Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR | BETH YW’R ANRHEG ORAU OLL?

Chwilio am yr Anrheg Orau

Chwilio am yr Anrheg Orau

Dydy dewis yr anrheg berffaith ddim yn hawdd. Wedi’r cwbl, bydd gwerth yr anrheg yn cael ei benderfynu gan y sawl sy’n derbyn yr anrheg. A dydy’r hyn sy’n gwneud anrheg yn berffaith i un person ddim yn wir am rywun arall.

Er enghraifft, gall rhywun yn ei arddegau deimlo y byddai’r ddyfais electronig ddiweddaraf yn gwneud anrheg dda. Ar y llaw arall, mae’n debyg y byddai oedolyn wrth ei fodd yn derbyn anrheg o werth personol mawr, fel trysor teuluol. Mewn rhai diwylliannau, yr hoff anrheg i rai ifanc a hen ydy arian, anrheg sy’n caniatáu i’r unigolyn brynu beth bynnag mae ef neu hi eisiau.

Er gwaetha’r her, mae llawer o bobl yn meddwl yn ofalus cyn dewis anrheg sy’n fwyaf addas ar gyfer rhywun annwyl. Er nad ydy ffeindio anrheg o’r fath bob amser yn bosib, bydd cadw rhai pethau penodol mewn cof yn ein helpu. Gadewch inni ystyried pedwar peth a all gyfrannu at foddhad yr un sy’n derbyn anrheg.

Dymuniadau’r sawl sy’n derbyn. Dywedodd dyn o Belfast, Gogledd Iwerddon, ei fod wedi derbyn beic rasio pan oedd yn 10 neu’n 11 mlwydd oed ac mai dyna oedd yr anrheg orau iddo ei chael erioed. Pam? “Oherwydd dyna roeddwn i wir eisiau,” meddai. Mae’r sylw hwnnw yn dangos cymaint y mae dymuniadau person ynghlwm wrth awydd rhywun i drysori’r anrheg neu beidio. Felly, meddyliwch am y person rydych chi eisiau rhoi anrheg iddo. Ceisiwch roi eich bys ar beth sy’n bwysig i’r person hwnnw, oherwydd bod gwerthoedd unigolyn yn aml yn effeithio ar ei ddymuniadau. Er enghraifft, mae tadau-cu a mamau-cu yn aml yn trysori treulio amser gyda’r teulu. Efallai eu bod nhw’n dymuno gweld eu plant a’u hwyrion mor aml ag sy’n bosib. Y tebyg yw y byddai gwyliau gyda’r teulu yn cael ei werthfawrogi yn llawer iawn mwy nag unrhyw anrheg arall.

Er mwyn gwybod am yr hyn sy’n bwysig i rywun, mae’n rhaid bod yn wrandawr da. Anogaeth y Beibl ydy inni “fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll.” (Iago 1:19) Wrth ichi sgwrsio â’ch ffrindiau neu’ch perthnasau, gwrandewch yn astud am gliwiau bach a fydd yn eich helpu chi i ddod i wybod am eu hoff bethau a’u cas bethau. Yna, byddwch mewn gwell sefyllfa i roi anrheg a fydd yn wir yn plesio.

Anghenion y sawl sy’n derbyn. Mae’n bosib i rywun drysori’r anrheg fwyaf syml os ydy’r anrheg honno’n cwrdd ag angen penodol. Ond sut rwyt ti’n gwybod beth fydd rhywun arall yn ei angen?

Y ffordd haws efallai fyddai ichi ofyn i’r unigolyn beth mae ef neu hi yn ei angen. Fodd bynnag, i lawer o bobl sy’n hoffi rhoi anrhegion, mae gwneud hynny’n difetha llawenydd y peth oherwydd eu bod nhw eisiau rhoi syrpréis i rywun. Ar ben hynny, er bod llawer o bobl yn siarad yn agored am eu hoff bethau a’u cas bethau, dydyn nhw ddim mor agored wrth sôn am eu hanghenion.

Felly, cymerwch ddiddordeb a rhowch sylw arbennig i amgylchiadau person. A ydy ef neu hi yn ifanc, yn hen, yn sengl, yn briod, yn ŵr neu’n wraig weddw, wedi cael ysgariad, yn gyflogedig, neu wedi ymddeol? Felly, meddyliwch am ba anrhegion a all gwrdd ag anghenion y person.

Er mwyn deall anghenion yr unigolyn rydych chi eisiau rhoi anrheg iddo, siaradwch ag eraill sydd wedi wynebu amgylchiadau tebyg. Byddan nhw’n gallu dweud wrthych chi am anghenion arbennig nad ydych chi wedi meddwl amdanyn nhw o’r blaen. Rydych chi nawr mewn gwell sefyllfa i roi anrheg sy’n cwrdd ag angen penodol nad oes neb arall wedi meddwl amdano.

Yr amseru. Mae’r Beibl yn dweud:“Mor dda ydy gair yn ei bryd!” (Diarhebion 15:23) Mae’r adnod hon yn dangos bod geiriau sy’n cael eu dweud ar yr adeg iawn yn gallu gwneud gwahaniaeth. Mae’r un peth yn wir am ein gweithredoedd. Fel y mae geiriau yn eu pryd yn plesio’r gwrandawr, mae anrheg yn ei phryd yn cyfrannu’n fawr iawn at lawenydd y sawl sy’n derbyn y rhodd.

Ffrind yn priodi. Person ifanc yn gadael yr ysgol. Cwpl priod yn disgwyl babi. Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r rhain lle bydd pobl yn hoffi rhoi anrhegion. Mae rhai yn cadw rhestr o achlysuron arbennig a fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn. Fel hyn, maen nhw’n gallu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer rhoi’r anrheg orau ar gyfer pob achlysur. *

Wrth gwrs, does dim rhaid ichi roi anrhegion ar achlysuron arbennig yn unig. Gall y llawenydd sy’n dod o roi anrheg gael ei fwynhau ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus. Er enghraifft, petai dyn yn rhoi anrheg i ddynes heb unrhyw reswm amlwg, hawdd fyddai iddi ddod i’r casgliad fod yr anrheg yn arwydd o ddiddordeb y dyn ynddi a’i fod eisiau dod i’w hadnabod yn well. Oni bai mai dyna oedd y rheswm dros roi’r anrheg yn y lle cyntaf, byddai anrheg o’r fath yn gallu arwain at gamddealltwriaeth neu broblemau. Mae hyn yn tanlinellu’r angen i ystyried ffactor bwysig arall—y rheswm dros roi anrheg.

Y rheswm dros roi anrheg. Fel y mae’r esiampl uchod yn dangos, peth da yw ystyried a fyddai’r sawl sy’n derbyn yr anrheg yn gallu camddeall y rheswm dros roi’r anrheg yn y lle cyntaf. Ar y llaw arall, da o beth fyddai i’r rhoddwr feddwl yn ofalus am ei gymhelliad ei hun. Er y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi meddwl eu bod nhw’n rhoi am y rhesymau cywir, mae llawer yn rhoi anrhegion ar wahanol adegau o’r flwyddyn oherwydd eu bod nhw’n teimlo o dan bwysau i wneud hynny. Mae eraill yn rhoi yn y gobaith y byddan nhw’n derbyn ffafriaeth neu rywbeth arbennig yn ei dro.

Ond sut gallwch chi wneud yn siŵr eich bod chi’n rhoi am y rhesymau cywir? Dywed y Beibl: “Gwnewch bopeth mewn cariad.” (1 Corinthiaid 16:14) Os ydych chi’n cael eich ysgogi i roi oherwydd cariad diffuant tuag at bobl, byddan nhw’n derbyn eich anrhegion yn llawn llawenydd a byddwch chithau’n profi’r hapusrwydd mawr sy’n dod o wir haelioni. Pan fyddwch yn rhoi o’r galon, byddwch hefyd yn gwneud i’ch Tad nefol lawenhau. Gwnaeth yr apostol Paul ganmol y Cristnogion yng Nghorinth gynt pan wnaethon nhw gefnogi’n hael y gwaith o roi cymorth i’w cyd-Gristnogion yn Jwdea. “Mae Duw’n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi” meddai Paul wrthyn nhw.—2 Corinthiaid 9:7.

Gall rhoi sylw i’r ffactorau rydyn ni wedi eu trafod eich helpu chi i allu rhoi anrhegion sy’n gwneud eraill yn hapus. Mae’r ffactorau hyn—a mwy—yn rhan o fwriad Duw i roi i ddynolryw yr anrheg fwyaf oll. Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ddysgu mwy am yr anrheg fawr hon drwy ddarllen yr erthygl nesaf.

^ Par. 13 Mae llawer o bobl yn rhoi anrhegion wrth ddathlu pen-blwyddi a gwyliau crefyddol eraill. Fodd bynnag, mae’r achlysuron hyn yn aml yn cynnwys arferion sy’n mynd yn groes i’r hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu. Gweler yr erthygl “Cwestiynau Ein Darllenwyr—Ai Gŵyl i Gristnogion Ydy’r Nadolig?” yn y cylchgrawn hwn.