodau hyfryd! Yn wir, “nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i’w chymharu ag un o’r rhain”!

16 Paid â methu pwynt yr hyn roedd gan Iesu dan sylw: “Os yw Duw yn dilladu felly laswellt y maes, . . . onid llawer mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd?” Yn sicr y bydd! Ond, roedd gan ddisgyblion Iesu ddiffyg ffydd. (Matt. 8:26; 14:31; 16:8; 17:20) Roedd angen iddyn nhw ymddiried yn Jehofa a chael ffydd ddyfnach. Beth amdanon ni? Pa mor gryf yw ein ffydd ni yng ngallu Jehofa ac yn ei awydd i ddarparu ar ein cyfer?

17. Beth all niweidio ein perthynas â Jehofa?

17 Darllen Mathew 6:31, 32. Ni ddylen ni efelychu pobl y “Cenhedloedd,” sydd heb wir ffydd mewn Tad nefol cariadus sy’n gofalu am y rhai sy’n blaenoriaethu’r Deyrnas yn eu bywydau. Byddai mynd ar ôl yr “holl bethau y mae’r Cenhedloedd yn eu ceisio” yn niweidio ein perthynas â Jehofa. Yn hytrach, os ydyn ni’n gwneud yr hyn y dylen ni ei wneud, sef rhoi’r lle blaenaf yn ein bywydau i bethau ysbrydol, gallwn fod yn hyderus na fydd Jehofa yn dal yn ôl rhag rhoi pethau da inni. Dylai ein “bywyd duwiol” ein hysgogi ni i fod yn fodlon ar “fwyd a dillad,” ac ar y ffaith fod gennyn ni do uwch ein pennau.—1 Tim. 6:6-8.

AI TEYRNAS DDUW SY’N DOD YN GYNTAF YN DY FYWYD DI?

18. Beth mae Jehofa yn ei wybod amdanon ni fel unigolion, a beth bydd yn ei wneud ar ein cyfer?

18 Darllen Mathew 6:33. Dylai’r Deyrnas ddod yn gyntaf ym mywydau disgyblion Crist. Os ydyn ni’n gwneud hynny, dywedodd Iesu y byddwn ni’n cael “y pethau hyn i gyd yn ychwaneg” inni. Pam dywedodd hynny? Fe eglurodd yn yr adnod flaenorol: “Y mae eich Tad nefol yn gwybod fod arnoch angen y rhain i gyd,” sef y pethau hanfodol ar gyfer bywyd. Hawdd yw i Jehofa ragweld ein hanghenion personol ynglŷn â bwyd, dillad, a lloches, a hynny hyd yn oed cyn i ninnau fod yn ymwybodol ohonyn nhw. (Phil. 4:19) Mae Jehofa yn gwybod pa ddilledyn fydd yn treulio nesaf. Mae’n gwybod hefyd am ein hanghenion bwyd, ac am ba fath o gartref sy’n addas inni yn ôl maint ein teulu. Bydd Jehofa yn sicrhau y byddwn ni’n cael yr hyn rydyn ni’n ei wir angen.

19. Pam na ddylen ni orbryderu am yr hyn a all ddigwydd yn y dyfodol?

19 Darllen Mathew 6:34. Sylwa fod Iesu yn dweud unwaith eto, “peidiwch felly â phryderu.” Mae Iesu eisiau inni wynebu problemau bywyd un diwrnod ar y tro, ac inni fod yn hollol hyderus y bydd Jehofa yn ein helpu ni. Os yw rhywun yn gorbryderu am yr hyn a all ddigwydd yn y dyfodol, efallai y byddai’n dechrau dibynnu arno’i hun yn hytrach nag ar Dduw, a gallai hynny effeithio ar ei berthynas â Jehofa.—Diar. 3:5, 6; Phil. 4:6, 7.

CEISIA’N GYNTAF Y DEYRNAS, A BYDD JEHOFA YN GOFALU AM Y GWEDDILL

Elli di symleiddio dy fywyd er mwyn canolbwyntio mwy ar y Deyrnas? (Gweler paragraff 20)

20. (a) Pa nod gelli di ei osod yn dy wasanaeth i Jehofa? (b) Beth gelli di ei wneud i symleiddio dy fywyd?

20 Ofer llwyr fyddai gwrthod rhoi’r Deyrnas yn gyntaf er mwyn cynnal bywyd moethus. Yn hytrach, dylen ni geisio pethau ysbrydol. Er enghraifft, a elli di symud i gynulleidfa sydd angen mwy o gyhoeddwyr? A elli di arloesi? Os wyt ti’n arloesi eisoes, wyt ti wedi meddwl am wneud cais i fynychu’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas? A elli di weithio’n rhan amser yn y Bethel, neu mewn swyddfa gyfieithu? A elli di wirfoddoli’n rhan amser i helpu Adran Dylunio ac Adeiladu’r Gangen gyda phrosiectau adeiladu Neuaddau’r Deyrnas? Meddylia am yr hyn y gelli di ei wneud er mwyn symleiddio dy fywyd a chwarae mwy o ran yng ngweithgareddau’r Deyrnas. Gweddïa am y wybodaeth yn y blwch “ Sut Gelli Di Symleiddio Dy Fywyd?” a dechreua gymryd camau er mwyn cyrraedd dy nod.

21. Beth fydd yn dy helpu di i agosáu at Jehofa?

21 Am reswm da, felly, y dysgodd Iesu inni geisio’r Deyrnas, nid pethau. Drwy wneud hynny, nid oes angen inni bryderu byth am ein hanghenion materol. Rydyn ni’n dod yn agosach at Jehofa drwy ymddiried ynddo, a thrwy beidio â mynd ar ôl pob pleser a phrynu popeth mae’r byd yn ei gynnig inni, hyd yn oed os ydyn ni’n gallu fforddio gwneud hynny. Bydd symleiddio ein bywyd heddiw yn ein helpu ni i “gael gafael yn y bywyd sydd yn fywyd go iawn.”—1 Tim. 6:19, beibl.net.

^ [1] (paragraff 12) I ddeall pam y mae Jehofa ar adegau yn caniatáu i Gristion fynd heb ddigon o fwyd, gweler “Questions From Readers” yn rhifyn 15 Medi 2014, t. 22 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.