Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 8

Pam Dangos Dy Werthfawrogiad?

Pam Dangos Dy Werthfawrogiad?

“Byddwch yn ddiolchgar.”—COL. 3:15.

CÂN 46 Diolchwn i Ti, Jehofa

CIPOLWG *

1. Sut gwnaeth Samariad a gafodd ei iacháu gan Iesu ddangos gwerthfawrogiad?

ROEDD y deg dyn yn dioddef o’r gwahanglwyf, heb unrhyw obaith gwella. Ond, un diwrnod, gwelon nhw Iesu, yr Athro Mawr, o bell. Clywon nhw fod Iesu yn iacháu pob math o afiechydon, ac roedden nhw’n gwbl hyderus y gallai eu hiacháu nhwthau hefyd. Felly gwaeddon nhw: “Feistr! Iesu!—wnei di’n helpu ni?” Cafodd y deg dyn eu hiacháu yn llwyr. Heb os, roedden nhw i gyd yn ddiolchgar am garedigrwydd Iesu. Fodd bynnag, gwnaeth un ohonyn nhw lawer mwy na theimlo gwerthfawrogiad—gwnaeth ddangos ei werthfawrogiad * tuag at Iesu. Ar ôl cael ei iacháu, cafodd y Samariad hwnnw ei ysgogi i foli Duw drwy weiddi’n uchel.—Luc 17:12-19.

2-3. (a) Pam gallwn ni beidio â dangos gwerthfawrogiad? (b) Beth y byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Yn debyg i’r Samariad, rydyn ninnau eisiau mynegi ein diolchgarwch i’r rhai sy’n garedig. Ond, ar adegau, gallwn ni anghofio dweud neu ddangos cymaint rydyn ni’n eu gwerthfawrogi.

3 Yn yr erthygl hon, byddwn yn ystyried pam mae hi’n bwysig inni ddangos ein gwerthfawrogiad mewn gair a gweithred. Byddwn yn dysgu o esiamplau rhai yn y Beibl a oedd yn ddiolchgar ac eraill nad oedden nhw. Yna, byddwn yn trafod ffyrdd penodol o ddangos gwerthfawrogiad.

PAM DANGOS GWERTHFAWROGIAD?

4-5. Pam dylen ni ddangos ein gwerthfawrogiad?

4 Jehofa sy’n gosod yr esiampl inni o ran dangos gwerthfawrogiad. Un ffordd y mae’n gwneud hyn yw gwobrwyo’r rhai sy’n ei blesio. (2 Sam. 22:21; Salm 13:5, 6; Math. 10:40, 41) Ac anogaeth yr Ysgrythurau yw: “Dilynwch esiampl Duw, gan eich bod yn blant annwyl iddo.” (Eff. 5:1) Felly, un o’r rhesymau pennaf dros ddangos gwerthfawrogiad yw oherwydd ein bod ni eisiau dilyn esiampl Jehofa.

5 Ystyria reswm arall pam y dylen ni fod eisiau dangos gwerthfawrogiad. Mae gwerthfawrogiad yn debyg i bryd da o fwyd—mae’n fwy pleserus pan fyddwn ni’n ei rannu gydag eraill. Pan fyddwn ni’n teimlo bod eraill yn ein gwerthfawrogi, ni sy’n hapus. Pan fyddwn ni’n dangos ein gwerthfawrogiad, rydyn ni’n gwneud i eraill deimlo’n hapus. Mae’r person sy’n derbyn ein diolchgarwch yn gwybod bod ei ymdrechion i’n helpu, i roi rhywbeth rydyn ni’n ei angen, wedi bod yn werth chweil. O ganlyniad, mae’r cyfeillgarwch rhyngon ni yn cryfhau.

6. Beth yw’r tebygrwydd rhwng geiriau o werthfawrogiad ac afalau aur?

6 Yn ôl y Beibl, mae ein geiriau o werthfawrogiad yn bwerus: “Fel afalau aur ar addurniadau o arian, felly y mae gair a leferir yn ei bryd.” (Diar. 25:11, BCND) Dychmyga pa mor hardd a gwerthfawr y byddai afalau aur wedi eu gosod ar addurniadau o arian! Sut byddet ti’n teimlo petaet ti’n derbyn anrheg o’r fath? Wel, gall y geiriau o werthfawrogiad rwyt ti’n eu dweud wrth eraill fod yr un mor werthfawr. Ac ystyria’r ffaith hon: Gallai afal wedi ei wneud o aur bara am amser maith. Yn yr un modd, gall y person sydd wedi derbyn dy eiriau o werthfawrogiad eu trysori nhw am weddill ei oes.

DANGOSON NHW WERTHFAWROGIAD

7. Sut gwnaeth Dafydd, yn Salm 27:4, a salmwyr eraill fynegi eu gwerthfawrogiad?

7 Mae llawer o weision Duw gynt wedi dangos eu gwerthfawrogiad. Un ohonyn nhw oedd Dafydd. (Darllen Salm 27:4.) Roedd yn gwerthfawrogi addoliad pur ac roedd yn dangos ei deimladau drwy ei weithredoedd. Cyfrannodd ffortiwn at waith adeiladu’r deml. Dangosodd disgynyddion Asaff eu gwerthfawrogiad drwy ysgrifennu salmau, neu ganeuon o fawl. Mewn un gân, maen nhw’n dweud diolch wrth Jehofa am “y pethau rhyfeddol” a wnaeth ef. (Salm 75:1) Yn amlwg, roedd Dafydd a disgynyddion Asaff eisiau dangos i Jehofa gymaint oedd eu gwerthfawrogiad am yr holl fendithion roedden nhw wedi eu derbyn ganddo. A elli di feddwl am ffyrdd y gelli di efelychu’r salmwyr hynny?

Beth mae llythyr Paul at y Rhufeiniaid yn ei ddysgu inni am ddangos gwerthfawrogiad? (Gweler paragraffau 8-9) *

8-9. Sut dangosodd Paul ei werthfawrogiad am ei frodyr a’i chwiorydd, a beth mae’n debyg oedd y canlyniad?

8 Dangosodd yr apostol Paul ei fod yn gwerthfawrogi ei frodyr a’i chwiorydd yn y ffordd roedd yn siarad amdanyn nhw. Roedd bob amser yn diolch i Dduw amdanyn nhw yn ei weddïau. Mynegodd ei werthfawrogiad hefyd pan oedd yn ysgrifennu atyn nhw. Yn y 15 adnod gyntaf o Rufeiniaid 16, mae Paul yn enwi 27 o gyd-Gristnogion. Soniodd yn benodol am Priscila ac Acwila,“dau wnaeth fentro’u bywydau” i’w helpu, a disgrifiodd Phebe fel un a oedd “wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl,” gan gynnwys Paul. Gwnaeth ganmol y brodyr a’r chwiorydd annwyl a gweithgar hynny.—Rhuf. 16:1-15.

9 Roedd Paul yn ymwybodol bod ei frodyr a’i chwiorydd yn amherffaith, ond, ar ddiwedd ei lythyr at y Rhufeiniaid, mae’n dewis canolbwyntio ar eu rhinweddau da. Dychmyga’r brodyr a’r chwiorydd hynny yn cael eu calonogi wrth wrando ar sylwadau Paul yn cael eu darllen yn uchel yn y gynulleidfa! O ganlyniad, daeth y cyfeillgarwch rhyngddyn nhw a Paul yn gryfach. Wyt ti’n aml yn dangos dy werthfawrogiad am y pethau da y mae aelodau’r gynulleidfa yn eu dweud ac yn eu gwneud?

10. Beth allwn ni ei ddysgu o’r ffordd y dangosodd Iesu werthfawrogiad?

10 Yn ei negeseuon i rai cynulleidfaoedd yn Asia Leiaf, dangosodd Iesu ei werthfawrogiad am waith ei ddilynwyr. Er enghraifft, dechreuodd ei neges i’r gynulleidfa yn Thyatira drwy ddweud: “Dw i’n gwybod am bopeth wyt ti’n ei wneud—am dy gariad, dy ffyddlondeb, dy wasanaeth a’th allu i ddal ati; a dw i’n gweld dy fod yn gwneud mwy o dda nawr nag oeddet ti ar y cychwyn.” (Dat. 2:19) Gwnaeth Iesu nid yn unig eu canmol am wneud mwy o dda ond hefyd am y rhinweddau a ysgogodd y gweithredoedd da hynny. Er bod rhaid i Iesu roi cyngor i rai yn Thyatira, dechreuodd ei neges a’i gorffen ag anogaeth. (Dat. 2:25-28) Meddylia am yr awdurdod sydd gan Iesu fel pen y cynulleidfaoedd i gyd. Does dim rhaid iddo ddiolch inni am ein gwaith. Er hynny, mae’n gwneud pwynt o ddangos ei werthfawrogiad. Am esiampl dda i’r henuriaid!

DIFFYG GWERTHFAWROGIAD

11. Yn ôl Hebreaid 12:16, pa agwedd oedd gan Esau tuag at bethau cysegredig?

11 Yn anffodus, gwnaeth rhai cymeriadau yn y Beibl ddangos diffyg gwerthfawrogiad. Er enghraifft, er bod Esau wedi ei fagu gan rieni a oedd yn caru ac yn parchu Jehofa, nid oedd yn gwerthfawrogi pethau cysegredig. (Darllen Hebreaid 12:16.) Sut daeth ei agwedd anniolchgar yn amlwg? Yn fyrbwyll iawn, gwerthodd Esau ei enedigaeth-fraint i’w frawd iau, Jacob, a hynny am bowlen o gawl. (Gen. 25:30-34) Yn nes ymlaen, gwnaeth Esau ddifaru’n arw ei benderfyniad. Ond roedd wedi bod yn anniolchgar am yr hyn roedd ganddo, felly doedd ganddo ddim rheswm dilys dros gwyno pan na chafodd ei fendithio â’i hawliau fel y mab hynaf.

12-13. Sut gwnaeth yr Israeliaid ddangos diffyg gwerthfawrogiad, a beth oedd y canlyniad?

12 Roedd gan yr Israeliaid lawer o resymau dros ddangos gwerthfawrogiad. Cawson nhw eu rhyddhau o gaethiwed pan ddaeth Jehofa â’r Deg Pla ar yr Aifft. Yna gwnaeth Duw eu hachub drwy ddinistrio holl fyddin yr Aifft yn y Môr Coch. Roedd yr Israeliaid mor ddiolchgar nes iddyn nhw ganu cân o fuddugoliaeth i foli Jehofa. Ond a wnaethon nhw aros yn ddiolchgar?

13 Unwaith i’r Israeliaid wynebu anawsterau newydd, yn fuan iawn y daethon nhw i anghofio am yr holl bethau da roedd Jehofa wedi eu gwneud ar eu cyfer. Bryd hynny y dangoson nhw eu diffyg gwerthfawrogiad. (Salm 106:7) Sut? “Dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch”—mewn gwirionedd, grwgnach yn erbyn Jehofa. (Ex. 16:2, 8, BCND) Roedd agwedd anniolchgar y bobl wedi siomi Jehofa. Yn nes ymlaen fe ragfynegodd y byddai’r genhedlaeth gyfan honno yn marw yn yr anialwch, ac eithrio Josua a Caleb. (Num. 14:22-24; 26:65) Gad inni weld sut y gallwn ni osgoi dilyn yr esiamplau drwg hyn ac efelychu’r rhai da.

DANGOS GWERTHFAWROGIAD HEDDIW

14-15. (a) Sut gall gŵr a gwraig ddangos eu bod nhw’n gwerthfawrogi ei gilydd? (b) Sut gall rhieni ddysgu eu plant i fod yn werthfawrogol?

14 Yn y teulu. Mae’r teulu cyfan ar ei ennill pan fydd pob un aelod yn dangos gwerthfawrogiad. Y mwyaf y mae’r gŵr a’r wraig yn dangos eu bod nhw’n gwerthfawrogi ei gilydd, y mwyaf agos y byddan nhw. Byddan nhw hefyd yn ei chael hi’n haws maddau i’w gilydd. Mae gŵr sy’n wir yn gwerthfawrogi ei wraig, nid yn unig yn sylwi ar y pethau da mae hi’n eu dweud ac yn eu gwneud, ond hefyd mae’n “ei chanmol i’r cymylau.” (Diar. 31:10, 28) Ac mae gwraig ddoeth yn dweud yn union wrth ei gŵr yr hyn mae hi’n ei werthfawrogi amdano.

15 Rieni, sut gallwch chi ddysgu eich plant i ddangos gwerthfawrogiad? Cofiwch y bydd eich plant yn efelychu eich geiriau a’ch ymddygiad. Felly, gosodwch esiampl dda drwy ddweud diolch pan fydd eich plant yn gwneud pethau ichi. Yn ogystal, dysgwch eich plant i ddweud diolch pan fydd pobl yn gwneud pethau ar eu cyfer. Helpwch eich plant i ddeall bod dangos gwerthfawrogiad yn dod o’r galon a bod eu geiriau yn gallu gwneud lot o ddaioni. Er enghraifft, mae dynes ifanc o’r enw Clary yn dweud: “Pan oedd fy mam yn 32 oed, cafodd ei gadael yn fwyaf sydyn i fagu tri o blant ar ei phen ei hun. Pan wnes i droi’n 32, meddyliais am ba mor anodd yr oedd hi i Mam yn yr oed hwnnw. Felly dywedais wrthi gymaint roeddwn i’n gwerthfawrogi ei haberthau yn magu fy mrodyr a minnau. Yn ddiweddar, dywedodd hi fod fy ngeiriau yn agos iawn at ei chalon a’i bod hi’n aml yn myfyrio arnyn nhw, a’u bod nhw bob amser yn gwneud iddi deimlo’n hapus iawn.”

Dysga dy blentyn i fynegi diolchgarwch (Gweler paragraff 15) *

16. Rho esiampl sy’n esbonio sut gall mynegi gwerthfawrogiad annog eraill.

16 Yn y gynulleidfa. Pan fyddwn ni’n dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi ein brodyr, rydyn ni’n eu hannog. Er enghraifft, daeth Jorge, henuriad 28 oed, yn ddifrifol wael. Doedd ddim yn gallu dod i’r cyfarfodydd am fis. Hyd yn oed pan oedd yn gallu dod i’r cyfarfodydd unwaith eto, doedd ddim yn gallu gwneud eitemau ar y rhaglen. Mae Jorge yn cyfaddef: “Roeddwn i’n teimlo’n dda i ddim oherwydd doeddwn i ddim yn gallu ysgwyddo cyfrifoldebau yn y gynulleidfa. Ond ar ôl un cyfarfod, dywedodd brawd wrthyf: ‘Rydw i eisiau diolch iti am yr esiampl dda rwyt ti wedi ei gosod ar gyfer fy nheulu. Does gen ti ddim syniad cymaint rydyn ni wedi mwynhau dy anerchiadau dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw wedi ein helpu ni i dyfu’n ysbrydol.’ Gwnaeth hynny fy nghyffwrdd gymaint nes imi ddechrau crio. Dyna’r union eiriau roedd angen imi eu clywed.”

17. Fel y gwelwn yn Colosiaid 3:15, sut gallwn ni ddangos i Jehofa ein bod ni’n gwerthfawrogi ei haelioni?

17 I’n Duw hael. Mae Jehofa wedi rhoi digonedd o fwyd ysbrydol inni. Er enghraifft, rydyn ni’n derbyn cyfarwyddiadau defnyddiol drwy gyfrwng ein cyfarfodydd, ein cylchgronau, a’n gwefannau. Wyt ti erioed wedi clywed anerchiad, darllen erthygl, neu wylio darllediad a meddwl: ‘Dyna’n union roedd ei angen arna’ i’? Sut gallwn ni ddangos i Jehofa ein bod ni’n ddiolchgar? (Darllen Colosiaid 3:15.) Un ffordd o wneud hynny yw diolch iddo yn rheolaidd yn ein gweddïau am y rhoddion hael hyn.—Iago 1:17.

Mae helpu i lanhau Neuadd y Deyrnas yn ffordd wych o ddangos ein gwerthfawrogiad (Gweler paragraff 18)

18. Ym mha ffyrdd y gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad am Neuaddau’r Deyrnas?

18 Rydyn ni hefyd yn dangos ein gwerthfawrogiad i Jehofa pan fyddwn ni’n cadw ein haddoldy yn lân ac yn dwt. Rydyn ni’n cymryd rhan yn rheolaidd yn y gwaith o lanhau ac o gynnal a chadw ein Neuaddau Teyrnas, ac mae’r rhai sy’n defnyddio’r offer sain a fideo yn gwneud hynny’n ofalus. Pan fyddwn ni’n cynnal a chadw ein neuaddau yn iawn, byddan nhw’n para yn hirach a bydd llai o waith trwsio arnyn nhw. O ganlyniad i hynny, rydyn ni’n sicrhau bod mwy o arian ar gael ar gyfer adeiladu ac atgyweirio Neuaddau’r Deyrnas ar hyd a lled y byd.

19. Beth wnest ti ei ddysgu o hanes un arolygwr cylchdaith a’i wraig?

19 I’r rhai sy’n gweithio’n galed inni. Pan fyddwn ni’n dangos gwerthfawrogiad, gall ein geiriau newid y ffordd y mae person yn teimlo am yr anawsterau mae ef neu hi’n eu hwynebu. Ystyria hanes un arolygwr cylchdaith a’i wraig. Ar ôl un diwrnod hir yn pregethu yng nghanol y gaeaf, aethon nhw adref a’r ddau ohonyn nhw wedi ymlâdd. Roedd hi mor oer fel yr oedd y wraig yn gorfod cysgu yn ei chôt aeaf. Yn y bore, dywedodd wrth ei gŵr nad oedd hi’n teimlo y gallai barhau yn y gwaith teithiol mwyach. Yn nes ymlaen yn ystod y bore, dyma lythyr o’r gangen yn cyrraedd a’i henw hi ar yr amlen. Roedd y llythyr yn ei chanmol hi am ei gweinidogaeth a’i dyfalbarhad. Roedd y llythyr yn cydnabod pa mor anodd y gall symud o un lle i’r llall fod o wythnos i wythnos. Dywedodd ei gŵr: “Roedd y ganmoliaeth wedi gwneud iddi deimlo mor dda fel na wnaeth hi byth eto siarad am roi’r gorau i’r gwaith teithio. Yn wir, fe wnaeth hi sawl gwaith fy annog i ddal ati pan oeddwn innau’n meddwl am roi’r gorau iddi.” Arhosodd y cwpl yn y gwaith teithio am bron i 40 mlynedd.

20. Beth ddylen ni geisio ei wneud bob dydd, a pham?

20 Boed inni bob dydd ddangos ein bod ni’n ddiolchgar drwy ein geiriau a’n gweithredoedd. Efallai ein geiriau neu’n gweithredoedd calonogol yw’r union beth sydd ei angen ar berson er mwyn ymdopi â phroblemau bywyd mewn byd anniolchgar. A gall mynegi ein gwerthfawrogiad greu cyfeillgarwch sy’n gallu para am byth. Yn bwysicach na dim, byddwn yn efelychu ein Tad hael a gwerthfawrogol, Jehofa.

CÂN 20 Rhoist Dy Ffyddlon Fab

^ Par. 5 Beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth Jehofa, Iesu, a Samariad gwahanglwyfus ynglŷn â dangos gwerthfawrogiad? Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod yr esiamplau hyn a mwy. Byddwn ni’n trafod pam mae hi mor bwysig i ddangos gwerthfawrogiad gan adolygu rhai ffyrdd penodol o wneud hynny.

^ Par. 1 ESBONIAD: Mae gwerthfawrogi rhywun neu rywbeth yn golygu cydnabod gwerth y person neu’r peth hwnnw. Gall y gair gyfeirio at deimladau dwfn o ddiolchgarwch.

^ Par. 55 DISGRIFIAD O’R LLUN: Llythyr Paul yn cael ei ddarllen i’r gynulleidfa yn Rhufain; Acwila, Priscila, Phebe, ac eraill wrth eu boddau yn clywed eu henwau yn cael eu crybwyll.

^ Par. 57 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mam yn helpu ei merch i ddangos ei gwerthfawrogiad am yr esiampl dda mae chwaer oedrannus yn ei gosod.