Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Lle Roedd Duw?”

“Lle Roedd Duw?”

“MAE’R CWESTIWN HWN YN CAEL EI GODI O HYD: LLE ROEDD DUW?”— Pab Benedict XVI, wrth iddo ymweld â safle’r gwersyll crynhoi yn Auschwitz, Gwlad Pwyl.

PAN FO TRYCHINEBAU’N TARO, YDYCH CHI WEITHIAU’N GOFYN, ‘LLE ROEDD DUW?’ YDY TRYCHINEB PERSONOL WEDI GWNEUD ICHI FEDDWL A YDY DUW YN GOFALU AMDANOCH CHI’N BERSONOL?

Efallai eich bod chi’n teimlo fel roedd Sheila, sy’n byw yn America. Magwyd Sheila mewn teulu crefyddol iawn, ac mae hi’n dweud: “Ers imi fod yn blentyn, roeddwn i’n credu yn Nuw. Ond, doeddwn i ddim yn teimlo’n agos ato. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn fy ngwylio, ond o bell i ffwrdd. Doeddwn i ddim yn teimlo bod Duw yn fy nghasáu, ond doeddwn i ddim yn credu ei fod yn fy ngharu chwaith.” Pam roedd gan Sheila amheuon? “Roedd fy nheulu wedi wynebu un drasiedi ar ôl y llall,” meddai, “ac roeddwn i’n teimlo nad oedd Duw yn ein helpu o gwbl.”

Efallai eich bod chithau’n credu bod Duw yn bodoli ond yn cwestiynu a oes ganddo unrhyw ots amdanoch chi. Roedd gan y dyn cyfiawn Job amheuon tebyg, er bod ganddo ffydd yn nerth a doethineb y Creawdwr. (Job 2:3; 9:4) Ar ôl i Job ddioddef un drasiedi ar ôl y llall—heb unrhyw arwydd o ryddhad—gofynnodd i Dduw: “Pam wyt ti’n cuddio oddi wrtho i? Pam wyt ti’n fy nhrin i fel gelyn?”—Job 13:24.

Beth yw ateb y Beibl? Ai Duw sydd ar fai pan fydd trychineb yn taro? Oes tystiolaeth sy’n profi bod Duw yn caru bodau dynol yn gyffredinol ac fel unigolion? Ar lefel bersonol, allwn ni fod yn sicr ei fod yn sylwi arnon ni, yn ein deall ni, yn cydymdeimlo â ni, neu yn ein helpu ni gyda’n problemau?

Yn yr erthyglau canlynol, byddwn yn ystyried beth mae’r greadigaeth yn ein dysgu ni am ofal Duw. (Rhufeiniaid 1:20) Wedyn, byddwn yn dadansoddi’r hyn y mae’r Beibl yn ei ddatgelu am ofal Duw. Mwya’n y byd rydych chi’n dod i adnabod Duw drwy ei greadigaeth a’i Air, mwya’n y byd y byddwch chi’n teimlo’n sicr ei fod yn “gofalu amdanoch chi.”—1 Ioan 2:3; 1 Pedr 5:7.