Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU EIN DARLLENWYR . . .

Ai Gŵyl i Gristnogion Ydy’r Nadolig?

Ai Gŵyl i Gristnogion Ydy’r Nadolig?

Mae miliynau o bobl ar draws y byd yn credu mai gŵyl i ddathlu pen-blwydd Iesu Grist yw’r Nadolig. Fodd bynnag, a ydych chi erioed wedi gofyn a oedd Cristnogion y ganrif gyntaf, y rhai a oedd yn byw yn nes at amser Iesu, yn dathlu’r Nadolig? Ac ydych chi’n gwybod beth mae’r Beibl yn ei ddweud am benblwyddi? Bydd ateb y cwestiynau hyn yn ein helpu i weld a yw’r Nadolig yn ŵyl y dylai Cristnogion ei chadw neu beidio.

Yn gyntaf, does dim sôn yn y Beibl am ddathlu pen-blwydd Iesu neu unrhyw un ffyddlon arall a oedd yn addoli Duw. Mae’r Ysgrythurau yn cyfeirio at ddau unigolyn yn unig a oedd yn dathlu eu pen-blwydd. Doedd yr un ohonyn nhw’n addoli Jehofa, Duw’r Beibl, ac yn ystod y dathliadau pen-blwydd hyn, digwyddodd rhywbeth drwg. (Genesis 40:20; Marc 6:21) Yn ôl yr Encyclopædia Britannica, roedd y Cristnogion cynnar yn gwrthod dilyn “yr arfer paganaidd o ddathlu pen-blwyddi.”

Ar ba ddyddiad y cafodd Iesu ei eni?

Dydy’r Beibl ddim yn dweud yn union pryd y cafodd Iesu ei eni. “Ni ellir dyfalu union ddyddiad genedigaeth Crist o ddarllen y Testament Newydd neu unrhyw ffynhonnell arall,” meddai’r Cyclopedia gan McClintock a Strong. Os oedd Iesu eisiau i’w ddisgyblion ddathlu ei ben-blwydd, oni fyddai wedi gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gwybod ei ddyddiad geni?

Yn ail, does dim cofnod yn y Beibl fod Iesu neu unrhyw un o’i ddisgyblion wedi dathlu’r Nadolig. Yn ôl y New Catholic Encyclopedia, cafodd dathlu’r Nadolig ei grybwyll am y tro cyntaf “yng Nghronograff Philocalus, hynny yw, almanac Rhufeinig sy’n dyddio’n ôl i’r flwyddyn 336 OG.” Mae’n amlwg fod hynny ymhell ar ôl i’r Beibl gael ei gwblhau a chanrifoedd ar ôl i Iesu fod ar y ddaear. Felly, mae McClintock a Strong yn nodi “na chafodd dathlu’r Nadolig ei sefydlu gan Dduw, ac nid yw’n tarddu o’r Testament Newydd.” *

Pa ddigwyddiad y gofynnodd Iesu i’w ddisgyblion ei gynnal?

Rhoddodd Iesu, yr Athro Mawr, gyfarwyddiadau clir i’w ddisgyblion ynglŷn â’r yr hyn roedd eisiau i’w ddilynwyr ei wneud, ac mae’r cyfarwyddiadau hyn wedi eu cofnodi yn y Beibl. Fodd bynnag, dydy dathlu’r Nadolig ddim yn un ohonyn nhw. Nid yw athro ysgol eisiau i’w ddisgyblion fynd y tu hwnt i’r cyfarwyddiadau a roddwyd iddyn nhw, ac nid yw Iesu yn dymuno i’w ddilynwyr fynd “y tu hwnt i beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.”—1 Corinthiaid 4:6.

Ar y llaw arall, mae ’na un digwyddiad roedd y Cristnogion cynnar yn gwybod yn iawn amdano—y gwasanaeth i goffáu am farwolaeth Iesu, neu’r Goffadwriaeth. Gwnaeth Iesu ei hun ddweud wrth ei ddisgyblion pa bryd i wneud hyn a sut. Mae’r cyfarwyddiadau penodol hyn, yn ogystal ag union ddyddiad ei farwolaeth, wedi eu cofnodi yn y Beibl.—Luc 22:19; 1 Corinthiaid 11:25.

Fel yr ydyn ni wedi gweld, gŵyl sy’n dathlu pen-blwydd ydy’r Nadolig, a doedd y Cristnogion cynnar ddim yn dilyn yr arferiad paganaidd hwnnw. Ar ben hynny, dydy’r Beibl ddim yn dweud bod Iesu nac unrhyw un arall wedi dathlu’r Nadolig. Yng ngoleuni’r ffeithiau hyn, mae miliynau o Gristnogion ledled y byd wedi dod i’r casgliad nad ydy’r Nadolig yn ŵyl y byddan nhw’n ei dathlu.

^ Par. 6 Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thraddodiadau’r Nadolig a’u tarddiad, gweler yr erthygl “Our Readers Ask . . . What Are the Facts About Christmas?” yn y Tŵr Gwylio Saesneg 1 Rhagfyr 2014, sydd ar gael i’w ddarllen ar lein yn www.pr418.com.