Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 6

Aros yn Ffyddlon!

Aros yn Ffyddlon!

“Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw.”—JOB 27:5, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

CÂN 34 Rhodio Mewn Uniondeb

CIPOLWG *

1. Sut gwnaeth y Tystion y soniwyd amdanyn nhw yn y paragraff aros yn ffyddlon i Jehofa?

DYCHMYGA’R tair sefyllfa ganlynol y gall Tystion Jehofa eu hwynebu. (1) Mae merch ifanc yn yr ysgol ac mae’r athro yn gofyn i’r disgyblion yn y dosbarth gymryd rhan mewn dathliad. Mae’r ferch yn gwybod dydy’r dathliad ddim yn plesio Duw, felly, mewn ffordd barchus, mae hi’n gwrthod cymryd rhan. (2) Mae dyn ifanc swil yn pregethu o ddrws i ddrws. Mae’n sylweddoli bod rhywun o’i ysgol yn byw yn y tŷ nesaf—cyd-ddisgybl sydd wedi gwneud hwyl am ben Tystion Jehofa o’r blaen. Ond mae’r dyn ifanc yn mynd at y tŷ ac yn cnocio ar y drws beth bynnag. (3) Mae dyn yn gweithio’n galed i ddarparu ar gyfer ei deulu, ond, un diwrnod, mae ei gyflogwr yn gofyn iddo wneud rhywbeth sy’n anonest neu’n anghyfreithlon. Er y gallai golli ei swydd, mae’r dyn yn esbonio bod rhaid iddo fod yn onest ac yn ufudd i’r gyfraith gan fod Duw yn gofyn am hynny gan ei weision.—Rhuf. 13:1-4; Heb. 13:18.

2. Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried, a pham?

2 Pa rinwedd rwyt ti’n ei gweld yn y tri unigolyn hynny? Efallai dy fod ti’n sylwi ar sawl un, fel dewrder a gonestrwydd. Ond y rhinwedd sy’n sefyll allan fwyaf yw ffyddlondeb. Mae pob un ohonyn nhw’n dangos ffyddlondeb i Jehofa. Mae pob un yn gwrthod torri safonau Duw. Ffyddlondeb sy’n eu hysgogi nhw i weithredu fel hyn. Yn sicr, byddai Jehofa’n teimlo’n falch dros bob un ohonyn nhw am ddangos y rhinwedd honno. Rydyn ninnau hefyd eisiau gwneud ein Tad nefol yn falch. Felly, gad inni drafod y cwestiynau hyn: Beth yw ffyddlondeb? Pam mae angen ffyddlondeb arnon ni? A sut gallwn ni gryfhau ein penderfyniad i aros yn ffyddlon yn yr amseroedd anodd hyn?

BETH YW FFYDDLONDEB?

3. (a) Sut mae gweision Duw yn dangos ffyddlondeb? (b) Pa esiamplau sy’n gallu ein helpu i ddeall beth mae ffyddlondeb yn ei olygu?

3 Sut mae gweision Duw yn dangos ffyddlondeb? Drwy deimlo cariad cryf a defosiwn cadarn tuag at Jehofa fel Person, fel ein bod ni’n rhoi ei ewyllys yn gyntaf wrth wneud penderfyniadau. Ystyria gefndir y gair ffyddlondeb. Yn y Beibl, mae’r gair Hebraeg sy’n cael ei gyfieithu’n “ffyddlondeb” neu “cywirdeb” yn golygu cyflawn, cyfan, neu heb nam. Er enghraifft, roedd yr Israeliaid yn aberthu anifeiliaid i Jehofa, a dywedodd y Gyfraith fod rhaid i’r anifeiliaid fod heb nam. * (Lef. 22:21, 22) Doedd pobl Dduw ddim yn cael offrymu anifail â choes, clust, neu lygad ar goll; nac anifail ag unrhyw glefyd arno. Roedd yn bwysig i Jehofa fod yr anifail yn gyflawn, yn gyfan, neu heb nam. (Mal. 1:6-9) Gallwn ddeall pam mae hyn yn bwysig i Jehofa. Pan ydyn ni’n prynu rhywbeth, fel darn o ffrwyth, llyfr, neu dwlsyn, dydyn ni ddim eisiau un a thyllau mawr ynddo neu rannau ar goll. Rydyn ni eisiau un sy’n gyflawn, yn gyfan, neu heb nam. Mae Jehofa’n teimlo’n debyg ynglŷn â’r cariad sydd gennyn ni tuag ato, a’n ffyddlondeb. Rhaid iddo fod yn gyflawn, yn gyfan, neu heb nam.

4. (a) Pam gall person amherffaith feithrin ffyddlondeb? (b) Yn ôl Salm 103:12-14, beth mae Jehofa’n ei ddisgwyl gennyn ni?

4 A ddylen ni feddwl bod rhaid inni fod yn berffaith er mwyn meithrin ffyddlondeb? Wedi’r cyfan, gallwn deimlo ein bod ni’n ddiffygiol. Ond ystyria ddau reswm pam na ddylen ni boeni. Yn gyntaf, dydy Jehofa ddim yn canolbwyntio ar ein diffygion. Dywed ei Air: “O ARGLWYDD, os wyt ti’n cadw golwg ar bechodau, pa obaith sydd i unrhyw un?” (Salm 130:3) Mae’n gwybod ein bod ni’n amherffaith ac yn pechu, ac mae’n maddau inni yn hael. (Salm 86:5) Yn ail, mae Jehofa’n deall ein cyfyngiadau, ac nid yw’n disgwyl mwy gennyn ni nag y gallwn ei wneud. (Darllen Salm 103:12-14.) Ym mha ffordd, felly, y gallwn ni fod yn gyflawn, yn gyfan, neu heb nam o safbwynt Jehofa?

5. Pam mae gweision Jehofa angen cariad i ddangos ffyddlondeb?

5 Mae gweision Jehofa angen cariad i ddangos ffyddlondeb. Rhaid i’n cariad tuag at Dduw a’n ffyddlondeb iddo aros yn gyflawn, yn gyfan, neu heb nam. Os ydy ein cariad yn aros fel ’na hyd yn oed wrth inni gael ein profi, yna rydyn ni’n dangos ffyddlondeb. (1 Cron. 28:9; Math. 22:37) Meddylia eto am y Tystion y soniwyd amdanyn nhw ar y cychwyn. Pam maen nhw’n gweithredu fel maen nhw? Ydy’r ferch ifanc yn casáu cael hwyl yn yr ysgol, ydy’r dyn ifanc eisiau teimlo embaras wrth y drws, neu ydy’r penteulu eisiau colli ei swydd? Wrth gwrs ddim. Mewn gwirionedd, maen nhw’n gwybod bod gan Jehofa safonau cyfiawn, ac maen nhw’n canolbwyntio ar beth sy’n plesio eu Tad nefol. Mae eu cariad tuag ato yn eu hysgogi i’w roi ef yn gyntaf wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau. Felly, maen nhw’n profi fod ganddyn nhw ffyddlondeb.

PAM MAE ANGEN FFYDDLONDEB ARNON NI?

6. (a) Pam mae angen ffyddlondeb arnat ti? (b) Sut methodd Adda ac Efa ddangos ffyddlondeb?

6 Pam mae pob un ohonon ni angen ffyddlondeb? Rwyt ti angen bod yn ffyddlon oherwydd bod Satan wedi herio Jehofa, ac mae wedi dy herio dithau hefyd. Trodd yr angel gwrthryfelgar hwnnw yn Satan, neu “Y Gwrthwynebwr,” yn ôl yng ngardd Eden. Sarhaodd enw Jehofa drwy awgrymu bod Duw yn Rheolwr drwg, hunanol, ac anonest. Yn anffodus, gwnaeth Adda ac Efa ochri gyda Satan drwy wrthryfela yn erbyn Jehofa. (Gen. 3:1-6) Rhoddodd eu bywyd yn Eden nifer o gyfleoedd iddyn nhw i gryfhau eu cariad tuag at Jehofa. Ond pan wnaeth Satan eu herio, doedd eu cariad ddim yn gyflawn, yn gyfan, neu heb nam. Codwyd cwestiwn arall: A fyddai bodau dynol yn aros yn ffyddlon i Jehofa Dduw oherwydd cariad tuag ato? Mewn geiriau eraill, a ydy pobl yn medru dangos ffyddlondeb? Codwyd y cwestiwn hwnnw yn achos Job.

7. Fel mae Job 1:8-11 yn ei ddatgelu, sut roedd Jehofa yn teimlo am ffyddlondeb Job, a sut roedd Satan yn teimlo am ffyddlondeb Job?

7 Roedd Job yn byw yn y dyddiau pan oedd yr Iddewon yn yr Aifft. Roedd ei ffyddlondeb yn unigryw. Fel ninnau, roedd Job yn amherffaith. Gwnaeth ef gamgymeriadau. Ond, roedd Jehofa yn caru Job oherwydd ei ffyddlondeb. Mae’n debyg fod Satan wedi gwawdio Jehofa am ffyddlondeb bodau dynol yn barod. Felly gwnaeth Jehofa ddenu sylw Satan at Job. Roedd bywyd y dyn hwn yn profi bod Satan yn gelwyddog! Mynnodd Satan fod ffyddlondeb Job yn cael ei roi dan brawf. Roedd Jehofa yn ymddiried yn ei ffrind Job, felly gadawodd i Satan ei brofi.—Darllen Job 1:8-11.

8. Sut gwnaeth Satan ymosod ar Job?

8 Mae Satan yn greulon, ac mae’n llofrudd. Cymerodd bopeth oedd gan Job oddi arno, lladdodd ei weision, a difethodd ei enw da yn y gymuned. Ymosododd ar deulu Job, gan ladd ei ddeg plentyn annwyl. Yna, ymosododd ar gorff Job, gan niweidio ei iechyd drwy ei daro â briwiau cas dros ei gorff i gyd. Roedd gwraig Job yn ofidus ac yn galaru, a cheisiodd wneud iddo ddigalonni, i felltithio Duw a marw. Roedd Job ei hun eisiau marw, ond arhosodd yn ffyddlon. Yna ceisiodd Satan ddefnyddio tacteg wahanol. Defnyddiodd dri dyn oedd yn ffrindiau i Job. Gwnaethon nhw ymweld â Job am ddyddiau, ond ni wnaethon nhw ei gysuro. Yn lle hynny, gwnaethon nhw ei feirniadu’n llym. Dywedon nhw mai Duw oedd yn achosi ei broblemau a doedd ei ffyddlondeb ddim o bwys iddo. Gwnaethon nhw hyd yn oed awgrymu bod Job yn ddyn drygionus a oedd yn haeddu’r pethau ofnadwy oedd yn digwydd iddo!—Job 1:13-22; 2:7-11; 15:4, 5; 22:3-6; 25:4-6.

9. Yn wyneb ei dreialon, beth wrthododd Job ei wneud?

9 Sut gwnaeth Job ddelio â’r holl adfyd hwnnw? Nid oedd yn berffaith. Ceryddodd ei gysurwyr ffug, a chyfaddef yn hwyrach ymlaen ei fod wedi siarad yn fyrbwyll. Amddiffynnodd ei gyfiawnder ei hun yn fwy na chyfiawnder Duw. (Job 6:3; 13:4, 5; 32:2; 34:5) Ond, hyd yn oed pan oedd y sefyllfa’n anodd iawn, gwrthododd Job gefnu ar Jehofa Dduw. Gwrthododd gredu celwyddau y ffrindiau ffug hynny. Dywedodd: “Pell y bo imi ddweud eich bod chwi’n iawn! Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw.” (Job 27:5, BCND) Dyna ddatganiad pwysig iawn. Gwrthododd Job ildio i bwysau, a gallwn ninnau wneud yr un peth.

10. Sut mae cyhuddiad Satan tuag at Job yn dy gynnwys dithau hefyd?

10 Mae Satan yn ein cyhuddo ni o’r un peth. Sut mae hyn yn dy gynnwys di? Mewn gwirionedd, mae’n dweud nad wyt ti wir yn caru Jehofa Dduw, y byddet ti’n stopio gwasanaethu Duw er mwyn dy achub dy hun, a bod unrhyw ffyddlondeb sydd gennyt ti yn ffug! (Job 2:4, 5; Dat. 12:10) Sut mae hynny’n gwneud iti deimlo? Mae’n siŵr ei fod yn dy frifo. Ond, meddylia am hyn: Mae Jehofa yn ymddiried ynot ti gymaint nes iddo gynnig cyfle arbennig iti. Mae Jehofa’n gadael i Satan brofi dy ffyddlondeb. Mae Jehofa’n hyderus y gelli di aros yn ffyddlon a helpu profi Satan yn gelwyddog. Ac mae Duw yn addo dy helpu di i wneud hynny. (Heb. 13:6) Am fraint yw hi fod Penarglwydd y bydysawd yn ymddiried ynot ti! Wyt ti’n gweld pam mae ffyddlondeb mor bwysig? Mae’n rhoi’r cyfle inni brofi Satan yn anghywir ac amddiffyn enw ein Tad a chefnogi ei ffordd o reoli. Sut gallwn ni feithrin y rhinwedd bwysig hon?

SUT GALLWN NI AROS YN FFYDDLON HEDDIW?

11. Beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth Job?

11 Mae Satan wedi cynyddu ei ymosodiadau yn y “cyfnod olaf” hwn. (2 Tim. 3:1) Yn yr amseroedd anodd hyn, sut gallwn ni ein cryfhau ein hunain i aros yn ffyddlon? Eto, gallwn ddysgu llawer oddi wrth Job. Ymhell cyn i’w brofion ddechrau, dangosodd Job ei ffyddlondeb lawer o weithiau. Ystyria dair gwers y gallwn eu dysgu oddi wrtho am sut i’n cryfhau ein hunain i aros yn ffyddlon.

Beth yw rhai ffyrdd y gallwn ein cryfhau ein hunain i aros yn ffyddlon? (Gweler paragraff 12) *

12. (a) Yn ôl Job 26:7, 8, 14, sut gwnaeth Job ryfeddu at allu Jehofa a’i barchu ef? (b) Sut gallwn ninnau ryfeddu at allu Duw yn ein calon?

12 Cryfhaodd Job ei gariad tuag at Dduw drwy ryfeddu at allu Jehofa. Treuliodd Job amser yn meddwl am greadigaeth ryfeddol Jehofa. (Darllen Job 26:7, 8, 14.) Roedd yn syfrdanu wrth iddo feddwl am y ddaear, yr awyr, y cymylau, a’r taranau, ond eto cydnabyddodd nad oedd yn gwybod llawer am yr holl bethau mae Jehofa wedi eu creu. Roedd hefyd yn rhyfeddu at eiriau Jehofa. Yn wir, dywedodd Job: “Dw i wedi trysori ei eiriau.” (Job 23:12) Roedd Job yn rhyfeddu at Jehofa ac roedd ganddo barch dwfn tuag ato. Roedd yn caru ei Dad ac eisiau ei blesio. O ganlyniad, daeth Job yn fwy penderfynol o gadw ei ffyddlondeb. Rhaid inni wneud yr un peth. Rydyn ni’n gwybod llawer mwy am greadigaeth nag oedd pobl yn ei wybod yn adeg Job. Ac mae gennyn ni’r Beibl ysbrydoledig i’n helpu ni i adnabod Jehofa yn iawn. Gall popeth a ddysgwn ein helpu i ryfeddu at allu Jehofa. A bydd ein rhyfeddod a’n parch tuag at Jehofa yn ein cymell i’w garu a bod yn ufudd iddo, ac yn cryfhau ein dymuniad i aros yn ffyddlon.—Job 28:28.

Rydyn ni’n ein cryfhau ein hunain i aros yn ffyddlon trwy wrthod pornograffi(Gweler paragraff 13) *

13-14. (a) Fel y gwelwn yn Job 31:1, sut profodd Job ei fod yn ufudd? (b) Sut gallwn ni ddilyn esiampl Job?

13 Gwnaeth ufudd-dod Job ym mhopeth ei helpu i aros yn ffyddlon. Roedd Job yn gwybod bod ffyddlondeb yn gofyn am ufudd-dod. Yn wir, bob tro rydyn ni’n ufudd mae ein penderfyniad i aros yn ffyddlon yn cael ei gryfhau. Gweithiodd Job yn galed i ufuddhau i Dduw yn ei fywyd bob dydd. Er enghraifft, roedd yn ofalus ynglŷn â sut roedd yn ymddwyn ag aelodau o’r rhyw arall. (Darllen Job 31:1.) Fel dyn priod, roedd yn gwybod ei bod hi’n amhriodol i roi sylw rhamantus i unrhyw fenyw heblaw ei wraig. Heddiw, rydyn ni’n byw mewn byd sy’n ein bombardio ni â themtasiwn rhywiol. Fel Job, a fyddwn ni’n gwrthod rhoi sylw amhriodol i unrhyw un sydd ddim yn briod inni? A fyddwn ni hefyd yn gwrthod edrych ar luniau sy’n anweddus neu’n bornograffig? (Math. 5:28) Os ydyn ni’n dangos hunanddisgyblaeth fel hyn bob dydd, byddwn yn ein cryfhau ein hunain i aros yn ffyddlon.

Rydyn ni’n ein cryfhau ein hunain i aros yn ffyddlon trwy gael agwedd gytbwys tuag at bethau materol(Gweler paragraff 14) *

14 Roedd Job hefyd yn ufudd i Jehofa yn ei safbwynt tuag at bethau materol. Deallodd Job, petai’n ymddiried yn ei bethau materol, y byddai hynny’n bechod difrifol sy’n haeddu cosb. (Job 31:24, 25, 28) Heddiw, rydyn ni’n byw mewn byd llawn materoliaeth. Os ydyn ni’n meithrin agwedd gytbwys tuag at arian ac eiddo, fel mae’r Beibl yn ein hannog i’w wneud, byddwn yn cryfhau ein penderfyniad i aros yn ffyddlon.—Diar. 30:8, 9; Math. 6:19-21.

Rydyn ni’n ein cryfhau ein hunain i aros yn ffyddlon trwy gadw ein gobaith yn fyw (Gweler paragraff 15) *

15. (a) Pa wobr oedd Job yn canolbwyntio arni er mwyn aros yn ffyddlon? (b) Sut gall cofio’r gobaith mae Jehofa’n ei gynnig ein helpu?

15 Arhosodd Job yn ffyddlon drwy ganolbwyntio ar y gobaith o gael ei wobrwyo gan Dduw. Roedd yn credu bod ei ffyddlondeb yn bwysig i Dduw. (Job 31:6) Er gwaethaf ei dreialon, roedd Job yn hyderus y byddai Jehofa yn ei wobrwyo. Yn bendant, gwnaeth yr hyder hwnnw ei helpu i aros yn ffyddlon. Roedd Jehofa mor hapus â ffyddlondeb Job nes iddo ei wobrwyo’n hael pan oedd ef yn dal yn ddyn amherffaith! (Job 42:12-17; Iago 5:11) A bydd Job yn cael ei wobrwyo’n fwy byth yn y dyfodol. Oes gennyt ti obaith cryf y bydd Jehofa’n gwobrwyo dy ffyddlondeb? Dydy ein Duw ddim wedi newid. (Mal. 3:6) Drwy gofio faint mae’n gwerthfawrogi ein ffyddlondeb, gallwn ni gadw ein gobaith am ddyfodol disglair yn fyw yn ein calon.—1 Thes. 5:8, 9.

16. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

16 Bydda’n benderfynol, felly, o aros yn ffyddlon drwy’r amser! Ar adegau, efallai byddet ti’n teimlo’n unig wrth geisio gwneud hyn, ond dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Rwyt ti’n un o filiynau o bobl ffyddlon o gwmpas y byd. Byddi di hefyd yn ymuno â’r gweision ffyddlon sydd wedi cadw eu ffyddlondeb yn y gorffennol, hyd yn oed yn wyneb marwolaeth. (Heb. 11:36-38; 12:1) Gad i bob un ohonon ni fod yn benderfynol o fyw yn ôl geiriau Job: “Ni chefnaf ar fy nghywirdeb.” A gad i’n ffyddlondeb foli Jehofa am byth!

CÂN 124 Bythol Ffyddlon

^ Par. 5 Beth yw ffyddlondeb? Pam mae Jehofa’n gwerthfawrogi pan fydd ei weision yn dangos y rhinwedd honno? Pam mae ffyddlondeb yn bwysig i bob un ohonon ni? Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i gael atebion y Beibl i’r cwestiynau hynny. Bydd hefyd yn ein helpu i ddeall yn glir sut y gallwn ni ein cryfhau ein hunain i aros yn ffyddlon o ddydd i ddydd. Bydd gwneud hynny yn dod â bendithion mawr inni.

^ Par. 3 Mae’r gair Hebraeg ar gyfer “heb nam” a ddefnyddiwyd yn achos anifeiliaid yn perthyn i’r gair “ffyddlondeb” neu “cywirdeb” a ddefnyddiwyd yn achos bodau dynol.

^ Par. 50 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gwelwn Job fel tad ifanc yn dysgu rhai o’i blant am greadigaeth ryfeddol Jehofa.

^ Par. 52 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn gwrthod ymuno â’i gyd-weithwyr sy’n gwylio pornograffi

^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn gwrthod y temtasiwn i brynu teledu mawr a drud nad yw’n ei angen nac yn gallu ei fforddio

^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn cymryd amser i weddïo a myfyrio ar obaith y Baradwys.