Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Gwelson Ni Garedigrwydd Hael Duw Mewn Ffyrdd Di-rif

Gwelson Ni Garedigrwydd Hael Duw Mewn Ffyrdd Di-rif

YN DDYN ifanc duwiol, roedd fy nhad, Arthur, â’i fryd ar fod yn weinidog gyda’r Methodistiaid. Sut bynnag, newidiodd ei gynlluniau pan ddarllenodd gyhoeddiadau Myfyrwyr y Beibl a dechrau mynd i’w cyfarfodydd. Fe’i bedyddiwyd ym 1914, yn 17 mlwydd oed. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi dechrau ac fe gafodd ei alw i ymuno â’r fyddin. Oherwydd iddo wrthod dwyn arfau, cafodd ei ddedfrydu i ddeng mis yng Ngharchar Kingston, yn Ontario, Canada. Ar ôl cael ei ryddhau, aeth i’r weinidogaeth yn llawn amser fel colporteur (arloeswr).

Ym 1926, priododd Arthur Guest â Hazel Wilkinson, yr oedd ei mam wedi dysgu’r gwirionedd ym 1908. Cefais i fy ngeni ar 24 Ebrill 1931, yr ail o bedwar o blant. Roedd addoli Jehofa yn ganolog i’n bywyd teuluol, ac roedd gweld parch mawr fy nhad tuag at y Beibl yn meithrin ynon ni werthfawrogiad oes at Air Duw. Roedden ni’n mynd o dŷ i dŷ yn y weinidogaeth yn rheolaidd fel teulu.—Actau 20:20.

AROS YN NIWTRAL AC ARLOESI FEL FY NHAD

Dechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939, a’r flwyddyn ganlynol cafodd gwaith Tystion Jehofa yng Nghanada ei wahardd. Roedd ysgolion yn cynnal seremonïau gwladgarol, lle roedd disgwyl i bawb saliwtio’r faner a chanu’r anthem genedlaethol. Byddai fy chwaer hŷn, Dorothy, a minnau yn cael ein hel allan o’r dosbarth yn ystod y sesiynau hynny. Un diwrnod, er mawr syndod i mi, ceisiodd fy athro godi cywilydd arnaf drwy ddweud fy mod i’n llwfrgi. Ar ôl yr ysgol, ymosododd rhai o’r disgyblion arnaf a fy nharo i’r llawr. Ond ar ôl hynny, roeddwn i’n fwy penderfynol byth o “ufuddhau i Dduw, dim i ddynion.”—Actau 5:29.

Ym mis Gorffennaf 1942, yn 11 mlwydd oed, cefais fy medyddio mewn tanc dŵr ar fferm. Roeddwn i’n mwynhau arloesi yn ystod gwyliau’r ysgol. Un flwyddyn, fe es i gyda thri brawd arall i dystiolaethu wrth y gweithwyr coedwigaeth mewn ardal anghysbell yng ngogledd Ontario.

Ar 1 Mai 1949, dechreuais arloesi’n llawn amser. Oherwydd bod gan swyddfa’r gangen brosiect adeiladu ar y gweill, cefais wahoddiad i helpu, ac i ymuno â’r teulu Bethel yng Nghanada ar 1 Rhagfyr. Anfonwyd fi i’r argraffdy, lle dysgais weithio’r wasg. Am sawl wythnos, roeddwn i’n gweithio’r shifft nos yn argraffu traethodyn a oedd yn tynnu sylw at yr erledigaeth yr oedd pobl Jehofa yn ei dioddef yng Nghanada.

Yn nes ymlaen, a minnau’n gweithio yn yr Adran Wasanaeth, cyfwelais â nifer o arloeswyr a oedd yn ymweld â’r gangen ar eu ffordd i Quebec, lle’r oedd llawer o wrthwynebiad ar y pryd. Un o’r ymwelwyr oedd Mary Zazula, o Edmonton, Alberta. Roedd ei rhieni, a oedd yn aelodau selog o’r Eglwys Uniongred, wedi taflu Mary a’i brawd hŷn, Joe, allan am iddyn nhw wrthod stopio astudio’r Beibl. Roedd Mary a Joe wedi cael eu bedyddio ym mis Mehefin 1951, a chwe mis ar ôl hynny, dechreuon nhw arloesi. Yn ystod y cyfweliad, gwnaeth agwedd ysbrydol Mary argraff fawr arnaf. Dywedais wrthyf fi fy hun, ‘Oni bai fy mod i’n clywed rhywbeth negyddol amdani, mae’n debyg mai dyma’r ferch y byddaf yn ei phriodi.’ Priodon ni naw mis yn ddiweddarach—ar 30 Ionawr 1954. Yr wythnos wedyn, cawson ni wahoddiad i gael ein hyfforddi ar gyfer y gwaith cylch ac am y ddwy flynedd nesaf roedden ni’n gwasanaethu cylchdaith yng ngogledd Ontario.

Oherwydd y cynnydd mawr yn y gwaith pregethu trwy’r byd, roedd gofyn mawr am fwy o genhadon. Roedden ni’n meddwl, os oedden ni’n gallu ymdopi â gaeafau iasoer Canada a mosgitos yr haf, yna y bydden ni’n medru goroesi amgylchiadau anodd unrhyw aseiniad. Fe wnaethon ni raddio o ddosbarth rhif 27 Ysgol Gilead ym mis Gorffennaf 1956, ac erbyn mis Tachwedd roedden ni wedi cyrraedd Brasil.

CENHADU YM MRASIL

Pan gyrhaeddon ni swyddfa’r gangen ym Mrasil, cawson ni ein cyflwyno i’r iaith Bortiwgaleg. Ar ôl dysgu cyfarchion syml a chyflwyniad un-munud-o-hyd ar ein cof, aethon ni allan yn y weinidogaeth. Petai rhywun yn dangos diddordeb, awgrymwyd inni ddarllen adnodau sy’n disgrifio bywyd o dan Deyrnas Dduw. Ar ein diwrnod cyntaf yn y weinidogaeth, gwrandawodd un wraig yn astud, felly darllenais Datguddiad 21:3, 4—ac yna dyma fi’n llewygu! Doedd fy nghorff ddim wedi arfer â’r tywydd poeth a chlòs ac roedd hyn yn mynd i fod yn her barhaol.

Ein tiriogaeth fel cenhadon oedd dinas Campos, lle mae 15 cynulleidfa heddiw. Pan gyrhaeddon ni, dim ond un grŵp bach o gyhoeddwyr oedd yn y ddinas yn ogystal â chartref i genhadon gyda phedair chwaer yn byw ynddo: Esther Tracy, Ramona Bauer, Luiza Schwarz, a Lorraine Brookes (Wallen, bellach). Fy ngwaith i yn y tŷ oedd helpu i olchi dillad a chasglu coed tân ar gyfer coginio bwyd. Un nos Lun, ar ôl yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio, cawson ni ymwelydd annisgwyl. Roedd fy ngwraig yn gorwedd ar y soffa tra oedden ni’n trin ac yn trafod digwyddiadau’r diwrnod. Ond pan gododd ei phen o’r glustog, dyma neidr yn llithro allan a chreu tipyn o stŵr nes imi ei lladd!

Ar ôl astudio Portiwgaleg am flwyddyn, fe’m penodwyd yn arolygwr cylchdaith. Roedd bywyd yn syml yn yr ardaloedd gwledig—yn gorfod gwneud heb drydan, yn cysgu ar y llawr, ac yn teithio gyda cheffyl a thrap. Yn ystod ymgyrch i bregethu mewn ardal anghysbell, aethon ni ar y trên i dref yn y mynyddoedd a chael llety mewn tŷ. Anfonodd swyddfa’r gangen 800 o gylchgronau inni eu defnyddio yn y weinidogaeth. Roedd rhaid inni fynd yn ôl ac ymlaen i swyddfa’r post i gario’r bocsys yn ôl i’r tŷ.

Ym 1962, cynhaliwyd Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas ar hyd a lled Brasil ar gyfer y brodyr ac ar gyfer y chwiorydd hynny a oedd yn genhadon. Am chwe mis, roeddwn i’n mynd o un ysgol i’r nesaf—a hynny heb Mary. Roeddwn i’n dysgu dosbarthiadau ym Manaus, Belém, Fortaleza, Recife, a Salvador. Trefnais gynhadledd ranbarth yn y tŷ opera enwog ym Manaus. Oherwydd glawogydd trymion, cafodd llawer o’r dŵr yfed ei lygru a’n gadael heb ffreutur addas ar gyfer y gynhadledd. (Roedden ni’n arfer gweini prydau bwyd yn y cynadleddau bryd hynny.) Cysylltais â’r fyddin a threfnodd swyddog caredig inni gael digon o ddŵr yfed ar gyfer y gynhadledd gyfan. Anfonodd hefyd filwyr i godi dwy babell fawr i fod yn gegin ac yn ffreutur inni.

Tra fy mod i i ffwrdd, roedd Mary yn pregethu i bobl o Bortiwgal mewn ardal fasnachol. Yr unig beth o ddiddordeb i’r bobl oedd gwneud elw. Roedd hi’n methu dechrau sgwrs am y Beibl â neb, ac felly dywedodd hi wrth rai o’r teulu Bethel, “Portiwgal yw’r lle olaf ar y ddaear y byddwn i’n dewis byw ynddo.” Wel, chredwch chi byth ond yn fuan wedyn, cawson ni lythyr yn gofyn inni symud i Bortiwgal. Ar y pryd, roedd ein gwaith pregethu wedi ei wahardd yno, ond er gwaethaf ymateb cyntaf Mary, gwnaethon ni gytuno i fynd.

GWEITHIO YM MHORTIWGAL

Cyrhaeddon ni Lisbon, Portiwgal, ym mis Awst 1964. Roedd y brodyr yn cael eu herlid gan yr heddlu cudd (PIDE). Oherwydd hynny, y peth gorau oedd peidio â thynnu sylw aton ni’n hunain ac osgoi cysylltu â’r Tystion lleol. Fe wnaethon ni rentu ystafell i ddisgwyl am y papurau a fyddai’n caniatáu inni aros yn y wlad. Ar ôl cael ein fisas, fe wnaethon ni rentu fflat. Ym mis Ionawr 1965, roedden ni’n medru cysylltu o’r diwedd â swyddfa’r gangen. Mor hapus oedden ni i fynd i’n cyfarfod cyntaf ers pum mis!

Digwyddiad dyddiol yn y cyfnod hwnnw oedd i’r heddlu gyrraedd heb rybudd a chwilio tai ein brodyr. Oherwydd bod Neuaddau’r Deyrnas yn cael eu cau, roedd y cynulleidfaoedd yn cwrdd mewn tai. Cafodd cannoedd o Dystion eu cymryd i orsafoedd heddlu i’w holi. Cafodd y brodyr yn enwedig eu cam-drin, mewn ymgais i’w gorfodi i enwi’r rhai oedd yn arwain y cyfarfodydd. O ganlyniad, roedd y brodyr yn arfer defnyddio enwau cyntaf yn unig, fel José neu Paulo, yn hytrach na chyfenwau. Felly, dyna a wnaethon ninnau hefyd.

Y peth pwysicaf oedd bwydo’r brodyr yn ysbrydol. Gwaith Mary oedd teipio erthyglau astudio’r Tŵr Gwylio ar stensilau i’w copïo wedyn gyda mimeograff.

AMDDIFFYN Y NEWYDDION DA YN Y LLYS

Ym mis Mehefin 1966, aeth achos neilltuol i’r llys yn Lisbon. Cafodd 49 o bobl, sef cynulleidfa gyfan Feijó, eu cyhuddo o fynd i gyfarfod anghyfreithlon mewn tŷ. Roeddwn i’n eu paratoi ar gyfer y treial a’r croesholi drwy chwarae rôl y cyfreithiwr ar ran yr erlyniaeth. Roedden ni’n gwybod y bydden ni’n colli’r achos, ond fe fyddai’n dystiolaeth fawr. Wrth grynhoi ei amddiffyniaeth, dyfynnodd ein cyfreithiwr eiriau Gamaliel o’r ganrif gyntaf. (Actau 5:33-39) Cafodd yr achos sylw eang yn y wasg a charcharwyd y 49 o frodyr a chwiorydd am gyfnodau yn amrywio o 45 diwrnod i bum mis a hanner. Rydyn ni’n falch o ddweud bod ein cyfreithiwr dewr wedi dechrau astudio’r Beibl a dod i’r cyfarfodydd cyn iddo farw.

Ym mis Rhagfyr 1966, cefais fy mhenodi’n arolygwr y gangen, a threuliais oriau lawer ar faterion cyfreithiol. Gosodwyd sail gadarn dros hawl Tystion Jehofa i addoli’n rhydd. (Phil. 1:7) O’r diwedd cafwyd cydnabyddiaeth gyfreithiol ar 18 Rhagfyr 1974. I ddathlu’r digwyddiad llawen hwnnw, daeth y Brodyr Nathan Knorr a Frederick Franz o’r pencadlys i gyfarfod hanesyddol yn Oporto a Lisbon, gyda chyfanswm o 46,870 yn bresennol.

Roedd Jehofa wedi agor y drws i’r gwaith ddatblygu mewn nifer o ynysoedd lle siaredir Portiwgaleg, gan gynnwys yr Asores, Cape Verde, Madeira, a São Tomé a Príncipe. Yn sgil hynny, roedd angen swyddfeydd cangen mwy, ac atebwyd yr angen hwn ym 1988. Ar 23 Ebrill daeth y Brawd Milton Henschel i gysegru’r adeiladau newydd o flaen cynulleidfa frwdfrydig o 45,522. Calondid oedd gweld 20 o frodyr a chwiorydd a oedd wedi bod yn genhadon ym Mhortiwgal yn ôl yn y wlad ar gyfer y digwyddiad hanesyddol hwnnw.

DYLANWAD DA POBL FFYDDLON

Dros y blynyddoedd, mae cymdeithasu â brodyr ffyddlon wedi cyfoethogi ein bywydau’n fawr. Dysgais wers dda drwy helpu’r Brawd Theodore Jaracz ar ymweliad i wlad arall. Roedd y gangen yno’n wynebu sefyllfa ddifrifol, ac roedd aelodau Pwyllgor y Gangen wedi gwneud popeth yr oedd yn rhesymol i’w wneud. Er mwyn tawelu eu meddyliau dywedodd y Brawd Jaracz: “Mae’n amser bellach i adael lle i’r ysbryd glân wneud ei waith.” Yn ystod ymweliad i Brooklyn sawl degawd yn ôl, gwahoddwyd fy ngwraig Mary a minnau i noson yng nghwmni y Brawd Franz ac eraill. Gofynnwyd i’r Brawd Franz ddod â’r noson i ben drwy ddweud rhywbeth am ei holl flynyddoedd yng ngwasanaeth Jehofa. Dywedodd ef: “Fy nghyngor i yw: Glynwch wrth gyfundrefn Jehofa drwy’r tew a’r tenau. Hon yw’r unig gyfundrefn sy’n gwneud y gwaith y gorchmynnodd Iesu i’w ddisgyblion ei wneud, sef cyhoeddi newyddion da’r Deyrnas!”

Mae gwneud hynny wedi bod yn llawenydd mawr i mi a fy ngwraig. Mae llu o atgofion melys gennyn ni o ymweld â changhennau mewn gwledydd eraill. Rhoddodd yr ymweliadau hyn gyfle inni ganmol ein brodyr, yr hen a’r ifainc, am eu gwasanaeth ffyddlon, a’u hannog i ddal ati yn eu braint arbennig o wasanaethu Jehofa.

Mae’r blynyddoedd wedi mynd heibio, ac rydyn ni’n dau bellach yn ein 80au. Mae gan Mary nifer o broblemau iechyd. (2 Cor. 12:9) Mae treialon wedi coethi ein ffydd a chryfhau ein penderfyniad i aros yn ffyddlon. Wrth edrych yn ôl ar ein bywydau, teimlwn ein bod ni wedi gweld caredigrwydd hael Jehofa mewn llawer o ffyrdd. *

^ Par. 29 Ar 25 Hydref 2015, cyn i’r erthygl hon fynd i’r wasg, bu farw Douglas Guest yn ffyddlon i Jehofa.