Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 7

Bydda’n Addfwyn a Phlesia Jehofa

Bydda’n Addfwyn a Phlesia Jehofa

“Gofynnwch i’r ARGLWYDD eich helpu . . . Byddwch yn ostyngedig [addfwyn, NW].”—SEFF. 2:3.

CÂN 80 Profwch Flas a Gwelwch mai Da Ydy Duw

CIPOLWG *

1-2. (a) Sut mae Moses yn cael ei ddisgrifio, a beth wnaeth ef? (b) Pa reswm sydd gennyn ni dros feithrin addfwynder?

MAE’R Beibl yn disgrifio Moses fel dyn gostyngedig iawn, y dyn mwyaf addfwyn ar y ddaear. (Num. 12:3) Ydy hyn yn golygu ei fod wedi bod yn wan, yn amhendant, ac yn ofni anghydfod? Efallai dyna sut byddai rhai pobl yn disgrifio rhywun addfwyn. Ond, mae’r syniad hwnnw’n bell o fod yn wir. Roedd Moses yn gryf, yn benderfynol, ac yn ddewr wrth wasanaethu Duw. Gyda help Jehofa, wynebodd ef reolwr pwerus yr Aifft, arweiniodd efallai 3,000,000 o bobl drwy’r anialwch, a helpodd genedl Israel i orchfygu eu gelynion.

2 Dydyn ninnau ddim yn wynebu’r un heriau â Moses, ond, bob dydd, mae’n rhaid inni ddelio gyda phobl neu sefyllfaoedd sy’n ei gwneud hi’n anodd inni fod yn addfwyn. Wedi dweud hynny, mae gennyn ni reswm da dros feithrin y rhinwedd honno. Addawodd Jehofa y byddai pobl addfwyn yn etifeddu’r ddaear. (Salm 37:11) A fyddet ti’n dweud dy fod ti’n berson addfwyn? A fyddai pobl eraill yn dweud hynny amdanat ti? Cyn inni allu ateb y cwestiynau pwysig hynny, mae angen inni ddeall beth mae bod yn addfwyn yn ei olygu.

BETH YDY ADDFWYNDER?

3-4. (a) Beth mae addfwynder yn debyg iddo? (b) Pa bedair rhinwedd sydd eu hangen arnon ni i fod yn addfwyn, a pham?

3 Mae addfwynder yn debyg i baentiad hyfryd. Ym mha ffordd? Fel y mae arlunydd yn defnyddio nifer o liwiau apelgar i greu paentiad, mae angen i ninnau gyfuno nifer o rinweddau apelgar er mwyn bod yn addfwyn. Ymhlith y rhinweddau hynny y mae gostyngeiddrwydd, ufudd-dod, tynerwch, a dewrder. Pam mae angen y rhinweddau penodol hynny arnon ni er mwyn plesio Jehofa? *

4 Dim ond pobl ostyngedig sy’n ildio i ewyllys Duw. Mae bod yn addfwyn yn rhan o ewyllys Duw inni. (Math. 5:5; Gal. 5:23) Pan ydyn ni’n gwneud ewyllys Duw, rydyn ni’n gwneud Satan yn grac. Felly, hyd yn oed pan ydyn ni’n ostyngedig ac yn addfwyn, mae llawer o bobl ym myd Satan yn ein casáu ni. (Ioan 15:18, 19) O ganlyniad, mae angen cryfder mewnol i wrthod Satan.

5-6. (a) Pam mae Satan yn casáu pobl addfwyn? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb?

5 Y gwrthwyneb i berson addfwyn ydy rhywun sy’n ffroenuchel, sy’n gwylltio’n hawdd, ac sy’n anufudd i Jehofa. Mae hynny’n disgrifio Satan yn berffaith. Does dim syndod fod Satan yn casáu pobl addfwyn! Maen nhw’n datgelu’r gwallau yn ei bersonoliaeth ef. Ac yn waeth byth i Satan, maen nhw’n profi ei fod yn gelwyddgi. Pam? Oherwydd beth bynnag mae ef yn ei ddweud neu’n ei wneud, dydy Satan ddim yn gallu stopio pobl addfwyn rhag gwasanaethu Jehofa!—Job 2:3-5.

6 Pryd gall fod yn addfwyn droi’n her? A pham dylen ni barhau i geisio addfwynder? I ateb y cwestiynau hynny, byddwn yn ystyried esiampl Moses, tri Hebread a oedd yn gaeth ym Mabilon, ac Iesu.

PRYD MAE ADDFWYNDER YN HER?

7-8. Sut gwnaeth Moses ymateb pan gafodd ei amharchu?

7 Pan fydd gennyn ni awdurdod: Gallai fod yn anodd i bobl sydd ag awdurdod aros yn addfwyn, yn enwedig pan fydd rhywun o dan eu rheolaeth yn amharchus tuag atyn nhw neu’n cwestiynu eu penderfyniadau. Ydy hyn wedi digwydd i ti erioed? Beth petai aelod o’r teulu yn ymddwyn fel ’na? Sut byddet ti’n ymateb? Ystyria sut gwnaeth Moses ddelio gyda’r sefyllfa honno.

8 Gwnaeth Jehofa benodi Moses i fod yn arweinydd ar Israel a chaniataodd iddo gofnodi’r cyfreithiau ar gyfer y genedl. Doedd dim amheuaeth nad oedd Jehofa yn cefnogi Moses. Er hynny, gwnaeth brawd a chwaer Moses, sef Aaron a Miriam, siarad yn ei erbyn a chwestiynu ei benderfyniad o ran dewis gwraig. Gallai rhai dynion yn sefyllfa Moses fod wedi troi’n ddig a cheisio talu’r pwyth yn ôl—ond nid Moses. Doedd Moses ddim yn gyflym i ddigio. Gwnaeth hyd yn oed ymbil ar Jehofa i ddod â chosb Miriam i ben. (Num. 12:1-13) Pam gwnaeth Moses ymateb fel ’na?

Gwnaeth Moses ymbil ar Jehofa i ddod â chosb Miriam i ben (Gweler paragraff 8)

9-10. (a) Beth gwnaeth Jehofa helpu Moses i’w ddeall? (b) Beth gall pennau teuluoedd a henuriaid ei ddysgu oddi wrth Moses?

9 Roedd Moses wedi caniatáu i Jehofa ei hyfforddi. Tua 40 mlynedd yn gynharach, pan oedd Moses yn rhan o deulu brenhinol yr Aifft, doedd ef ddim yn addfwyn. Yn wir, roedd mor wyllt ei dymer nes iddo ladd dyn a oedd, yn ei farn ef, wedi ymddwyn yn annheg. Cymerodd yn ganiataol y byddai Jehofa yn cytuno â’i ymddygiad. Treuliodd Jehofa 40 mlynedd yn helpu Moses i ddeall bod angen mwy na dewrder yn unig i arwain yr Israeliaid; roedd angen iddo fod yn addfwyn. Ac er mwyn bod yn addfwyn, roedd angen iddo fod yn ostyngedig, yn ufudd, ac yn dyner. Dysgodd y wers honno’n dda ac fe ddaeth yn arolygwr rhagorol.—Ex. 2:11, 12; Act. 7:21-30, 36.

10 Heddiw, peth da fyddai i bennau teuluoedd a henuriaid ddilyn esiampl Moses. Pan gei di dy drin yn amharchus, paid â bod yn gyflym i ddigio. Bydda’n barod i gydnabod unrhyw wendid sydd gen ti. (Preg. 7:9, 20) Dilyna gyfarwyddyd Jehofa ar sut i ddelio â phroblemau. A rho ateb caredig bob tro. (Diar. 15:1) Mae pennau teuluoedd ac arolygwyr sy’n ymateb fel ’na yn plesio Jehofa, yn hyrwyddo heddwch, ac yn gosod esiampl ynglŷn â bod yn addfwyn.

11-13. Pa esiampl a osododd tri Hebread inni?

11 Wrth inni gael ein herlid: Trwy gydol hanes, mae rheolwyr dynol wedi erlid pobl Jehofa. Efallai eu bod nhw’n ein cyhuddo o wahanol “droseddau,” ond y gwir reswm dros wneud hynny yw ein bod ni’n dewis “ufuddhau i Dduw, dim i ddynion.” (Act. 5:29) Efallai cawn ni ein bychanu, ein carcharu, neu hyd yn oed ein cam-drin yn gorfforol. Ond gyda help Jehofa, fyddwn ni ddim yn ceisio dial ond yn hytrach yn aros yn addfwyn trwy gydol y prawf.

12 Ystyria esiampl a osododd tri Hebread a gafodd eu caethgludo—Hananeia, Mishael, ac Asareia. * Roedd brenin Babilon wedi gorchymyn iddyn nhw blygu o flaen delw fawr o aur. Gwnaethon nhw esbonio i’r brenin mewn ffordd dyner pam nad oedden nhw am addoli’r ddelw. Arhoson nhw’n ufudd i Dduw er gwaetha’r brenin yn bygwth eu llosgi mewn ffwrnais hynod o boeth. Dewisodd Jehofa achub y dynion hynny ar unwaith, ond doedden nhw ddim yn cymryd yn ganiataol y byddai Duw yn gwneud hynny drostyn nhw. Yn hytrach, roedden nhw’n barod i dderbyn beth bynnag roedd Jehofa’n caniatáu i ddigwydd. (Dan. 3:1, 8-28) Profon nhw fod pobl addfwyn yn wir yn ddewr—ni all unrhyw frenin, na bygythiad, na chosb dorri ein hymrwymiad llwyr i Jehofa.—Ex. 20:4, 5.

13 Pan fydd ein ffyddlondeb i Dduw yn cael ei brofi, sut gallwn ni efelychu’r tri Hebread? Rydyn ni’n dibynnu’n ostyngedig ar Jehofa i ofalu amdanon ni. (Salm 118:6, 7) Rydyn ni’n ateb y rhai sy’n ein cyhuddo o ddrygioni mewn ffordd dyner a pharchus. (1 Pedr 3:15, BCND) Ac rydyn ni’n gwrthod cyfaddawdu o ran ein cyfeillgarwch â’n Tad cariadus ar unrhyw gyfri.

Pan fydd eraill yn ein herlid, rydyn ni’n ateb mewn ffordd barchus (Gweler paragraff 13)

14-15. (a) Beth all ddigwydd pan ydyn ni o dan straen? (b) Yn ôl Eseia 53:7, 10, pam gallwn ddweud mai Iesu ydy’r esiampl orau o ran dangos addfwynder o dan straen?

14 Wrth ddelio gyda straen: Rydyn ni i gyd yn teimlo straen am wahanol resymau. Efallai ein bod ni wedi teimlo straen cyn gwneud arholiad yn yr ysgol neu cyn gwneud rhywbeth penodol sy’n rhan o’n gwaith. Neu efallai ein bod ni’n teimlo straen wrth feddwl am driniaeth feddygol sy’n rhaid inni ei chael. Pan ydyn ni o dan bwysau, mae’n anodd bod yn addfwyn. Efallai bydd pethau sydd ddim fel arfer yn achosi trafferth inni yn dechrau ein cynhyrfu. Gall ein geiriau droi’n llym a thôn ein llais droi’n oeraidd. Os wyt ti erioed wedi teimlo straen, ystyria esiampl Iesu.

15 Yn ystod ei fisoedd olaf ar y ddaear, roedd Iesu o dan straen aruthrol. Roedd yn gwybod y byddai’n cael ei ddienyddio ac y byddai’n dioddef yn ofnadwy. (Ioan 3:14, 15; Gal. 3:13) Ychydig o fisoedd cyn ei farwolaeth, dywedodd ei fod o dan straen. (Luc 12:50) Ac ychydig o ddyddiau cyn iddo farw, dywedodd Iesu: “Dw i wedi cynhyrfu.” Gallwn weld ei ostyngeiddrwydd a’i ufudd-dod i Dduw wrth iddo fwrw ei fol mewn gweddi: “Beth alla i ddweud? O Dad, achub fi rhag y profiad ofnadwy sydd i ddod? Na! dyma pam dw i wedi dod. Dad, dangos di mor wych wyt ti!” (Ioan 12:27, 28) Pan ddaeth yr amser, gwnaeth Iesu ei roi ei hun yn nwylo gelynion Duw, a gwnaethon nhw ei roi i farwolaeth yn y ffordd fwyaf poenus a chywilyddus posib. Er gwaetha’r straen, roedd Iesu’n addfwyn wrth wneud ewyllys Duw. Heb os, gallwn ddweud mai Iesu ydy’r esiampl orau o ran dangos addfwynder o dan straen!—Darllen Eseia 53:7, 10.

Iesu ydy’r esiampl orau o ddangos addfwynder (Gweler paragraffau 16-17) *

16-17. (a) Sut gwnaeth ffrindiau Iesu brofi ei addfwynder? (b) Sut gallwn ni efelychu Iesu?

16 Ar noson olaf Iesu ar y ddaear, gwnaeth ei ffrindiau agosaf roi ei addfwynder o dan brawf. Dychmyga’r straen roedd Iesu’n ei deimlo ar y noson honno. A fyddai’n aros yn berffaith ffyddlon hyd at farwolaeth? Roedd bywydau biliynau o bobl yn y fantol. (Rhuf. 5:18, 19) Yn bwysicach byth, roedd yn bosib iddo un ai pardduo neu ddyrchafu enw da ei Dad. (Job 2:4) Wedyn, yn ystod ei bryd o fwyd olaf gyda’i ffrindiau gorau, yr apostolion, “dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica.” Roedd Iesu wedi cywiro ei ffrindiau ynglŷn â hyn sawl gwaith o’r blaen, gan gynnwys yn gynharach y noson honno! Ond, ni wnaeth Iesu gynhyrfu. Yn hytrach, ymatebodd mewn ffordd addfwyn. Unwaith eto, gwnaeth Iesu esbonio, yn garedig ond yn gadarn, pa agwedd y dylen nhw ei chael. Ac wedyn fe wnaeth ganmol ei ffrindiau am aros yn ffyddlon iddo.—Luc 22:24-28; Ioan 13:1-5, 12-15.

17 Sut byddet ti wedi ymateb petaet tithau wedi bod mewn sefyllfa debyg? Gallwn efelychu Iesu ac aros yn addfwyn hyd yn oed pan ydyn ni o dan straen. Bydda’n barod i ufuddhau i orchymyn Jehofa: “Byddwch yn oddefgar.” (Col. 3:13) Byddwn yn dilyn y gorchymyn hwnnw os ydyn ni’n cofio ein bod ni i gyd yn dweud neu’n gwneud pethau sy’n mynd ar nerfau pobl eraill. (Diar. 12:18; Iago 3:2, 5) A cheisia sôn am y pethau da rwyt ti’n eu gweld ym mhobl eraill.—Eff. 4:29.

PAM CEISIO ADDFWYNDER?

18. Sut mae Jehofa yn helpu pobl addfwyn i wneud penderfyniadau da, ond beth sy’n rhaid iddyn nhw ei wneud?

18 Byddwn yn gwneud penderfyniadau gwell. Pan fyddwn ni’n wynebu dewisiadau anodd mewn bywyd, bydd Jehofa yn ein helpu i wneud penderfyniadau da—dim ond os ydyn ni’n addfwyn. Mae Duw yn addo y bydd yn gwrando “ar lais y rhai sy’n cael eu gorthrymu.” (Salm 10:17) Ac fe fydd yn gwneud mwy na gwrando arnon ni’n unig. Mae’r Beibl yn addo: “Mae’n dangos y ffordd iawn i’r rhai sy’n plygu iddo ac yn eu dysgu nhw sut i fyw.” (Salm 25:9) Mae Jehofa’n rhoi’r arweiniad hwnnw yn y Beibl ac yn y cyhoeddiadau * a’r rhaglenni sy’n cael eu cynhyrchu gan y gwas ffyddlon a chall. (Math. 24:45-47) Rhaid i ninnau wneud ein rhan drwy gydnabod yn ostyngedig fod angen help arnon ni, drwy astudio’r deunydd mae Jehofa’n ei ddarparu, a thrwy fod yn ufudd i’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu.

19-21. Pa gamgymeriad wnaeth Moses yn Cadesh, a pha wersi gallwn ni eu dysgu o hyn?

19 Byddwn yn osgoi gwneud camgymeriadau. Meddylia eto am Moses. Am ddegawdau, arhosodd ef yn addfwyn a phlesiodd Jehofa. Wedyn, tua diwedd taith anodd drwy’r anialwch a barodd am 40 mlynedd, methodd Moses ddangos addfwynder. Roedd ei chwaer, yr un a helpodd i achub ei fywyd yn yr Aifft yn ôl pob tebyg, newydd farw a chafodd hi ei chladdu yn Cadesh. A dyma’r Israeliaid unwaith eto yn mynnu nad oedd Moses yn gofalu amdanyn nhw’n iawn. Y tro hwn, roedden nhw’n “ffraeo gyda Moses” am y diffyg dŵr. Er gwaetha’r holl wyrthiau roedd Jehofa wedi eu gwneud drwy Moses ac er gwaethaf arweiniad hunan-aberthol Moses, roedd y bobl yn cwyno. Roedden nhw’n cwyno nid yn unig am y diffyg dŵr ond hefyd am Moses, fel petasai ef ar fai am eu bod nhw’n sychedu.—Num. 20:1-5, 9-11.

20 Gwylltiodd Moses, a methodd ddangos addfwynder. Yn hytrach na siarad mewn ffydd â’r graig, fel roedd Jehofa wedi gorchymyn, siaradodd Moses mewn chwerwder â’r bobl a rhoddodd y clod iddo’i hun. Wedyn, tarodd ef y graig ddwywaith a llifodd llawer o ddŵr allan ohoni. Balchder a dicter a achosodd iddo wneud camgymeriad poenus. (Salm 106:32, 33) Am fethu dangos addfwynder ar yr achlysur hwn, ni chafodd Moses fynd i mewn i Wlad yr Addewid.—Num. 20:12.

21 Rydyn ni’n dysgu gwersi pwysig o’r digwyddiad hwn. Yn gyntaf, rhaid inni weithio ar ein hagwedd addfwyn yn barhaol. Os ydyn ni’n esgeulus am foment, gall balchder godi ei ben unwaith eto ac achosi inni siarad neu ymddwyn yn ffôl. Yn ail, gall straen ein gwanhau ni, felly mae’n rhaid inni ymdrechu i fod yn addfwyn, hyd yn oed o dan bwysau.

22-23. (a) Pam dylen ni barhau i geisio addfwynder? (b) Beth mae’r geiriau yn Seffaneia 2:3 yn ei ddangos?

22 Byddwn yn cael ein hamddiffyn. Yn fuan, bydd Jehofa yn cael gwared ar y drygionus i gyd, a dim ond yr addfwyn fydd yn aros. Yna, bydd y ddaear yn wirioneddol heddychlon. (Salm 37:10, 11) A fyddi di ymhlith y rhai addfwyn hynny? Fe elli di, os wyt ti’n derbyn gwahoddiad caredig Jehofa a gofnodwyd gan y proffwyd Seffaneia.—Darllen Seffaneia 2:3.

23 Pam mae Seffaneia 2:3 yn dweud: “Falle y cewch eich cuddio”? Dydy’r geiriau hynny ddim yn golygu nad ydy Jehofa’n gallu amddiffyn y rhai sydd eisiau ei blesio a’r rhai y mae ef yn eu caru. Yn hytrach, mae’n awgrymu bod angen i ni wneud rhywbeth i gael ein hamddiffyn. Mae gennyn ni’r cyfle i oroesi’r “diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu” ac i fyw am byth os ydyn ni’n gwneud yr ymdrech nawr i geisio addfwynder a phlesio Jehofa.

CÂN 120 Efelychu Addfwynder Crist

^ Par. 5 Dydyn ni ddim yn cael ein geni’n addfwyn. Mae’n rhaid inni feithrin addfwynder. Efallai ein bod ni’n gallu bod yn addfwyn wrth ddelio gyda phobl heddychlon, ond efallai fod aros yn addfwyn yn anodd wrth wynebu pobl falch. Bydd yr erthygl hon yn trafod rhai o’r heriau efallai bydd rhaid inni eu trechu er mwyn meithrin addfwynder.

^ Par. 3 ESBONIADAU: Addfwynder. Mae pobl addfwyn yn garedig wrth ddelio gydag eraill ac yn aros yn dawel eu hysbryd hyd yn oed pan fydd eraill yn eu pryfocio. Gostyngeiddrwydd. Dydy pobl ostyngedig ddim yn falch nac yn haerllug; maen nhw’n ystyried pobl eraill yn well na nhw. Wrth gyfeirio at Jehofa, mae gostyngeiddrwydd yn golygu ei fod yn delio gyda’r rhai sy’n is nag ef mewn ffordd garedig a thrugarog.

^ Par. 12 Rhoddodd y Babiloniaid enwau newydd ar y tri Hebread, sef Shadrach, Meshach, ac Abednego.—Dan. 1:7.

^ Par. 18 Er enghraifft, gweler yr erthygl “Make Decisions That Honor God,” a gyhoeddwyd yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Ebrill 2011.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Iesu yn aros yn addfwyn heb gynhyrfu wrth gywiro ei ddisgyblion ar ôl iddyn nhw ffraeo am bwy oedd y gorau.