Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

O’R ARCHIF

“Gyhoeddwyr y Deyrnas ym Mhrydain—Deffrowch!!”

“Gyhoeddwyr y Deyrnas ym Mhrydain—Deffrowch!!”

SEINIODD yr alwad fel utgorn: “Gyhoeddwyr y Deyrnas ym Mhrydain—Deffrowch!!” (Informant, * Rhagfyr 1937, rhifyn Llundain) Ychwanegodd yr isbennawd: “Dim Cynnydd Sylweddol am Ddeng Mlynedd.” I brofi’r pwynt, roedd adroddiad ar y dudalen flaen yn dangos y cyfnod rhwng 1928 a 1937.

GORMOD O ARLOESWYR?

Pam roedd y gwaith pregethu yn Mhrydain wedi arafu? Ymddengys fod y cynulleidfaoedd wedi mynd i rigol, yn parhau ar gyflymdra a osodwyd flynyddoedd ynghynt. Hefyd, penderfynodd y gangen fod digon o diriogaeth ar gyfer tua 200 o arloeswyr yn unig, a oedd yn gweithio tiriogaeth anghysbell yn hytrach na gweithio gyda’r cynulleidfaoedd. Felly, dywedodd y gangen wrth y rhai a oedd eisiau arloesi i fynd i wasanaethu dramor. A chwarae teg iddyn nhw, aeth arloeswyr o Brydain yn eu heidiau i wledydd fel Ffrainc, er gwaetha’r ffaith nad oedden nhw’n medru fawr ddim ar yr iaith.

“I’R GAD”

Ym 1937, gosodwyd nod ar gyfer 1938: Miliwn o oriau! Hawdd fyddai cyrraedd y nod hwnnw petai cyhoeddwyr yn treulio 15 awr y mis yn y weinidogaeth ac arloeswyr yn treulio 110 awr y mis. Rhai o’r awgrymiadau oedd trefnu grwpiau a fyddai’n treulio pum awr yn y weinidogaeth mewn diwrnod, a chanolbwyntio ar ail alwadau, yn enwedig gyda’r nosau.

Arloeswyr brwdfrydig yn rhoi eu sylw ar y weinidogaeth

Roedd rhoi cymaint o sylw unwaith eto i’r weinidogaeth yn rhoi gwefr i lawer. “Roedd hi’n alwad i’r gad oddi wrth y pencadlys, rhywbeth roedd y rhan fwyaf ohonon ni wedi bod yn disgwyl yn arw amdano, a chawson ni ganlyniadau arbennig o dda,” meddai Hilda Padgett. * Dywedodd y Chwaer E. F. Wallis: “Roedd y syniad o wneud pum awr y diwrnod yn un gwych! Oes yna unrhyw beth sy’n dod â mwy o lawenydd inni na threulio diwrnodau cyfan yng ngwaith yr Arglwydd? . . . Roedden ni’n dod adref yn flinedig weithiau, ond a oedden ni’n hapus? Yn bendant roedden ni!” Gwelodd y brawd ifanc Stephen Miller yr angen hefyd ac roedd yn awyddus i helpu. Roedd eisiau arloesi tra bo’r cyfle ganddo! Cofiodd grwpiau yn mynd ar gefn eu beiciau yn treulio diwrnodau cyfan yn y weinidogaeth, ac yn ystod yr haf, roedden nhw’n chwarae recordiadau o anerchiadau gyda’r nos. Defnyddion nhw blacardiau wrth gymryd rhan mewn gorymdeithiau a dosbarthu cylchgronau wrth dystiolaethu ar y stryd.

Hefyd, cafwyd apêl newydd yn yr Informant: “Mae angen 1,000 o arloeswyr.” Roedd polisi tiriogaeth newydd yn golygu nad oedd yr arloeswyr yn gweithio ar wahân i’r cynulleidfaoedd bellach, ond yn hytrach, yn cydweithio â nhw, ac yn eu cefnogi. “Roedd llawer o frodyr yn dechrau gweld fod angen iddyn nhw arloesi,” meddai Joyce Ellis (Barber gynt). “Er fy mod i’n 13 ar y pryd,” meddai, “ro’n i eisiau arloesi.” Cyrhaeddodd ei nod ym mis Gorffennaf 1940, yn 15 oed. Clywodd Peter, a briododd Joyce yn nes ymlaen, yr alwad, a chafodd ei ysgogi i “ddechrau meddwl am arloesi.” Ym mis Mehefin 1940, ac yntau’n 17, aeth 65 milltir ar gefn ei feic i Scarborough er mwyn cyflawni ei aseiniad newydd fel arloeswr.

Yn debyg i lawer o arloeswyr newydd eraill, penderfynodd Cyril a Kitty Johnson werthu eu tŷ a’u heiddo i ariannu eu gweinidogaeth lawn amser. Gadawodd Cyril ei swydd, ac o fewn mis, roedden nhw’n barod i ddechrau arloesi. Mae’n cofio: “Roedden ni’n gwbl hyderus. Roedden ni’n gwneud popeth o’n gwirfodd ac yn hapus oherwydd hynny.”

AGOR CARTREFI ARLOESWYR

Wrth i nifer yr arloeswyr gynyddu’n gyflym, meddyliodd y brodyr am ffyrdd ymarferol o’u cefnogi. Roedd Jim Carr yn gwasanaethu fel gwas parth (arolygwr y gylchdaith erbyn hyn) ym 1938 a phenderfynodd ddilyn y cyfarwyddyd i sefydlu cartrefi arloeswyr mewn dinasoedd. Anogwyd grwpiau o arloeswyr i fyw a gweithio gyda’i gilydd er mwyn arbed costau. Yn Sheffield, gwnaethon nhw rentu tŷ mawr, a phopeth yn cael ei arolygu gan frawd cyfrifol. Rhoddodd y gynulleidfa leol arian a dodrefn. Dywedodd Jim fod “pawb wedi gweithio’n galed i wneud i’r peth lwyddo.” Roedd deg arloeswr yn byw yno, ac yn glynu wrth raglen ysbrydol dda. “Trafodwyd testun y dydd bob bore,” ac yna “roedd yr arloeswyr yn mynd i’w tiriogaeth.”

Gwnaeth arloeswyr newydd lifo i mewn i’r maes ym Mhrydain

Gwnaeth cyhoeddwyr ac arloeswyr ymateb i’r alwad a chyrraedd miliwn o oriau ym 1938. Yn wir, mae’r adroddiadau yn dangos cynnydd ym mhob agwedd ar y weinidogaeth. Mewn pum mlynedd, treblodd nifer cyhoeddwyr Prydain bron. Byddai ailafael yn y gwaith pregethu yn atgyfnerthu pobl Jehofa i aros yn ffyddlon yn ystod blynyddoedd caled y rhyfel.

Heddiw, mae nifer arloeswyr Prydain yn cynyddu eto, wrth i Armagedon nesáu. Mae’r niferoedd wedi cyrraedd eu hanterth yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, sef 13,224 ym mis Hydref 2015. I’r arloeswyr hyn, y gwasanaeth llawn amser yw’r ffordd orau o fyw.

^ Par. 3 Yn ddiweddarach, fe’i gelwir Ein Gweinidogaeth.

^ Par. 8 Mae hanes bywyd y Chwaer Padgett yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 1 Hydref 1995, tt. 19-24.