Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Tyst Tawedog i Broffwydo Cywir

Tyst Tawedog i Broffwydo Cywir

YN YR EIDAL, YNG NGHANOL RHUFAIN, MAE BWA BUDDUGOLIAETH SY’N DENU YMWELWYR O BEDWAR BAN BYD. MAE’R BWA YN ANRHYDEDDU UN O YMERAWDWYR MWYAF POBLOGAIDD RHUFAIN, SEF TITUS.

Mae ganddo ddwy gerfwedd fawr sy’n dangos digwyddiad hanesyddol bwysig. Yn llai adnabyddus, fodd bynnag, ydy’r cysylltiad diddorol sydd rhwng y bwa a’r Beibl: Mae Bwa Titus yn dyst tawedog i gywirdeb rhyfeddol proffwydoliaethau’r Beibl.

DINAS WEDI EI CHONDEMNIO

Yn gynnar yn y ganrif gyntaf OG, roedd yr Ymerodraeth Rufeinig yn ymestyn o Brydain a Gâl (Ffrainc erbyn hyn) i’r Aifft, ac roedd y rhanbarth hwnnw yn sefydlog ac yn ffynnu mewn ffordd na welwyd o’r blaen. Ond roedd un ardal anghysbell yn ddraenen yn ystlys Rhufain—talaith aflonydd Jwdea.

Mae’r Encyclopedia of Ancient Rome yn dweud: “Ychydig iawn o diriogaethau o dan reolaeth Rhufain a oedd wedi eu nodweddu gan gymaint o gasineb, ar y ddwy ochr, ag yr oedd Jwdea. Roedd yn gas gan yr Iddewon eu meistri estron a oedd yn gwrthod parchu eu traddodiadau, ac roedd y Rhufeiniaid yn gweld ystyfnigrwydd yr Iddewon yn rheswm dros eu cam-drin yn llym.” Roedd llawer o Iddewon yn gobeithio y byddai meseia gwleidyddol yn cael gwared ar y Rhufeiniaid atgas ac yn adfer gogoniant Israel. Ond, yn 33 OG, dyma Iesu Grist yn datgan y byddai Jerwsalem yn wynebu trychineb enbyd.

Dywedodd Iesu: “Mae dydd yn dod pan fydd dy elynion yn codi gwrthglawdd yn dy erbyn ac yn dy gau i mewn ac ymosod arnat o bob cyfeiriad. Cei dy sathru dan draed, ti a’r bobl sy’n byw ynot. Bydd waliau’r ddinas yn cael eu chwalu’n llwyr.”Luc 19:43, 44.

Mae’n amlwg fod geiriau Iesu wedi drysu ei ddisgyblion. Ddeuddydd yn ddiweddarach, wrth edrych ar y deml yn Jerwsalem, dywedodd un ohonyn nhw: “Edrych ar y cerrig anferth yma, athro! Mae’r adeiladau yma’n fendigedig!” Yn ôl pob tebyg, roedd rhai o gerrig y deml dros dros 11 metr (36 tr) o hyd, 5 metr (16 tr) o led, a 3 metr (10 tr) o uchder! Ond, atebodd Iesu: “Mae’r amser yn dod pan fydd y cwbl welwch chi yma yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi’i gadael yn ei lle.”Marc 13:1; Luc 21:6.

Ychwanegodd Iesu: “Byddwch chi’n gwybod fod Jerwsalem ar fin cael ei dinistrio pan welwch chi fyddinoedd yn ei hamgylchynu. Bryd hynny dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i’r mynyddoedd. Dylai pawb ddianc o’r ddinas, a ddylai neb yng nghefn gwlad fynd yno i chwilio am loches.” (Luc 21:20, 21) A ddaeth geiriau Iesu yn wir?

MARWOLAETH DINAS

Aeth 33 o flynyddoedd heibio, ac roedd Jwdea yn dal yn casáu bod o dan iau y Rhufeiniaid. Ond, yn 66 OG, pan wnaeth procuradur Jwdea, Gessius Florus, gipio arian o drysordy cysegredig y deml, roedd yr Iddewon wedi cynddeiriogi ac wedi cael llond bol. Yn fuan, gwnaeth milwyr Iddewig heidio i mewn i Jerwsalem, lladd y garsiwn Rhufeinig, a datgan annibyniaeth oddi wrth Rufain.

O gwmpas tri mis yn ddiweddarach, gwnaeth dros 30,000 o filwyr Rhufeinig a gafodd eu harwain gan Cestius Gallus, ymosod ar Jerwsalem er mwyn sathru ar y gwrthryfelwyr. Aeth y Rhufeiniaid i mewn i’r ddinas yn gyflym a thanseilio’r wal o amgylch ardal y deml. Yna, heb unrhyw reswm o gwbl, gadawon nhw’r ddinas. Roedd y gwrthryfelwyr Iddewig yn llawenhau a dyma nhw’n rhedeg ar ôl y milwyr Rhufeinig. Tra oedd y ddwy fyddin allan o’r ddinas, gwrandawodd y Cristnogion ar rybudd Iesu a ffoi allan o Jerwsalem i’r mynyddoedd yr ochr draw i’r Iorddonen.—Mathew 24:15, 16.

Y flwyddyn ganlynol, gwnaeth Rhufain ailgychwyn ei hymgyrch yn erbyn Jwdea, o dan arweiniad y Cadfridog Vespasian a’i fab, Titus. Fodd bynnag, yn fuan ar ôl i’r Ymerawdwr Nero farw yn 68 OG, dychwelodd Vespasian i Rufain er mwyn esgyn i’r orsedd, gan adael yr ymgyrch yn Jwdea yn nwylo ei fab, Titus, ynghyd â 60,000 o filwyr.

Ym mis Mehefin y flwyddyn 70 OG, gorchmynnodd Titus i’w filwyr dorri coed cefn gwlad Jwdea i lawr, a chafodd y coed eu defnyddio i adeiladu wal o stanciau pigog 4.5 milltir o hyd er mwyn amgylchynu Jerwsalem. Erbyn mis Medi, roedd y Rhufeiniaid wedi ysbeilio a llosgi’r ddinas a’r deml ac wedi eu chwalu fesul carreg, yn union fel yr oedd Iesu wedi ei ragfynegi’n gynharach. (Luc 19:43, 44) Yn ôl un amcangyfrif ceidwadol, “cafodd rhwng chwarter a hanner miliwn o bobl eu difa yn Jerwsalem a gweddill y wlad.”

BUDDUGOLIAETH YMERODROL

Yn 71 OG, dychwelodd Titus i’r Eidal a chael croeso brwd gan ddinasyddion Rhufain. Roedd pawb yn y ddinas wedi dod i ddathlu un o’r gorymdeithiau mwyaf a welodd y brifddinas erioed.

Roedd y tyrfaoedd yn rhyfeddu wrth weld y sioe fawr o gario’r holl gyfoeth hwn drwy strydoedd Rhufain. Roedden nhw wrth eu boddau yn gweld y llongau a gipiwyd, y cerbydau yn portreadu golygfeydd o’r rhyfel, a’r eitemau a gafodd eu dwyn yn ysbail oddi wrth y deml yn Jerwsalem.

Daeth Titus yn ymerawdwr ar ôl ei dad Vespasian yn 79 OG. Ond, ddwy flynedd yn ddiweddarach, bu farw Titus yn annisgwyl. Esgynnodd Domitian, ei frawd, i’r orsedd a chodi’r bwa buddugoliaeth er cof amdano.

Y BWA HEDDIW

Bwa Titus yn Rhufain heddiw

Heddiw, edmygir Bwa Titus gan gannoedd ar filoedd o bobl sy’n ymweld â’r Fforwm Rhufeinig bob blwyddyn. Mae rhai yn ystyried y bwa yn waith celf mawreddog, rhai yn teimlo ei fod yn clodfori grym imperialaidd Rhufain, ac eraill yn meddwl ei fod yn feddargraff i gwymp Jerwsalem a’r deml.

Fodd bynnag, i ddarllenwyr gofalus y Beibl, mae ’na arwyddocâd pellach i Fwa Titus. Mae’n dyst tawedog sy’n cadarnhau bod proffwydoliaethau’r Beibl yn ddibynadwy ac yn gywir ac yn dangos eu bod nhw wedi eu hysbrydoli gan Dduw.—2 Pedr 1:19-21.