Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Paid ag Ofni, yr Wyf Fi’n Dy Gynorthwyo”

“Paid ag Ofni, yr Wyf Fi’n Dy Gynorthwyo”

DYCHMYGA dy fod ti’n cerdded ar hyd stryd yng nghanol y nos. Yn fwyaf sydyn, rwyt ti’n cael y teimlad fod rhywun yn dy ddilyn. Pan wyt ti’n stopio, mae’r sŵn traed y tu ôl iti hefyd yn stopio. Pan wyt ti’n cyflymu, mae’r person sy’n dy ddilyn hefyd yn cyflymu. Rwyt ti’n dechrau rhedeg, ac yn rhuthro i dŷ dy ffrind sy’n byw’n agos. Wrth iti fynd i mewn i dŷ dy ffrind, rwyt ti’n ochneidio oherwydd dy fod ti’n saff o’r diwedd.

Efallai nad wyt ti wedi profi’r union sefyllfa honno, ond fe wyt ti’n pryderu am bethau eraill mewn bywyd. Er enghraifft, wyt ti’n brwydro i drechu gwendid, ond yn gwneud yr un camgymeriad dro ar ôl tro? Wyt ti wedi bod heb waith am gyfnod hir a heb ddod o hyd i swydd er gwaethaf pob ymdrech? Wyt ti’n poeni am fynd yn hen ac yn fethedig? Neu, oes yna rywbeth arall yn dy boeni di?

Beth bynnag yw’r broblem, oni fyddi di’n gwerthfawrogi rhywun sy’n barod i wrando ar dy bryderon ac sy’n gallu dy helpu pan fo angen? Oes gen ti ffrind agos o’r fath? Oes, mae gen ti! Jehofa yw’r ffrind hwnnw, yn union fel yr oedd i’r patriarch Abraham, fel y gwelwn yn Eseia 41:8-13. Yn adnodau 10 ac 13, mae Jehofa yn galw ar bob un o’i weision: “Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a’th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol. Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, sy’n gafael yn dy law dde, ac yn dweud wrthyt, ‘Paid ag ofni, yr wyf fi’n dy gynorthwyo.’”

“CYNHALIAF DI”

Ydy’r geiriau hynny o gysur iti? Rho dy hun yn y darlun geiriol y mae Jehofa wedi ei beintio inni. Nid yw Jehofa yn dy ddarlunio yn cerdded law yn llaw ag ef, er bod hynny’n syniad deniadol ynddo’i hun. Pe byddet ti’n cerdded law yn llaw ag ef, byddai ei law dde yn cydio yn dy law chwith. Yn hytrach, mae Jehofa yn ymestyn ei law dde orchfygol ac yn cydio “yn dy law dde,” fel petai’n dy dynnu di allan o sefyllfa helbulus mewn bywyd. Wrth iddo wneud hynny, mae’n dy gryfhau drwy ddweud: “Paid ag ofni, yr wyf fi’n dy gynorthwyo.”

Wyt ti’n gweld Jehofa fel Tad a Ffrind cariadus sy’n barod i’th helpu pan wyt ti’n mynd i drafferthion? Mae ganddo ddiddordeb ynot ti, mae eisiau’r gorau iti, ac mae’n benderfynol o’th helpu. Wrth iti wynebu treialon, mae Jehofa eisiau iti deimlo’n ddiogel oherwydd bod ganddo gariad mawr tuag atat ti. Yn wir, y mae’n “gymorth parod mewn cyfyngder.”—Salm 46:1.

EUOGRWYDD OHERWYDD CAMGYMERIADAU’R GORFFENNOL

Mae rhai pobl yn eu poenydio eu hunain oherwydd eu hymddygiad yn y gorffennol ac yn amau nad yw Jehofa wedi maddau iddyn nhw. Os ydy hynny’n wir yn dy achos di, meddylia am y dyn ffyddlon Job, a oedd yn cyfaddef camgymeriadau ei ieuenctid. (Job 13:26, beibl.net) Teimlodd y salmydd Dafydd rywbeth tebyg ac fe wnaeth ymbil ar Jehofa: “Paid dal yn fy erbyn y pechodau a’r holl bethau wnes i o’i le pan oeddwn i’n ifanc.” (Salm 25:7, beibl.net) A ninnau’n amherffaith, rydyn ni i gyd yn “pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.”—Rhuf. 3:23.

Yn wreiddiol, roedd y neges ym mhennod 41 o Eseia ar gyfer pobl Dduw gynt. Roedden nhw wedi pechu i’r fath raddau fel y penderfynodd Jehofa eu barnu nhw drwy eu hanfon yn gaethion i Fabilon. (Esei. 39:6, 7) Ond eto, roedd Jehofa yn meddwl am yr amser pan fyddai’n rhyddhau’r bobl a oedd yn edifar ac yn dychwelyd iddo! (Esei. 41:8, 9; 49:8) Mae Jehofa yr un mor hael heddiw tuag at y rhai sydd eisiau perthynas dda ag ef.—Salm 51:1.

Meddylia am brofiad Takuya, * a oedd yn ceisio trechu’r arferion aflan o wylio pornograffi ac arfer mastyrbio. Dro ar ôl tro, llithrodd yn ei ôl. Sut roedd Takuya yn teimlo? “Ro’n i’n teimlo’n hollol ddiwerth, ond pan wnes i droi at Jehofa mewn gweddi ac erfyn arno am ei faddeuant, roedd yn fy nghodi ar fy nhraed pan oeddwn wedi syrthio.” Sut gwnaeth Jehofa hynny? Gwahoddodd yr henuriaid Takuya i alw arnyn nhw bob tro yr oedd yn llithro yn ei ôl. Mae’n cyfaddef: “Nid oedd yn hawdd galw arnyn nhw, ond bob tro y gwnes i, ges i fy nghryfhau.” Wedyn, trefnodd yr henuriaid i arolygwr y gylchdaith alw arno i’w fugeilio. Dywedodd arolygwr y gylchdaith wrtho: “Nid cyd-ddigwyddiad mo hyn. Rydw i yma oherwydd bod yr henuriaid eisiau imi fod yma. Ti wnaethon nhw ddewis i gael dy fugeilio.” Mae Takuya yn cofio: “Fi oedd yr un a oedd yn pechu, ond, trwy’r henuriaid, estynnodd Jehofa ei law ata’ i.” Gwnaeth Takuya gynnydd da a dechrau arloesi’n llawn amser, ac nawr mae’n gwasanaethu mewn swyddfa gangen. Yn union fel yn achos y brawd hwn, bydd Duw yn dy godi dithau ar dy draed.

PRYDERON YNGLŶN AG ENNILL BYWOLIAETH

Mae bod heb waith yn achos pryder i lawer. Mae rhai yn colli eu swyddi ac yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i incwm arall. Dychmyga sut byddet ti’n teimlo petaet ti’n cael dy wrthod gan un cyflogwr ar ôl y llall. Mewn sefyllfa o’r fath, mae rhai yn colli eu hunan-barch. Sut gall Jehofa dy helpu? Efallai ni fyddai’n rhoi’r swydd berffaith iti yn syth bin, ond efallai y bydd yn dy helpu di drwy dy atgoffa o sylwadau’r Brenin Dafydd: “Bûm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen, ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael, na’i blant yn cardota am fara.” (Salm 37:25) Yn sicr, rwyt ti’n werthfawr iawn yng ngolwg Jehofa, a chyda’i law dde orchfygol, fe all dy helpu i gael yr hyn sydd ei angen arnat ti er mwyn parhau i’w wasanaethu.

Sut gall Jehofa dy helpu os wyt ti’n colli dy swydd?

Profodd Sara, sy’n byw yn Colombia, nerth achubol Jehofa. Roedd ganddi swydd mewn cwmni mawr a oedd yn ei rhoi hi o dan bwysau ond eto’n talu’n dda. Ond roedd hi eisiau gwneud mwy i wasanaethu Jehofa, felly dyma hi’n gadael ei swydd a dechrau arloesi. Ond, nid oedd yn hawdd iddi ddarganfod swydd ran amser. Agorodd hi siop fach yn gwerthu hufen iâ ond, dros amser, nid oedd y busnes yn gwneud digon o arian ac roedd rhaid iddi gau’r siop. “Aeth tair blynedd hir heibio, ond ro’n i’n medru dyfalbarhau, diolch i Jehofa,” dywedodd Sara. Dysgodd hi i wahaniaethu rhwng pethau moethus a phethau angenrheidiol ac i beidio â phryderu am yfory. (Math. 6:33, 34) Yn y pen draw, galwodd ei chyn-gyflogwr a chynnig ei hen swydd yn ôl iddi. Ymatebodd hi drwy ddweud y byddai’n derbyn gwaith rhan amser yn unig a dim ond os oedd hi’n cael amser i ffwrdd ar gyfer gweithgareddau ysbrydol. Er nad yw Sara yn ennill cymaint o arian ag yr oedd hi gynt, mae hi’n gallu parhau i arloesi. Dywedodd hi ei bod hi wedi “teimlo llaw gariadus Jehofa” drwy’r holl gyfnod.

PRYDERON YNGLŶN Â HENEIDDIO

Pryder mawr arall yw mynd yn hen. Ar ôl ymddeol, mae llawer o bobl yn poeni a fydd ganddyn nhw ddigon o arian i fyw’n gyfforddus am weddill eu hoes. Maen nhw hefyd yn poeni am broblemau iechyd a all godi wrth iddyn nhw heneiddio. Yn ôl pob tebyg, Dafydd oedd yr un a oedd yn ymbil ar Jehofa: “Paid â’m bwrw ymaith yn amser henaint; paid â’m gadael pan fydd fy nerth yn pallu.”—Salm 71:9, 18.

Felly, sut gall gweision Jehofa deimlo’n ddiogel wrth iddyn nhw fynd yn hen? Mae’n rhaid iddyn nhw ddal ati i gryfhau eu ffydd yn Nuw, gan gredu y bydd ef yn darparu’r hyn sydd ei angen arnyn nhw. Wrth gwrs, os ydyn nhw wedi byw’n fras dros y blynyddoedd, efallai bydd yn rhaid iddyn nhw symleiddio eu bywydau a bodloni ar lai o bethau materol. Efallai bydden nhw’n darganfod bod bwyta “platiaid o lysiau” yn hytrach na “gwledd o gig eidion” yn bleserus a hyd yn oed yn fwy iachus! (Diar. 15:17, beibl.net) Os wyt ti’n canolbwyntio ar blesio Jehofa, fe fydd ef yn gofalu amdanat ti wrth iti heneiddio.

José a Rose gyda Tony a Wendy

Ystyria hanes José a Rose, sydd wedi bod yn gwasanaethu Jehofa’n llawn amser am dros 65 o flynyddoedd. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi gorfod rhoi gofal 24-awr i dad Rose. Hefyd, roedd rhaid i José gael llawdriniaeth ar gyfer canser ac yna cemotherapi. Ydy Jehofa wedi estyn ei law dde i’r cwpl ffyddlon hwn? Do, ond sut? Drwy Tony a Wendy, cwpl yn y gynulleidfa a gynigiodd fflat iddyn nhw. Roedd Tony a Wendy eisiau cynnig y fflat i arloeswyr llawn amser heb godi rhent arnyn nhw. Flynyddoedd cyn hynny, roedd Tony yn gwylio, o ffenestr yr ysgol uwchradd, José a Rose yn mynd ar y weinidogaeth yn rheolaidd. Roedd yn eu caru nhw oherwydd eu sêl, a chafodd y sêl honno ddylanwad mawr arno. O weld bod y cwpl hŷn wedi rhoi eu bywydau cyfan i Jehofa, roedd Tony a Wendy eisiau rhoi llety iddyn nhw. Am y 15 mlynedd diwethaf, maen nhw wedi helpu José a Rose, sydd bellach yng nghanol eu 80au. I’r cwpl hŷn, mae help y cwpl iau yn anrheg oddi wrth Jehofa.

Mae Duw yn cynnig ei law dde orchfygol i tithau hefyd. A fyddet ti’n ymateb drwy estyn dy law i’r Un sy’n addo iti: “Paid ag ofni, yr wyf fi’n dy gynorthwyo”?

^ Par. 11 Newidiwyd rhai enwau.