Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Astroleg a Dweud Ffortiwn—Ffenestri i’r Dyfodol?

Astroleg a Dweud Ffortiwn—Ffenestri i’r Dyfodol?

ASTROLEG

Math o ddewiniaeth ydy astroleg sy’n credu bod y sêr, y lleuad, a’r planedau yn dylanwadu’n fawr ar fywydau pobl ar y ddaear. Mae astrolegwyr yn honni bod lleoliad y gwrthrychau wybrennol hyn ar adeg eich genedigaeth yn siapio eich personoliaeth a’ch dyfodol.

Er y gellir olrhain gwreiddiau astroleg yn ôl i Fabilon gynt, mae’n boblogaidd o hyd. Yn ôl un arolwg yn yr Unol Daleithiau yn 2012, roedd traean o’r rhai a holwyd yn meddwl bod astroleg yn “lled wyddonol,” ac roedd deg y cant yn dweud ei fod yn “wyddonol iawn.” Ydy hyn yn wir? Nac ydy. A dyma pam.

  • Does ’na ddim grym yn dod allan o’r planedau a’r sêr sy’n gallu effeithio ar fodau dynol yn y ffordd y mae astrolegwyr yn ei honni.

  • Yn aml mae’r hyn maen nhw’n ei ragfynegi mor gyffredinol fel y gallai fod yn wir am unrhyw un.

  • Mae amcangyfrifon astrolegol heddiw yn seiliedig ar yr hen gred fod y planedau yn troi o amgylch y ddaear. Mewn gwirionedd, troi o amgylch yr haul y mae’r planedau.

  • Mae’r hyn y mae gwahanol astrolegwyr yn ei ragfynegi ar gyfer yr un person yn amrywio.

  • Mae astroleg yn dosbarthu pobl o dan 12 o gategorïau, neu arwyddion y sidydd (zodiac), a hynny yn ôl eu dyddiad geni. Oherwydd y newid sydd wedi bod dros y canrifoedd yn lleoliad y ddaear yn y gofod, dydy’r dyddiadau sy’n gysylltiedig ag arwyddion y sidydd bellach ddim yn cyfateb i ba bryd y mae’r haul yn pasio trwy’r cytserau a roddodd eu henwau i’r arwyddion hynny.

Dywedwyd bod arwyddion y sidydd yn rhoi cliwiau am gymeriad person. Y ffaith amdani yw nad ydy pobl sy’n rhannu’r un dyddiad geni yr un fath o ran natur; dydy dyddiad geni rhywun ddim yn dweud unrhyw beth am ei bersonoliaeth. Yn hytrach na gweld cymeriad go iawn yr unigolyn, mae astrolegwyr yn barnu ymddygiad a chymeriad person ar sail pethau y maen nhw’n tybio sy’n wir amdano ymlaen llaw. Onid rhagfarn ydy hyn?

DWEUD FFORTIWN

Ers y dyddiau a fu, mae pobl wedi mynd i weld unigolion sy’n dweud ffortiwn. Mae rhai pobl sy’n dweud ffortiwn wedi chwilio am ystyron mewn pethau fel perfedd anifeiliaid a phobl neu’r ffordd y mae ceiliog yn pigo ei fwyd. Mae rhai eraill wedi llunio proffwydoliaethau sy’n seiliedig ar y patrymau a welwyd mewn dail te neu waddod coffi. Heddiw, maen nhw’n defnyddio cardiau tarot, peli crisial, dis, a dulliau eraill o “ddarllen” dyfodol person. Ydy darllen ffortiwn yn ffordd ddibynadwy o geisio deall beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? Nac ydy. Gadewch inni resymu ar y mater.

Ystyriwch y mater o gysondeb. Yn aml, mae’r hyn sy’n cael ei ragfynegi gan wahanol ddulliau o ddweud ffortiwn yn anghyson. Hyd yn oed pan fydd yr un dull yn cael ei ddefnyddio, mae’r rhagolygon yn amrywio. Er enghraifft, petai rhywun yn gofyn yr un cwestiwn am y dyfodol i ddau berson sy’n dweud ffortiwn, dylai’r atebion, sy’n seiliedig ar “ddarlleniad” o’r un set o gardiau, fod union yr un peth. Ond yn aml dydyn nhw ddim.

Mae dulliau pobl sy’n dweud ffortiwn ynghyd â’r hyn sy’n eu hysgogi nhw wedi dod o dan amheuaeth. Mae beirniaid yn dweud mai propiau yn unig ydy’r cardiau a’r peli crisial a bod y person sy’n dweud ffortiwn yn darllen ymateb yr unigolion yn hytrach na’r propiau. Er enghraifft, mae’n gofyn cwestiynau cyffredinol mewn ffordd hynod o grefftus, ac mae’n gwylio’n ofalus iawn am gliwiau geiriol ac aneiriol a allai ddatgelu rhywbeth am y cleient. Yna, bydd y sawl sy’n dweud ffortiwn yn cymryd y clod am wybod ffeithiau y mae’r cleient newydd eu rhoi iddo heb sylweddoli. Ar ôl ennill hyder y cleient, mae rhai pobl sy’n dweud ffortiwn wedi derbyn arian mawr gan eu cwsmeriaid.

YR HYN MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD

Mae astroleg a dweud ffortiwn yn awgrymu bod ein dyfodol wedi ei ragordeinio. Ond ydy hyn yn wir? Mae’r Beibl yn dweud bod gennyn ni’r gallu i ddewis yr hyn rydyn ni’n ei gredu ynddo neu’r hyn rydyn ni eisiau ei wneud a bod ein dewisiadau yn effeithio ar ein dyfodol.—Josua 24:15.

Mae gan bobl sy’n addoli Duw reswm arall dros wrthod astroleg a dweud ffortiwn—mae Duw yn condemnio pob math ar ddewiniaeth. Yn y Beibl, rydyn ni’n darllen y geiriau hyn: “Ddylai neb ohonoch chi . . . ddewino, dweud ffortiwn, darogan, consurio, swyno, mynd ar ôl ysbrydion, chwarae gyda’r ocwlt na cheisio siarad â’r meirw. Mae gwneud pethau fel yna yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” *Deuteronomium 18:10-12.

^ Ynglŷn ag enw’r Arglwydd, mae’r salmydd yn dweud: “Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.”—Salm 83:18, Y Beibl Cysegr-lân.