Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Helpu “Mewnfudwyr” i Addoli Jehofa yn Llawen

Helpu “Mewnfudwyr” i Addoli Jehofa yn Llawen

“Mae’r ARGLWYDD yn gofalu am y mewnfudwyr.”—SALM 146:9.

CANEUON: 84, 73

1, 2. (a) Pa dreialon mae rhai o’n brodyr yn eu hwynebu? (b) Pa gwestiynau sy’n codi?

“PAN ddechreuodd y rhyfel cartref yn Bwrwndi, roedd ein teulu ni mewn cynulliad,” meddai brawd o’r enw Lije. “Roedden ni’n gweld pobl yn rhedeg, yn saethu. Gwnaeth fy rhieni, minnau, a deg o fy mrodyr a fy chwiorydd ffoi am ein bywydau. Llwyddodd rhai aelodau o’r teulu gyrraedd gwersyll ffoaduriaid ym Malawi, taith o dros 1,000 o filltiroedd. Cafodd y gweddill ohonon ni ein gwasgaru.”

2 Yn fyd-eang, mae’r nifer o ffoaduriaid oherwydd rhyfel neu erledigaeth bellach dros 65,000,000—y ffigwr mwyaf a gofnodwyd erioed. * Ymhlith y rhain y mae miloedd o Dystion Jehofa. Mae llawer wedi colli anwyliaid a bron popeth sy’n perthyn iddyn nhw. Pa anawsterau pellach mae rhai wedi eu hwynebu? Sut gallwn ni helpu’r brodyr a’r chwiorydd hyn i addoli’r “ARGLWYDD yn llawen” er gwaethaf eu treialon? (Salm 100:2) A sut gallwn ni rannu’r newyddion da â ffoaduriaid sydd ddim eto’n adnabod Jehofa?

BYWYD FFOADUR

3. Sut daeth Iesu a llawer o’i ddisgyblion yn ffoaduriaid?

3 Ar ôl i angel Jehofa rybuddio Joseff fod y Brenin Herod yn bwriadu lladd Iesu, daeth yr Iesu ifanc a’i rieni yn ffoaduriaid yn yr Aifft. Arhoson nhw yno hyd nes i Herod farw. (Math. 2:13, 14, 19-21) Ddegawdau yn ddiweddarach, cafodd disgyblion cynnar Iesu eu “gwasgaru drwy Jwdea a Samaria” oherwydd erledigaeth. (Act. 8:1) Roedd Iesu wedi rhagweld y byddai llawer o’i ddilynwyr yn gorfod ffoi. Dywedodd: “Pan fyddwch yn cael eich erlid yn un lle, ffowch i rywle arall.” (Math. 10:23) Dydy ffoi byth yn hawdd.

4, 5. Pa beryglon sy’n wynebu ffoaduriaid pan fyddan nhw (a)  yn ffoi? (b) yn byw mewn gwersyll?

4 Gall ffoaduriaid wynebu peryglon pan fyddan nhw’n ffoi neu’n byw mewn gwersyll ffoaduriaid. “Cerddon ni am wythnosau, yn pasio cannoedd o gyrff meirw,” meddai Gad, brawd iau Lije. “Roeddwn i’n 12 oed. Roedd fy nhraed wedi chwyddo cymaint nes imi ddweud wrth fy nheulu i fy ngadael ar ôl. Ond gwnaeth fy nhad fy nghario i. Roedd rhaid goroesi o ddydd i ddydd, yn ymddiried yn Jehofa, ac weithiau’n bwyta dim ond mangos a oedd yn tyfu ar hyd y ffyrdd.”—Phil. 4:12, 13.

5 Treuliodd y rhan fwyaf o deulu Lije flynyddoedd yng ngwersylloedd ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig. Ond doedden nhw ddim yn saff yno. Mae Lije, sydd bellach yn arolygwr y gylchdaith, yn dweud: “Doedd y rhan fwyaf ddim yn gweithio. Roedden nhw’n hel clecs, yn yfed, yn gamblo, yn dwyn, ac yn anfoesol.” I wrthsefyll dylanwadau drwg, roedd yn rhaid i’r Tystion yn y gwersylloedd gadw’n brysur yn y gynulleidfa. (Heb. 6:11, 12; 10:24, 25) I gadw’n ysbrydol iach, gwnaethon nhw arloesi ac aros yn bositif drwy gofio y bydd eu hamser yn y gwersyll yn dod i ben yn y pen draw.—2 Cor. 4:18.

DANGOS CARIAD TUAG AT FFOADURIAID

6, 7. (a) Sut mae cariad Jehofa yn symud Cristnogion i helpu brodyr sydd mewn angen? (b) Rho esiampl.

6 Mae “cariad Duw” yn ein cymell ni i ddangos cariad tuag at ein gilydd, yn enwedig ar adegau anodd. (Darllen 1 Ioan 3:17, 18.) Pan oedd Cristnogion Jwdeaidd y ganrif gyntaf yn wynebu newyn, gofalodd y gynulleidfa amdanyn nhw. (Act. 11:28, 29) Anogodd yr apostolion Pedr a Paul y gynulleidfa i fod yn lletygar. (Rhuf. 12:13; 1 Pedr 4:9) Os ydy Cristnogion yn mynd i groesawu brodyr sy’n ymweld â nhw, dylen nhw groesawu cymaint yn fwy eu cyd-addolwyr sydd mewn perygl ac sydd wedi cael eu herlid oherwydd eu ffydd!—Darllen Diarhebion 3:27. *

7 Yn ddiweddar, roedd rhaid i filoedd o Dystion Jehofa ddianc rhag rhyfel ac erledigaeth yn nwyrain Wcráin. Yn anffodus, lladdwyd rhai o’r Tystion. Ond rhoddodd brodyr mewn rhannau eraill o Wcráin gartref i’r rhan fwyaf ohonyn nhw, a chafodd llawer le i fyw gan eu brodyr yn Rwsia. Yn y ddwy wlad, maen nhw’n gwbl niwtral, dydyn nhw “ddim yn perthyn i’r byd,” ac maen nhw’n parhau i ddweud “wrth bobl beth oedd y newyddion da.”—Ioan 15:19; Act. 8:4.

HELPU FFOADURIAID I GRYFHAU EU FFYDD

8, 9. (a) Pa anawsterau y gall ffoaduriaid eu hwynebu mewn gwlad newydd? (b) Pam mae angen ein help arnyn nhw?

8 Tra bydd rhai pobl yn cael eu disodli o fewn eu gwledydd eu hunain, bydd llawer yn cael eu taflu i wlad hollol anghyfarwydd. Gall llywodraethau ddarparu ychydig o fwyd, dillad, a lloches, ond efallai dydy eu hoff fwydydd ddim ar gael. Efallai fydd ffoaduriaid o wledydd poeth yn wynebu tywydd oer am y tro cyntaf heb wybod sut i wisgo ar ei gyfer. Os ydyn nhw’n dod o ardal wledig, efallai nad ydyn nhw’n deall sut i ddefnyddio teclynnau modern.

9 Mae rhai llywodraethau yn helpu ffoaduriaid i addasu i’w hamgylchiadau newydd. Fodd bynnag, yn aml mae disgwyl i ffoaduriaid eu cynnal eu hunain o fewn ychydig fisoedd. Gall y cyfnod o newid hwn fod yn anodd. Dychmyga geisio dysgu iaith newydd, deddfau newydd, a disgwyliadau ynglŷn â chwrteisi, prydlondeb, trethi, talu biliau, presenoldeb ysgol, a disgyblu plant—i gyd ar unwaith! Mewn ffordd amyneddgar, a elli di helpu brodyr a chwiorydd sy’n wynebu problemau o’r fath?—Phil. 2:3, 4.

10. Sut gallwn ni gryfhau ffydd ffoaduriaid? (Gweler y llun agoriadol.)

10 Yn ogystal, gall awdurdodau rwystro ein brodyr sy’n ffoaduriaid rhag cysylltu â’r gynulleidfa. Mae rhai asiantaethau wedi gwrthod rhoi cymorth a lloches i’n brodyr os byddan nhw’n gwrthod derbyn gwaith sy’n gofyn am golli cyfarfodydd. Yn ofnus ac yn agored i niwed, mae sawl un wedi ildio i bwysau o’r fath. Felly, mae cwrdd â’n brodyr sy’n ffoaduriaid cyn gynted â phosibl ar ôl iddyn nhw gyrraedd yn fater o frys. Mae angen iddyn nhw weld ein bod ni’n eu caru. Gall ein trugaredd a’n help ymarferol gryfhau eu ffydd.—Diar. 12:25; 17:17.

HELPU FFOADURIAID

11. (a) Beth mae ffoaduriaid yn ei angen yn y lle cyntaf? (b) Sut gall ffoaduriaid ddangos gwerthfawrogiad?

11 Yn y lle cyntaf, gallwn ni roi ychwaneg o bethau angenrheidiol iddyn nhw. * Gall caredigrwydd bach, fel rhoi tei i frawd, wneud gwahaniaeth mawr. A phan fydd ffoaduriaid yn ddiolchgar, a byth yn mynnu unrhyw beth, maen nhw’n helpu eu brodyr i brofi’r llawenydd sy’n dod o roi’n hael. Gall dibynnu ar haelioni eraill am gyfnod amhenodol danseilio hunan-barch ffoaduriaid a gall hefyd niweidio eu perthynas â brodyr eraill. (2 Thes. 3:7-10) Ond mae angen help ymarferol arnyn nhw.

Sut gallwn ni helpu ein brodyr a’n chwiorydd sy’n ffoaduriaid? (Gweler paragraffau 11-13)

12, 13. (a) Sut gallwn ni roi help ymarferol i ffoaduriaid? (b) Rho esiampl.

12 Mae rhoi help ymarferol i ffoaduriaid yn gofyn nid am lawer o arian ond am amser a chonsyrn. Gall fod mor syml â dangos iddyn nhw sut i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, sut i siopa am fwyd iach fforddiadwy, neu sut i gael tŵls neu offer—fel peiriant gwnïo neu beiriant torri gwair—er mwyn ennill cyflog. Yn bwysicach fyth, gelli di eu helpu nhw i fod yn brysur yn y gynulleidfa. Os yw’n bosibl, rho lifft iddyn nhw i’r cyfarfodydd. Hefyd, esbonia sut i bregethu i’r bobl leol a gweithia gyda nhw yn y weinidogaeth.

13 Pan ddaeth pedwar ffoadur ifanc i un gynulleidfa, gwnaeth sawl henuriad eu dysgu i yrru, i ddefnyddio cyfrifiadur, ac i ysgrifennu CV, yn ogystal â sut i drefnu eu hamser er mwyn gwasanaethu Jehofa’n llawn. (Gal. 6:10) Yn fuan, dechreuon nhw arloesi. Gwnaeth eu hymdrech bersonol a’r arweiniad hwnnw eu helpu i aeddfedu’n ysbrydol ac i osgoi cael eu llyncu gan hen fyd Satan.

14. (a) Pa demtasiwn sy’n rhaid i ffoaduriaid ei wrthod? (b) Rho esiampl.

14 Fel yn achos pob Cristion, mae angen i ffoaduriaid wrthod y temtasiwn i gyfaddawdu o ran eu perthynas â Jehofa er mwyn elwa’n faterol. * Mae Lije, ynghyd â’i frodyr a’i chwiorydd, yn cofio’r gwersi ysbrydol a ddysgon nhw gan eu tad tra oedden nhw’n ffoi. “Fesul un, taflodd i ffwrdd yr ychydig bethau diangen roedden ni’n eu cario. Yn y diwedd, cododd fag gwag a dweud wrth wenu: ‘Ti’n gweld? Dyma’r unig beth sydd ei angen!’”—Darllen 1 Timotheus 6:8.

Y FFORDD ORAU O HELPU FFOADURIAID

15, 16. Sut gallwn ni gefnogi ffoaduriaid (a) yn ysbrydol (b) yn emosiynol?

15 Yn fwy na help materol, mae angen cefnogaeth ysbrydol ac emosiynol ar ffoaduriaid. (Math. 4:4) Gall yr henuriaid helpu drwy gael hyd i lenyddiaeth yn eu mamiaith a thrwy eu helpu i gysylltu â brodyr sy’n siarad eu hiaith nhw. Mae llawer o ffoaduriaid wedi colli cysylltiad â’u teuluoedd, eu cymunedau, a’u cynulleidfaoedd. Pwysig yw iddyn nhw deimlo cariad Jehofa ymhlith eu cyd-Gristnogion. Heb hynny, efallai y byddan nhw’n troi at berthnasau neu gyd-wladwyr sydd ddim yn y gwir ond sy’n rhannu’r un diwylliant a phrofiad. (1 Cor. 15:33) Drwy roi croeso cynnes iddyn nhw yn y gynulleidfa, rydyn ni’n efelychu Jehofa ac yn “gofalu am y mewnfudwyr.”—Salm 146:9.

16 Yn debyg i’r Iesu ifanc a’i deulu, mae’n bosibl na fydd ffoaduriaid yn gallu dychwelyd i’w mamwlad cyn belled â bod eu gormeswyr mewn grym o hyd. Ymhellach, fel y dywed Lije, “ni all rhieni sydd wedi gweld aelodau o’u teulu yn cael eu treisio a’u llofruddio hyd yn oed feddwl am fynd â’u plant yn ôl i’r llefydd y digwyddodd yr erchyllterau hynny.” I helpu rhai sydd wedi dioddef trawma o’r fath, dylai brodyr mewn gwledydd sy’n derbyn ffoaduriaid gofio’r cyngor hwn: “Dylech gydymdeimlo â’ch gilydd, dangos gofal go iawn am eich gilydd, a bod yn dyner ac yn ostyngedig yn eich perthynas â’ch gilydd.” (1 Pedr 3:8) Gall ffoadur fynd i’w gragen a theimlo cywilydd o achos ei ddioddefaint, yn enwedig ym mhresenoldeb ei blant. Gofynna i ti dy hun: ‘Petawn i yn yr un sefyllfa, sut byddwn i’n hoffi cael fy nhrin?’—Math. 7:12.

PREGETHU I FFOADURIAID SYDD DDIM YN DYSTION

17. Sut mae pregethu i ffoaduriaid yn eu cysuro?

17 Mae llawer o ffoaduriaid heddiw yn dod o wledydd lle mae ein gwaith pregethu wedi ei wahardd. Oherwydd gwaith Tystion selog mewn gwledydd sy’n derbyn ffoaduriaid, mae miloedd o ffoaduriaid yn clywed “y neges am y deyrnas” am y tro cyntaf. (Math. 13:19, 23) Mae llawer sydd wedi eu “llethu gan feichiau trwm” yn cael eu cysuro yn ein cyfarfodydd ac yn dweud: “Mae’n wir!—mae Duw yn eich plith chi!”—Math. 11:28-30; 1 Cor. 14:25.

18, 19. Sut gallwn ni fod yn ddoeth wrth bregethu i ffoaduriaid?

18 Mae’n rhaid i’r sawl sy’n pregethu i ffoaduriaid fod “yn graff” ac yn berson “call.” (Math. 10:16; Diar. 22:3) Gwranda’n amyneddgar a phaid â siarad am wleidyddiaeth. Dilyna gyfarwyddyd y gangen a’r awdurdodau lleol, a phaid byth â pheryglu dy hun ac eraill. Dysga am eu diwylliant a’u crefydd a dangosa barch. Er enghraifft, mae gan bobl o rai gwledydd deimladau cryf am sut dylai merched wisgo. Felly, wrth bregethu i ffoaduriaid, pwysig yw gwisgo mewn ffordd sydd ddim yn pechu.

19 Boed inni fod fel y Samariad trugarog yn nameg Iesu a helpu pobl sy’n dioddef, gan gynnwys rhai sydd ddim yn Dystion. (Luc 10:33-37) Y ffordd orau o wneud hyn yw pregethu iddyn nhw. “Pwysig yw dweud reit ar y dechrau mai Tystion Jehofa ydyn ni, a’n bwriad yw eu helpu yn ysbrydol nid yn faterol,” meddai un henuriad. “Neu, fel arall, gallan nhw gymdeithasu â ni am resymau anghywir.”

CANLYNIADAU DA

20, 21. (a) Pa ddaioni sy’n dod o ddangos cariad tuag at ffoaduriaid? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried nesaf?

20 Mae dangos cariad tuag at fewnfudwyr yn dod â chanlyniadau da. Soniodd un chwaer Gristnogol am ei theulu yn ffoi rhag erledigaeth yn Eritrea. Ar ôl taith wyth-diwrnod ar draws yr ­anialwch, gwnaeth pedwar o’i phlant gyrraedd y Swdan. Dywedodd hi: “Gwnaeth y brodyr eu trin nhw fel petaen nhw’n deulu agos, yn rhoi bwyd, dillad, lloches, a chludiant iddyn nhw. Pwy arall fyddai’n croesawu pobl ddiarth i’w tai dim ond oherwydd eu bod nhw’n addoli’r un Duw? Dim ond Tystion Jehofa!”—Darllen Ioan 13:35.

21 Beth am blant ffoaduriaid a mewnfudwyr? Yn yr erthygl nesaf, ystyriwn sut gall pob un ohonon ni eu helpu i wasanaethu Jehofa yn llawen.

^ Par. 2 Yn yr erthygl hon, mae’r term “ffoaduriaid” yn dynodi rhai sydd wedi eu dadleoli—naill ai ar draws ffiniau cenedlaethol neu o fewn eu gwlad eu hunain—o ganlyniad i ryfel, erledigaeth, neu drychineb. Yn ôl Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), heddiw “mae 1 ym mhob 113 o bobl” ledled y byd “wedi dadleoli drwy rym.”

^ Par. 6 Gweler yr erthygl “Peidiwch Stopio’r Arfer o Roi Croeso i Bobl Ddieithr” yn rhifyn Hydref 2016, tt. 8-12 o’r Tŵr Gwylio.

^ Par. 11 Unwaith i ffoadur gyrraedd, dylai’r henuriaid ddilyn y cyfarwyddyd yn y llyfr Organized to Do Jehovah’s Will, pennod 8, paragraff 30. Gall henuriaid gysylltu â chynulleidfaoedd mewn gwledydd eraill drwy anfon neges i’w cangen eu hunain drwy ddefnyddio jw.org. Yn y cyfamser, gallan nhw ofyn cwestiynau mewn ffordd sensitif ynglŷn â chynulleidfa a gweinidogaeth y ffoadur er mwyn dod i wybod beth yw ei gyflwr ysbrydol.

^ Par. 14 Gweler yr erthyglau “No One Can Serve Two Masters” a “Be of Good Courage—Jehovah Is Your Helper!” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Ebrill 2014, tt. 17-26.