Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ydy’r Hyn Rwyt Ti’n ei Wisgo yn Anrhydeddu Duw?

Ydy’r Hyn Rwyt Ti’n ei Wisgo yn Anrhydeddu Duw?

“Gwnewch bopeth er gogoniant Duw.”—1 COR. 10:31.

CANEUON: 34, 61

1, 2. Pam mae Tystion Jehofa yn cadw at safonau uchel ynglŷn â gwisg? (Gweler y llun agoriadol.)

“ROEDD llawer yn gwisgo dillad anffurfiol, yn enwedig pan oedd y tywydd yn boeth,” meddai un papur newydd yn yr Iseldiroedd am gyfarfod arweinwyr yr eglwys. “Nid yw hynny’n wir yn achos cynadleddau Tystion Jehofa. . . . Mae’r bechgyn a’r dynion yn gwisgo siaced a thei, tra bo sgertiau’r merched a’r gwragedd yn . . . weddus, ond yn fodern.” Yn aml, mae Tystion Jehofa yn cael eu canmol oherwydd eu bod nhw’n “gwisgo dillad gweddus, yn wylaidd a diwair . . . fel sy’n gweddu i [bobl] sy’n honni bod yn dduwiol.” (1 Tim. 2:9, 10) Roedd yr apostol Paul yn trafod gwragedd, ond mae’r un safon Gristnogol yn berthnasol i ddynion hefyd.

2 Mae safonau priodol o ran gwisg yn bwysig i ni fel pobl Jehofa, ac i Dduw hefyd. (Gen. 3:21) Mae’r hyn sydd yn yr Ysgrythurau ynglŷn â gwisg a thrwsiad yn dangos yn glir fod gan Dduw safonau uchel yn hyn o beth. Felly, ni ddylai ein dewisiadau ynglŷn â’n gwisg a’n trwsiad gael eu llywio gan ein dymuniadau ein hunain yn unig. Fe ddylwn ni hefyd ystyried yr hyn sy’n plesio ein Harglwydd Frenin, Jehofa.

3. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth Gyfraith Duw i’r Israeliaid?

3 Er enghraifft, yng Nghyfraith Moses, ceir rheolau a oedd yn amddiffyn y bobl rhag anfoesoldeb y cenhedloedd o’u cwmpas. Roedd y Gyfraith yn dangos fod gan Jehofa deimladau cryf ynghylch dillad nad yw’n dangos yn glir y gwahaniaeth rhwng dyn a dynes. (Darllen Deuteronomium 22:5.) O edrych ar arweiniad Duw ynglŷn â gwisg, gwelwn nad yw Duw yn derbyn ffordd o wisgo sy’n ffemineiddio dynion, sy’n achosi i ferched edrych fel dynion, neu sy’n ei gwneud hi’n anodd gwahaniaethu rhwng dynion a merched.

4. Beth all helpu Cristnogion i wneud penderfyniadau da ynglŷn â sut i wisgo?

4 Mae’r Beibl yn cynnwys egwyddorion sy’n helpu Cristnogion i benderfynu’n gall ynglŷn â sut i wisgo. Mae hynny’n wir le bynnag maen nhw’n byw, beth bynnag yw eu diwylliant, a beth bynnag yw’r hinsawdd. Nid oes angen arnon ni restr fanwl sy’n dweud pa fath o steiliau dillad sy’n dderbyniol neu’n annerbyniol. Yn hytrach, rydyn ni’n cael ein harwain gan egwyddorion Ysgrythurol sy’n caniatáu dewisiadau personol. Gad inni ystyried rhai egwyddorion sy’n gallu ein helpu i ganfod “beth sy’n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef [Duw]” wrth benderfynu beth i’w wisgo.—Rhuf. 12:1, 2.

DANGOS YN GLIR MAI GWEISION DUW YDYN NI

5, 6. Pa effaith dylai ein gwisg ei chael ar eraill?

5 Ysbrydolwyd Paul i bwysleisio’r egwyddor bwysig yn 2 Corinthiaid 6:4. (Darllen, beibl.net.) Mae ein hymddangosiad yn dweud llawer amdanon ni. Mae llawer o bobl yn ein barnu yn ôl “yr hyn sydd yn y golwg.” (1 Sam. 16:7) Mae gweision Duw, felly, yn deall bod gwisgo amdanon ni’n golygu mwy na dewis rhywbeth cyfforddus rydyn ni’n ei hoffi. Dylai egwyddorion Gair Duw ein hysgogi i osgoi gwisgo dillad sy’n dynn, sy’n dangos gormod o groen, neu sy’n bryfoclyd yn rhywiol. Dylid felly osgoi gwisgo dillad sy’n dangos rhannau preifat o’r corff neu sy’n tynnu sylw atyn nhw. Ni ddylai neb deimlo’n anghyfforddus, na theimlo eu bod nhw’n gorfod troi eu llygaid i ffwrdd oherwydd ein gwisg.

6 Pan ydyn ni’n daclus, yn lân, yn wylaidd, ac yn drwsiadus, bydd pobl yn debygol o’n parchu fel gweision Jehofa. Ac efallai bydden nhw’n cael eu denu tuag at Dduw. Ar ben hynny, bydd ein trwsiad priodol yn adlewyrchu’n dda ar y gyfundrefn rydyn ni’n ei chynrychioli. O ganlyniad, efallai bydd pobl eraill yn fwy tebygol o wrando ar ein neges achubol.

7, 8. Pa bryd sy’n enwedig o bwysig inni wisgo dillad priodol?

7 O ran cyfrifoldeb i’n Duw sanctaidd, i’n brodyr a’n chwiorydd ysbrydol, yn ogystal ag i’r bobl yn ein tiriogaeth, dylen ni wisgo dillad sy’n rhoi urddas i’r neges rydyn ni’n ei chyhoeddi ac sy’n anrhydeddu Jehofa. (Rhuf. 13:8-10) Mae hynny’n wir yn enwedig wrth inni gymryd rhan mewn gweithgareddau ysbrydol fel mynychu’r cyfarfodydd a phregethu. Dylen ni wisgo mewn ffordd “sy’n gweddu i [bobl] sy’n honni bod yn dduwiol.” (1 Tim. 2:10) Wrth gwrs, gall gwisg sy’n briodol mewn un lle fod yn amhriodol rywle arall. Felly, mae pobl Jehofa ar draws y byd yn ystyried yr arferion lleol er mwyn osgoi digio neb.

A fydd y pethau rwyt ti’n eu gwisgo yn meithrin parch tuag at y Duw rwyt ti’n ei gynrychioli? (Gweler paragraffau 7, 8)

8 Darllen 1 Corinthiaid 10:31. Wrth inni fynychu cynulliadau a chynadleddau, mae’n rhaid i’n gwisg fod yn briodol ac yn wylaidd yn hytrach nag adlewyrchu steiliau eithafol sydd efallai’n gyffredin yn y byd. Hyd yn oed wrth inni gyrraedd neu adael ein gwesty, ac wrth inni fwynhau amser hamdden cyn ac ar ôl sesiynau’r gynhadledd, rydyn ni eisiau osgoi edrych yn rhy anffurfiol neu’n flêr. Yna, byddwn ni’n falch o gael ein hadnabod fel Tystion Jehofa. Hefyd, byddwn ni’n teimlo’n rhydd i roi tystiolaeth bryd bynnag y cawn ni gyfle.

9, 10. Pam dylai Philipiaid 2:4 ddylanwadu ar yr hyn rydyn ni’n ei wisgo?

9 Darllen Philipiaid 2:4, beibl.net. Pam mae’n rhaid i Gristnogion ystyried sut mae eu gwisg yn effeithio ar eu cyd-addolwyr? Oherwydd eu bod nhw’n dilyn cyngor y Beibl: “Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy’n perthyn i’r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys.” (Col. 3:2, 5) Ni fyddwn ni eisiau ei gwneud hi’n anoddach i’n cyd-addolwyr ddilyn y cyngor hwnnw. Efallai fod rhai brodyr a chwiorydd sydd wedi cefnu ar fywyd o anfoesoldeb rhywiol yn dal yn brwydro yn erbyn tueddiadau pechadurus. (1 Cor. 6:9, 10) Ni fyddwn ni eisiau gwneud eu brwydr yn un anoddach, na fyddwn?

10 Pan ydyn ni’n treulio amser gyda’n brodyr a’n chwiorydd ysbrydol, dylai ein ffordd o wisgo helpu i gadw’r gynulleidfa yn foesol a phur. Mae hynny’n wir pan ydyn ni gyda’n gilydd yn y cyfarfod, neu mewn sefyllfa anffurfiol. Mae gennyn ni ryddid i ddewis beth i’w wisgo. Ond, mae cyfrifoldeb ar bob un ohonon ni i wisgo dillad sy’n ei gwneud hi’n haws i eraill aros yn bur ac i gadw safonau sanctaidd Duw yn yr hyn maen nhw’n ei feddwl, yn ei ddweud, ac yn ei wneud. (1 Pedr 1:15, 16) Dydy gwir gariad “ddim yn gwneud pethau anweddus, nac yn mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg.”—1 Cor. 13:4, 5, beibl.net.

GWISG BRIODOL AR GYFER POB SEFYLLFA

11, 12. Beth sy’n rhesymol inni ei ystyried wrth feddwl am beth i’w wisgo?

11 Wrth inni wneud penderfyniadau ynglŷn â beth i’w wisgo, mae gweision Duw yn cofio bod yna “amser i bob gorchwyl a gwaith.” (Preg. 3:1, 17) Mae’n rhesymol fod yr hinsawdd, newidiadau yn y tymhorau, gwahanol amgylchiadau a safonau byw, i gyd yn dylanwadu ar ein dewisiadau o ran dillad. Ond, dydy safonau Jehofa ddim yn newid yn ôl y tywydd.—Mal. 3:6.

12 Mewn gwledydd poeth, yr her yw sicrhau bod ein dewis o ddillad yn barchus, yn gall, ac yn dangos synnwyr cyffredin. Felly, mae ein brodyr a’n chwiorydd yn gwerthfawrogi’r ffaith nad ydyn ni’n gwisgo dillad sydd mor dynn, neu mor llac, fel eu bod yn dangos gormod o’r corff. (Job 31:1) Hefyd, wrth inni ymlacio ar y traeth neu wrth y pwll nofio, dylai ein dillad nofio fod yn wylaidd. (Diar. 11:2, 20) Hyd yn oed os yw llawer o bobl yn y byd yn gwisgo dillad nofio sy’n dangos gormod o’r corff, mae pobl sy’n caru Jehofa eisiau dod â chlod iddo.

13. Pam dylai’r cyngor yn 1 Corinthiaid 10:32, 33 ddylanwadu ar y dillad rydyn ni’n eu dewis?

13 Mae yna egwyddor bwysig arall i’w hystyried sy’n ein helpu i ddewis gwisg briodol. Hynny yw, ystyried cydwybod pobl eraill—boed nhw’n gyd-addolwyr neu beidio. (Darllen 1 Corinthiaid 10:32, 33.) Dylen ni gymryd o ddifrif ein cyfrifoldeb i osgoi dillad sy’n gallu pechu pobl eraill. “Y mae pob un ohonom i blesio ein cymydog . . . er adeiladu ein gilydd,” ysgrifennodd Paul. Wedyn, rhoddodd y rheswm: “Oherwydd nid ei blesio ei hun a wnaeth Crist.” (Rhuf. 15:2, 3) I Iesu, roedd helpu eraill yn bwysicach na’i ddymuniadau personol—roedd hynny’n rhan allweddol o wneud ewyllys Duw. Felly, petai eitemau neu steiliau dillad rydyn ni’n eu hoffi yn rhwystro pobl rhag gwrando arnon ni, byddwn ni’n osgoi’r pethau hynny.

14. Sut gall rhieni hyfforddi eu plant i ddewis dillad sy’n anrhydeddu Duw?

14 Mae gan rieni Cristnogol gyfrifoldeb i ddysgu eu plant i ddilyn egwyddorion y Beibl. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eu bod nhw a’u plant yn ceisio gwneud i galon Duw lawenhau drwy wisgo’n wylaidd ac yn drwsiadus. (Diar. 22:6; 27:11) Gall rhieni feithrin yn eu plant barch tuag at Dduw drwy osod esiampl dda a thrwy eu harwain mewn ffordd gariadus ac ymarferol. Peth da fyddai i rieni roi eu pobl ifanc ar ben ffordd ynglŷn â dod o hyd i ddillad priodol. Mae hyn yn golygu nid yn unig dewis dillad maen nhw’n eu hoffi, ond dillad a fydd yn eu helpu nhw i gyflawni eu braint o gynrychioli Jehofa Dduw.

DEFNYDDIA DY EWYLLYS RHYDD YN DDOETH

15. Beth ddylai arwain ein penderfyniadau personol ynglŷn â beth i’w wisgo?

15 Mae Gair Duw yn rhoi arweiniad ymarferol inni sy’n gallu ein helpu i wneud penderfyniadau a fydd yn anrhydeddu Duw. Ond eto, rydyn ni’n rhydd, i ryw raddau, i wneud dewisiadau personol ynglŷn â’n gwisg. Mae pawb yn hoffi pethau gwahanol, ac mae eu sefyllfa ariannol yn amrywio. Ond, dylai ein dillad fod bob amser yn daclus, yn lân, yn wylaidd, yn addas ar gyfer yr achlysur, ac yn dderbyniol yn lleol.

16. Pam mae’r ymdrech i wisgo mewn ffordd briodol yn werth ei gwneud?

16 Mae’n rhaid cyfaddef nad yw hi bob tro yn hawdd gwneud penderfyniad sy’n ddoeth, sy’n gall, ac sydd wedi ystyried y ffactorau i gyd. Mae llawer o siopau’n gwerthu pethau sy’n dilyn y ffasiynau poblogaidd, felly, mae’n gallu cymryd mwy o amser ac ymdrech i ddod o hyd i sgertiau, ffrogiau, a blowsys gwylaidd, neu drywsusau a siwtiau nad ydyn nhw’n rhy dynn. Ond eto, bydd ein cyd-addolwyr yn debygol o werthfawrogi ein hymdrechion i ddod o hyd i ddillad sy’n hardd ac yn briodol. Ac mae’r boddhad sy’n dod o ogoneddu Jehofa yn fwy na gwneud yn iawn am unrhyw anawsterau rydyn ni’n eu hwynebu wrth geisio gwisgo mewn ffordd sy’n anrhydeddu Duw.

17. Pa ffactorau a all ddylanwadu ar benderfyniad brawd wrth iddo ystyried gwisgo barf?

17 Beth am frodyr sy’n gwisgo barf? O dan Gyfraith Moses, roedd rhaid i’r dynion wisgo barf. Ond, dydy Cristnogion ddim o dan Gyfraith Moses nac yn gorfod ei dilyn. (Lef. 19:27; 21:5; Gal. 3:24, 25) Mewn rhai diwylliannau, mae barf sydd wedi ei chadw’n daclus yn dderbyniol a pharchus, ac ni fyddai’n tynnu oddi ar neges y Deyrnas. Yn wir, mae rhai brodyr apwyntiedig yn gwisgo barf. Er hynny, efallai bydd rhai brodyr yn penderfynu peidio â thyfu barf. (1 Cor. 8:9, 13; 10:32) Mewn llefydd a diwylliannau eraill, nid yw gwisgo barf yn gyffredin nac yn cael ei ystyried yn dderbyniol ar gyfer gweinidogion Cristnogol. Yn wir, gall tyfu barf rwystro brawd rhag anrhydeddu Duw yn y ffordd y mae’n gwisgo ac yn edrych, a gall hynny effeithio ar ei enw da.—Rhuf. 15:1-3; 1 Tim. 3:2, 7.

18, 19. Sut mae Micha 6:8 yn ein helpu wrth inni geisio plesio Duw o ran y ffordd rydyn ni’n gwisgo?

18 Rydyn ni mor ddiolchgar nad yw Jehofa yn ein llethu â rhestrau manwl sy’n llawn rheolau ynglŷn â’n gwisg a’n pryd a’n gwedd. Yn hytrach, mae Duw wedi gadael inni ddefnyddio ein hewyllys rhydd i wneud penderfyniadau personol call sydd wedi eu seilio ar egwyddorion llesol y Beibl. Felly, gallwn ni ddangos, hyd yn oed yn ein gwisg a’n hymddangosiad, ein bod ni eisiau byw’n wylaidd ac yn ufudd i Dduw.—Mich. 6:8, beibl.net.

19 Mae bod yn wylaidd yn cynnwys cymharu ein hunain yn ostyngedig â phurdeb a sancteiddrwydd Jehofa, oherwydd rydyn ni’n dibynnu’n llwyr arno ef am yr arweiniad gorau. Hefyd, mae bod yn wylaidd yn cynnwys parchu teimladau a barnau pobl eraill. Felly, rydyn ni’n byw’n wylaidd ac yn ufudd i Dduw drwy gydymffurfio â’i safonau uchel a thrwy ddangos parch tuag at safbwynt pobl eraill.

20. Pa effaith dylai ein dillad a’n trwsiad ei chael ar eraill?

20 O weld yr hyn rydyn ni’n ei wisgo, dylai pobl ddod i’r casgliad ein bod ni’n addoli Jehofa. Dylai ein brodyr a’n chwiorydd, yn ogystal â phobl yn gyffredinol, weld ein bod ni’n cynrychioli ein Duw cyfiawn mewn ffordd briodol. Mae ganddo safonau uchel, ac rydyn ni’n hapus i geisio adlewyrchu’r safonau hynny. Mae’r brodyr a’r chwiorydd sy’n edrych ac yn ymddwyn mewn ffordd sy’n denu pobl at neges y Beibl yn haeddu canmoliaeth, ac maen nhw hefyd yn dod â chlod a llawenydd i Jehofa. Yn sicr, bydd gwneud penderfyniadau doeth ynglŷn â beth i’w wisgo yn parhau i glodfori’r Un sydd wedi ei wisgo ag “ysblander ac anrhydedd.”—Salm 104:1, 2.