Cwestiynau Ein Darllenwyr
Ysgrifennodd yr apostol Paul na fydd Jehofa “yn gadael i’r temtasiwn fod yn ormod i chi.” (1 Cor. 10:13) Ydy hyn yn golygu bod Jehofa yn asesu o flaen llaw faint y gallwn ei ddioddef ac wedyn yn dewis pa dreialon y byddwn yn eu hwynebu?
Ystyria oblygiadau safbwynt o’r fath. Gofynnodd un brawd yr oedd ei fab wedi ei ladd ei hun: “A oedd Jehofa wedi gweld o flaen llaw fy mod i a’m gwraig yn medru dioddef hunanladdiad ein mab?” A oes rheswm inni gredu bod Jehofa yn pennu’r hyn sy’n digwydd inni mewn modd mor benodol?
Mae ystyriaeth bellach o eiriau Paul yn 1 Corinthiaid 10:13 yn arwain at y casgliad canlynol: Does dim rheswm Ysgrythurol dros gredu bod Jehofa yn asesu o flaen llaw faint y gallwn ei ddioddef ac yna’n dewis pa dreialon a ddaw i’n rhan. Ystyriwn bedwar rheswm dros ddod i’r casgliad hwnnw.
Yn gyntaf, mae Jehofa wedi rhoi ewyllys rhydd i fodau dynol. Mae’n dymuno inni ddewis ein llwybr ein hunain mewn bywyd. (Deut. 30:19, 20; Jos. 24:15) Os dewiswn y ffordd iawn, gallwn droi at Jehofa am arweiniad. (Diar. 16:9) Ond, os dewiswn y ffordd anghywir, bydd rhaid wynebu’r canlyniadau. (Gal. 6:7) Pe bai Jehofa yn dewis y treialon sy’n dod i’n rhan, oni fyddai hynny yn amharu ar ein hewyllys rhydd?
Yn ail, nid yw Jehofa yn ein gwarchod rhag “y damweiniau [sy]’n gallu digwydd i bawb.” (Preg. 9:11) Mae damweiniau, gan gynnwys rhai trychinebus, yn gallu digwydd oherwydd bod rhywun yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir. Cyfeiriodd Iesu at drychineb a laddodd 18 o bobl pan syrthiodd tŵr arnyn nhw, ond dangosodd nad ewyllys Duw oedd y marwolaethau hynny. (Luc 13:1-5) Onid afresymol yw credu bod Duw yn penderfynu o flaen llaw pwy sy’n byw a phwy sy’n marw o ganlyniad i bethau sy’n digwydd trwy ddamwain?
Yn drydydd, mae’r ddadl ynglŷn â chadw uniondeb yn ymwneud â phob un ohonon ni. Cofia fod Satan wedi codi cwestiwn am uniondeb pawb sy’n gwasanaethu Jehofa, gan honni na fydd neb yn aros yn ffyddlon i Jehofa dan brawf. (Job 1:9-11; 2:4; Dat. 12:10) Pe bai Jehofa yn ein gwarchod rhag wynebu rhai treialon oherwydd iddo feddwl eu bod nhw’n ormod inni, oni fyddai hynny yn awgrymu bod Satan yn iawn i’n cyhuddo ni o wasanaethu Duw am resymau hunanol?
Yn bedwerydd, nid oes rhaid i Jehofa wybod am bopeth sy’n digwydd inni o flaen llaw. Mae’r syniad fod Duw yn dewis ein treialon o flaen llaw yn awgrymu bod rhaid iddo wybod popeth am ein dyfodol. Ond nid safbwynt Ysgrythurol yw hwnnw. Yn ddiamau, fe all Duw ragweld y dyfodol. (Esei. 46:10) Ond mae’r Beibl yn dangos bod Duw yn dewis pa bethau y mae eisiau eu gwybod am ddigwyddiadau’r dyfodol. (Gen. 18:20, 21; 22:12) Felly, mae’n cloriannu ei ragwybodaeth â’i barch tuag at ein hewyllys rhydd. Onid dyna y bydden ni’n ei ddisgwyl gan Dduw sy’n parchu ein rhyddid ac sydd bob amser yn arfer ei briodoleddau mewn ffordd berffaith gytbwys?—Deut. 32:4; 2 Cor. 3:17.
Sut felly mae deall geiriau Paul: “Fydd [Duw] ddim yn gadael i’r temtasiwn fod yn ormod i chi”? Yma, mae Paul yn disgrifio’r hyn y mae Jehofa yn ei wneud, nid cyn ond yn ystod ein treialon. * Mae geiriau’r apostol yn rhoi’r sicrwydd inni y bydd Jehofa, ni waeth pa dreialon sy’n dod i’n rhan, yn ein cynnal os ymddiriedwn ynddo. (Salm 55:22) Mae geiriau Paul yn seiliedig ar ddau wirionedd.
Yn gyntaf, nid yw ein treialon ni’n wahanol i dreialon pobl eraill. Hynny yw, maen nhw’n rhan o’r profiad dynol cyffredin. Nid yw treialon felly y tu hwnt i’n gallu i’w dioddef—cyhyd â’n bod ni’n dibynnu ar Dduw. (1 Pedr 5:8, 9) O edrych ar gyd-destun 1 Corinthiaid 10:13, gwelwn fod Paul yn cyfeirio at dreialon Israel yn yr anialwch. (1 Cor. 10:6-11) Nid oedd yr un o’r treialon hynny y tu hwnt i’r profiad dynol nac yn amhosibl i’r Israeliaid ffyddlon ei ddioddef. Dywed Paul bedair gwaith y bu “rhai ohonyn nhw” yn anufudd. Ildiodd rhai o’r Israeliaid oherwydd iddyn nhw fethu dibynnu ar Dduw.
Yn ail, “mae Duw yn ffyddlon.” Mae hanes y ffordd y mae Duw wedi ymdrin â’i bobl yn dangos ei fod yn ffyddlon “i’r rhai sy’n ei garu ac yn gwneud beth mae e’n ddweud.” (Deut. 7:9) Mae’r hanes hefyd yn dangos ei fod bob amser yn cadw ei addewidion. (Jos. 23:14) Oherwydd ei ffyddlondeb yn y gorffennol, mae’r rhai sy’n caru Jehofa ac sy’n ufudd iddo yn gallu dibynnu arno i gadw’r addewid deublyg hwn ynglŷn â threialon y gallen nhw eu hwynebu: (1) Ni fydd yn gadael i unrhyw dreial barhau nes ei fod yn amhosibl inni ei ddioddef, a (2) “bydd yn dangos ffordd [inni] ddianc.”
Sut mae Jehofa yn rhoi dihangfa i’r rhai sy’n dibynnu arno dan brawf? Wrth gwrs, petai’n dymuno, fe allai roi terfyn ar unrhyw brawf yn syth. Ond cofia eiriau Paul: “Bydd [Jehofa] yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn.” Felly, mewn llawer o achosion, mae’n rhoi dihangfa trwy ddarparu’r hyn sydd ei angen arnon ni er mwyn dod trwy’r prawf yn llwyddiannus. Ystyria rai o’r ffyrdd y gall Jehofa roi dihangfa inni.
-
“Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.” (2 Cor. 1:3, 4) Mae Jehofa’n gallu cysuro ein calonnau a thawelu ein hemosiynau a’n meddyliau drwy ei Air, ei ysbryd glân, a’r bwyd ysbrydol sy’n dod trwy law’r gwas ffyddlon.—Math. 24:45; Ioan 14:16; Rhuf. 15:4.
-
Fe all ein harwain drwy ei ysbryd glân. (Ioan 14:26) Pan ddaw prawf, mae’r ysbryd yn gallu galw i’n cof hanesion ac egwyddorion o’r Beibl i’n helpu ni i wybod pa gamau i’w cymryd.
-
Gall Duw ddefnyddio’r angylion i’n helpu.—Heb. 1:14.
-
Gall ein helpu drwy eiriau a gweithredoedd ein cyd-addolwyr sydd “yn gysur mawr” inni.—Col. 4:11.
Beth felly yw ein casgliad ynglŷn ag ystyr geiriau Paul yn 1 Corinthiaid 10:13? Nid yw Jehofa yn dewis a dethol y treialon sy’n dod i’n rhan. Ond pan ddaw treialon, gallwn fod yn sicr o hyn: Os ymddiriedwn yn llwyr yn Jehofa, ni fydd byth yn gadael i’n treialon barhau nes eu bod yn amhosibl inni eu dioddef; bydd bob amser yn rhoi dihangfa inni fel y gallwn ddyfalbarhau. Onid yw hynny yn rhoi cysur inni?
^ Par. 2 Gall y gair Groeg a gyfieithir “temtasiwn” olygu “prawf, treial.”