Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Jehofa yn Arwain ei Bobl

Jehofa yn Arwain ei Bobl

“Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser.”—ESEI. 58:11.

CANEUON: 152, 22

1, 2. (a) Sut mae’r rhai sy’n arwain ymhlith Tystion Jehofa yn wahanol i arweinwyr crefyddau eraill? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon a’r nesaf?

“PWY yw eich arweinydd?” Gofynnwyd y cwestiwn hwnnw’n aml i Dystion Jehofa. A does dim rhyfedd! Mewn llawer o grefyddau, un person sy’n gweithredu fel arweinydd. Fodd bynnag, rydyn ni’n falch o gael dweud nad dyn amherffaith yw ein Harweinydd ni. Yn hytrach, rydyn ni’n dilyn arweiniad y Crist atgyfodedig, sydd, yn ei dro, yn dilyn arweiniad ei Dad, Jehofa.—Math. 23:10.

2 Er hynny, mae grŵp gweladwy o ddynion, y “gwas ffyddlon a chall,” yn arwain ymhlith pobl Dduw heddiw. (Math. 24:45, BCND) Sut rydyn ni’n gwybod mai Jehofa sydd, mewn gwirionedd, yn ein harwain drwy gyfrwng ei Fab anweladwy? Yn yr erthygl hon a’r nesaf, byddwn ni’n ystyried sut mae Jehofa, dros y canrifoedd, wedi defnyddio dynion i arwain ei bobl. Bydd y ddwy erthygl yn ystyried tair agwedd sy’n dangos mai Jehofa sydd wedi bod y tu ôl i’r dynion hynny, ac sy’n profi mai ef oedd—ac mai ef yw—gwir Arweinydd ei bobl.—Esei. 58:11.

WEDI EU GALLUOGI GAN YR YSBRYD GLÂN

3. Beth oedd yn rhoi’r nerth i Moses arwain yr Israeliaid?

3 Yr ysbryd glân a oedd yn atgyfnerthu cynrychiolwyr Duw. Ystyria esiampl Moses, a benodwyd yn arweinydd ar yr Israeliaid. Beth a’i helpodd i ofalu am yr aseiniad hwnnw? Gwnaeth Jehofa “roi ei Ysbryd Glân” iddo. (Darllen Eseia 63:11-14.) Trwy roi ei ysbryd glân i Moses, roedd Jehofa yn parhau i arwain Ei bobl.

4. Sut gallai’r Israeliaid ddirnad bod ysbryd glân Duw yn gweithredu ar Moses? (Gweler y llun agoriadol.)

4 Gan mai grym anweledig yw’r ysbryd glân, sut gallai’r Israeliaid ddirnad bod yr ysbryd hwnnw’n gweithredu ar Moses? Yr ysbryd glân a oedd yn galluogi Moses i gyflawni gwyrthiau ac i gyhoeddi enw Duw i Pharo. (Ex. 7:1-3) Hefyd, yr ysbryd glân a alluogodd Moses i ddangos rhinweddau fel cariad, gostyngeiddrwydd, ac amynedd, priodoleddau a’i gwnaeth yn gymwys i arwain yr Israeliaid. Roedd hynny’n wahanol iawn i arweinwyr creulon y gwledydd eraill! (Ex. 5:2, 6-9) Roedd y dystiolaeth yn glir: Penodwyd Moses gan Jehofa i arwain Ei bobl.

5. Esbonia sut roedd Jehofa wedi helpu dynion eraill i arwain ei bobl.

5 Yn ddiweddarach, gwnaeth ysbryd glân Jehofa alluogi dynion eraill a benodwyd ganddo i arwain ei bobl. “Roedd yr Arglwydd wedi gwneud Josua yn berson doeth iawn.” (Deut. 34:9) “Dyma Ysbryd yr Arglwydd yn dod ar Gideon.” (Barn. 6:34) A “daeth Ysbryd yr Arglwydd yn rymus ar Dafydd.” (1 Sam. 16:13) Dibynnodd y dynion hyn ar ysbryd Duw i’w helpu nhw, a gwnaeth yr ysbryd hwnnw eu galluogi i gyflawni pethau na fydden nhw byth wedi gallu eu gwneud yn eu nerth eu hunain. (Jos. 11:16, 17; Barn. 7:7, 22; 1 Sam. 17:37, 50) O ganlyniad, priodol oedd i Jehofa dderbyn y clod am y gweithredoedd mawrion hynny.

6. Pam roedd Duw eisiau i’w bobl barchu arweinwyr Israel?

6 Sut dylai’r Israeliaid fod wedi ymateb i’r dystiolaeth fod ysbryd Duw yn gweithredu ar y dynion hynny? Pan gwynodd y bobl am arweinyddiaeth Moses, gofynnodd Jehofa: “Am faint mae’r bobl yma’n mynd i’m dirmygu i?” (Num. 14:2, 11) Yn wir, Jehofa a ddewisodd Moses, Josua, Gideon, a Dafydd i’w gynrychioli fel Arweinydd. Wrth wrando ar y dynion hyn, roedden nhw’n cydnabod mai Jehofa oedd eu Harweinydd.

WEDI EU CYNORTHWYO GAN ANGYLION

7. Sut gwnaeth angylion gynorthwyo Moses?

7 Roedd angylion yn cynorthwyo cynrychiolwyr Duw. (Darllen Hebreaid 1:7, 14.) Defnyddiodd Jehofa angylion i gomisiynu, i alluogi, ac i arwain Moses. “Drwy gyfrwng yr angel a welodd yn y berth cafodd ei anfon gan Dduw ei hun i’w harwain nhw a’u hachub nhw!” (Act. 7:35) Roedd “Duw wedi defnyddio angylion” i drosglwyddo’r Gyfraith a ddefnyddid gan Moses i addysgu’r Israeliaid. (Gal. 3:19) A dywedodd Jehofa wrtho: “Dos di yn dy flaen, ac arwain y bobl yma i’r lle dw i wedi dweud wrthot ti amdano. Edrych, bydd fy angel yn mynd o dy flaen di.” (Ex. 32:34) Nid oes sôn yn y Beibl fod yr Israeliaid wedi gweld yr angel hwnnw. Ond, roedd y ffordd roedd Moses yn hyfforddi ac yn arwain y bobl yn dangos bod ganddo help goruwchddynol.

8. Pa help a dderbyniodd Josua a Heseceia gan angylion?

8 Ar ôl dyddiau Moses, gwnaeth “Pennaeth byddin yr Arglwydd” gryfhau Josua i arwain pobl Dduw i ymladd yn erbyn y Canaaneaid, ac i ennill y fuddugoliaeth. (Jos. 5:13-15; 6:2, 21) Yn ddiweddarach, wynebodd y Brenin Heseceia fyddin enfawr o Asyria a oedd yn bygwth dinas Jerwsalem. Mewn un noson, “dyma angel yr Arglwydd yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria.”—2 Bren. 19:35.

9. A oedd amherffeithrwydd cynrychiolwyr Duw yn esgus i’r Israeliaid wrthod dilyn eu harweiniad? Esbonia.

9 Er bod angylion yn berffaith, doedd y dynion roedden nhw’n eu cynorthwyo ddim. Ar un adeg, roedd Moses yn euog o beidio â sancteiddio Jehofa. (Num. 20:12, BCND) Ni wnaeth Josua droi at Dduw cyn gwneud cyfamod â’r Gibeoniaid. (Jos. 9:14, 15) Am gyfnod byr, trodd Heseceia’n falch. (2 Cron. 32:25, 26) Serch hynny, er gwaethaf amherffeithrwydd y dynion hyn, disgwyliwyd i’r Israeliaid ddilyn eu harweiniad. Cefnogodd Jehofa y dynion hyn drwy ddefnyddio ei angylion. Heb os, roedd Jehofa yn arwain ei bobl.

WEDI EU HARWAIN GAN AIR DUW

10. Sut cafodd Moses ei arwain gan Gyfraith Duw?

10 Roedd Gair Duw yn arwain ei bobl. Mae’r Beibl yn galw’r Gyfraith a roddwyd i’r Israeliaid yn Gyfraith Moses. (1 Bren. 2:3) Er hynny, mae’r Beibl yn dweud mai oddi wrth Jehofa y daeth y Gyfraith, a bod Moses yn atebol iddi. (2 Cron. 34:14) Ar ôl i Jehofa roi cyfarwyddiadau iddo ynglŷn â chodi’r Tabernacl, “dyma Moses yn gwneud yn union fel roedd yr Arglwydd wedi dweud wrtho.”—Ex. 40:1-16.

11, 12. (a) Beth y gofynnwyd i Joseia a brenhinoedd Israel ei wneud? (b) Pa effaith a gafodd Gair Duw ar arweinwyr pobl Dduw?

11 O ddechrau ei arweinyddiaeth, roedd gan Josua gopi ysgrifenedig o Air Duw. Dywedwyd wrtho: “Myfyria arni ddydd a nos, a’i dysgu,” a hynny “er mwyn i ti wneud beth mae’n ei ddweud.” (Jos. 1:8) Yn nes ymlaen, roedd brenhinoedd pobl Dduw yn gwneud yn debyg iddo. Roedd rhaid iddyn nhw ddarllen y Gyfraith yn ddyddiol, ysgrifennu copi ohoni, gwneud “popeth mae’r gyfraith yn ei ddweud, a dilyn ei chanllawiau.”—Darllen Deuteronomium 17:18-20.

12 Pa effaith a gafodd Gair Duw ar yr arweinwyr hyn? Ystyria esiampl y Brenin Joseia. Pan ddarganfyddwyd dogfen a oedd yn cynnwys Cyfraith Moses, dechreuodd ysgrifennydd Joseia ddarllen y Gyfraith iddo. * Beth oedd ymateb y brenin? “Wedi iddo glywed beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud, dyma’r brenin yn rhwygo ei ddillad.” Ond gwnaeth fwy na hynny. O dan arweiniad Gair Duw, cychwynnodd Joseia ymgyrch egnïol yn erbyn eilunaddoliaeth a threfnu i’r genedl ddathlu’r Pasg mewn ffordd arbennig. (2 Bren. 22:11; 23:1-23) Oherwydd bod Joseia ac arweinwyr ffyddlon eraill wedi gadael i Air Duw eu harwain, roedden nhw’n fodlon addasu ac esbonio’r cyfarwyddiadau a roddwyd ganddyn nhw i bobl Dduw. O ganlyniad i’r newidiadau hynny, roedd pobl Dduw gynt yn byw yn unol â’i ewyllys.

13. Pa wahaniaeth oedd rhwng arweinwyr pobl Dduw ac arweinwyr y gwledydd paganaidd?

13 Ar y llaw arall, roedd arweinwyr y gwledydd eraill yn gadael i ddoethineb dynol eu harwain! Roedd arweinwyr y Canaaneaid yn caniatáu pethau ffiaidd, fel llosgach, cyfunrhywiaeth, bwystfileiddiwch, aberthu plant, ac eilunaddoliaeth. (Lef. 18:6, 21-25) Ar ben hynny, nid oedd arweinwyr Babilon a’r Aifft yn dilyn yr arferion a roddodd Duw i’r Israeliaid o ran glanweithdra. (Num. 19:13) Ond, roedd pobl Dduw gynt yn gweld sut roedd eu harweinwyr yn hyrwyddo glendid ysbrydol, moesol, a chorfforol. Yn amlwg, Jehofa oedd yn eu harwain.

14. Pam disgyblodd Jehofa rai o arweinwyr ei bobl?

14 Ni wnaeth pob un o frenhinoedd pobl Dduw gynt ddilyn arweiniad Duw. Gwrthododd yr arweinwyr anufudd hynny dderbyn arweiniad gan ysbryd glan Duw, yr angylion, a’i Air. Mewn rhai achosion, cafodd yr arweinwyr hynny eu disgyblu neu eu disodli gan Jehofa. (1 Sam. 13:13, 14) Yna, ar adeg a bennwyd gan Dduw, fe benododd rywun a fyddai’n fwy cymwys nag unrhyw un o’r dynion blaenorol.

JEHOFA YN PENODI ARWEINYDD PERFFAITH

15. (a) Sut gwnaeth y proffwydi ddangos y byddai arweinydd cymwys yn dod? (b) Pwy oedd yr arweinydd addawedig hwnnw?

15 Am ganrifoedd, roedd Jehofa wedi proffwydo y byddai’n penodi arweinydd cymwys ar gyfer ei bobl. “Bydd yr Arglwydd eich Duw yn codi proffwyd arall fel fi o’ch plith chi,” meddai Moses wrth yr Israeliaid. “Rhaid i chi wrando’n ofalus arno.” (Deut. 18:15) Rhagfynegodd Eseia y byddai’r Un hwn “yn arweinydd yn rheoli gwledydd.” (Esei. 55:4) Ac ysbrydolwyd Daniel i ddatgan y byddai’r Meseia yn cael “ei eneinio yn arweinydd.” (Dan. 9:25) Yn olaf, dywedodd Iesu Grist mai ef oedd “meistr” pobl Dduw. (Darllen Mathew 23:10.) Roedd disgyblion Iesu yn ei ddilyn o’u gwirfodd, a gwnaethon nhw gadarnhau mai ef oedd dewis Jehofa. (Ioan 6:68, 69) Pam roedden nhw mor sicr fod Jehofa yn defnyddio Iesu Grist i arwain ei bobl?

16. Beth oedd yn profi bod yr ysbryd glân y tu cefn i Iesu?

16 Roedd yr ysbryd glân yn rhoi nerth i Iesu. Ar adeg bedyddio Iesu, gwelodd Ioan “yr awyr yn rhwygo’n agored a’r Ysbryd Glân yn disgyn arno fel colomen.” Wedi hynny, “dyma’r Ysbryd yn gyrru Iesu allan i’r anialwch.” (Marc 1:10-12) Byth oddi ar hynny, atgyfnerthwyd Iesu gan ysbryd glân Duw i gyflawni gwyrthiau ac i siarad ag awdurdod dwyfol. (Act. 10:38) Yn ogystal, yr ysbryd glân a alluogodd Iesu i ddangos rhinweddau fel cariad, llawenydd, a ffydd. (Ioan 15:9; Heb. 12:2) Yn wahanol i bob arweinydd arall, roedd y dystiolaeth yn dangos yn glir mai Iesu oedd dewis Jehofa.

Sut gwnaeth angylion gynorthwyo Iesu ychydig ar ôl iddo gael ei fedyddio? (Gweler paragraff 17)

17. Sut gwnaeth yr angylion helpu Iesu?

17 Roedd yr angylion yn gwasanaethu Iesu. Yn fuan ar ôl bedydd Iesu, “daeth yr angylion ato a gofalu amdano.” (Math. 4:11) Oriau cyn ei farwolaeth, gwelodd Iesu “angel o’r nefoedd, ac roedd yr angel yn ei annog ac yn cryfhau ei benderfyniad.” (Luc 22:43) Fe wyddai Iesu y byddai Jehofa yn anfon yr angylion ato i’w helpu i gyflawni ewyllys Duw.—Math. 26:53.

18, 19. Sut roedd Gair Duw yn arwain bywyd Iesu a’i ffordd o ddysgu?

18 Roedd Gair Duw yn arwain Iesu. O ddechrau ei weinidogaeth, gadawodd Iesu i’r Ysgrythurau ei arwain. (Math. 4:4) Yn wir, oherwydd ei ufudd-dod llwyr i Air Duw, roedd yn barod i farw dros ddynolryw. Roedd hyd yn oed ei eiriau olaf yn cynnwys dyfyniadau o’r proffwydoliaethau Meseianaidd. (Math. 27:46; Luc 23:46) Ar y llaw arall, roedd arweinwyr crefyddol y cyfnod yn anwybyddu Gair Duw pan oedd yn tynnu’n groes i’w traddodiadau. Yn dyfynnu geiriau Jehofa drwy’r proffwyd Eseia, dywedodd Iesu am yr arweinwyr hyn: “Mae’r bobl yma’n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i. Mae eu haddoliad yn ddiystyr; mân-reolau dynol ydy’r cwbl maen nhw’n ei ddysgu.” (Math. 15:7-9) A allai Jehofa fod wedi dewis un o’r dynion hynny i arwain ei bobl?

19 Gadawodd Iesu i Air Duw lywio ei weithredoedd a hefyd ei ddysgu. Yn wyneb pynciau llosg crefyddol, ni ddibynnodd ar ei ddoethineb ei hun nac ar ei brofiad personol. Yn hytrach, roedd yn gadael i’r Ysgrythurau gael y gair olaf. (Math. 22:33-40) Ac yn hytrach na difyrru ei wrandawyr â storïau am fywyd yn y nef neu am greu’r bydysawd, “esboniodd iddyn nhw beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud, er mwyn iddyn nhw ddeall.” (Luc 24:32, 45) Roedd Iesu yn caru Gair Duw, ac roedd yn awyddus i siarad amdano ag eraill.

20. (a) Sut dangosodd Iesu ei fod yn ufudd i Dduw? (b) Beth mae’r gwahaniaeth rhwng Iesu a Herod Agripa I yn ei ddysgu inni am ddewis Jehofa o ran arweinydd?

20 Er bod pobl wedi rhyfeddu at “y pethau gwych roedd yn eu dweud,” rhoddodd Iesu’r clod bob amser i Jehofa. (Luc 4:22) Pan geisiodd dyn cyfoethog ei ogoneddu drwy ddefnyddio’r teitl “Athro da,” gofynnodd Iesu: “Pam wyt ti’n fy ngalw i’n dda? . . . Onid Duw ydy’r unig un sy’n dda?” (Marc 10:17, 18) Roedd hynny’n cyferbynnu’n gryf ag agwedd Herod Agripa I, a ddaeth yn frenin ar Jwdea tua wyth mlynedd yn ddiweddarach. Ar un achlysur, dyma Herod “yn gwisgo’i holl regalia.” Roedd Herod wedi gwirioni pan waeddodd y dorf: “Duw ydy hwn, nid dyn sy’n siarad!” Beth ddigwyddodd nesaf? “A’r eiliad honno dyma angel Duw yn ei daro’n wael, am iddo adael i’r bobl ei addoli fel petai e’n dduw. Cafodd ei fwyta gan lyngyr a buodd farw.” (Act. 12:21-23) Byddai Jehofa byth wedi dewis rhywun fel Herod i fod yn arweinydd. Ar y llaw arall, roedd Iesu wedi profi mai Duw oedd wedi ei benodi, ac roedd bob amser yn clodfori Jehofa, Prif Arweinydd ei bobl.

21. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

21 Roedd arweinyddiaeth Iesu i bara am fwy nag ychydig o flynyddoedd yn unig. “Dw i wedi cael awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear,” meddai ar ôl ei atgyfodiad. “Bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.” (Math. 28:18-20) Ond, ac yntau bellach yn y nefoedd, sut byddai Iesu yn arwain pobl Dduw ar y ddaear? Pwy fyddai Jehofa yn ei ddefnyddio i weithio o dan arweinyddiaeth Crist ac i arwain ymhlith ei bobl? Sut byddai Cristnogion yn gallu adnabod ei gynrychiolwyr? Bydd yr erthygl nesaf yn ystyried yr atebion i’r cwestiynau hyn.

^ Par. 12 Hon efallai oedd y ddogfen wreiddiol a ysgrifennwyd gan Moses.