Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Mae’r Dasg . . . yn Un Fawr”

“Mae’r Dasg . . . yn Un Fawr”

MAE’R amser wedi dod ar gyfer cyfarfod pwysig iawn yn Jerwsalem. Mae’r Brenin Dafydd wedi galw ynghyd bob un o’i dywysogion, ei swyddogion, a’i arweinwyr milwrol. Maen nhw wrth eu boddau yn cael clywed cyhoeddiad arbennig. Mae Jehofa wedi comisiynu mab Dafydd, Solomon, i godi adeilad arbennig wedi ei gysegru ar gyfer addoli’r gwir Dduw. Mae brenin oedrannus Israel wedi derbyn y cynllun pensaernïol drwy ysbrydoliaeth ac wedi ei roi i Solomon. “Mae’r dasg o’i flaen yn un fawr,” meddai Dafydd, “achos nid adeilad i ddyn fydd hwn, ond i’r ARGLWYDD Dduw.”—1 Cron. 28:1, 2, 6, 11, 12; 29:1.

Nesaf, mae Dafydd yn gofyn y cwestiwn: “Felly pwy arall sydd am gyfrannu heddiw tuag at adeiladu teml Dduw?” (1 Cron. 29:5) Petaset ti wedi bod yno, sut byddet ti wedi ymateb? A fyddet ti wedi cael dy ysgogi i gefnogi’r gwaith arbennig hwnnw? Gweithredodd yr Israeliaid ar unwaith. Yn wir, “roedd pawb wrth eu boddau fod cymaint wedi’i gasglu, a bod pawb wedi bod mor barod i roi.”—1 Cron. 29:9.

Ganrifoedd yn ddiweddarach, sefydlodd Jehofa rywbeth llawer pwysicach na’r deml. Fe sefydlodd y deml ysbrydol fawr, sef trefn Duw i bobl fedru dod ato i addoli ar sail aberth Iesu. (Heb. 9:11, 12) Sut mae Jehofa yn helpu pobl i gymodi ag ef heddiw? Drwy’r gwaith o wneud disgyblion. (Math. 28:19, 20) O ganlyniad i’r gwaith hwnnw, mae miliynau o astudiaethau yn cael eu cynnal bob blwyddyn, mae miloedd o ddisgyblion yn cael eu bedyddio, ac mae cannoedd o gynulleidfaoedd newydd yn cael eu sefydlu.

Yn ei dro, mae cynnydd o’r fath yn gofyn am argraffu ychwaneg o lenyddiaeth Feiblaidd, am fwy o Neuaddau’r Deyrnas, ac yn golygu trefnu mwy o gynulliadau a chynadleddau. Onid wyt ti’n cytuno bod ein hymdrechion i ledaenu’r newyddion da yn waith arbennig a gwerth chweil?—Math. 24:14.

Mae cariad tuag at Dduw a chymydog ynghyd â sylweddoli bod pregethu’r newyddion da yn fater o frys yn achosi i bobl Jehofa “gyfrannu heddiw” tuag at waith y Deyrnas. Braint fawr yw inni ddefnyddio’r hyn sydd gennyn ni “i anrhydeddu’r ARGLWYDD” a braint hefyd yw gweld sut mae’r cyfraniadau hynny yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddoeth yn y gwaith pwysicaf a fu erioed!—Diar. 3:9.