Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 12

Cydymdeimla ag Eraill

Cydymdeimla ag Eraill

“Dylai pob un ohonoch chi . . . gydymdeimlo â’ch gilydd.”—1 PEDR 3:8.

CÂN 90 Annog Ein Gilydd

CIPOLWG *

1. Yn unol â 1 Pedr 3:8, pam rydyn ni’n mwynhau cwmni pobl sy’n meddwl am ein teimladau a’n lles?

RYDYN ni’n mwynhau bod yng nghwmni pobl sydd â diddordeb yn ein teimladau a’n lles. Maen nhw’n ceisio eu rhoi eu hunain yn ein sefyllfa ni, er mwyn dod i ddeall beth rydyn ni’n ei feddwl ac yn ei deimlo. Maen nhw’n rhagweld ein hanghenion ac yn cynnig help—weithiau cyn i ninnau hyd yn oed ofyn amdano. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am bobl sy’n cydymdeimlo * â ni.—Darllen 1 Pedr 3:8.

2. Pam mae dangos cydymdeimlad yn gofyn am ymdrech?

2 Fel Cristnogion, rydyn ni i gyd eisiau dangos empathi, neu gydymdeimlad. Er hynny, mae’n debyg y byddwn ni’n gorfod ymdrechu i wneud hynny. Pam? Am un peth, rydyn ni’n amherffaith. (Rhuf. 3:23) Felly, mae’n rhaid inni ymladd yn erbyn y tueddiad cynhenid sydd ynon ni i feddwl yn bennaf amdanon ni’n hunain. Hefyd, gall rhai ohonon ni gael trafferth dangos empathi oherwydd ein magwraeth neu ein hamgylchiadau. Yn olaf, mae’n bosib i agweddau pobl o’n cwmpas ni gael dylanwad arnon ni. Yn y dyddiau diwethaf hyn, dydy llawer ddim yn ystyried teimladau pobl eraill. Yn hytrach, maen nhw’n “byw i’w plesio nhw eu hunain.” (2 Tim. 3:1, 2) Beth all ein helpu ni i gwrdd â’r her o ddangos cydymdeimlad tuag at eraill?

3. (a) Sut gallwn ni wella o ran dangos cydymdeimlad? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Gallwn ni gael mwy o gydymdeimlad drwy efelychu Jehofa Dduw a’i Fab, Iesu Grist. Duw cariadus yw Jehofa, ac mae’n gosod yr esiampl orau o ran cydymdeimlo ag eraill. (1 Ioan 4:8) Efelychodd Iesu bersonoliaeth ei Dad yn berffaith. (Ioan 14:9) Tra oedd ar y ddaear, dangosodd sut gall bodau dynol fod yn drugarog. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gyntaf yn ystyried sut gwnaeth Jehofa ac Iesu ddangos bod teimladau pobl yn bwysig iddyn nhw. Yna byddwn ni’n ystyried sut gallwn ninnau efelychu eu hesiampl.

CYDYMDEIMLAD JEHOFA

4. Sut mae Eseia 63:7-9 yn dangos bod Jehofa yn pryderu am deimladau ei weision?

4 Mae’r Beibl yn dysgu bod Jehofa yn pryderu am deimladau ei weision. Er enghraifft, ystyria sut roedd Jehofa yn teimlo pan oedd yr Israeliaid gynt yn wynebu treialon. “Pan oedden nhw’n diodde roedd e’n diodde hefyd,” meddai Gair Duw. (Darllen Eseia 63:7-9.) Yn ddiweddarach, trwy’r proffwyd Sechareia, mae Jehofa yn datgan ei fod yn teimlo fel petasai ef ei hun yn cael ei gam-drin pan fydd ei bobl yn cael eu cam-drin. Dywedodd Jehofa fod unrhyw un sy’n cyffwrdd ei bobl “yn cyffwrdd cannwyll ei lygad!” (Sech. 2:8) Onid yw hynny’n darlunio trugaredd Jehofa i’r dim!

Oherwydd ei drugaredd, gwnaeth Jehofa ryddhau’r Israeliaid o’u caethiwed yn yr Aifft (Gweler paragraff 5)

5. Rho esiampl sy’n dangos sut gwnaeth Jehofa weithredu i helpu ei weision.

5 Mae Jehofa yn gwneud mwy na theimlo trueni tuag at ei weision sy’n dioddef. Mae’n gwneud rhywbeth i’w helpu nhw. Er enghraifft, pan oedd yr Israeliaid yn gaethweision yn yr Aifft, roedd Jehofa yn deall eu poen ac fe weithredodd i liniaru’r boen honno. Dywedodd Jehofa wrth Moses: “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i’n cael eu cam-drin yn yr Aifft. Dw i wedi’u clywed nhw’n gweiddi . . . dw i’n teimlo drostyn nhw. Felly dw i wedi dod lawr i’w rhyddhau nhw o afael yr Eifftiaid.” (Ex. 3:7, 8) Oherwydd bod Jehofa wedi teimlo trugaredd tuag at ei bobl, gwnaeth eu rhyddhau nhw o’u caethiwed. Ganrifoedd wedyn, pan oedd yr Israeliaid yng Ngwlad yr Addewid, gwnaeth eu gelynion ymosod arnyn nhw. Beth oedd ymateb Jehofa? “Wrth i bobl Israel riddfan am fod y gelynion yn eu cam-drin nhw, roedd yr ARGLWYDD yn teimlo drostyn nhw.” Unwaith eto, empathi a ysgogodd Jehofa i helpu ei bobl. Anfonodd farnwyr i achub yr Israeliaid rhag eu gelynion.—Barn. 2:16, 18.

6. Rho esiampl sy’n dangos Jehofa yn parchu teimladau rhywun nad oedd yn meddwl yn y ffordd iawn.

6 Mae Jehofa yn cymryd teimladau ei bobl i ystyriaeth—hyd yn oed pan na fydd eu ffordd o feddwl yn gywir. Cofia am achos Jona. Anfonodd Duw y proffwyd hwn i gyhoeddi neges o farn yn erbyn pobl Ninefe. Pan edifarheuon nhw, dewisodd Duw beidio â’u dinistrio. Fodd bynnag, doedd Jona ddim yn hapus am hyn o gwbl. “Roedd e wedi gwylltio’n lân,” oherwydd ni chafodd Ninefe ei dinistrio fel yr oedd ef wedi proffwydo. Ond roedd Jehofa yn amyneddgar â Jona, ac yn ei helpu i feddwl mewn ffordd fwy cywir. (Jona 3:10–4:11) Gydag amser, deallodd Jona, ac fe gafodd ei ddefnyddio gan Jehofa i gofnodi’r hanes er ein lles ni.—Rhuf. 15:4. *

7. O beth mae’r ffordd y mae Jehofa yn delio gyda’i weision yn ein sicrhau?

7 Mae’r ffordd y mae Jehofa yn delio gyda’i bobl yn ein sicrhau ni fod ganddo gydymdeimlad tuag at ei weision. Mae’n ymwybodol o boen a dioddefaint pob un ohonon ni. Mae Jehofa yn “gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.” (2 Cron. 6:30) Mae’n deall ein meddyliau i gyd, ein hemosiynau mwyaf dwfn, a’n cyfyngiadau. A hefyd “fydd e ddim yn gadael i’r temtasiwn fod yn ormod i chi.” (1 Cor. 10:13) Am addewid llawn cysur!

CYDYMDEIMLAD IESU

8-10. Pa ffactorau a fyddai, yn ôl pob tebyg, wedi helpu Iesu i gydymdeimlo ag eraill?

8 Tra oedd yn ddyn ar y ddaear, dangosodd Iesu gydymdeimlad mawr tuag at eraill. Roedd o leiaf dri ffactor wedi helpu Iesu i ofalu am eraill. Yn gyntaf, fel y nodwyd yn gynharach, roedd Iesu yn adlewyrchu personoliaeth ei Dad nefol yn berffaith. Fel ei Dad, roedd Iesu’n caru pobl. Er iddo lawenhau dros bopeth yr oedd wedi helpu Jehofa i’w wneud, roedd bodau dynol “yn rhoi pleser pur” i Iesu. (Diar. 8:31) Cariad a ysgogodd Iesu i fod yn ystyriol o deimladau pobl eraill.

9 Yn ail, fel Jehofa, roedd Iesu’n gallu darllen y galon. Roedd yn gallu gwybod beth oedd cymhellion a theimladau pobl. (Math. 9:4; Ioan 13:10, 11) Felly, pan sylwodd Iesu fod pobl yn drist iawn, roedd yn poeni amdanyn nhw ac yn eu cysuro nhw.—Esei. 61:1, 2; Luc 4:17-21.

10 Yn drydydd, dioddefodd Iesu rai o’r problemau roedd y bobl o’i gwmpas yn eu hwynebu. Er enghraifft, mae’n ymddangos bod Iesu wedi cael ei fagu mewn teulu tlawd. Trwy weithio gyda’i dad mabwysiadol, Joseff, dysgodd Iesu sut i wneud gwaith corfforol caled. (Math. 13:55; Marc 6:3) Mae hefyd yn ymddangos bod Joseff wedi marw cyn i Iesu orffen ei weinidogaeth. Yn fwy na thebyg, felly, roedd Iesu wedi dioddef poen profedigaeth. Ac roedd Iesu yn deall sut roedd hi i fod mewn teulu lle nad oedd pawb yn credu yr un ffordd. (Ioan 7:5) Byddai amgylchiadau o’r fath wedi helpu Iesu i ddeall anawsterau a theimladau pobl gyffredin.

Ymhell o’r dorf, mae Iesu yn ei dosturi yn iacháu dyn byddar (Gweler paragraff 11)

11. Pryd roedd cydymdeimlad Iesu yn fwyaf amlwg? Esbonia. (Gweler y llun ar y clawr.)

11 Roedd gofal Iesu yn fwyaf amlwg pan oedd yn cyflawni gwyrthiau. Doedd Iesu ddim yn gwneud gwyrthiau oherwydd ei fod yn gorfod eu gwneud nhw. “Roedd Iesu’n teimlo drostyn nhw,” sef y rhai a oedd yn dioddef. (Math. 20:29-34; Marc 1:40-42) Er enghraifft, dychmyga sut roedd Iesu’n teimlo pan aeth â dyn byddar i ffwrdd o’r dyrfa a’i iacháu neu pan atgyfododd unig fab gwraig weddw. (Marc 7:32-35; Luc 7:12-15) Gwnaeth Iesu gydymdeimlo â’r bobl hynny ac roedd eisiau eu helpu nhw.

12. Sut mae Ioan 11:32-35 yn dangos cydymdeimlad Iesu tuag at Martha a Mair?

12 Cydymdeimlodd Iesu â Martha a Mair. Pan welodd eu galar ar ôl iddyn nhw golli eu brawd, Lasarus, “roedd Iesu yn ei ddagrau.” (Darllen Ioan 11:32-35.) Nid llefain oedd hyn oherwydd iddo golli cyfaill agos. Wedi’r cwbl, roedd yn gwybod ei fod yn mynd i atgyfodi Lasarus. Na, llefain a wnaeth Iesu oherwydd iddo gael ei daro gan loes calon eu ffrindiau annwyl.

13. Sut mae gwybod am gydymdeimlad Iesu yn rhoi cysur inni?

13 Rydyn ni ar ein hennill o ddysgu am gydymdeimlad Iesu. Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn berffaith fel yr oedd yntau. Ond rydyn ni’n ei garu am y ffordd roedd yn trin eraill. (1 Pedr 1:8) Mae gwybod ei fod nawr yn Frenin ar Deyrnas Dduw yn ein hannog ni. Yn fuan, bydd yn cael gwared ar bob dioddefaint. Iesu yw’r un mwyaf cymwys i helpu dynolryw fendio o’r briwiau a achoswyd gan reolaeth Satan, a hynny oherwydd bod Iesu wedi byw ar y ddaear fel dyn. Yn wir, cysur mawr yw gwybod bod Iesu yn “deall yn iawn mor wan ydyn ni.”—Heb. 2:17, 18; 4:15, 16.

EFELYCHU ESIAMPL JEHOFA AC IESU

14. O ystyried Effesiaid 5:1, 2, beth rydyn ni’n cael ein hysgogi i’w wneud?

14 Mae myfyrio ar esiampl Jehofa ac Iesu yn ein hysgogi i ddangos mwy o gydymdeimlad. (Darllen Effesiaid 5:1, 2.) Yn wahanol iddyn nhw, dydyn ni ddim yn gallu darllen y galon. Er hynny, mae’n bosib inni geisio deall emosiynau ac anghenion pobl eraill. (2 Cor. 11:29) Yn wahanol i’r byd hunanol hwn, rydyn ni’n ceisio meddwl “am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl [amdanon ni’n] hunain.”—Phil. 2:4.

(Gweler paragraffau 15-19) *

15. Pwy yn benodol a ddylai ddangos cydymdeimlad?

15 Pwysig iawn yw bod henuriaid y gynulleidfa yn dangos cydymdeimlad. Maen nhw’n gwybod eu bod nhw’n atebol i Dduw am y defaid yn eu gofal. (Heb. 13:17) I helpu eu cyd-gredinwyr, dylai henuriaid fod yn llawn cydymdeimlad. Sut gall henuriaid wneud hyn?

16. Beth fydd henuriad sy’n cydymdeimlo ag eraill yn ei wneud, a pham mae hyn yn bwysig?

16 Bydd henuriad sy’n cydymdeimlo ag eraill yn treulio amser gyda’i frodyr a’i chwiorydd Cristnogol. Bydd yn gofyn cwestiynau ac wedyn yn gwrando’n astud ac yn amyneddgar. Mae hynny’n hynod o bwysig os ydy un o’r defaid annwyl hynny eisiau tywallt ei galon ond yn cael trafferth dod o hyd i’r geiriau iawn. (Diar. 20:5) Pan fydd henuriad yn treulio amser gyda’i frodyr o’i wirfodd, mae’r cyfeillgarwch a’r cariad rhyngddyn nhw’n gryfach.—Act. 20:37.

17. Yn ôl llawer o frodyr a chwiorydd, beth yw’r rhinwedd bwysicaf i henuriaid ei chael? Rho esiampl.

17 Mae llawer o frodyr a chwiorydd yn dweud mai’r rhinwedd maen nhw’n ei werthfawrogi fwyaf yn yr henuriaid yw eu cydymdeimlad. Pam? “Mae hi’n haws siarad efo nhw, oherwydd dy fod ti’n gwybod y byddan nhw’n dy ddeall di,” meddai Adelaide. Ychwanegodd: “Mi wyt ti’n gwybod a ydyn nhw’n cydymdeimlo neu beidio drwy’r ffordd maen nhw’n ymateb pan fyddi di’n siarad efo nhw.” Mae un brawd diolchgar yn cofio: “Mi welais ddagrau yn llygaid un o’r henuriaid tra oeddwn i’n sôn wrtho am fy sefyllfa. Wna’ i byth anghofio hynny.”—Rhuf. 12:15.

18. Sut gallwn ni feithrin cydymdeimlad?

18 Wrth gwrs, nid henuriaid yw’r unig rai sy’n gorfod dangos cydymdeimlad. Gall pawb feithrin y rhinwedd hon. Sut? Ceisia ddeall pa anawsterau y mae aelodau ein teulu a’n cyd-gredinwyr yn eu hwynebu. Dangosa ddiddordeb ym mywyd pobl ifanc y gynulleidfa yn ogystal â’r rhai sy’n sâl, yn oedrannus, neu’n dioddef profedigaeth. Gofynna iddyn nhw sut mae pethau’n mynd. Gwranda’n astud wrth iddyn nhw eu mynegi eu hunain. Helpa nhw i weld dy fod ti’n wir yn deall eu sefyllfa. Cynigia help mewn unrhyw ffordd y gelli di. Pan fyddwn ni’n gwneud hyn, rydyn ni’n dangos cariad diffuant.—1 Ioan 3:18.

19. Pam dylen ni fod yn hyblyg wrth geisio helpu eraill?

19 Dylen ni fod yn hyblyg wrth geisio helpu eraill. Pam? Oherwydd bod pobl yn ymateb i anawsterau mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai yn awyddus i siarad, tra bo eraill yn fwy tawedog. Felly, rydyn ni eisiau cynnig help, ond ddylen ni ddim gofyn cwestiynau sy’n rhy bersonol. (1 Thes. 4:11) Pan fydd eraill yn mynegi eu teimladau, efallai na fyddwn ni’n cytuno bob amser â’u safbwynt. Ond eto, dylen ni gydnabod mai dyna sut maen nhw’n teimlo. Dylen ni fod yn gyflym i wrando ac yn araf i siarad.—Math. 7:1; Iago 1:19.

20. Beth fyddwn ni’n rhoi sylw iddo yn yr erthygl ganlynol?

20 Yn ogystal â dangos cydymdeimlad yn y gynulleidfa, dylen ni wneud hynny hefyd yn y weinidogaeth. Sut gallwn ni ddangos cydymdeimlad wrth wneud disgyblion? Byddwn ni’n rhoi sylw i hynny yn yr erthygl ganlynol.

CÂN 130 Byddwch Faddeugar

^ Par. 5 Mae ein teimladau o’r pwys mwyaf i Jehofa ac Iesu. Bydd yr erthygl hon yn ystyried sut gallwn ni ddysgu o’u hesiampl. Byddwn hefyd yn trafod pam y dylen ni gydymdeimlo ag eraill.

^ Par. 1 ESBONIAD: Mae cydymdeimlo yn golygu ceisio deall sut mae eraill yn teimlo a theimlo yr un fath.—Rhuf. 12:15.

^ Par. 6 Dangosodd Jehofa dosturi tuag at unigolion eraill a oedd o dan deimlad. Meddylia am hanesion Hanna (1 Sam. 1:10-20), Elias (1 Bren. 19:1-18), ac Ebed-melech (Jer. 38:7-13; 39:15-18).

^ Par. 65 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Mae cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas yn rhoi llawer o gyfleoedd inni i fwynhau cwmni da. Rydyn ni’n gweld (1) henuriad yn siarad yn garedig â chyhoeddwr ifanc a’i fam, (2) tad a’i ferch yn helpu chwaer mewn oed i fynd i’r car, a (3) dau henuriad yn gwrando’n astud ar chwaer sydd eisiau arweiniad.