Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 13

Dangosa Gydymdeimlad yn Dy Weinidogaeth

Dangosa Gydymdeimlad yn Dy Weinidogaeth

“Roedd yn teimlo i’r byw drostyn nhw . . . Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.”—MARC 6:34.

CÂN 70 Chwiliwch am Rai Teilwng

CIPOLWG *

1. Beth ydy un o’r pethau mwyaf deniadol am bersonoliaeth Iesu? Esbonia.

UN O’R pethau mwyaf deniadol am bersonoliaeth Iesu ydy ei allu i ddeall yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu fel pobl amherffaith. Tra oedd Iesu ar y ddaear, roedd yn gallu bod “yn llawen gyda phobl sy’n hapus” a “chrio gyda’r rhai sy’n crio.” (Rhuf. 12:15) Er enghraifft, pan ddychwelodd 70 o’i ddisgyblion ar ôl ymgyrch bregethu lwyddiannus, roedd Iesu yn “fwrlwm o lawenydd yr Ysbryd Glân.” (Luc 10:17-21) Ar y llaw arall, pan welodd effaith marwolaeth Lasarus ar y rhai a oedd yn ei garu, “cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig.”—Ioan 11:33.

2. Sut roedd Iesu’n gallu cydymdeimlo â phobl eraill?

2 Sut roedd y dyn perffaith hwn yn gallu bod mor drugarog a charedig wrth ddelio â phobl bechadurus? Yn gyntaf, roedd Iesu’n caru pobl. Fel y gwelon ni yn yr erthygl flaenorol, “roedd y ddynoliaeth yn rhoi pleser pur” iddo. (Diar. 8:31) Gwnaeth y cariad hwnnw tuag at bobl ei ysgogi i ddod yn gyfarwydd iawn â’r ffordd mae pobl yn meddwl. Mae’r apostol Ioan yn dweud am Iesu “ei fod e’n gwybod yn iawn sut mae’r meddwl dynol yn gweithio.” (Ioan 2:25) Roedd gan Iesu drugaredd mawr tuag at bobl eraill. Roedd pobl yn gallu gweld ei fod yn eu caru nhw a gwnaethon nhw ymateb yn bositif i neges y Deyrnas. Mwya’n y byd rydyn ni’n meithrin teimladau tebyg tuag at bobl, mwya’n y byd y byddwn ni’n gallu bod yn effeithiol wrth gyflawni ein gweinidogaeth.—2 Tim. 4:5.

3-4. (a) Os ydyn ni’n cydymdeimlo â phobl, sut byddwn ni’n teimlo am y weinidogaeth? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Roedd yr apostol Paul yn gwybod bod dyletswydd arno i bregethu, ac mae’r un peth yn wir amdanon ninnau. (1 Cor. 9:16) Ond, os ydyn ni’n cydymdeimlo ag eraill, bydd y weinidogaeth yn fwy na dyletswydd yn unig. Byddwn ni eisiau profi ein bod ni’n gofalu am bobl a’n bod ni’n awyddus i’w helpu. Rydyn ni’n gwybod bod “rhoi yn llawer gwell na derbyn.” (Act. 20:35) Os ydyn ni’n cadw hynny mewn cof wrth bregethu, byddwn ni’n mwynhau’r weinidogaeth yn fwy byth.

4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried sut i ddangos cydymdeimlad yn y weinidogaeth. Yn gyntaf, byddwn ni’n gweld beth allwn ni ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu’n teimlo am bobl. Wedyn, byddwn ni’n trafod pedair ffordd o efelychu ei esiampl.—1 Pedr 2:21.

CYDYMDEIMLAD IESU YN Y WEINIDOGAETH

Cafodd Iesu ei ysgogi gan gydymdeimlad i rannu neges o gysur (Gweler paragraffau 5-6)

5-6. (a) Tuag at bwy roedd Iesu’n dangos cydymdeimlad? (b) Pam roedd Iesu’n cydymdeimlo â’r bobl roedd yn pregethu iddyn nhw, fel y cafodd ei broffwydo yn Eseia 61:1, 2?

5 Ystyria un esiampl o’r ffordd y gwnaeth Iesu ddangos cydymdeimlad. Ar un achlysur, roedd Iesu a’i ddisgyblion wedi bod yn pregethu’r newyddion da heb seibiant. Doedd “dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed.” Felly aeth Iesu â’i ddisgyblion “i ffwrdd i rywle tawel” iddyn nhw gael gorffwys. Ond, gwnaeth tyrfa fawr o bobl redeg yn eu blaenau i le roedd Iesu a’i ddisgyblion yn mynd. Pan gyrhaeddodd Iesu yno a gweld y bobl, beth oedd ei ymateb? “Roedd yn teimlo i’r byw drostyn nhw, * am eu bod fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw. Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw.”—Marc 6:30-34.

6 Pam roedd Iesu’n teimlo dros y bobl hynny? Gwelodd fod y bobl “fel defaid heb fugail.” Roedd Iesu efallai wedi gweld bod rhai ohonyn nhw’n dlawd ac yn gweithio oriau hir i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd. Efallai fod eraill yn dioddef profedigaeth. Os felly, mae’n debyg fod Iesu’n gallu deall eu sefyllfa. Fel y trafodwyd yn yr erthygl flaenorol, efallai fod Iesu wedi wynebu rhai o’r problemau hyn ei hun. Roedd Iesu’n meddwl am bobl eraill, ac fe gafodd ei ysgogi i rannu neges gysurus â nhw.—Darllen Eseia 61:1, 2.

7. Sut gallwn ni efelychu esiampl Iesu?

7 Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Iesu? Fel Iesu, mae ’na bobl sydd fel “defaid heb fugail” ym mhobman o’n cwmpas. Maen nhw’n ymdopi â phob math o broblemau. Mae gennyn ni’r hyn sydd ei angen arnyn nhw—neges y Deyrnas. (Dat. 14:6) Felly, rydyn ni’n efelychu ein Meistr ac yn pregethu’r newyddion da oherwydd ein bod ni’n “gofalu am y gwan a’r anghenus.” (Salm 72:13) Rydyn ni’n teimlo dros bobl, ac rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth i’w helpu nhw.

SUT GALLWN NI DDANGOS CYDYMDEIMLAD?

Ystyria anghenion pob unigolyn (Gweler paragraffau 8-9)

8. Beth ydy un ffordd o ddangos cydymdeimlad yn y weinidogaeth? Eglura.

8 Beth sy’n gallu ein helpu i ddangos cydymdeimlad i’r bobl rydyn ni’n pregethu iddyn nhw? Rydyn ni eisiau dychmygu ein bod ni yn sefyllfa’r bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw yn y weinidogaeth, a’u trin yn yr un ffordd ag yr hoffwn ninnau gael ein trin yn y sefyllfa honno. * (Math. 7:12) Gad inni ystyried pedair ffordd benodol i wneud hynny. Yn gyntaf, ystyria anghenion pob unigolyn. Pan ydyn ni’n pregethu’r newyddion da, rydyn ni’n debyg i ddoctor. Mae doctor da yn ystyried anghenion pob un o’r cleifion. Mae’n gofyn cwestiynau ac yn gwrando’n astud wrth i’r claf esbonio sut mae’n teimlo. Yn hytrach na rhoi’r feddyginiaeth gyntaf sy’n dod i’w feddwl, mae’n bosib bydd y doctor yn gadael i ychydig o amser fynd heibio er mwyn gweld y symptomau ac yna cynnig y driniaeth gywir. Mewn ffordd debyg, ddylen ni ddim ceisio defnyddio’r un dull gyda phawb rydyn ni’n cyfarfod yn y weinidogaeth. Yn hytrach, rydyn ni’n ystyried amgylchiadau a safbwynt penodol pob unigolyn.

9. Beth na ddylen ni ei gymryd yn ganiataol? Esbonia.

9 Pan wyt ti’n cyfarfod rhywun yn y weinidogaeth, paid â meddwl dy fod yn gwybod ei amgylchiadau neu beth mae’n ei gredu a’i resymau dros hynny. (Diar. 18:13) Yn hytrach, anoga’r person i’w fynegi ei hun drwy ofyn cwestiynau priodol. (Diar. 20:5) Os yw’n dderbyniol yn dy ddiwylliant di, gofynna am ei waith, ei deulu, ei gefndir, a’i farn. Pan ydyn ni’n helpu pobl i’w mynegi eu hunain, rydyn ni, mewn ffordd, yn gadael iddyn nhw ddweud wrthyn ni pam mae angen y gwirionedd arnyn nhw. Unwaith inni wybod hynny, gallwn gydymdeimlo a’u hanghenion nhw ac ymateb yn y ffordd gywir, yn union fel y gwnaeth Iesu.—Cymharer 1 Corinthiaid 9:19-23.

Dychmyga sut gallai bywyd fod i rywun rwyt ti’n pregethu iddo (Gweler paragraffau 10-11)

10-11. Yn unol ag 2 Corinthiaid 4:7, 8, beth ydy’r ail ffordd gallwn ni ddangos cydymdeimlad? Rho esiampl.

10 Yn ail, ceisia ddychmygu pa fath o fywyd sydd ganddyn nhw. Mewn rhai ffyrdd, gallwn ddeall eu sefyllfa. Wedi’r cwbl, mae’n rhaid i ninnau wynebu’r un problemau y mae pob person amherffaith yn eu hwynebu. (1 Cor. 10:13) Rydyn ni’n gwybod bod bywyd yn yr hen system hon yn gallu bod yn anodd iawn. Rydyn ni’n dyfalbarhau dim ond â chymorth Jehofa. (Darllen 2 Corinthiaid 4:7, 8.) Ond meddylia am y bobl sy’n ceisio dyfalbarhau yn y byd hwn heb berthynas agos â Jehofa. Fel Iesu, rydyn ni’n teimlo drostyn nhw, ac rydyn ni’n cael ein hysgogi i rannu’r “newyddion da” gyda nhw.—Esei. 52:7.

11 Ystyria esiampl brawd o’r enw Sergey. Cyn iddo ddysgu’r gwirionedd, roedd Sergey yn swil iawn. Roedd yn anodd iddo ei fynegi ei hun. Mewn amser, derbyniodd astudiaeth Feiblaidd. “Wrth imi astudio’r Beibl, dysgais fod angen i Gristnogion rannu eu ffydd ag eraill,” meddai Sergey. “Roeddwn i wir yn credu na allwn i byth wneud hynny.” Ond, meddyliodd am y bobl sydd ddim eto wedi clywed y gwirionedd, ac roedd ond yn gallu dychmygu sut roedd eu bywydau heb adnabod Jehofa. “Roedd y pethau newydd roeddwn i’n eu dysgu yn gwneud imi deimlo’n hapus ac yn heddychlon,” meddai. “Roeddwn i’n gwybod bod rhaid i bobl eraill ddysgu’r gwirioneddau hyn hefyd.” Wrth i Sergey ddysgu i gydymdeimlo’n fwy, gwnaeth ei hyder gynyddu hefyd. “Er mawr syndod i mi,” meddai Sergey, “mae sôn wrth eraill am y Beibl wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus. Mae hefyd wedi fy helpu i gryfhau fy ffydd fy hun.” *

Gall rhai pobl gymryd amser i wneud cynnydd ysbrydol (Gweler paragraffau 12-13)

12-13. Pam mae angen inni fod yn amyneddgar wrth y bobl rydyn ni’n eu dysgu yn y weinidogaeth? Eglura.

12 Yn drydydd, bydda’n amyneddgar wrth y rhai rwyt ti’n eu dysgu. Cofia, efallai dydyn nhw erioed wedi meddwl am rai o’r gwirioneddau Beiblaidd sy’n gyfarwydd iawn i ni. Ac mae llawer yn teimlo emosiynau cryf tuag at eu daliadau presennol. Efallai fod eu daliadau yn gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan o’u teulu, eu diwylliant, a’u cymuned. Sut gallwn ni eu helpu nhw?

13 Meddylia am y gymhariaeth hon: Beth sy’n digwydd pan fydd yn rhaid i bont hen a simsan gael ei disodli gan un newydd? Yn aml, mae’r bont newydd yn cael ei hadeiladu tra bo’r hen un yn dal i gael ei defnyddio. Unwaith i’r bont newydd fod yn barod, gellir dymchwel yr hen bont. Yn debyg i hynny, cyn inni ofyn i bobl gefnu ar eu “hen” ddaliadau, efallai bydd rhaid inni eu helpu i adeiladu gwerthfawrogiad tuag at wirioneddau “newydd”—dysgeidiaethau’r Beibl sy’n anghyfarwydd iddyn nhw ar y dechrau. Dim ond wedyn y byddan nhw’n barod i gefnu ar eu hen safbwynt. Gall helpu pobl i wneud newidiadau o’r fath gymryd amser.—Rhuf. 12:2.

14-15. Sut gallwn ni helpu pobl sy’n gwybod fawr ddim am y gobaith o fywyd tragwyddol mewn paradwys ar y ddaear? Rho esiampl.

14 Os ydyn ni’n amyneddgar gyda phobl yn y weinidogaeth, fyddwn ni ddim yn disgwyl iddyn nhw ddeall na derbyn gwirionedd y Beibl y tro cyntaf iddyn nhw ei glywed. Yn hytrach, mae cydymdeimlad yn ein hysgogi i’w helpu i resymu ar yr Ysgrythurau dros gyfnod o amser. Er enghraifft, ystyria sut gallwn ni resymu â rhywun ar y gobaith o fywyd tragwyddol mewn paradwys ar y ddaear. Mae llawer yn gwybod fawr ddim am y ddysgeidiaeth hon. Efallai eu bod nhw’n credu dydy rhywun sydd wedi marw ddim yn gallu byw eto. Neu efallai eu bod nhw’n credu bod pawb sy’n dda yn mynd i’r nefoedd. Sut gallwn ni eu helpu nhw?

15 Dyma un dull sydd wedi bod yn effeithiol ar gyfer un brawd: Yn gyntaf, mae’n darllen Genesis 1:28. Wedyn, mae’n gofyn i’r deiliad lle roedd Duw eisiau i bobl fyw ac o dan ba amgylchiadau. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ateb, “Ar y ddaear, o dan amgylchiadau da.” Nesaf, mae’r brawd yn darllen Eseia 55:11 ac yn gofyn a ydy bwriad Duw wedi newid. Yn aml, bydd y deiliad yn dweud na. Yn olaf, mae’r brawd yn darllen Salm 37:10, 11 ac yn gofyn pa fath o ddyfodol sydd gan ddynolryw. Drwy resymu ar yr Ysgrythurau fel hyn, mae’r brawd wedi helpu nifer o bobl i ddeall bod Duw eisiau i bobl dda fyw am byth yn y Baradwys ar y ddaear.

Gall gweithred bach cariadus, fel anfon llythyr calonogol, wneud llawer o ddaioni (Gweler paragraffau 16-17)

16-17. Gan gofio am Diarhebion 3:27, beth yw rhai o’r ffyrdd ymarferol y gallwn ni ddangos cydymdeimlad? Eglura.

16 Yn bedwerydd, edrycha am ffyrdd ymarferol i ddangos cydymdeimlad. Er enghraifft, ydyn ni wedi galw ar adeg sy’n ymddangos yn anghyfleus i’r deiliad? Gallwn ymddiheuro a chynnig dod yn ôl ar adeg well. Beth os oes angen help ar y deiliad gyda job fach? Neu beth os oes angen inni fynd i’r siop ar gyfer rhywun sy’n gaeth i’r tŷ? Mewn achosion o’r fath, efallai gallwn helpu’r person.—Darllen Diarhebion 3:27.

17 Cafodd un chwaer ganlyniadau da drwy wneud rhywbeth bach caredig. Oherwydd ei chydymdeimlad, ysgrifennodd hi lythyr at deulu a oedd wedi colli plentyn. Roedd y llythyr yn cynnwys cysur o’r Ysgrythurau. Sut gwnaeth y teulu ymateb? “Roeddwn i’n cael diwrnod gwael iawn ddoe,” ysgrifennodd y fam. “Allwch chi ddim dychmygu’r effaith cafodd eich llythyr arnon ni. Alla’ i ddim diolch digon ichi na hyd yn oed dechrau disgrifio cymaint roedd yn ei olygu inni. Mae’n rhaid fy mod i wedi darllen y llythyr o leiaf 20 o weithiau ddoe. Doeddwn i ddim yn gallu credu pa mor garedig, cariadus, a chalonogol yr oedd. Diolch o waelod calon.” Yn sicr, gallwn gael canlyniadau da pan ydyn ni’n ein rhoi ein hunain yn sefyllfa’r bobl sy’n dioddef ac yna gwneud rhywbeth i’w helpu.

AROS YN GYTBWYS

18. Yn unol â 1 Corinthiaid 3:6, 7, beth rydyn ni eisiau ei gofio am ein gweinidogaeth, a pham?

18 Wrth gwrs, rydyn ni eisiau cadw agwedd gytbwys tuag at ein rôl yn y weinidogaeth. Gallwn gael rhan yn helpu pobl i ddysgu am Dduw, ond nid ein rhan ni yw’r rhan bwysicaf. (Darllen 1 Corinthiaid 3:6, 7.) Jehofa ydy’r un sy’n denu pobl. (Ioan 6:44) Yn y pen draw, bydd pob unigolyn yn ymateb i’r newyddion da yn ôl cyflwr ei galon. (Math. 13:4-8) Cofia, ni wnaeth y rhan fwyaf o bobl dderbyn neges Iesu—ac ef oedd yr Athro gorau a fu erioed! Felly, ddylen ni ddim teimlo’n ddigalon os nad ydy rhai o’r bobl rydyn ni’n trio helpu yn gwrando ar ein neges.

19. Pa fuddion sy’n dod o ddangos cydymdeimlad yn y weinidogaeth?

19 Byddwn yn gweld y buddion pan ydyn ni’n cydymdeimlo â phobl yn y weinidogaeth. Byddwn ni’n mwynhau’r weinidogaeth yn fwy. Byddwn ni’n cael y llawenydd mawr sy’n dod o roi i eraill. A byddwn ni’n ei gwneud hi’n haws i’r rhai sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol” dderbyn y newyddion da. (Act. 13:48, NW) “Felly bob cyfle gawn ni, gadewch i ni wneud daioni i bawb.” (Gal. 6:10) Wedyn, cawn y llawenydd sy’n dod o roi clod i’n Tad nefol.—Math. 5:16.

CÂN 64 Cydweithio yn Llawen yn y Cynhaeaf

^ Par. 5 Pan ydyn ni’n dangos cydymdeimlad, gallwn gael mwy o lawenydd—ac, yn aml, ganlyniadau gwell—yn y weinidogaeth. Pam mae hynny’n wir? Yn yr erthygl hon, byddwn yn ystyried yr hyn y gallwn ni ei ddysgu o esiampl Iesu, ynghyd â phedair ffordd y gallwn ni gydymdeimlo â’r bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw yn y weinidogaeth.

^ Par. 5 ESBONIAD: Yn y cyd-destun hwn, mae’r ymadrodd “teimlo i’r byw drostyn nhw” yn golygu coleddu teimladau tyner tuag at rai sy’n dioddef neu rai sydd wedi cael eu trin yn gas. Mae’r teimladau hyn yn ysgogi unigolyn i wneud beth bynnag a allai i helpu pobl eraill.

^ Par. 8 Gweler yr erthygl “Follow the Golden Rule in Your Ministry” yn rhifyn 15 Mai 2014 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.