Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Helpu Plant “Mewnfudwyr”

Helpu Plant “Mewnfudwyr”

“Does dim byd yn fy ngwneud i’n fwy llawen na chael clywed fod fy mhlant yn byw’n ffyddlon i’r gwir.”—3 IOAN 4.

CANEUON: 88, 41

1, 2. (a) Pa broblemau y mae llawer o blant i fewnfudwyr yn eu hwynebu? (b) Pa gwestiynau bydd yr erthygl hon yn eu trafod?

“PAN oeddwn yn fachgen, roeddwn i’n siarad iaith fy rhieni gartref ac yn y gynulleidfa,” meddai Joshua. “Ond ar ôl imi fynd i’r ysgol, roedd yn well gen i’r iaith leol. Mewn ychydig o flynyddoedd, roedd y sefyllfa wedi newid yn llwyr. Doeddwn i ddim yn gallu deall y cyfarfodydd, nac uniaethu â diwylliant fy rhieni.” Mae profiad Joshua yn un cyffredin.

2 Heddiw, mae dros 240,000,000 o bobl yn byw y tu allan i’w mamwlad. Os wyt ti’n fewnfudwr ac yn rhiant, sut gelli di roi’r cyfle gorau i dy blant fyw yn “ffyddlon i’r gwir”? (3 Ioan 4) A sut gall pobl eraill helpu?

RIENI, GOSODWCH ESIAMPL DDA

3, 4. (a) Sut gall rhieni osod esiampl dda i’w plant? (b) Beth na ddylai rhieni ei ddisgwyl gan eu plant?

3 Rieni, mae eich esiampl yn hanfodol i helpu eich plant i gael bywyd tragwyddol. Pan fydd eich plant yn eich gweld chi’n ceisio “yn gyntaf deyrnas Dduw,” byddan nhw’n dysgu i ddibynnu ar Jehofa. (Math. 6:33, 34, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Cadwch eich bywyd yn syml. Aberthwch bethau materol ar gyfer buddion ysbrydol—nid fel arall. Ceisiwch osgoi mynd i ddyled. Ceisiwch “drysor yn y nefoedd”—cymeradwyaeth Jehofa—yn hytrach na chyfoeth a chanmoliaeth gan bobl eraill.—Darllen Marc 10:21, 22; Ioan 12:43.

4 Peidiwch byth â bod yn rhy brysur i roi sylw i’ch plant. Dywedwch wrthyn nhw eich bod yn falch ohonyn nhw pan fyddan nhw’n penderfynu rhoi Jehofa’n gyntaf yn hytrach na cheisio pethau mawr iddyn nhw eu hunain neu i chi. Peidiwch â llyncu’r syniad anysgrythurol fod rhaid i’r plant sicrhau bywyd moethus i’r rhieni. Cofiwch mai’r “rhieni sydd i gynnal eu plant; does dim disgwyl i’r plant gynilo er mwyn cynnal eu rhieni.”—2 Cor. 12:14.

PONTIO’R BWLCH RHWNG YR IEITHOEDD

5. Pam mae’n rhaid i rieni siarad â’u plant am Jehofa?

5 Yn unol â phroffwydoliaeth y Beibl, mae pobl “o bob gwlad ac iaith” yn heidio i gyfundrefn Jehofa. (Sech. 8:23) Ond, gall rhwystr iaith ei gwneud hi’n anodd ichi ddysgu’r gwirionedd i’ch plant. Eich plant ydy’r myfyrwyr pwysicaf y byddwch chi’n eu dysgu, ac mae dod i adnabod Jehofa yn golygu bywyd tragwyddol iddyn nhw. (Ioan 17:3) Er mwyn i’ch plant ddysgu gwirioneddau Jehofa, manteisiwch ar bob cyfle priodol i’w “trafod nhw.”—Darllen Deuteronomium 6:6, 7.

6. Sut gall eich plant elwa ar ddysgu eich iaith? (Gweler y llun agoriadol.)

6 Mae’n debyg fydd eich plant yn dysgu’r iaith leol yn yr ysgol ac yn y gymuned, ond byddan nhw’n dysgu eich iaith drwy gyfathrebu’n gyson â chi. Yn ogystal â galluogi’ch plant i siarad yn agored â chi, mae manteision eraill i ddysgu eich iaith chi. Mae bod yn ddwyieithog yn hogi sgiliau meddwl eich plant, a’u sgiliau cymdeithasu. Efallai, bydd yn agor y drws iddyn nhw wneud mwy yn y weinidogaeth. “Mae ymuno â chynulleidfa iaith arall wedi bod yn hwyl,” meddai Carolina, sy’n ferch i fewnfudwyr. “Ac mae gweithio mewn maes sydd angen help yn cŵl.”

7. Beth gelli di ei wneud os oes yna rwystr iaith yn dy deulu?

7 Ond, wrth i blant mewnfudwyr ddod yn rhan o’r diwylliant a’r iaith leol, gall rhai ohonyn nhw golli’r awydd a’r gallu i gyfathrebu ym mamiaith eu rhieni. Os yw hynny wedi digwydd i dy blant di, a elli di ddysgu o leiaf ychydig o’r iaith leol? Byddi di mewn gwell sefyllfa i fagu dy blant yn Gristnogion os wyt ti’n deall eu sgyrsiau, eu hadloniant, a’u gwaith ysgol, ac os wyt ti’n gallu cyfathrebu’n uniongyrchol â’u hathrawon. Yn wir, mae dysgu iaith newydd yn cymryd amser, ymdrech, a gostyngeiddrwydd. Ond, petai dy blentyn yn mynd yn fyddar, oni fyddet ti’n dysgu iaith arwyddion er mwyn cyfathrebu ag ef? Mae plentyn sy’n cyfathrebu’n well mewn iaith wahanol i ti yn haeddu’r un sylw, oni fyddet ti’n cytuno? *

8. Sut gelli di helpu dy blant os nad wyt ti’n deall eu hiaith nhw’n dda iawn?

8 Ni fydd yn bosibl i bob rhiant sy’n fewnfudwr fod yn rhugl yn iaith newydd ei blant. Gall hyn efallai rwystro rhieni rhag trosglwyddo gwybodaeth ddofn o’r “ysgrifau sanctaidd” i’w plant. (2 Tim. 3:15) Os wyt ti yn y sefyllfa honno, mae hi’n dal yn bosibl iti helpu dy blant i ddod i adnabod Jehofa a’i garu. “Doedd ein mam sengl ddim yn deall ein hiaith ni yn dda, a doedden ni ddim yn siarad ei hiaith hi’n dda,” meddai henuriad o’r enw Shan. “Ond, pan welon ni hi’n astudio, yn gweddïo, ac yn gwneud ei gorau i gynnal astudiaeth deuluol bob wythnos, roedden ni’n deall bod dod i adnabod Jehofa yn hynod o bwysig.”

9. Sut gall rhieni helpu plant sydd angen astudio mewn dwy iaith?

9 Efallai y bydd rhaid i rai plant ddysgu am Jehofa mewn dwy iaith—iaith eu haddysg ac iaith y cartref. Oherwydd hynny, mae rhai rhieni’n defnyddio cyhoeddiadau printiedig, recordiadau sain, a fideos yn y ddwy iaith. Yn amlwg, mae rhieni sy’n fewnfudwyr yn gorfod aberthu mwy o amser a gwneud mwy o ymdrech er mwyn helpu eu plant i feithrin perthynas agos â Jehofa.

I BA GYNULLEIDFA Y DYLECH FYND O RAN IAITH?

10. (a) Pwy sy’n gorfod penderfynu i ba gynulleidfa y dylai’r teulu fynd? (b) Beth dylai ef ei wneud cyn gwneud penderfyniad?

10 Pan fydd “mewnfudwyr” yn byw’n bell oddi wrth Dystion eraill sy’n siarad eu hiaith nhw, dylen nhw gymdeithasu â’r gynulleidfa iaith-leol. (Salm 146:9) Ond, os oes cynulleidfa gyfagos yn dy famiaith, pa gynulleidfa o ran iaith sydd orau i’r teulu? Ar ôl meddwl yn ofalus, gweddïo, a thrafod y mater gyda’i wraig a’i blant, bydd rhaid i ben y teulu benderfynu. (1 Cor. 11:3) Pa ffactorau dylai’r penteulu eu hystyried? Pa egwyddorion sy’n berthnasol? Gad inni drafod rhai ohonyn nhw.

11, 12. (a) Sut mae iaith yn effeithio ar beth mae plant yn ei ddysgu yn y cyfarfodydd? (b) Pam mae rhai plant yn gwrthod dysgu iaith eu rhieni?

11 Mae’n rhaid i rieni asesu anghenion eu plant mewn ffordd realistig. Er mwyn i blant ddeall y gwirionedd, mae angen llawer mwy arnyn nhw na’r addysg ysbrydol a geir yn y cyfarfodydd. Ond, drwy fynychu cyfarfodydd yn yr iaith y mae’r plant yn ei deall orau, gallan nhw dderbyn gwybodaeth drwy fod yn bresennol yn unig, a dysgu efallai fwy nag y mae’r rhieni yn ei sylweddoli. Ni fydd hynny’n wir efallai os nad yw’r plant yn deall yr iaith yn dda. (Darllen 1 Corinthiaid 14:9, 11.) Ac ni fydd mamiaith y plentyn o reidrwydd yn aros yn iaith ei feddwl neu hyd yn oed ei galon. Mewn gwirionedd, gall plentyn ddysgu sut i ateb yn y cyfarfodydd, a gwneud dangosiadau ac anerchiadau yn iaith ei rieni heb i’r geiriau ddod o’i galon.

12 Hefyd, nid iaith yn unig sy’n dylanwadu ar blentyn. Roedd hynny’n wir am y brawd Joshua. Mae ei chwaer, Esther, yn dweud, “I blant ifanc, mae iaith, diwylliant, a chrefydd eu rhieni yn rhan o’r un pecyn.” Os nad yw plant yn teimlo eu bod nhw’n perthyn i ddiwylliant eu rhieni, efallai bydden nhw’n gwrthod dysgu iaith a chrefydd eu rhieni. Beth gall rhieni sy’n fewnfudwyr ei wneud?

13, 14. (a) Pam gwnaeth un cwpl sy’n fewnfudwyr symud eu teulu i gynulleidfa iaith-leol? (b) Sut gwnaeth y rhieni aros yn gryf yn ysbrydol?

13 Lles ysbrydol eu plant sy’n bwysig i rieni Cristnogol. (1 Cor. 10:24) Dywed Samuel, tad Joshua ac Esther: “Gwnaeth fy ngwraig a minnau gadw llygad ar ein plant i weld pa iaith oedd orau iddyn nhw’n ysbrydol, a gweddïo am ddoethineb. Doedd yr ateb ddim yn un a oedd yn gyfleus i ni. Ond, pan welon ni fod ein plant yn cael fawr ddim o’r cyfarfodydd yn ein hiaith ni, penderfynon ni symud i gynulleidfa iaith-leol. Aethon ni i’r cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth gyda’n gilydd yn rheolaidd. Gwnaethon ni hefyd wahodd ffrindiau lleol i dreulio amser gyda ni. Roedd hyn yn helpu’r plant i ddod i adnabod y brodyr ac i adnabod Jehofa, nid yn unig fel eu Duw ond hefyd fel eu Tad a’u Ffrind. Roedden ni’n ystyried hynny’n llawer pwysicach na gwneud iddyn nhw feistroli ein hiaith ni.”

14 Ychwanegodd Samuel: “Er mwyn ein cadw ein hunain yn ysbrydol gryf, mynychodd fy ngwraig a minnau gyfarfodydd yn ein hiaith ni. Roedd bywyd yn brysur iawn ac yn flinedig. Ond diolchwn i Jehofa am iddo fendithio ein hymdrechion. Mae pob un o’n plant yn gwasanaethu Jehofa yn y weinidogaeth lawn-amser.”

BETH GALL POBL IFANC EI WNEUD?

15. Pam roedd chwaer o’r enw Kristina yn teimlo y gallai wneud yn well mewn cynulleidfa iaith-leol?

15 Efallai bydd plant sydd bellach yn oedolion yn dod i sylweddoli y gallen nhw wasanaethu Jehofa’n well mewn cynulleidfa sy’n defnyddio’r iaith sydd orau ganddyn nhw. Os felly, ni ddylai’r rhieni deimlo bod eu plant yn cefnu arnyn nhw. “Roedd gen i ddealltwriaeth sylfaenol o iaith fy rhieni, ond roedd yr iaith a ddefnyddiwyd yn y cyfarfodydd y tu hwnt imi,” meddai Kristina. “Pan oeddwn i’n 12, es i i gynhadledd yn iaith fy addysg. Am y tro cyntaf, sylweddolais mai’r hyn roeddwn i’n gwrando arno oedd y gwirionedd! Daeth trobwynt arall pan ddechreuais weddïo yn iaith fy addysg. Roeddwn i’n gallu siarad â Jehofa o’r galon!” (Act. 2:11, 41) Pan ddaeth hi’n oedolyn, siaradodd Kristina â’i rhieni a phenderfynodd hi symud i gynulleidfa iaith-leol. Mae hi’n dweud: “Gwnaeth dysgu am Jehofa yn iaith fy addysg fy symud i wneud rhywbeth.” Cyn bo hir, dechreuodd Kristina arloesi.

16. Pam mae chwaer o’r enw Nadia yn hapus ei bod hi wedi aros mewn cynulleidfa iaith-dramor?

16 Bobl ifanc, ydych chi eisiau bod mewn cynulleidfa iaith-leol? Pam? A fyddai symud yn eich helpu i agosáu at Jehofa? (Iago 4:8) Neu, eisiau symud ydych chi oherwydd eich bod chi eisiau mwy o ryddid a llai o waith? “Ar ôl cyrraedd ein harddegau, roedd fy mrawd, fy chwiorydd, a minnau eisiau symud i gynulleidfa iaith-leol,” meddai Nadia, sydd bellach yn gwasanaethu yn y Bethel. Ond gwyddai ei rheini nad oedd hynny er lles ysbrydol y plant. “Nawr, rydyn ni’n hapus bod ein rhieni wedi gweithio’n galed i ddysgu eu hiaith nhw inni a’u bod nhw wedi ein cadw ni mewn cynulleidfa iaith-dramor. Mae hyn wedi cyfoethogi ein bywydau ac wedi ehangu ein cyfleon i helpu eraill i ddod i adnabod Jehofa.”

SUT GALL POBL ERAILL HELPU?

17. (a) Pwy sydd wedi ei benodi gan Jehofa i fagu plant? (b) Sut gall rhieni gael help i ddysgu’r gwirionedd i’w plant?

17 Mae Jehofa wedi penodi’r rhieni—nid y fam gu a’r tad cu, nac unrhyw un arall—i fagu eu plant yn y gwir. (Darllen Diarhebion 1:8; 31:10, 27, 28.) Wedi dweud hynny, efallai bydd angen help ar y rhieni sydd ddim yn siarad yr iaith leol i gyffwrdd â chalonnau eu plant. Nid yw trefnu’r fath help yn golygu eu bod nhw’n esgeuluso eu cyfrifoldeb ysbrydol; yn hytrach, fe all fod yn rhan o fagu eu plant “i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud.” (Eff. 6:4) Er enghraifft, gall rhieni ofyn i henuriaid y gynulleidfa am awgrymiadau ar gyfer addoliad y teulu ac am help i drefnu cwmni da ar gyfer eu plant.

Mae plant a rhieni yn cael lles o gymdeithasu â’r gynulleidfa (Gweler paragraffau 18, 19)

18, 19. (a) Sut gall brodyr a chwiorydd ysbrydol helpu pobl ifanc? (b) Beth sy’n rhaid i rieni barhau i’w wneud?

18 Er enghraifft, gall rhieni weithiau wahodd teuluoedd eraill i ymuno â nhw yn addoliad y teulu. Hefyd, mae llawer o bobl ifanc yn blodeuo’n ysbrydol o dan ddylanwad ffrindiau aeddfed sy’n gallu gweithio gyda nhw yn y weinidogaeth a mwynhau adloniant llesol gyda nhw. (Diar. 27:17) “Dw i’n cofio’r brodyr a wnaeth fy helpu,” meddai Shan, a ddyfynnwyd yn gynharach. “Pan oedden nhw’n fy helpu gydag anerchiadau yn y gynulleidfa, roeddwn i’n wastad yn dysgu mwy. Ac roeddwn i’n mwynhau’r amser a dreulion ni gyda’n gilydd fel grŵp.”

19 Wrth gwrs, dylai’r rhai a ddewiswyd gan y rhieni bob amser helpu’r plant i barchu eu rhieni drwy siarad yn bositif, ac osgoi cymryd drosodd gyfrifoldeb y rhieni. Hefyd, dylai’r rhai sy’n helpu osgoi ymddygiad a all gael ei gamddehongli’n anfoesol gan bobl yn y gynulleidfa neu’r tu allan iddi. (1 Pedr 2:12) Ni ddylai rhieni roi eu plant yn nwylo pobl eraill er mwyn iddyn nhw gael eu hyfforddi’n ysbrydol. Mae’n rhaid iddyn nhw fonitro’r help sy’n cael ei roi gan eraill a pharhau i ddysgu eu plant eu hunain.

20. Sut gall rhieni helpu ei blant i wasanaethu Jehofa?

20 Rieni, gweddïwch ar Jehofa am help, a gwnewch eich gorau. (Darllen 2 Cronicl 15:7.) Rhowch berthynas eich plant â Jehofa o flaen eich hawliau chi’ch hunain. Gwnewch bopeth i sicrhau bod Gair Duw yn cyffwrdd â chalonnau eich plant. Peidiwch byth ag amau na all eich plant fod yn weision da i Jehofa. Pan fydd eich plant yn dilyn Gair Duw a’ch esiampl dda chi, byddwch yn teimlo’r un fath â’r apostol Ioan pan ddywedodd am ei blant ysbrydol: “Does dim byd yn fy ngwneud i’n fwy llawen na chael clywed fod fy mhlant yn byw’n ffyddlon i’r gwir.”—3 Ioan 4.

^ Par. 7 Gweler yr erthygl “You Can Learn Another Language!” yn Awake! Mawrth 2007, tt. 10-12.