Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Paid â Cholli Golwg ar Ddoethineb Ymarferol

Paid â Cholli Golwg ar Ddoethineb Ymarferol

YN ÔL y stori, roedd bachgen tlawd yn byw mewn pentref anghysbell. Roedd y bobl leol yn tybio ei fod yn araf ei feddwl. Pan ddaeth ymwelwyr, gwnaeth rhai o bobl y pentref hwyl am ei ben o flaen eu ffrindiau. Roedden nhw’n dal o’i flaen ddwy geiniog, un darn arian mawr ac un darn aur bach a oedd yn werth ddwywaith cymaint â’r darn arian. “Dewis di prun wyt ti eisiau,” medden nhw. Byddai’r bachgen yn dewis y darn arian a rhedeg i ffwrdd.

Un diwrnod, dyma un o’r ymwelwyr yn gofyn i’r bachgen, “Wyt ti’n gwybod bod y darn aur yn ddwywaith mwy gwerthfawr na’r un arian?” Gwenodd y bachgen a dweud, “Yndw.” “Pam rwyt ti’n dewis y darn arian felly?” gofynnodd yr ymwelwr. “Os wyt ti’n dewis yr un aur, bydd gen ti ddwywaith cymaint o bres!” “Ond,” meddai’r bachgen, “os ydw i’n cymryd y darn aur, bydd pobl yn stopio chwarae’r gêm. Wyt ti’n gwybod faint o ddarnau arian sydd gen i erbyn hyn?” Roedd gan y bachgen yn y stori rinwedd werth ei hefelychu—doethineb ymarferol.

Dywed y Beibl: “Fy mab, paid colli golwg ar gyngor doeth a’r ffordd iawn; dal dy afael ynddyn nhw. Yna byddi’n cerdded trwy fywyd yn saff a heb faglu.” (Diar. 3:21, 23, beibl.net) Felly, mae deall doethineb ymarferol a’i roi ar waith yn ein helpu i gerdded yn saff, “heb faglu” yn ysbrydol.

BETH YW DOETHINEB?

Mae doethineb ymarferol yn wahanol i wybodaeth a dealltwriaeth. Mae person sydd â gwybodaeth yn casglu ffeithiau. Mae rhywun sydd â dealltwriaeth yn gweld sut mae ffeithiau yn gysylltiedig â’i gilydd. Mae person sydd â doethineb yn gallu defnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth gyda’i gilydd, a’u cymhwyso mewn ffordd ymarferol.

Er enghraifft, efallai gall rhywun ddarllen a deall y llyfr Beibl Ddysgu yn weddol gyflym. Wrth astudio, efallai ei fod yn ateb y cwestiynau’n gywir. Efallai ei fod yn mynychu’r cyfarfodydd a hyd yn oed yn ateb. Gall hynny i gyd olygu ei fod yn gwneud cynnydd ysbrydol, ond a oes ganddo ddoethineb? Ddim o reidrwydd. Efallai fod ganddo feddwl chwim. Ond, pan fydd yn rhoi’r gwirionedd ar waith, gan ddefnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth yn y ffordd iawn, mae’n dod yn ddoeth. Os yw ei benderfyniadau’n dod â llwyddiant, ac yn dangos ei fod wedi meddwl yn ofalus, mae’n dod yn amlwg ei fod wedi meithrin doethineb ymarferol.

Yn Mathew 7:24-27 ceir eglureb gan Iesu am ddau ddyn yn adeiladu tai. Disgrifir un ohonyn nhw’n gall. Ar ôl meddwl am bethau a all ddigwydd yn y dyfodol, adeiladodd ei dŷ ar y graig. Roedd yn ystyried y dyfodol mewn ffordd ymarferol. Nid oedd yn rhesymu ei bod hi’n rhatach neu’n gyflymach i adeiladu ei dŷ ar y tywod. Mewn ffordd ddoeth, meddyliodd am y canlyniadau tymor hir. Felly, pan ddaeth storm, roedd ei dŷ’n sefyll yn gadarn. Felly, y cwestiwn yw, sut gallwn ninnau feithrin a gwarchod doethineb ymarferol?

CAEL DOETHINEB YMARFEROL

Yn gyntaf, sylwa ar eiriau Micha 6:9: “Y mae llwyddiant o ofni ei enw [Duw].” Mae ofni enw Jehofa yn cynnwys parch. Mae’n golygu dangos parchedig ofn tuag at yr hyn y mae ei enw yn ei gynrychioli, gan gynnwys ei safonau. Er mwyn parchu rhywun, mae’n rhaid deall ei ffordd o feddwl. Yna, gelli di ymddiried ynddo, dysgu oddi wrtho, ac efelychu ei lwyddiannau. Os ydyn ni’n ystyried effeithiau hirdymor ein gweithredoedd ar ein perthynas â Jehofa ac os ydyn ni’n seilio ein penderfyniadau ar ei safonau, byddwn ni’n meithrin doethineb ymarferol.

Yn ail, dywed Diarhebion 18:1: “Mae’r un sy’n cadw ar wahân yn plesio ei hun, ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth.” (beibl.net) Os nad ydyn ni’n ofalus, gallwn ymwahanu oddi wrth Jehofa a’i bobl. I osgoi hyn, mae angen treulio amser gyda phobl eraill sy’n ofni enw Duw ac sy’n parchu ei safonau. Mae’n rhaid inni fod yn bresennol yn Neuadd y Deyrnas, os yw’n bosibl, er mwyn cymdeithasu’n rheolaidd â’r gynulleidfa. Yn y cyfarfodydd, mae’n bwysig cadw ein meddwl yn agored i’r hyn sy’n cael ei ddweud a gadael iddo gyffwrdd â’n calon.

Yn ychwanegol i hynny, os ydyn ni’n agor ein calonnau i Jehofa mewn gweddi, byddwn ni’n agosáu ato. (Diar. 3:5, 6) Pan ydyn ni’n agor ein meddyliau a’n calonnau wrth ddarllen y Beibl a chyhoeddiadau cyfundrefn Jehofa, rydyn ni’n cael cipolwg ar ganlyniadau hirdymor ein penderfyniadau ac yna’n gallu gweithredu’n gywir. Hefyd, pwysig yw agor ein calonnau i’r cyngor a ddaw oddi wrth frodyr aeddfed. (Diar. 19:20) Wedyn, yn hytrach na “gwrthod unrhyw gyngor doeth,” byddwn ni’n cryfhau’r rhinwedd bwysig hon.

SUT BYDD HYN YN HELPU FY NHEULU?

Gall doethineb ymarferol warchod teuluoedd. Er enghraifft, mae’r Beibl yn annog pob gwraig i “barchu ei gŵr.” (Eff. 5:33) Sut gall y gŵr ennill parch? Os yw’n mynnu parch mewn ffordd gas, bydd y canlyniadau yn fyr eu parhad. Er mwyn cadw’r ddysgl yn wastad, efallai bydd y wraig yn dangos rhywfaint o barch tra bod ei gŵr yn bresennol. Ond, a fyddai hi’n ei barchu pan nad yw’n bresennol? Mae’n debyg na fyddai. Mae angen iddo ystyried yr hyn a fydd yn gweithio yn yr hirdymor. Os yw’n dangos ffrwyth yr ysbryd, bydd yn ennill ei pharch hi. Wrth gwrs, dylai gwraig Gristnogol barchu ei gŵr hyd yn oed os nad ydy hi’n teimlo ei fod yn haeddu’r parch hwnnw.—Gal. 5:22, 23.

Mae’r Beibl hefyd yn dweud y dylai’r gŵr garu ei wraig. (Eff. 5:28, 33) I ddiogelu cariad ei gŵr, gallai gwraig resymu y byddai’n well petai hi’n cuddio rhagddo bethau annifyr y mae ganddo’r hawl gwybod amdanyn nhw. Ond, ydy hynny’n dangos doethineb ymarferol? Yn nes ymlaen, pan fydd y gŵr yn clywed am hyn, beth fydd y canlyniad? A fyddai’n ei charu hi’n fwy? Gallai hynny fod yn anodd. Yn hytrach, wrth ddewis amser priodol i egluro pethau iddo heb gynhyrfu, bydd ei gŵr yn debygol o werthfawrogi ei gonestrwydd, a bydd ei gariad tuag ati yn tyfu.

Bydd y ffordd rwyt ti’n disgyblu dy blant heddiw yn effeithio ar gyfathrebu’r teulu yn nes ymlaen

Dylai plant ufuddhau i’w rhieni a chael eu disgyblu yn ffordd Jehofa. (Eff. 6:1, 4) Ydy hynny’n golygu y dylai’r rhieni sicrhau bod eu plant yn dilyn rhestr hir o reolau? Mae’n golygu llawer mwy na gwybod rheolau’r cartref neu’r gosb am gamymddwyn. Mae rhieni sydd â doethineb ymarferol yn helpu eu plant i ddeall pam y dylen nhw fod yn ufudd.

Er enghraifft, dychmyga blentyn sy’n ddigywilydd ag un o’i rieni. Gall siarad yn llym neu ddisgyblu ar hap godi cywilydd arno neu orfodi iddo fynd yn ddistaw. Ond, efallai fod y plentyn yn teimlo’n ddig yn ei galon, gan achosi iddo efallai ymbellhau oddi wrth ei rieni.

Mae rhieni sy’n meithrin doethineb ymarferol yn meddwl am sut y bydd eu ffordd o ddisgyblu yn effeithio ar eu plant yn y dyfodol. Ni ddylai rhieni ymateb yn gyflym oherwydd eu bod nhw’n teimlo cywilydd. Yn ddistaw bach, gallan nhw resymu’n gariadus â’r plentyn ac egluro bod Jehofa yn disgwyl iddo anrhydeddu ei rieni er lles parhaol y plentyn. Wedyn, pan fydd y plentyn yn dangos ei fod yn parchu ei rieni, fe fydd yn sylweddoli ei fod yn anrhydeddu Jehofa. (Eff. 6:2, 3) Gall y dull cariadus hwn gyffwrdd â chalon y plentyn. Bydd yn gweld gofal diffuant ei rieni, a bydd ei barch tuag atyn nhw yn tyfu. Nawr, bydd y plentyn yn teimlo’n barod i ofyn am help pan fydd materion pwysig yn codi yn nes ymlaen.

Mae rhai rhieni’n teimlo’n annifyr rhag ofn iddyn nhw frifo teimladau eu plentyn, ac felly’n osgoi rhoi disgyblaeth. Ond, beth fydd yn digwydd wrth i’r plentyn fynd yn hŷn? A fydd yn ofni Jehofa ac yn gweld doethineb derbyn safonau Duw? A fydd yn debygol o agor ei galon a’i feddwl i Jehofa, neu a fydd yn ei ynysu ei hun yn ysbrydol?—Diar. 13:1; 29:21.

Mae cerflunydd da yn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer yr hyn y mae’n bwriadu ei siapio. Nid yw’n naddu’n ddifeddwl gan obeithio am y gorau. Mae rhieni sydd â doethineb ymarferol yn treulio oriau yn eu dysgu eu hunain am safonau Jehofa ac yn eu rhoi ar waith, ac felly’n dangos eu bod nhw’n ofni ei enw. Drwy beidio ag ymwahanu oddi wrth Jehofa a’i gyfundrefn, maen nhw’n ennill doethineb ymarferol ac yn ei ddefnyddio er lles y teulu.

Bob dydd, rydyn ni’n wynebu penderfyniadau a all effeithio ar ein bywyd am flynyddoedd wedyn. Yn hytrach na gwneud penderfyniad byrfyfyr, pam na wnei di stopio a meddwl am ychydig, gan bwyso a mesur y canlyniadau hirdymor? Ceisia arweiniad Jehofa, a rho ar waith ei ddoethineb dwyfol. Drwy wneud hynny, byddi di’n dal dy afael ar ddoethineb ymarferol, a bydd hynny yn rhoi bywyd iti.—Diar. 3:21, 22, beibl.net.